Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

38 articles on this Page

[No title]

[No title]

[No title]

Cymdeithas Amaethyddol Mon.

[No title]

t0 Fon i Fanaw.I

--------I ba le 'Baath y Fodrwy…

Imneilldnad Syr Robert Giffen-J

Y Terfysg yn India.

Tref Cydweli a i Haaffsdion,

News
Cite
Share

Tref Cydweli a i Haaffsdion, Fel y canlyn yr ysgrifena gohebydd i gyfoes- ol.rn W ythnos a hir gofir yn Cydweli oedd yr wythnos ddiweddaf. Y mae y gwaith alcan, ar yr hwn y mae'r trigolion gan mwyaf yn ymddibynu, wedi bod yn segur ers blwyddyn a haner. Gellir yn hawdd felly amgyffred sefyllfa y gweithwyr a'u teuluoedd. Yn ystod y tair blynedd diweddaf nid ydynt wedi gweithio ond tri mis. Cyn hyny am lawer blwyddyn nid oedd gwedd lewyrchus ar bethau, canys yr oedd y gweithwyr yn ami iawn yn cael eu hunain yn yr un cyflwr bron ag y maent ynddo ar hyn o bryd. Ond y mae eu cyflwr heddyw yn fil gwaeth nag y bu unwaith o'r blaen fol y caf ddangos eto.-Dong mlynedd yn ol, Mr T. Chivers oedd perchenog y gwaith alcan, ond rywfodd, bu gorfod arno ei werfchu, ao fe;i pryn- wyd gan gwmni, ac o'r dydd hwnw nid oes llewyrch wedi bod ar y gwaith. Er hyny, ni chollodd Mr Chivers ei hawl yn gyfangwbl yn y gwaith, gan ei fod eto yn un o'r cyfranddalwyr, ac y mae ganddo driugain a naw o dai yma, y rhai a osodir i weith- wyr y gwaith alcan. Byddai y rhent am y tai hyn yn cael ei gadw yn ol o arian y gweithwyr bob mis. A phan fyddai y gwaith yn sefyll ni fyddai neb yn myned at y gweithwyr i ofyn am y rhent, oblegid pan fyddai y gwaith wedi cychwyn, cedwid yn ol o'u harian i wneud y diffyg i fyny. Ond ers rhai blynyddoedd y mae y "Small Tenements Act" wedi ei rhoddi mewn grym yma, ac yn ol y Ddeddf hon perchenogion tai sydd i dalu y trethi, ac nid y deiliaid. Felly, fe wel y darllenydd fod Mr Chivers yn gorfod talu y trethi heb dderbyn yr un ddimai o rent am y tai. A chan nad oes lie i ddisgwyl ar hyn o bryd y bydd i'r gwaith gychwyn eto yn fuan, y mae Mr Chivers, fel rhyw fod dynol arall, wedi dechreu ymysgwyd. Dechreu yr wyth- nos ddiweddaf, anfonodd rybudd i bob un o'i ddeiliaid fyned allan o'u tai cyn neu ar y Sadwrn canlynol. A mawr y twrw a'r cyffro fu yma. Yn ffodus, yr oedd llawer o dai segur yn y dref, ac i'r rhai hyn y mae deiliaid Mr Chivers wedi ffoi. Carwn ddweyd nad oes neb yn cael yr un bai yn Mr Chivers. Nid oedd yr un ewrs arall iddo i'w gymeryd. Y mae ein cvdymdeimlad Ilwyr a'r dynion hyn ac eraill o'r trigolion sydd yn dioddef trwy y dirwasgiad presenol. Ychydig flynydd- oedd yn ol, tnvy ymdrechion diflino y Ficer pres- enol, adeiladwyd Eglwys Genhadol hardd at was- anaeth y bobl hyn. Yr ydym braidd yn sicr y bydd raid ei chau i fyny yn awr. Yn awr y mae y gauaf wrth y drws, ac yn sicr gauaf caled sydd i ) Cydweli. Ofer disgwyl cymhorth arianol eleni o uuman, gan fod dynion yn blino ar roddi. Y llynedd, casglwyd arian mawr gan y Ficer, Maer y dref, a'r Western Mail." Yr y'm yn meiddio dweyd fod yma ugeiaiau o dro i dro yn dioddef eisiau, a hynv heb rent na threth i'w talu, ond yn awr bydd raid cael y rhent, ac o ba le y mae yr arian i ddyfod.

tigwycdiac. Brawychus i Llant.

Kenyddiad yn Lsrpwl.

Nodaohfa. Ffasiynol ya Ngholwyn…

Bangor-,

[No title]

Cema,es, Hon.

Cemlyn.

[No title]

, ILlanallgo a'r Amgylchoedd.

Llandyfrydcg.

Llanerchymedd-

Llaagefni.

[No title]

Ehosybol

Terfyniad Streic mewn Glofeydd…

Damwain Angeuol mewn Glofa…

[No title]

---Undeb Ysgolion Sabbothol…

Llythyrau at y Goiygydd -

Family Notices

CARNARVON.

PORTMADOC.

Advertising

--Nodion Amaethyddol.

[No title]

[No title]

Ffrwydm* EychrTnllyd Nwy.

Ymladd Gcrnest rhwng dau o…