Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
"Gwas y Gog."
"Gwas y Gog." DTMA gan ddoniol a dderbyniais trwy y post, gyda thaer ddymuniad yr awdwr am iddi gael ymddangos yn y golofn holl GWAS T GOG. FY Awen deffro, deffro'n wir, 'Rwyt wedi cysgu'n ddigon hir; Tal dy awenol liaeddot log, Rho ddewis gerdd i Was y Gog. OES rhywun wyr drwy'r ddaear fawr Yn rnli le mae Gwas y Gog yn awr? Er cael y Gog, y mae hi'n gas Os na cha'i diiyn g:m y Gwas. Fe ddaeth yr haf yn braf ei bryd; Ac anian gawn yn wen i gyd: Mi giywais ddoe y gwcw las, Ond d'wedwch imille mael Gwas ? Mi glywais ddweyd ei wel'd ryw ddydd Ar draeth y Bermo'n rhodio'n rhydd; A beidiodd gwylan lwyd ei chlog Fyn'd ymaith efo Gwas y Gog? Ymwelai'n fynych gyda'r brain, A'i hudo'r oedd caniadau'r rhain; A fu rbyw bigog frain mor gas A gwneud eu gwyl ar gnawd y Gwas. A fu i heliwr creulon fryd Saettiu'r aderyn mwyna'i gyd; A'm llaw ty hun mi rown yn nghrog Un roes y gwn ar Was y Gog. Fe'i gwelid yn y dyddiau gynt Yn gaiw yma ar ei hynt; Pe deuai eto, talwn log 0 groeao gwir i Was y Gog. Yn wir 'rwy'n teimlo'n bur ddi-flas Rhag ofn ei fod yn colli ei ras; O d'wedwch imi lie mae'r rog- 40 1 d Na !—lie mae'r doniol, Gwas y Gog ? Y mae ei Feistres hyd y fro Yn cwynfan fyth am dano to Ac os na ddaw o cyn dydd Llun Mi droi'n Was y Gog fy hun^ pRAmu
DR. OWEN THOMAS A. LLENYDDIAETH…
DR. OWEN THOMAS A. LLENYDDIAETH BRYS. YR wyf yn cotio cyfarfod Dr Thomas un tro ar yr'heol, ac yr oedd mewn tipyn o dymher—peth annghyffredin iawn iddo ef. Yr achos ydoedd fod rhyw herym scerym o ysgrifenwr wedi dweyd yn y Oymro un wythnos, ddarfod i Dr. Edwards a John Phillips, Bangor, gerdded yr holl ffordd o Edinburgh i Lerpwl. Cwynai Dr Thomas yn dost fod awdwyr yn rhuthro i ddweyd ar ei cyfer heb chwilio mwy am y gwirionedd. Os byddai rhyw amheuaeth yn fy meddwl i am ddyddiad genedigaeth awdwr," meddai, megis prun ai ar y 2il neu'r 3ydd o'r mis y cymer- odd hyny le, mi aeth wn o'r naill ben i'r dref i'r llall er mwyn cael sicrwydd. Ond waeth gan rai ysgrifenwyr y dyddiau yma ar ddaear beth ddwedant, am y dwedant rywbeth."
