Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
Telephone 67, Anfield ESTABLISHED 1853 ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENTi 88, Netherfield Road South, Has Property to let in various parts of the town. Mortgages arranged. Valuations made. THE CITY OF LIVERPOOL Permanent Bailing Society. Shares M, a limited amount received on Prefer- ence Shares at 3t%. Tile Reserve Funds amount to over 18% on the paid up Capital. Secretaries, GEO. H. EDWARDS, 16 Lord Street, Liveroool. JOHN WILLIAMS, -ESTATE AGENT- LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. All classes of House and Shop property carefully and economically managed. Sales and Purchases effected with premptitude. Mortgages arranged and Insurances affected. ..t,d. ff p p Livarpwl Land] Company Limited. TO BUILDERS, &c.—To be Sold, Freehold and 999 years Leasehold Land in lots to suit purchasers, in Garston, Kirkdale, Walton, Bootle, and Seaforth. Liberal advances will be made to Builders. Property letting well in all the localities.—Apply to E. OWEN, Secretory. LIVERPOOL LAND COMPANY, 22 LORD STREET. Telephone No. 1779. ■ HEN-RY JONES, ESTATE AGENT, VALUER, & PROPERTY AUCTIONEER, 317 Everton Road, and 5 Cook Street LIVERPOOL. ■4 "T Rente collected. Valuations made. Property fjflld by Public Auction or Private Contract. J. LLOYD JONES & CO. Aooountants & Estate Agents, STREET, LIVERPOOL. Telephone No. 2212 Properties carefully managed. purchases and Sales negotiated and Mortgages arranged. BUILDING SOCIETIES OFFICES. t Money lent on Security of Freehold and Leasehold Properties at moderate Rates and without Premium THOMAS & JONES, ESTATE AGENTS & VALUERS, Investment Buildings, 67 Lord Street, Telephone No. 5586 Central. IIV &RPOOL. Properties bought and sol • Mortgages arranged, Val- n»t.ions made Rents collected. COLWYN BAY Hotel Metropole. first Class Private and Commercial Hotel. Every comfort, &c. -TERAfS MODERATE.- Apply to— Miss 0ADMAN", Manageress. R. WHITTINGTUN Tailor & Habit Maker, 25 Years' Practical Experience. 45, BYROM STREET, LIVERPOOL. All Garments Cut and Made on the Premises, in well-ventilated Workrooms. Gymry dewch. at Gymro. CERDDORIAETH. Anfonwch am 0 a-u m o'r holl OANEUON, DEUAWDAU, TRIAWDAU, &o. Cymraeg (agos i 1,000 mewn niler), gan HUGH EVANS, 448 & 444, STANLEY ROAD, Liverpool. Telephone 198 Sefton Park, W. E. JACKSON, Cabinet Maker, Upholsterer. and House, Furnisher, & c., 429 SMITHD0 WA7 R OAD, J Liverfiool. Gwneir adgyweiriadau 0 bob math yn fy lie gwaith, o dan fy arolygiaeth bersonel. Rhoddir amcangyfrif o'r prisiau yn mlaen llaw. I IL) L *5 U7 ol W, i,t) 5. )' t- '0; t A CLEVER IDEA. » !'here is no difficulty in getting a low just like china on linen if you o the right way about it. The light nd the easy way is to use Bedford's Ihina Gloss. You do not have to idd this to the Starch, but just rub it >n before ironing, and you get a beau- ifully polished surface, There is no ticking and no trouble. A I/- box will astyouformonths, and it will be sent donfreefor 13stamps. Sample packet for Id. irtamp.