Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Ffestiniog.

News
Cite
Share

Ffestiniog. "SWYN CENEDL YW SAIN CANU." DYNA ddywed llinell dlos o eiddo rhywun, a gellir yn hawdd ei chredu rhwng y bryniau hyn. Nos Iau ddiweddaf cynaliwyd cyngherdd eluseool yn y Neu- add Gyhoeddus, dan lywyddiaeth Mr Morgan Jones, Brvnbowydd, ac arweiniad y doniol Mr John G. Edwards. Elai yr elw i Mr Wm Jones, Gareg- ddyfnallt, hen chwarelwr s/dd yn wael er's llawer blwyddyn. Dyma rediad y rhaglen: Detholiad gan Seindorf Arian Oakeley. Unawd, Bwthyn yr Amddifad," Miss Lily Dew. Anerchiad gan y llywydd. Unawd, "Soldier's Song," Mr E Ffestin Jones cafodd encor brwdfrydig, a chanodd "Pan forr borea g^as yn gwenu," &c. Unawd, "Baner ein Gwlad." Gutyn Eifion. Adroddiad, Miss Cer- idwen Griffiths. Deuawd, "Anvyr Cymru Fydd," Mr Ffestin Jones a Gufcyn Eifion; mynodd y gyn- ulleidfa eu clywed drachefn. Can Eidalaidd gan Miss Dew; cafodd ei hail alw, ac ufuddhaodd. Datganiad gan Gor Brynbowydd, dan arweiniad Mr Bobt Edmunds. Unawd, O leuad dlos," Gutyn Eifion, yn llawn teimlad. Cystadleuaeth adrodd unrhyw dderayn digrifol ond chwaethus, Miss C E Parry gafodd y wobr am adrodd Llanciau Aber- daron." Unawd," Goodbye," Miss Dew. Deu- awd, "Flow gently Deva," Mr Ffestin Jones a Gutyn Eifion. LTnawd, 11 0 ruddier than the cherry," Mr Ffestin Jones, yn wir feistrolgar. Dat- ganiad gan y Cor. Cyfeiliwyd yn fedrus, fel arfer, gan Miss A E Owen. NEWID AWYR. Cyfeiriasom yr wythnos ddiweddaf at waeledd Mr Owen Jones, Erwfair, deallwn ei fod wedi myned i awyr iach Pwllheli i geisio adferiad, a da genym ddeall nad yw yn debyg y caiff ei siomi. I Landudno y mae Mr Wm Jones, Penygroes, wedi myned am ysbaid i'r un perwyl. Bydded llech- weddau y Gogarth ac awelon y mor yn fendithiol iddo yntau. PLANT YN CANU. Nid oes dim pereiddiach ar y ddseir na chan y plant; nid rhyfedd gan hyny fod Capel Jerusalem yn orlawn o blaut a pholl ncs Sadwrn diweddaf. Yno y cynelid Cymwfa Flynyddol Plant Ysgolion Sul yr Annibynwyr eleni, dan arweiniad cyfarwydd Mr Cadwaladr Eo jerts. Yr oedd myned i mewn tuag amser dechreu allan o'r cwestiwn, a bu raid i lawer fel fy hunan foddloni ar y cyntedd allanol. Yr oedd y canu yn dra swyDol, er mai gwaith an- hawdd oedd cadw cynifer o blant dan feistrolaeth lwyr. Tybed y gwneir y rhai y perthyn iddynt yn y "cysylltiacau hyn dderbyn un awgrym? Mae cylch Cymanfaoedd yr Annibynwyr yn yr ardal hon yn sicr o fod yn rhy eang mewn canlyniad mae llawer o gyrau'r mees yn cael eu hesgeuluso. Mae yr enwad parchuj yn gyfoethog o arweinyddion lleol, a gellid yn hawdd ranu'r gwaith i well pivrpas. TROEDIWN I WARD YSTRADAU. Mae cryn ymholi pwy sydd yn myned ilenwi lie y diweddar Mr W J Williams fel cynrychiolydd y Ward uchod ar