Priodi Chwaer-yn-Nghyfraith
Priodi Chwaer-yn-Nghyfraith YN Nhy'r Cyffredin, nos Fercher, cariwyd y cynygiad yn caniatau i wr gweddw briodi chwaer ei wraig gyd" mwyafrif o 157 (279 tros a 122 yn erbyn). Buddagoliaeth rheawm ar ddefodaeth oedranus. Nid dyma'r tro cyntaf i fesar o'r fath dderbyn cefnogaeth y Senedd ond fel bob tro o'r blaen, mae yn alcr o gael ei wrthod yn N hy'r Arglwyddi. Chwe gwaith o'r blaen y pasiwyd ef yn Nhy'r Cyffredin ac un- waith gan yr Arglwyddi. Gydag un neu ddau o eithriadau, y mae pob esgob yn y Ty olaf yn ei erbyn a gellid meddwl eu bod yn darllen llyfr Lefiticus yn bur fanwl ar gyfer yr ym- drech flynyddol hon. Yn ystod y ddadl ddiweddar, dywedai larll Percy Y syndod yw, nid fod rhai yn myag y dosbarth gweithiol yn priodi chwaer eu gwragedd ymadawedig, ond na fuasai'r arferiad wedi dyfod oron yn gyffred- inol, gan fel y mae deddfroddwyr cyfrifol yn dadleu o flwyddyn i flwyd Jyn nad oes dim niwed yn y cyfryw briodasau. Oad gofyna un o bapyrau Llundain, pa fodd yn y byd y dichon i'r arferiad ddod yn 11 gyff- redinol" pan y mae cyoifer o rwyatrau anorfod aryffordi? Nis gallai dyn gydymffarfio &'r arferiad, pa mor awyddas bynag, os bydd ei briod yn fyw neo, os wedi marw, nad oedd .ganddi chwaer neu os gadawodd chwaer fyw, fod yn well ganddo briodi chwaer rbywon arall. Y mae'n anhawdd enyn barn gyhoeddus gref o blaid y mesur gan nad yw'r alwad am dano yn digwydd ond yn anfynych ond prawf di- ymwad o'i gyfiawnder a'i uniondeb ydyw iddo gael ei gario fel hyn y naill dro ar ol y llall yn Nhy'r Cyffredin, a'i wrthod mor fynych, yn benaf trwy ddylanwad yr Esgobion, yn Nhy'r Arglwyddi. Hardy annual" y gelwir y Meaur hwn gan y Saeson a'a gair digrif mawr mewn eysylltiad âg ef ydyw fod an fam-yn-nghyfraith yn hen ddigon i bob dyn. Sat y mae mam y wraig mor anmhoblogaidd gyda'r Saeson tra y fam wen—y liysfam—ydy w'r casbeth gan y Cymry 1 Mae rhyw gyfrif am hyn ond rhaid ei adael fel pob pwnc athronyddol arall nes byddo'r rhyfel yma drosodd, a threth yr incwm wedi ei thalu.
AT YR ASGELL FRAITH.
AT YR ASGELL FRAITH. Bydd lon, bydd iach, bydd falch yn awr, Ar ol dy holl ddyfalu mawr; Mae'r newydd, newydd ddod i n clyw, Fod Gwas y Gwcw eto'n fyw.-[GOL ] Gtweler llythyr dyddan G. y G. mewn colofn arall.
Yn mha sir y ganwyd mwyaf…
Yn mha sir y ganwyd mwyaf o'n Beirdd mawr ? YN y Cymro am Ebrill 25, rhoddai an o'n llenorion ymcbwilgar reatr o'r Beirdd gen- edigol yn sir Giernarfon; a rhestr dda ydyw. Fel y dywedais wrth restra beitdd sir Ddinbycb, yr oedd arnaf braidd ofn sir Fon, Atfon, a Chaerfyrddin; ond er na chymerais ond un rhan o sir Ddinbych, sef yr adran Or- llewinol, nid wyf yn meddwl y rhaid i'm rhestr ostwng ei phen yn ochr un holl sir Gaernarfon. Os gadewir enwaa beirdd allan o'r rhestraa hyn, teimlwn yn dra diolchgar i'n darllenwyr am air fel ag i'w gwneud mor gyflawn a chywir ag y byddo modd. Hwyrach y ceir hamdden yn y diwedd i athronyddu paham y bu ac y pery rhai airoedd yn fwy cynyrohiol o Feirdd .na'r IIeill.
ICoheblaethau.