-REDFOR-D &SON, ;0, Oxford Street, Liverpool. 'f Messrs GRIFFITHS k DAYIES, 398 SCOTLAND ROAD, Being the largest Drapers in the North End of Liverpool, are now concentrating all their attention to the following De- partments, viz. Dresses, Drapery, Fancies, Haberdashery Hosiery, Mantles. Boys' Clothing. Paper hanging. Underclothing. Furs. —AND— Millinery. In all these Departments will be found the Newest and most Stylish Goods of the Season at moderate prices. Griffiths & Davies, 398 SCOTLAND ROA.D. PAPAYANNI STEAMSHIP COMPANY LARGE AND POWERFUL BRITISH STEAMERS sail regularly to the LEVANT, BLACK SEA, EGYPT CYPRUS. &LGERIA, MALTA, and other Mediterranean Ports, taking the following two routes alternately:- a) MAiTA, SYRA, SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and; ODESSA. Calling often on the return journey at several Ports on the Asiatic Coast of the Block dea. Greece and SPmn* ALGIERS, M 'lLTA, ALEXANDRIA, CYPRUS, BEYROUT, and ALEXANDRETTA. Calling occasionally on the homeward voyage at Spanish Ports. No overcrowding. Superior accommodation. Lofty well- ventilated Saloons and State rooms. Stewardess carried. Safety. Home comforts. Good and liberal table. Moderate fares for single and return tickets, and no extra charge for living on board during ships'stay at Ports. Tourists and pleasure-seekers taking atrip by this Line will dnd it most enjoyable and interesting. For further pattic- ars. apply to PAPAYAfrNI & CO., Fen wick Chambers, Liverpool LLINELL Y WHITE STAR ROYAL MAIL STEAMERS LERPWL I NEW YORK via QUEENSTOWN. OCEANIC Mai 8 TEUTONIC Mai 15 Teithwyr 2il ddosbarth efo'r Oceanic, Majestic, a'r Teu- tonic yn unig. Pris cludiad, £ 8, ao uehod, yn ol tymhor agerddlong. a'r lie i deithwyr. Y mae y llongau rhagorol hyn i gyd o'r dosbarth uchaf, yn unffurf o ran cynllun a threfniadau, ac yn ddigyffelyb mewn mordeithiau. Ni cheir gwell cyfleusdra i fordelthwyr. Am fanylion, ymofyner & R Owen, Ship and In. surance Broker, a W J Williams, Heol y Farcbnad, Caernarfon; neu a H J Williama, 6 Douglas Terrace, Bethesda; Owen E Parry masnachydd Ilechi Dol. wyddelen; David Rowlands, Penygraig; W D Jones, Old Bank, Caergybi; Edward Evans, 2 Pen- rallt Terrace, Llangefni; R G Roberts, Rock Cottage, Creigiaa Mawr, Talysarn Hugh Hughes, 8 Market Street, Amlwch W 0 Williams, Globe Shoe Ware- house, Llanrwst; Matthew Goldie, 217 High Street, Bangor R 0 Evans, Caxton House, Dolgelly; neu ag ISMAY IMBIE & Co., Lerpwl, 17 Cockspur Street, S.W„ a 34 Leaderhall Street, Llundain E.0 BENSON EVANS' GASTROCYNE Ydyw yr unig Feddyginiaeth etfeithiol at glirio y DIFFYG TREULIAD POEN AR OL BWYTA PENYSGAFNDER DWFR POETH /CURIAD Y GALON GWYNT, &c., &c Miloedd o Dystiolaethau o bob rhan o Brydain Fawr. I'w gael mewn potelan, Is. l%o. a 2s. Oo yi UD. Gwerthir hwynt yn Liverpool gan Mr. Richard Simon, CHEMIST. 