Skip to main content
Hide Articles List

38 articles on this Page

[No title]

[No title]

[No title]

Cymdeithas Amaethyddol Mon.

[No title]

t0 Fon i Fanaw.I

News
Cite
Share

0 Fon i Fanaw. I Mr Gel. ,-Buoch hynawsed a rhoddi rhan o'ch gofod gwerthfawr i'oh "ufuddaf was" dro yn ol i ddesgrifio taith fechan i ardal dlos Dulas, lie yr oedd yr Arglwyddes Neaire dyner-galon a ehar- edig yn lloni plant ysgolion y fro. hono a gwledd goffadwriaethol o Jiwbili ein Gra-susaf Frenhines. Wei, yn ddiweddar, bu'm ar daith arall, dipyn yn mhellach na Dulas na Giat y Nant—y pellder "mawr" y bu teithiwr arall yn draniwy—a fy nghyrchfan y tro hwn ydoedd Ynys Manaw. Drwy garedigrwydd Mr Brew, rsgrifenydd gall- uog v cwmni a red aliarlonizau o Lerpwl i Landud- no ac ar hyd y Fenai, derbvniars wahoddiad i for- dwyo yn yr agerlong hardd St. Elvies o Borth- aethwy i Douglas, prif dref Ynys Manaw. Daeth y gwahoddiad i'm Haw ar foreu drwrnod lied segur, a chan fod fy mhreswylfa beth pellder o lan y mor bu raid i mi farchog fy "ngheffyl" a'i chwrlio hi tua'r Borth. Cyrhaeddais y pentref fel yr oedd teulu'r agerlong yn gwneud eu darpariadau tuagat gychwvn. Wedi rkoddi fy ngheffyl dan ofal Mr John Hughes, goruchwyliwr lleol caredig a gwyn- eblon y cwmni, aethum ar fwrdd yr agerlong. Prin yr oeddwn wedi cymeryd fy sedd pan y gwelais fod y cwmni yn un dyddorol a doniol- neb llai na Mr Lloyd Carter, arwr y chwarelwyr er hyny; Mr J. R. Hughes, yr hwn, y dwthwn hwnw, oedd wedi derbyn yr hysbysrwydd pwysig yn ei fod wedi ei wneud yn Y.H., cyfeillion eraill o brif dref Arfon, Dr. Williams, v Borth; a Mr Jones, milfeddyg eto. Yn union am haner awr wedi wyth gadawsom y Borth, a phan ddaethom at lanfa hardd Bangor daeth nifer reit dda o drig- olion y ddinas golegawl ac ymwelwyr i chwyddo ein rhif. Yr arosiad nesaf ydoedd Biwmaris, ac vma drachefn daeth amryw i ymuno yn y daith. Aeth v llestr yn chwim oddi.yma liyd ochrau harddaf yr hen ynys, heibio Ynys Seiriol, ac i Landudno, lie y daeth ewmni mawr iawn ar y bwrdd. Ni raid i mi, efallai, fyned i'r drafferth o ddesgrifio y llong arddercliog sydd dan ofal gall- uog y Cadben White, oblegid mae'n ddiau fod llawer o'ch darllenwyr wedi manteisio ar y cyfleus- dra rhad i ymweled ag Ynys y Manaw. Wedi gadael Llandudno, ymaith a ni dros y weilgi, a chyn ein bod wedi myned yn mhell wele gryn stwr ar y dec. Aethum i'r fan gyda chryn chwilfrydedd, a daethum yn fuan i ddeall achos y cynhwrf. Y mddengys ei fod yn arferiad ar y teithiau hyn i dynu bara docyn," ys dywedir, parthed cyrhaeddiad y llestr yn Mau Douglas. Fel llawer eraill, bwriais fy swllt i'r drysorfa, a thyn- ais docyn yn rhoddi amser y cyrhaeddiad am oddeutu ugain munud i ddau. Wei, wedi i'r cyn- hwrf yna dawelu saethai y llong yn mlaen, a chan fod y gwynt yn ffres a'r mor dipyn yn gynhyrfus, dechreuodd rhai aberthu eu boreufwyd i lestri darparedig, a gofidus genyf ddweyd i rai o'r cwmni dyddan yr oeddwn yn aelod o hono ddan- gos vwvddion o saldra'r mor." ond tynaf orch- udd dros y manvlion. Am danaf fy hun, Mr Gol., gallaf ddweyd na theimlais erioed ddim o effaith yr afiechyd tost yma, a mwynheais y ciniaw da y gwahoddwyd fi iddo gan Mr Hunt, purser llednais a charedig y St. Elvies," a chan fod cwrs o amser wedi myned heibio er pan y bwyteais fy moreufwyd yn nghanol Mon, gwnaethum ddifrod mawr ar y seigiau osodwyd o fy mlaen. Gyda'r eithriad o ddau o gleifion y cwmni, gwnaeth y rhelyw bryd hynod iach. Ar ol yr arwest hon, es- gynasom eilwaith ar y dec, ac nid hir y buom cyn darganfod tir Ynys Manaw yn codi o'r mor. Er- byn yr oedd y brwdfrydedd cysylltiedig a'r glan- iad yn Douglas yn dechreu ail fywiogi, ac fel yr oeddym yn nesau at yr hafan yr oedd cryn gyn- hwrf yn bodoli parthed enill y gamp, oherwydd i'r hwn a feddai y cerdyn agosaf ei amser o dafliaci y rhaff cyntaf ar y cei yn Douglas rhoddid sofren, ac i'r ddau o bobtu iddo 5s o "consolation." 