Coheblaethau. CYMANFA COLWYN BAY (b). SYR,—Clywaia adrodd am hen athronydd a arferai ddweud ym mhresenoldeb pob cyffro bach neu helynt fawr—" Wel, a hyn hefyd heibio." Yr oedd efe yn galI. tawelu ei hun a llonyddu eraill drwy y aylw syml hwn-â. hyn hefyd heibio a dylasai y teimlad sicr o hyn gymedroli peth ar ein hofnau gyda golwg ar Gymanfa Colwyn Bay-yr oedd yn sicr o fyned heibio, yr oedd yn rhaid iddi fyned heibio, ac yn awr y mae wedi myned heibio; a rhai pethau a phersonau wedi myned heibio gyda ni. Nid ydym yn dweud na ddaw rhai o'i phetbau a rhai o'i gweithrediadau i sylw eto-y maent yn Bier o ddyfod-ond am y munud y mae y Gymanfa wedi gadael lull ar ei hoi, yngbyd a defnyddiau meddylgarwch, Gadawyd i ni gael hin ddymunol, ac yr oedd yr haul mawr yn tywynu yn ddiwahaniaeth, wedi der- byn cyfarwyddyd i godi ar y drwg a'r da;" ac yn y cyfarfodydd mwy cyhoeddus ao ysprydol (fel y dywedir) yr oedd yn gwlawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn hefyd." Anerch- iad hyfryd oedd un y Parch R R Morris, Ffes- tiniog, ar yr Yagol Sabbothol cyfarchiad tlwa, fresh, ac heblaw hyny yn un hynod o naturiol. Ar ei ol wrth roddi y gadair i fynu, dechreuodd y Parch Griffith Ellis ei gyfarchiad mewn modd dwys a da iawn, ac yr oedd wedi llunio pethau gwerthfawr ac agos i sylwi arnynt fel diweddglo ond rywfodd nea gilydd hud. wyd ef oddiar y ffordd gan fater arall fel nad oedd amser i wneud eyfiawndet, a phethau rhan olaf yr anerchiad. Y mater a'i denodd ymaith oedd hudlewyn yr "Uwchfeirntadaeth" neu Feirniadaeth Faterol yr Ysgrythyrau. Yr ydym o hyd yn cofio cyngor i bregetbwyr a welsom er's cryn amser bellach i'r perwyl yma :— "Peidiwchag advertizio cyfeiliornadau, gochel- wch grybwyll llawer o ddadleuon anffyddol wrth y bobl, oblegid er i chwi eu hateb yn dda, fe gofia y werin y dadleuon wedi angbLofio yr atebion." Nid ydym yn sicr a oedd y rheol hon yn cael ei chadw yn y cyfarchiad dan aylw ofni yr ydym nad ydoedd, ac mai tipyn o ramble oedd y rhan faith yma o'r anerchiad ni roddwyd un peledyr o oleuni yn erbyn y dadleuon, ond gadawyd hwy i got y bobl fel yr oeddynt; er hyny, yr oeddym yn cydymdeimlo 4r Cynlywydd yn ei bryder ynghylch y gwirionedd, ac yn ei argym- helliad i lynu wrth hen linellau y gwirionedd. Ar y diwedd, gwell fuaaai genym gael llonydd i ddiolch iddo yn syml a dwya am ei lafur yn y gadair, na'r seboniaeth blatfformaidd a gly w- som, yr hon oedd mor anhebyg i ddifnfwch y tadau mewn Sasiwn. Heblaw y Cyfarfod hwn, un hyfryd i fod ynddo oedd yr un am brydnawn dydd Mercher i'r bobl ieuaingc. Teimlid ar unwaith wrth ganu y penill cyotaf-H Pen Calfaria, nac aed hwnw fyth o'm cof "—fod yno rhywbeth neill- duol, rhyw drydan sanctaictd anaiarol yn treiddio drwy y lie, ac yr oedd ein calonau yn cael eu cyffwrdd nes yr oedd degau o honom yn teimlo ein llygaid yn llenwi mewn modd anar- ferol. Anerchwyd y cyfarfod gan dri yn y drefn ganlynol—y Parch Wynne Davies, Mr Herbert Roberts, M.P., a'r Parch Dr Cyn- ddylan Jones. Yr oedd y cyntaf yn siarad yn fywiog, ac yr ydym yn llwyr greiu mai bachgen da ydyw. Er hyuy yr oeddym yn cofio fod gan y gwyddonwyr ddau offeryn yn awr, aef y thermometer i fesar y gwres a'r bolometer i bwyso pelydrau y goleuni, a theimlo yr oeddym fod Mr DAvies eto yn bur ieuangc ac yn sefyll gryn lawer yn uwch ar y blaenaf nag ar yr olaf. Am Mr Herbert Roberts, dyma y tro cyntaf i ni ei weled o gwbl. ac yr oeddym yn hoffi yr olwg arno ar unwaith. 