57, BROWNLOW HILL, & > « lUrDDOflf 154, HIGH PARK STREET, f LIVtarUuL' AT FAMAU DOETHION. ER i chwi fod mor ofalus ag y medrooh nis gallwch bob amser gadw gwallt eich plant yn an oddiwrth yr hyn a elwir yn nedd; fel mamau eraill, gall eich bod wedi treio gwallt-olchydd (hair lotion), elion, a llawer o ddarpariadau eraill. Na wastraffwea eich arian ond pwrcaswch flwch o MOXON'S NURSERY BOON. y nedd-laddydd anffaeledig, yr hwn a warentir i symud yn llwyr bob olion 0 fywyd trychfilaidd gydag nn cymhwysiad ohono. Blychau 6c a Is i'w cael yn rhad drwy y post, dan amlen i unrhyw gyfeiriad J. L. MOXON, Chemist, 252 Park Road, Liverpool. Byddwch cysta ag enwi y papyr hwn. TO DO-WELL In BUTTER, BACON, and IRISH EGGS, Come to DOWELLS, 105, WINDSOR STREET, LIVERPOOL. MR. R. D. GLYN ROBERTS, F.V.C.M., F.G.C.M., Hon. T.C.L. Assoc, of Music, makes a speciality of preparing Candidates for Ex- aminations also he receives engagements for Class Teaching and as Adjudicator.-6 Eversley Street, Liverpool. J. HENRY JONES Late Sanation & Roberta) TAILOR & DRAPER. 19, CABLE STREET, LIVERPOOL. Late Cutter at F. S. Lowy, London. Excellent New Stock for Selection, j
PLANT YDIWYGIID IAWR: NEU…
PLANT YDIWYGIID IAWR: NEU 0 Dywyllwoh i Oleuni. Gan y Parch. JONATHAN B. PARRY. PENNOD I.-FEr. Y DALIODD HYWEL WYN I FYNU ENW DA LLANGAR. ER fod yn perthyn i'r Parchedig Ed. Hughes, ficer, Llaugar, lawer o ragoriaethau, a chydoabjddir ycyf ryw yn rhwydd ynystod yr hanes hwn, fel y ca y dar- llenydd weled wrth fyned yn mlaea, nid oedd gofal am ddaioui ysprydol y plwyf yn digwydd bod yn un ohynynt. A phe buasai i elyu, yn ei awydd i ddy- lorni y gwr parchedig, i'w gyhuddo ef o ymyryd a. chrefydd a moes, yn ei weinidogaeth feuayddiol fel ficer y plwyf, ni chawsid oad ychydig lawn o'r plwyfolion yn abl i ddeall cyhuddiad o'r fath, ac ni chawsid un ohonynt i'w gredu. Ac yn mhellach: Er fol y ficer yn eglwyswr mawr, pregethwr bychan ydoedd ef. Yn wahaaol, pa fodd bynag, i'r dosbarth bwnw o bregethwyr y gyffredin, ni choleddai efe y synial am daao ei hunan, ei fod yn bregethwr mawr, a bod dynion yn ddeillion ryfeddol am na welent hyny Yn wir, casbeth Mr Hughes oedd rhoi pregeth. Efallai min y cyfrif aai hyn ydyw mai llesg nodedig ydoedd Llangar mewn dealltwriaeth, ac wedi i'r gwr da fod yn llafurio yn ddyfal i gyfieithu pregeth alluog ar gyfer moddion y Sabboth, ychydig ddeuai yn nghyd i'w gwrando, a llai na hyny gymerai ddyddordeb ynddi. Nid oedd peth felly yn gefnogol i'r preg- ethwr, ac nid yw, 0 ganlyniad, yn beth i'w ryfeddu ato os oedd gweinidog y plwyf yn edrych ar y bregeth fel baich trwm-yn flinder iddo ef ei hunan, ac yn flinder i'w bobl. Y mae hyn, hefyd, i'w