0 r diwedd wele ni wrth ochr y cei, a phan daflwyd y rhaff canfyddwyd mai tocyn fy nghyfaill Dr. Wil- liams oedd yr un "lwcus," ac er i ni fod allan o'r ras, eto llawenychem a llawenydd mawr iawn oher- wydd mai i ran ein cydymaith ffodus y disgynodd y wobr. Gan nad oedd genym ond dwy awr ar y lan, nid oedd yn bosibl myned lawer o gwmpa, a bu raid i ni foddloni ar rodiana livd heolydd a "promenade" yr ymdrochle prysur. Wel, pas- iodd y ddwy awr ymaith megis breuddwyd, a "tlieg edrych tuag adre' oedd hi arnom yn llawer rhy fuan. Ond nid oedd "help" am hyny, oble- gid gwyddem cyn cychwyn mai ychydig amser a gawsem ar y lan. O'm rlian fy hun nid oedd hyny yn fy mhoeni, oblegid mwynhau y fordaith oedd fy amcan, a gwnes hyny yn drwyadl. Wrth ddychwelyd yr oedd y gwynt yn ein herbyn, a thipyn mwy o hono nag a fodolai yn y boreu. Er cadarned y llestr yr oedd yr hen Ddafvdd Jones yn ysgwyd llawer ami, gyda'r canlyniad fod llawer iawn wedi syrthio yn ysglyfaeth i saldra'r mor." Yr oedd rhai oeddynt Ion ac iach yn dyfod yn welw eu gwedd a thawedog iawn yn dychwelyd. Oulwg rosynus rydd y gwaeledd hwn "ar y rhai ddioddefant dano, a chosbir rhai mor erwin fel v croesawent suddiad y llestr. Yr oedd rhai yn y cyflwr gresynus hwn, ond pan ddaethom i Fau Llandudno daeth y gwaelion yn well, a dangoswyd yr un dyddordeb yma ag a welwyd yn Douglas gyda tkafliad y rhaff cj-ntaf i'r lan. Ni chefais enw y buddugwr yn y gystadleuaeth hen, ond de- alIa-is mai un o'r cyffiniau hyn ydoedd. Wedi gadael Llandudno, cawsom de da, a phan ddaeth- om i gulfor y Fenai yr oedd pawb yn iach a hapus. Bu y diwrnod ar ei hyd yn braf odiaeth, ond fel cliweddglo daeth y gwlaw i lawr, ac ar fy nhaith yn ol i'm cartref gwlychwvd fi at y croen —diweddiad lied anhyfryd, Mr Gol., ar ol treulio mordaith mor blesurus ac iachus. Nis gallaf roddi fy mhin heibio heb ddiolch yn garedig i Mr John Hughes a Mr Hunt am y croesaw tywysog- aidd a roi.sant i ohebydd mor ddistadl ag wyf fi. Cyn diweddu dymunwn ddweyd wrth fy nghyd Foniaid, os dymunant gael mordaith bleserus am glud-dal bvehan nad allant wneud yn well na myned am drip i Ynys Manaw cyn diwedd v tymhor. O'm rhan fy hun nid wyf yn barod iawn 1 setlo i lawr at y gauaf heb gael mordaith gyffelyb eto, ond ni raid i chwi ofni v blinaf cliwi a hanes y daith nesaf. IOCYN MENAI.

--------I ba le 'Baath y Fodrwy…

Imneilldnad Syr Robert Giffen-J

Y Terfysg yn India.

Tref Cydweli a i Haaffsdion,

tigwycdiac. Brawychus i Llant.

Kenyddiad yn Lsrpwl.

Nodaohfa. Ffasiynol ya Ngholwyn…

Bangor-,

[No title]

Cema,es, Hon.

Cemlyn.

[No title]

, ILlanallgo a'r Amgylchoedd.

Llandyfrydcg.

Llanerchymedd-

Llaagefni.

[No title]

Ehosybol

Terfyniad Streic mewn Glofeydd…

Damwain Angeuol mewn Glofa…

[No title]

---Undeb Ysgolion Sabbothol…

Llythyrau at y Goiygydd -

Family Notices

CARNARVON.

PORTMADOC.

Advertising

--Nodion Amaethyddol.

[No title]

[No title]

Ffrwydm* EychrTnllyd Nwy.

Ymladd Gcrnest rhwng dau o…