0 ran ei arddull fel areithydd, nid un Gymreig ond un Seisnig ydyw eto yr oeddym yn teimlo fod ei yabryd, nid yn unig yn wir grefyddal, ond hefyd yn agoB atom, fel yspryd ei daid rhagorol yr hen ddiweddar Barch John Hughes, Lerpwl. Yr oeddym hefyd yo mawr hoffi natur ac eanyder ei ddeffiniad o wasanaeth Cristionogol-Ohrist. ian Service-sef "pob dim a wneir o dan gymhelliad cariad at leso Grist." Wrth sylwi ar nifer mor fawr o hil y rhai a wnant bres yn Liverpool sydd yn troi allan yn teobgyn diffaith, yr oeddym yn teimlo yn wir ddiolchgar wrth weled y gwr ieuangc hwn yn sefyll o flaen y llu o b->bl ieuainc oedd ger ei fron fel esiampJ mor hardd o grefydd, ac mor ddeheuig i'w efelychn a'i ddilyn ganddynt. Ar ei ol ef cododd Dr Cynddylan Jones, a gwnaeth un o'r ymddangosiadau godidocaf. Ofer yw ceisio rhoddi cynwya yr araeth gyn- wysfawr ac ardderchog bon i'r bobl ieuangc, yr oedd yn llyngcu ac yn dihysbyddu pobpeth, ac yn cludo pobpeth o'i blaen ac wedi i'r areith- lwr eiatedd, yr oeddym yn gorfod rhyfeddu mor gibddall neu genfigenus oedd y rhai hyny yn y Gogledd a'r De a wnaethant eu goreu am flynyddau melthion drwy wawd a chyngrair i ddaly fath ddyn ardderchog i lawr; a rhy debyg a fu gyda'r Parch Evan Jones, Caernar ton. gwnaetiiant a allent i atal ei esgyniad yntau; ond wedi esgyn y mae efe yn awr ar ei brawf. Yr oedd y Parch Edwin Williams, M.A., Tre fecca, hefyd, yn ymwelydd A'D, Cymanfa o'r De, a chawsom bregeth glir ac effeithiol iawn ganddo yntau, yr hon oedd yn peri i ni deimlo fod pechod yn rbywboth ofnadwy, yn ein her- byn ein hunain ac yn erbyn Daw. Da fuasai genym, ond nid oes genym ofod i sylwi ar ychwaneg o'r pregethau, megis un glir a rhagorol y Parch J J Roberta (Iolo Caer- narfon), un rymus Dr Cynddylan Jones, ac un swynol a hyfryd Dr Hugh Jones yr oedd hon ar y gosodiad Byml, "Fod modd ini fod yn gyfeillion Grist;" ond er mor syml oedd mater y pregetbwr, gwnaeth i ni oil deimlo fod gwerth anfeidrol mewn bod o nifer y cyfeill- lon hyn, a ba dda genym ar y diwedd gael gweddio am hyny. Ar y cyfan bydd yn dda genych ddeall i ni gael cryn eneiniad ar y Gymanfa gyntaf hon yng Ngholwyn Bay «r ol i ni unwaith adael Marah, lie, fodd bynag, ni chafwyd y dyfroedd yn llawn mor chwerw ag yr ofnid, a lie yr oedd yn hyfryd teimlo fod peth o wermod y gwlyb- yron yn cael ei dynu ymaith drwy bresenoldeb a rhinwedd nifer Iled dda o H brenau cyfiawn, der." Y mae genym yn awr fel Cymanfa daith o tua naw wythnos o'n blaen hyd y wersyllfa nesaf, ac y mae ltawer yn gobaithio mai Elim y gelwir bono, ac y ceir yno ddeuddeg ffynon a deg palmwydden a thrigain, fel y rhai oedd yn cyfarfod Israel gyut; ac oa felly, bydd yn hyfryd iawn. R. LLUGWY OWEN. Neckarmont, Eb. 29, 1901.