ddweyd o blaid Llangar (ac yr wyf yn yr hanes hwn yn awyddus i fod yn hollol anmhleidgar, ac i glorianu yn de, pan ddaw clorianu i'm rhan;, cyfieithwr gwael oedd Mr Hughes, ac 'roedd y pregethau mor glog- yrnaidd a chwmpasog fel yr oedd yn anmhosibl i'r un dewin amgyffred pa beth fyddai y pregethwr yn ei ddarllen. Cydmarai Elis Ells, y ffatri bregethau y ficer i briciau edafedd o dan yr edau-o'r golwg i gyd ond y ddau ben Ond arabedd y Ffatrwr a barai iddo ef ddweyd peth felly, hwyiach. Nid pennod ar ficer Llangar y golygir y bennod hon, ond gan ein bod wedi cyfeirio at ei bregethu ef, a rhag i'r darllenydd gael camargraph am y gwr da oddiwrth yr hyn a ddywedwyd, ni byddai ond cyfiawn i'w goffadwriaeth i fynegi, yn mhellach, y byddai Mr Hughes, ar droiau, yn cael hwyl ddy- munol yn y cyfeiriad hwn. Yr oedd gan y ficer gyfres o bregethau 0 duedd ymarferol, hiWdd eu dilyn, cartrefol a buddiol eu cynwysiad. Cyfan- soddodd y pregethau hyn pan yn wr ieuanc, y fl wyddyn gyntaf yr ymsefydlodd ya fice iaeth dref- dadol y plwyf, ac, ohyny yn mlaen. ni bu yn ol o bregethu y rhai hyny bob blwyddyn, mor reolaidd ag yr heuai ffacbys yn ei faes. Ac, am y pregethau hyny, wel, nid oes dadl yn nghylch gwerthfawr- ogiad Llangar ohonynt, a chaffai yntau y boddhad mawr o weled hyny yn agwedd feirniadol, ac effro, y dyrnaid pobl o'i flaen. Un o bregethau mwyaf y licer yn y ifordd hon, ydoedd y bregeth hono ar y geiriau: "Deliwch i mi y lIwynogod." Hon, yn ol tystiolaeth unfryd Llangar, oedd ei brif bregeth ef. Gyda hon byddai ef bob amser yn feistr y gyn- ulleidfa, a thaenai gwen foddhaus dros eu hwyn- ebau bob tro y clywent ef yn rhoddi allan y testyn, yr hon w@n ni ddiffygiai tra y daltai y bregeth. Oedfa nodedig arall fyddai hono ar yr ymadrodd apostolaidd: "Yr wyt fi yn myned i bysgota." Hono ar "Gochelwch gWIl" oedd yn bregeth ddifyr iawn hefyd. CaffaijLlangar, yn yr oedfaoa byw, flasusfwyd o'r fath a garai. Yr oedd Llangar yn hoffo Mr Hughes a Mr Hughes yn hoff o Langar. Y dirgelwch 0 hyn oedd rhagor- iaethau cymdeithasol y gwr parchedig. Yn y cylchoedd hyny llewyrchai efe yn wastad. Nid oedd neb mwy dyddan mewn cwuini, ac fel gwladwr yr oedd efe yn rhagorol dros ben. Gwyddai y tlawd am ei haelioni ef a't deulu, ac ni ddeuai neb o'r plwyfolion ato i geisio ei help neu ei gynghor, heb fod yn well o'r herwydd. t Cymerai y gwr da ddyddordeb aiddgar yn helyntion ei blwyf yn ei holl agweddau. Yr oedd efe yn adnabod ei blwyf- olion ac yn hyddysg o'u hamgylchiadau. Nid oedd braidd dy o bwys yn y plwyf nad oedd ei wasanaeth i dynu allan ewyllys wedi cael ei erchi a'i roddi. Cawsai y bobl ieuanc noddydd selog i'w campau a'n chwareuon ynddo ef bob amser. Ar un adeg, nid oedd neb yn y fro yn fwy blaenllaw a brwdfrydig, ar y meusydd hyn, na'r iicer ei hun. Yr oedd hyny cyn i'r boneddwr dewychu a brasau. Ond daliodd ei sel yn gynes