Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

23 articles on this Page

..-Gwrthgiliwr at Wrthgilwyr.

News
Cite
Share

Gwrthgiliwr at Wrth- gilwyr. (GAN HEN FFARMWR.) Fy Nghydwrthgilwyr,—Gwn y maddeuwch i mi am beidio eich cyfarch a'r gair "anwyl." Mae in sefyllfa mor resynol fc1 yr .ifnwyf nad nes dim ynom i deilyngu y fath gyfarchiad, hyd yn nod oddiwrth y naill y llall. Yr ydym wedi myned i'r sefyllfa dorcalonus a ddarlunia y prophwyd pan ddywed "0 wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo.; ond archollion, a chleisiau, a gweliau crawnllyd ni rwymwyd ac ni wasgwyd liwyat, ac ni thynerwyd ag olew." Yr ydym yn y cyflwr truenus hwn yn lleugoedd di-rif—dau neu dri yn yr un teulu, degau yn yr un gynulleidfa, ugeiniau yn yr un ardal, canoedd a miloedd drwy Gymru oil. Yr ydym yn cael ein hysgubo o flaen eeJlllif dinystriol gwrthgiliad i golledlgaeth dra- gwyddol; ac ni wneir nemawr mwy o sylw o honom na phe byddem mewn cyflwr dyogcl. Gydwrthgilwyr 1 Mae ein sefyllfa yn debyg iawn i'r adyn hwnw a syrthiodd yn mhlith lladron rhwng Jericho a Jerusalem. Mae yr Offeiriaid a'r Lefiaid yn cilio draw, ac yn myned heibio yn gwbl ddiystyr o hono. Yr ydym ninau ar y maes yn ymdrybaeddu yn ein gwaed, a'n clwyfau yn agored. Yr ydym yn marw; ie, yr ydym yn marw heb neb i'n cynorthwyo, na llygaid i dosturio wrthym! Och! Arglwydd pa beth a ddaw o honom? Y mae un yn y tir rhewllyd ers deu- ddett mlynedd heb neb yn ei ganfod ac y mae arall yno ers ugain mlynedd—y gweinidog a'r eglwys fel pe byddent wedi cydymdynghedu i droi draw ynIle siarad ag ef. Y mae ynaun arall ag awydd cryf dvchwelyd pe rhoddai rhyf un law iddo, ond a pawb heibio heb gymaint gyfarch ar yr heol. Cyfarfum fy hunan y Aydd o'r blaen un o'm hen frodyr gynt, a gyihaint a hyn o gvsur ganddo, sef, Os oeddwn wedi cael gras, y buaswn yn sicr o gael fy nychwelyd ryw bryd." Dychrynllyd! Dyma atkrawiaeth a'i llon'd o uffern, onide ? Yr wyf hs bron 40 mlynedd wedi gwrando rhai miloeddy bregethau, ond nid wyf yn cofio am gymaint ag un i'r gwrthgiliwr. Penodir materion gwir bwysig i bregethu arnynt mewn cy- farfodydd misol, chwarterol. a blynyddol, ond an- ghofir sefyllfa druenus v gwrthgiliwr. Yr wyf wedi chwiiio cyfrolau yn Gymraeg a Saesneg, ond yr wvf yn methu cwrdd afr un bregeth i'r gwrth- giliwr- Yr wyf yn derbvn cyhoeddiadau dyddiol, wythnosol, misol, a chwarterol, ond yn methu cwrdd a nemawr linellau at y gwrthgiliwr. Cefais gyle y dydd o'r blaen i edrych dros draethodau crefyddol, ond nid oedd yr un ohonynt at y gwrth- giliwr Pan yn methu cysgu y nos o'r blaen ym- aflais yn "Llyfr —— gwelwn y penawd "Dau ddyn." "Dyma fe," ebe fi. "Rhaid mai fy 'hen ddyn' i yw un ohonynt; ond erbyn darllen, y dyn oddiallan