TROI ALLAN Y PREGETHWYR.
TROI ALLAN Y PREGETHWYR. At y Parch GRIFFITH ELLIS, M.A. S-r.R, -Nid wyfnagweinidog, blaenor, na phregeth- wr. Yr wyf yn dweyd hyn rhag i rhyw rai dybied mae rhyw amcan hunanol sydd genyf wrth ddatgan fy syndod nad yw y dosbarth olaf o'r tri yn aelodau o'r Gymdeithasfa, na chanddynt hawl i fod yn bres- enol yn ei chyfarfodydd ond fel aelodau cyffredin. Yr wyf yn deall i amryw bregethwyr gael eu gyru allan yn Colwyn Bay ond nis gallaf ya fy myw ddeall paham, heblaw, wrth gwrs, yn ol rhyw reol ryfedd sydd eisiau ei dileu. Pa bryd y gwnaed y rheol, nis gwn ni ddichon fod yn hen iawn, gan mai oedran y weinidogaeth yn mysg y Methodistiaid Calfinaidd eleni ydyw 90 mlwydd. Y 70 blwyddyn cyn hyny, pregethwyr diurddau, gydag ychydig eith- riadau, a ddygent y gwaith cyhoeddus yn mlaen, tan yr enw efengylwyr neu gynghorwyr, yn cael eu cy- northwyo gan flaenoriaid yr eglwysi. Daniel Row- lands, a Jones o Langan, yn unig oedd mewn cyilawn urddau o'r sylfaenwyr bore, ac urddau offeiriadol Eglwys Loegr a feddent hwythau urddau curadiaid (offeiriad haner pan, fel eu gelwid) oedd gan Williams o^ Bantycelyn, Cri topher Bassett, ac yn ddiweddarach Charles o'r Bala tra na feddai y mwyaf blaenllaw o'r Tadau Methodistiaid, sef Howell Harris, urdd o fath yny byd, ond a ddaeth arno yn uniongyrchol oddi uchod. Ac ar ol 1811, bn lluaws o bregethwyr diurddau effeithiol, dylanwadol, ac o fendith diamheuol yn gweinyddu yn mhob rhan o waith y cysegr ond gweinyddu yn y ddwy ordinhad; ac nid oedd un amheuaeth am eu duwioldeb, eu galluoedd yn y pwlpud, a'u hanfoniad ac y mae lluaws eto yn aros y gallwn eu henwi, pe angen, na feddant hawl i fod yn bresenol yn y Gymdeithasfa, er yn ddigon da i bregethu'r Efengyl, yn ddigon da i esgyn y pwlpud mwyaf dyrchafedig, yn ddigon da i fod yn aelodau o bob Cyfarfod Misol; a phaham, yn enw Cristionogaeth a phob rheswm, y rhaid eu troi allan o gynghorau y Gymdeithasfa? Aitegyw rhoi braint y eynghorau i weinidogion na alwyd hwynt gan unrhyw eglwys er iddynt gael eu hordeinio, a'i gwrthod i bregethwyr galluog, ffyddlon, a phoblog- aidd, am na roddwyd arnynt nod yr urdd ? Onid yw hyn yn gam dybryd a. dosbarth y mae Methodistiaid Cymru mor ddyledus iddo yn yr amser aeth heibio, a'r hwn hefyd sy'n parhau mor wasanaethgar iddi hyd yr awr hon ? Ai gormod a fyddai imi ofyn yn lled- nais i'r Parch Griffith Ellis am air o eglurhad ar yr annghysondeb ? Yr oedd ef tan orfod, fel Cadeirydd yn Colwyn Bay, i roddi y rheol, annheg yn ol fy marn i, mewn grym a diau ei fod yn gwbl hysbys o achos gosodiad y rheol, a'r rhesymau drosti, os oes rhes- ymau. Yr eiddocb, LLENG. 0:
0 Sir 0Fon