gyda'r chwareuon, trwy y cwbl, ac ni byddai efe hapusach nemor i amser, na phan yn cynllunio ffyrda i'w blwyfolion i fwynhau eu hunain. Meddai Llangar enwo fri, yn mysg plwyfi y Cwmwd, am ei chwareuwyr penigamp, ac anfynych y methai ei feibion glewion a chipio'r dorch yn nghamp-chwareuon y Cwmwd. Yr oedd un peth yr oeduynt yn ddiffygiol ynddo, er hyny-ond cawn air ar hwnw yn ol ltaw. Un hwyr, eisteddai nifer o foneddigion yn mhar- lwr yr Afr, yn gwneud trefniadau ar gyfer y gamp- wyl agoshaol. '• Wel, be sy'fge'a ti Rcbyn ? Gad i ni' i clywed nhw," erchai y ficer o'r gadair. Dyna'r Interliwd, Syr," atebai y clochydd, yn tynu dernyn 0 bapur allan o'i flwch tybaco, ac yn ysgwyd y llwch oedd yn ymguddio yn mhlygion y papurynol i'r blwch yn ofalus. Gallai Robyn Shon ysgrifeau, ac efe ydoedd ysgrifenydd y chwar- euon yn yr wyl gampiau blynyddol. Cadwai ei gofnodion yn ei flwch tybaco. Ie, un peth," sylwai Mr Hughes yn dechreu cyfrif a'i fysedd ar y bwrdd. "A'r coetio." Dyna ddau." <;A'rbel." Dyna dri." A thaflu maen." 91 le. Pedwar peth." A maelyd codwm." Pump." A'r y—y ceilogod ?" ebai y clochydd, yn edrych gyda golwg amheus i fyny ar y ficer. H, 11 y "H'm," rhynciai yntau, "Ie. Mae rhai yn chwthu yn erbyn gornest y ceiliogod. Beth fyddai oreu i ni ei wneud ? Mae o'n beth dipyn yn—y- greulon, hwyrach." Dyna'r sport ore o'r cwbl, Mr Hughes 1 Waaiff hi ddim mo'r tro o gwbl i roi hwna i fyny," meddai Ilanc ieuanc 0 ymddangosiad uwchraddol. Ie, nte ? Meistr Hywel! sylwai Rols y Felin, yn chwerthin yn foddhaol at frwdfrydedd y Ilanc, mae'n go gen i am sel eich tad dros y ceiliogod. Doedd dim byd oedd o'n i leicio yn well na'u gwel'd nhw yn baedda 'i gilydd," yr hwn sylw ft dderbyniwyd cyda cbyrlteradwyaeth cyffredinol. I Rhoddodd y ficer i g ewrf ar unwaith i lais y pwyllgor. "Os ydach chi am danyn' nhw, rwy's eitha boddlon," maddai, yn dechreu llenwi ei bibell, yn airiol. ¡ Pe mynai neb weled Llangar yn ei ddillad goreu, diwrnod yr wyl hon fyddai yr adeg i gael hyny. Cysegrai Llangar y dydd hwnw i hunan fwyuhad. Ynforeu dechreuodd ieueuctyd y plwyf, a'r plwyfi cylchynol, lifo i mewn i'r pentref, ac yn gymysg a hwy bob math 0 grwydriaid yn dwyn pob math o feichiau priodol i'r amgylchiad. Rhai efo'u siop .y fach o fotymau a chriau ac edau, eraill 0 felusion o wahanol fathau, y penaf o'r rhai fyddai cyflaeth. Yn gymysg a sipsiwns efo'u mulod a'utynia, cerddai Wil Ddall, yn cael ei arwain gan ei gi mewn tenyn, ae yn canu ar hyd y pentref gerdd I- Y Mwrdwr Mawr," ac o'r hony gweithai lawer. Codes gwrach fwth ynymyl mar y fynwent, yn yr hwn yr eis- teddat, yu gauedig oddiwrth y byd, i ddweyd tesni y lluoedd elai i mewn ati hi. Fel y cerddai y dydd yn mlaen cynyddai y lluaws, a chrwydrent yo ddiamcau yu ol ac yn miaen, y naill yn taflu rhyw ysmaldod beunydd at y llall fel y cyfarfyddent a'u giLydd, gan dyau allan grechwen