y Cyngor Dinesig. Gwyddom fod cymeriadau rhagorol ac eaeidiau diwylliedig yn cyfaneddu yn !N hanygrisiau; ond methwn weled yco yr un Saul yn mhlith y brodyr ar gyfer yr amgylchiad arbenig hwn. Enwir amryw fel rhai cydnabyddus a chyfarwydd a'r rhau hon o'r ardal. Yn eu mysg gellid nodi y Mri W J Rowlands, Glanypwll; John Lloyd Jones, Votty a Bowydd; Humphrey Roberts," Cefnbychan Wm dwards, y Bont; Edward J Rowlands, Fronhaul, ac amryw eraill. Mae yn y nifer uchod ddynion ieuainc o gyrhaeddiadau arbenig, ac wedi ymarfer eu gallu- oedd yn y ffordd fwyaf uniongyrchol i'w cymhwyso ar gyfer gwaith fel eiddo y Cyngor Dinesig. Hyd- erwn y gwel etholwyr Ystradau eu cyruhwysderau, cyn i neb arall ddechreu lluchio llaid i'w llygadau. GRADDIO. Bydd yn llaweoydd gau gylchoadd eang a pharchus ddeall fod Mr Richard A Mills-Roberts, M.R.C.G., M-R.C S. (of England), mab ieuengaf Mr Robert Roberts, Y.H., Dolawei, wedi enill y radd o M.B. yu Mhrifysgol Durham yr wythnos ddiweddaf. MANION. Bu Seindorf Arian Oakeley yn dyddori yr ardal nawn Sadwra diweddaf. Mae eu cyugherdd blyn- yddol gerllaw dylent gael pob cefno^aeth. Deall- wn fod yn eu bryd g-iel Bandroom newydd. Ychydig o son sydd yma am yr Wyl Lafur; pysgota a phlanu tatws sydd yn myu'd a hi y dydd- iau hyn. Deallwn fod Adroddiad Blynyddol Dr Richard Jones, Isallt, Swyddog lechyd y Cynghor Dines- ig, wedi ei gyhoeddi. Dywedir ei fod yn dra dy- ddorol; cawn sylwi ar ranau ohouo eto. Llawen genym ddeall fod Cymdeithas y Pysgot- wyr wedi penderfynu cyhoeddi yr Alareb i Mr Hughes y Postfeistr gyda darlun rhagorol ohono. Nid oes sicrwydd hyd yn hyn, a gaiff ei weld w drallodus ei le ai peidio. Dyma fel y dywedoid un o'r beirdd wrth wrando Miss Annie Giiffith a Mr Idw.il 0 Griffith, Glany- pwll yn chwareu deuawd ar y berdoneg— Dan auwyl yn cyduno-ar danau Y berdoneg lieno; Chwaer a brawd na chura bro Efo hwyl i gyfeilio. Dywedir fod coronwaith cywreinion i'w weled In ffenestr Siop yr Hall y dyddiau hyn. Cynliun o gastell ydyw, wedi ei weithio ar lecbfaen gan Mr Uwen Roberts, Towyn Road. Clywsom ddweyd mai y diweddar Mr W J Wil- liams, yr hen ysgrifeuydd, fydd testyn Cadair yr Annibynwyr y Nadolig nesaf. Mr J D Jones, Mauod Road, sydd ar bea y rhes eleni eto yn y dosbarth hynaf, yn Arboliad CJfar- fod Misol Gorllewia Meirioaydd. Pwy fuasai yn meddwl am anfon un mor dyner a gwyl:iidd a'r Parch R R Morris i Gymdeithasfa ColwN a Bay ? Er hyuy, ihoddodd ein cyfaill mwyn gyfrif rhagorol ohoao ei hun yno. PBYDBBI.

CYMANFA Y PASG.

Lladron Lerpwl.

Y ddau Lord Bobs.

Advertising

Nodion o Faalor.

--0--Y Senedd.

Marohnadoedd.

Advertising

--_R Birkenhead.

-::o:,-:--Araith gyntaf yr…

Cerfddelw 0 Mr William Rathbone.

Cyrddau y Oyfodol, &o.

Family Notices

Advertising