0 Sir 0 Fon DRo yn ol bu tipyn o siarad ac ysgrifenu yn y cylch Methodistaidd mewn perthynas i'r ffaith fop cynifer o weinidogion a phregethwyr sir Gaernarfon yn dyfod i wasanaethu bob Sul i Fon tra yr oedd yn y sir hono ei hun ddigon a gormod i gyfarfod. y galwadau. Ofnwn fod y rhai gwynent yn annghofio fod y tren yn curio bob ffordd. Eto, wrth edrych dros lyfr cyhoeddiadau' yr en wad, mae y ffaith yn amlwg ar y wyneb-brithir ef gan enwau tramor- wyr.' Ynys yw sir Fon, a'r casgliad naturiol i'w dynu oddiwrth hyn ydyw fod llawer o'r pregethwyr brodorol' un ai yn myned dros y dwr i sir Gaer- narfon neu heb bwlpud i fyned iddo. Ac a ydych chwi wedi sylwi mor anodd yw gan y pregethwj r ddygymod a Sul gwag ? Gan fod mwy o Jawer o bregethwyr yn y sir nag sydd o leoedd pregethu, mae'n amlwg y rhaid fod llawer o honynt heb gyhoeddiad bob Sul. Nid wyf yn gweled fod hyny yn annglod arnynt; ac eto rhyfedd y cynlluuiau sydd ganddynt i gadw'n gudd eu bod gartref Llechant yn y ty drwy'r dydd yn aml-I mae o'n ddigon gwir, coeliwch chwi neu beidio. Mae'n rhyfedd geoyf fod gan rai dynion ieuainc gwylaidd adwaenaf gyboeddi o gwbl, pan y mae eraill mor bresaidd a haerllug yn gwthio eu hunain gymaint i'r pwlpudau. Yn y mater yma ofnwn nad yw ein blaenoriaid fel trefnwyr cyhoeddiadau mor eSro ag y dymunid. Yr arferiad mwyaf cyffredin, mi gredaf, yw rhoddi cyhoeddiad i bob un ofyna am dano, a'r canlyniad ydyw fod amryw flynyddoedd wedi ea llenwi eisoes. Gofynais i weinidog dieitbr' dipyn yn ol—' Pryd yr ydych yma eto?' a dyma ei atebiad—' Chwe' blynedd ilr Sul yma'! Cofiwch roi rhyfeddnod. Yr ydych chwi, Mr Gol, yn cyhoeddi Ilyfrau ? Gresyn na fyddai modd i chwi gael gafael ar y rhestrau sydd yn meddiant ambell i flaenor yn Mon yma. Gwnaent lyfr trwehus, a dadleoid llawer o bethau na adlewyrchant ya rhy ffafriol ar oloesolion Seiriol Wyn a Chybi Felyn. Mae gan y Bedyddwyr yn Sir Fon ar hyn o bryd nifer o ddynion ieuainc gweithgar iawn yn gofaiu am eu heglwysi. Amlwg yw fod eu bryd ar wneud yr oil a allant dros eu henwad, ac o dro i dro cyd- gyfarfyddant i drafod rhyw bwnc neu gilydd yn dal perthynas ag o. Maent mor selog ag erioed dros y dwr—yn aunghymodlawn felly. Rhywsut nis gellir peidio edmygu eu loyalty (? Cymraeg) i'r athrawiaeth o drochiad, pan y ceir amryw yn credu fod hyny yn anfantais i'w cynydd. Er holl ym- drechion y gWeinidogion y cvfeiriwyd atynt, ofnwn na cheir y bobl am gryn amser os byth i ddygymod a'r ysbryd annibynol ddangosant fel crefyddwyr yn eu set dros y dwr. Cofiwch-crefydd yn gyn.af, enwadaeth yn ail. 0 holl gapelau y sir credaf mai y mwyaf diaddurn tu fewn a thu faes yw eiddo yr Hen Gorph yn y Gaerwen. Chwith, er hyny, gan amryw yw meddwl am y diwrnod y dymchwelir ei furiau bydd hyny maes o law, gan fod y frawdoliaeth wedi penderfynu cael adeilad newydd. Cafodd gweiu- idog cymeradwy yr eglwys (y Parch J Roberts) ergyd drom iawn yr wythnos ddiweddaf. Bu farw ei briod yn 32 mlwydd oed, wedi ond dwy flynedd o fyw yn nghyd Yr oedd yn wraig ieuanc hoffil gan bawb, a hawdd iawn yw cydymdeimlo a'r brawd sydd yn nyfnder trallod. Ei henw'n hir o dan wen Goron geir yn y Gaerwen. DRAGON.