a'r dyn oddimewn oedd yno! Ac wedi'r holl chwilio, nid oedd dim i'w neud ond rhoddi fy mhen i orphwys ar obenydd tristwch, a oheisio ymgysuro yn mhrofiad trwm y Salmydd, pan ddywedai, "Nid oes neb yn gofalu am fy enaid i." Bu'm lawer gwaith yn meddwl y byddai yn well i ni droi allan i'r byd i gyfarch ein gilydd, oher- wydd mor lleied o sylw wneir o honom gan yr Eg- Jwys, ac mor lleied o gydymdeimlad ddangosir atom. Ond pan feddyliwn eilwaith nad ydym yn werth siarada ni gan ein hen gyfeillion—yn werth gweddi neillduol ar ein rhan gan yr Eglwys—yn werth ymweliad na chynghor gan swyddogion— nac yn werth ysgrif, traethawd, na pliregeth gan ein llenyddwyr crefyddol a'n gweinidogion. 0 yr wyf yn llwyr dori fy nghalon heb wybod pa Ie i droi. Pe y troem allan fel hyn, nid oes yr un eysur genym i'w roddi y naill i'r llall heblaw cwyno wrth ein gilvdd ein bod yn ddirnjygedig gan bawb—yn trwm arogli yn ffroenau cymdeifch- as" ac yn arddangosfa ddirmygus gan ellyllon y pydew. Gan fod pobl yr Arglwydd wedi cefnu arnom, y mae Duw wedi ein gadael, os yw Efe a'i bobl yn debyg i'w gilydd. Na ato y Nef ei fod Ef wedi ein gadael! Pa beth bynag, dyma yw ein strfyllfa druenus, a dyma yw ein profiad' didwyll air yn air. Buom yn gaethicn diymwared ers olynyddau-yn rhodio o dan orthrymder y gelyn, ac yn y diwedd yr ydym yn marw yn ei grafangau. Dickon fod rhai yn rhyfeddu atom, yn beio arnom, ac yn codi bysedd gwawd ar ein hoi pan y syrth- itrn yn ddifwriad yn ysglyfaeth i bechodau rhyf- ygus. Gwyddom yn dda nad oes genym rith o es droa y pethau annymunol hyn: iren^gyreniion, peldiwch a'n gwawdio a chefnu ar- nom, ond tosturiwch wrthym. Ehyw deimlad ofnadwy mewn disgybl i Grist yw hwnw sydd yn eymhell ei wrthddrych i bechu, ac yn ei orfodi hefyd, er mwyn cael llonydd gan gydwybod euog. Pe y gwruaech ond -^chydig o'r hyn a deimlwn ni, hawdd fyddai eich darbwyllo i gredu ein bod yn fwy o wrthddrychau tosturi na gwawd. Byddwch ddiolchgar am na wyddoch am yr ymosodiadau parhaus sydd ynom ni, a'n gwendid diamddiffyn i wrthsefyll y picellau tanllyd hyn. Yr ydym wedi ein cymeryd yn gaethion rhyfel gan y gelynwedi ein hyspeiiio o'n harfau, ac wedi ein cwbl orch- fygu ganddo.. Yr ydym yn gorfod byw neu farw ar y cibau a dderbyniwn, ac yn Gael ein trin gan- dio wrth ei ewyllys. Credwch ein gair, os nad yw enw o grefydd yn ddim i bwvso arno i fyned i'r fam, y mae mwy o bwys ynddo yn y byd hwn nag y mae llawer yn amgyffred nes ei golli. Os i-fch y caf y fraint o ddychwelyd at achos y Gwar- etlwr, yr wyf vn meddwl mai y menyg mwyaf sid- anaidd a wisgwn i drin clwyfau gwrthgilwyr, ac nid menyg trin drain, bilwg, a bwyell, chwedl Williams o'r W iru, onide 1Er, ar yr un pryd, y dichon fod arfau fel hyn yn angenrheidiol