Advertising
Newydd el Oyhoeddl, mewn lliati gilt to Pris ios. 6ch. nett. p Bywyd a Llvthvrau DOCTOR LEWIS EDWARDS BALA. Gan ei fab, y Prifathraw THOMAS CHARLES EDWARDS. Y MAE y Gyfrol hardd hon yn un o'r llyfrau I pwysicaf a gyhoeddwyd erioed yn y Gymraeg. Cynwys a hanes cysylltiadau agos Dr. EDWARDS a. phrif symudiadau Cymreig ei oes, ifa gohebiaethau gyda lluaws o'i gydoeswyr enwog. I LERPWL: I. FOULKES, 9, PARADISE STREET. I Gellir cael clorian (cases) at rwymo y gwaith hwn oddiwrth y Oyhoeddwr am 9c, a Is yr un i a'r cludiad.
Y Bardd Christmas Evans.
Y Bardd Christmas Evans. YR oedd Christmas Evans y pregethwr hefyd yn f irdd, a'i bregethau yn bryddeatau; ond yn ddiweddar cawsom gan ein cymydog, Mr Philip Davies, Aubrey Street, fenthyg llyfryn, gydag amseroni 1856 ar ei glawr, yn mha an 1 mae amryw ganiadau byrion, caeth a rhydd, o waith- CHRISTMAS EVANS Tynant, Llansantffraid, Glynceiriog." Adwaenai Mr Davies y bardd yn dda, o'i ysgol i'w fedd, ac mewn nodiadau arno a ysgrif- enodd yn yr un llyfr dywed ei fod yn disgyn o ochr ei fam, o Sion Cain, Glynceiriog, ac yr oedd ei fam hefyd yn awengar, a gwelir cryn lawer o'i gwaith yn nghyhoeddiadau y Bedydd- wyr tua'r flwyddyn 1820. Eaw ei dad oedd Evan Evans. Ganwyd y bardd tua 1835-6, mewn ty o'r enw Plas Einion. Oddiyne sym- udodd y tealu yn 1858 i Tynant, Glynceiriog, lie y b. Christmas farw. YagrifenaMr Davies Boom yn cyd-weithio, cyd-deithio, a chyd- gana llawer an gilydd rhwng 1846 a 1856- pryd y gadewais i yr hen ardal enwog hono. Yr oeddwn gydag ef mewn Eisteddfod (leol) yn Llangollen yn 1856, pan yr enillodd am englyn i'r 'Golomen.' 4 Haner Pen' oedd ei ffug- enw, a chofiaf yn dda i Caledfryn wrth ei alw i nol y wobr ddweyd Oa Haner Pen yw yr awdwr yma, beth ddaw o'n pena nl, bobol blich Yr oedd yn gerddor a datganwr gwych. Yr oeddwn yn ei gwmni pan y cyfansoddodd yr euglynion i'r Dyn Hunanol,' ar gais nifer w honom." Wrth edrych dros y darnau yn y llyfr sydd o'n blaen, nis gallwn lai na gofidio ddarfod i'r awdwr farw yn yr oedran cynar o 23 mlwydd. Mae yma rai gwallau cynghaneddol, ac arwydd- ion eraill o anaddfedrwydd ond y mae yma hefyd gynghaneddion cywrain, a tharawiadan barddonol byw a dehenig. Fel engraipht o'i fedr i gynghanedda yn gelfydd ac ystwyth, sylwer ar ei englyn i'r Golomen "-y cyfeir- iwyd ato eisoes, Ysgafn' Golomen wisgi,—diniwed I Noah bu'n gweini; Lion a hardd yw ei Hun hi, Difalch, a hawdd ei dofi. A dyma nn arall, allan o'r englynion i'r Dyn Hananol Hen ynfyd walch hunanfawr,-a'i dreiddiol Ymadroddion bostfawr; Daw o'i ddysg derfysg dirfawr,— Er dangos bri y V fawr. A dyma un o'r ergydion mwyaf dehenig roed erioed ar y "Cynffonwr" Gweithredol goeg athrodwr,—tra annoeth, Mewn truenus gyflwr; o tored rhyw anturiwr, Yn y bon, gynffon y gwr I Ceir yma hefyd amrai fyr-ganiadau rhydd, ag ynddynt lawer o nwyfiant awenyddol, gyda mydriad celfydd. Gwir fod ynddynt ambell air Ilanw, er mwyn cynghanedd ond, ac ystyried y cyfnod yn mha un y blodeuai, y mae yn syn ei fod cystal. Yr ydym yn awr yn nghanol y tywydd teg-dan wenau haul, gyda phrydferth- ion bywyd yn ein golwg, a pheroriaeth adar yn ain clyw. Ac onid yw yabryd yr haf yn ym- symud drwy y lllnellau syml hyn ?— 0 ddieilydd, ddedwydd adeg, Tymor hoendeg ydy w'r haf; Cyfnod union pob cysuron, Pawb yn lion a'u bron yn braf; Hardd ddigym-ir yw y ddaear, O mor lion-gar yw ei lliw Dariun hardd o anfarwoldeb Welir ar ei gwyneb gwiw. 0 mor siriol ydyw'r gwenau Welir ar y blodau fyrdd; Gwelir natur fel yn dawnsio, Wedi ei gwisgo yn ei gwyrdd: Clywch yr adar bychain hawddsrar Oil yn Ilafar yn y Ilwyn; Treblant i'w Cynaliwr dawnus Eu caniadau melus, mwyn. O mor delaid ydyw'r dolydd, Mor ysblenydd yw eu gwawr • Plyg y maesydd dan eu ffrwythydd Oil yn llonydd hyd y llawr Ca'dd y flwyddyn ei choroni A daioni Duw ein KTaf: Rhaid terfynu gan ddywedyd — 0, mor hyfryd ydyw'r haf. Er heb ei fynegu yu y moid cywiraf eto, mae yn y cwpled a Itileiddiwyd o'r peniU olaf syniad nas gallai ond inedd wl bardd ei gyn- yrchu. Ni roddwyd mwy o farddoniaeth yn y gair llonydd" erioad. Ni wnawa ychwaneg y tro hwn na chyfeirio at linellau anorphenedig sydd yn y llyfr, a "Bywyd Dyn yw eu testyn Beth sydd gyflym? Y goleuni, Llongau buain ar y weilgi, Gwenol gwehydd, gwyntoedd enbyd — Cynt na hyn yw rhedfa bywyd. y Beth sydd frau ? Y gorsen ySig, Gwe prjf copyn, lUn deiftedig. Ae yn y fan yna y gadawodd y bardd ieuanc, 28 oed, ei gerdd anorphenedig ar 44 Bvwvd Dyn." Mor arwyddocaol! Yn ddiau, dyma un arall o'r "Telynau a dorwyd yn gynar." Drink Joy of Home Tea, 1/6 lb. Delicioin refreshing.-John Hughes, Tea Merchant. Branches all over Liverpool and district. "tnes au I