i drin rhyw fath o gymeriadau. Fy nghyd-drueiniaid! <3wyr Ihwer ohonoch yn dda nid dyn^^<>toav<ict--chiwtqr yr Wyf lmD yn WntfrycS ei einau i osod allan fy mhrofiad, lie y dywed, Arglwydd, na cherydda fi yn dy lid, ac na chosba fi yn Dy ddigllonedd, canys y mae Dy saethau yn glynu ynof." Neu, gellir ein cy- ifelybu i un wedi syrthio dros fwrdd llong y mae y truan yn ymladd a'r cynddeiriog donau am ei einioes, ac y mae sharks yr eigion yn ei ddilyn a'u safnau yn agored i'w lyncu y criw wedi ei adael i'w guro gan elfenau cynddeiriog, 1 w larpio gan bysg gwancus, neu suddo i r gwaelod erchyll. Cyffelybir ni hefyd, yn y gvfrol ysbrydoledig, i ddefaid wedi mvned ar gyfelllOrn, 0:1. cliyffelybir gweinidogion i fusrfiliaid. Dyma fel y dywed y prophwyd am danom ill dau Ni fodd- yginiasoch y elaf, ni i^vmasoch y ddrylliedig, y gyfeiliornus ni ddygasocli adref, a'r golledig ni eheisiasoch; eithf llywodraethasoch- hwynt a thrais, ac a chreulondeb. A hwy a wasgarwyd o oisiau bugail; a buont yn ymborth i holl fwyst- filod y maes. Fy nefaid a grAvydrasant ar hyd yr holl fynyddoedd, ac ar bob bryn uchel; .gwasgar- wyd fy irkraidd ar hyd wyneb yr holl ddaear" Ie, yr holl ddaer- ac nid oedd a'u ceisiai, nac a ymofynai am danynt. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; wele Fi yn erbyn y bugeil- laid; gofynaf fy mhraidd ar eu dwylaw hwynt, a gwnaf iddynt beidio porthi fy mhraidd a'r bu- gelhald ni phorthant eu hunain tiwy, canys gwar- daf fy mhraidd o'u safn hwy, lei na. byddont yn ymborth iddynt." Fy nghydwrthgilwyr, gwar- ■fr a eraill rhag meddwl fod y darlun- iacl cyffrous uchod o fugeiliaid Israel yn gymhwys- iad at weinidogion efengyl y dvddiau hyn. Gad- ewir hyny yn hollol—"a'th law yn drom arnaf. Nid oe8 wchy yn fy nghnawd oherwydd Dy ddigllon- edd, ac md oes heddwch i'm hesgyrn, oblegid fy mhechod. Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen, megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi. Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygr- asant gan fy ynfydrwydd. Crymwyd a darostyng- wyd fi yn udirfawr beunydd yr ydwyf yn mvned yn alarus, canys fy Iwynau a lanwyd o ffieiddglwyf, acnid oes lechyd yn fy nghnawd. Gwanhawyd a ^Flhwyd fi yn dramawr rhuais gan aflonyddwch tyn~halon. Fy nghalon sydd vn llamu ly nerth a m gadawodd a llewyrch fy llyaaid nid yw ehwaith genyf. Fy neharedigion a'm cyfeill- ion a safent, oddiar gyfer fy mhla, a'm cyfneseif- laid a sa enp o hirbell. Athum yn ddi- eithr l m brodyr, ac fel estron gan blant fy mam. Gwarthrudd a dorodd fy nghalon; yr ydwyf mewn gofid, a disgwyliais am rai i dostuno wrthyf, ac nid oedd neb ac am gysurwyr, ni chef- ai neb." Meddylied y darllenydd y peth a fyno. Y mae yir Un sydd yn gwybod y cwbl yn gwybod mai dyma ein profiad air yn air. Na ryfedded neb, gan hyny, pan ddywedaf fod fy ymborth wedi colli ai flas, fy nghwsg wedi cilio; fy iechyd wedi am- mharu, a'm cnawd yn curio oddiam fy esgyrn. Gellir ein cyffelybu i un wedi colli ei flfordd mewn anialwch; y seirph am ein brathu, y bleiddiaid yn 8ychedu am ein gwaed, adar ysglyfaethus am dynu ein llygaid, a llewod yn gwahodd eu gilydd i wle<lda ar ein cnawd a dryllio ein hesgyrn. Fy nghydwrthgilwyr! Gwareder ni a phawb 5 eraill rhag meddwl fod y darluniad cvffrous uchod o fugeiliaid Israel yn gymhwysiad at weinidogion efengyl y dyddiau hyn. Gadawer hyny yn hollol at eu hystyriaeth hwy; ond y mae darluniad o'r praidd yn gosod allan ein sefyllfa druenus ni fel gwrthgilwyr mor gywir ac effeithiol ag y medr yr iaith rymusaf a mwyaf barddonol wneud. Ai ty- bed nad gwrthgiliad mewnol yr Eglwys a'i gwein- idogion ydyw achos o'r esgeulusdod parhaus a ddangosir tuagatom? Gadawn hyny etc at eu hystyriaethau hwy, oblegid y mae genym ni lawer mwy na digon o waith i edrych atom ein hunain. Coffa da am hen wraig y dryll a gollasid. Gol- euodd hi ganwyll ac ysgubodd y ty bob congl, ac ni orphwysodd nes dyfod o hyd iddo, a chymaint oedd ei llawenydd wedi ei gael fel y galwodd yn nghyd ei ehyfeillion er cydlawenhau a hi. Ie, y mae y bugail hefyd wedi colli un o'r defaid. A adawodd efe iddi fyned fel peth cwbl ddiwerth? Na, gadawodd y 99 yn yr anialwch, aeth ar ol y golledig, ac ni ddychwelodd nes dyfod o hyd iddi. Galwodd ei gymydogion i gydlawenhau, canys ( meddai, ""Cefais fy nafad a gollasid." Mae gan yr holl fugeiliaid, medda nliw, ddiwmod bob blwyddyn i gasglu y gwasgaredigion ond er mor luosog ydym ni, ni neillduir un diwrnod felly er ein mwyn. Druain ohonom, canys darfu am danom! Ca^odd Muller, y llofrudd, gaplam i'w ddilyn i ymyl v crogbren, a chafodd Wilkes Booth, arch- fwrdrwr y byd, ddyferyn o ddwfr oer i wlychu ei dafod yn ei funudau olaf, a chafodd feddyg medr- us i drin ei glwyfau ac i wylio arno hyd nes y trengodd. Ond! ond! och Arglwydd! er ein bod ni yn llengoedd, wedi ein gwasgaru ar wyneb yr holl wlad, ac yn marw yn ein gwaed, nid oes a dosturia wrthym!" Barchus weinidogion ac eglwysi, nid cellwair a chondemnio yr ydym, ond cwyno, a chwyno yn unig—" Duw yn dyst." (I'w barhau.)

Llywodraethiad Deheudir Affrica…

j" ^ '* j Ustusiaid Hewyddicn…

j£ nghydfod Chw arel Y ! Penrhyn…

Barn Hen Woithiwr ar Anghydfod…

----------Etholiad Sheffield.

--------Coleg Llanymddfm-

NODION O'R DEIIEUDIH,

-----__--__----Arfer Synwyr…

!Gohiriad y Senedd.

Family Notices

| Shipping.

YD. '

ANIFEILIAID.

MOCH TEWIOfi.

CIG.

CAWS.

YMENYN.

TATWS.

GWAIR A GWELL

Marchnadoedd CTrireig

North Walss rairs-

Anelssey Fkjz for I5S7,