aflafar o lawer corn gwddf. Ya yr 'Afr' a'r Oen fel yr oedd y betio yn mynd i fyny fel yr oedd y cwrw yn mynd i lawr. Ond cyn haaer y dydd yr oedd y Llan yn wag, a'r tyrfaoedd yn aghae y Person. Ar yr awr hono yr oadd y campiau i ddechreu. Dyma Llangar yn ei ogoniant! Ar y maes hwn ymddangosai gwreng a bonedd fel eu gilydd. Rhwbiai yr ustus ysgwydd a'r potsiar, a cherilaw y wraig foneddig safai ryw sipsiwn yn ei modrwyau fflachiawg Ac yr oedd y lIe yn fyw ryfeddoll Nid oedd neb yn cael mwy 0 fwynhad -oddiwrth yr olygfa na Mary Hughes. Undonog braidd yd- oedd bywyd Moll" (fel y gelwid y foneddiges ieuanc yn mhlith ei chyfeiilion), ond, yr oedd hi mor hoff o hwyl a neb, ac yr oedd y cyffro a'r bywyd ar y maes yn hyfryd beth iddi. Gwyliai hithau y cwbl o i chadair yn ffrynt y Persondy, weithiau ar ei phen ei hunan, ond gan amlaf slipiai Hywel Wyn i fyny o'r cae i fod yn gwmni iadi, ac i egluro iddi hynt y chwareuon. Yr oedd y ddeuddyn ieuanc yn gyfeillion tyn, ac yn wastad yn Hon a hapus ryfeddol yn nghymdeithas eu gilydd. Y maelyd codwm ydi'r nesa, ynte ?" holai Mary Hughes, ar ol i'r orchest goetio ddod i'r pen, Llangar, fel arfer, yn euill y dorch. Ie, Moll, ac hefo hono fe gyll Llangar ei chlod," atebai Hywel Wyn, mewn ton bruddaidd. Tybed ? gofynai hithai yn amheus. Mae hi'u siwr o fynd ya biff arno ni, Moll. Mae Huco'r Mynydd yma." Ymhle? Ydych chwi yn i wel'd o ? Ydw 1 Dacw fo, o'r tu ol i Dai y Waen, welwch chi o ? Y dyn a'r gwallt crych a'r hances goch ? Ie, dyna fo," ebai Hywel Wyn, 11 ac os ydyw Huco yn mynd i gynyg, fydd dim siawns i neb wn i am dano yn y plwy' i'w daflu 0 i lawr." ¡; Mae o'n mynd i gynyg," maddai Laura Hughes, yn neshau at y ddeuddyn, i ddod a chenad i Moll oddiwrth ei mam o'r cae. Ac yn sicr, pan alwyd y codymwyr i ddod yn mlaen i'r cylch, wele Huco'r Mynydd yn taflu ei got a'i het o'r neilldu, ac yn ymlwybro yn araf yn mlaen at y cylch. Ar yr olwg ar y codymwr clod- fawr rhedodd murmur o edmygedd trwy yr holl dorf. Yn f aan, pa fodd bynag, liaesai eu gvvyilebau ac edrycheat yn siomedig. Nid oedd arwydd fod neb yn barod i fyned yn mlaen i ornestu ag ef Clywch o'n sleinsio mor ddirmygua," ebai Laura Hughes, yn ffrom, ydi Llangar yn mynd i ddal peth fel hyn ? Oes neb o'r llancia yma yn ddigon gwrol i- Boddwyd llais y rian bryderus gan Huco'n bloeddio, ac yn gofyn mewn ton wawdlyd, "ai 11 wfriiid a fegid yu Llangar? Gyda'r gair dechreuodd Hywel Wyn ymddad- wregysu, a chyn fod y boneddigesau yn ei ymyl wedi cael eu hanadi atynt i ofyn iddo beth oedd ei fwriad, edrychai y llanc i wyneb prydferth Mary Hughes dan wenu. Dymunwch lwc dda i mi, Moll!" meddai yn dyner. 0 Hywel, be ydach chi'n mynd i neud? llefai hithau mewn dychryn. "Mynd i ddangos i Huco'r Mynydd mai nid llwfriaid ydi bechgyn Llangar-i gyd!" ebai yntau, ac ymaith ag ef. Pan welodd y dorf amcan Hywel Wyn, daliwyd hwy gan y fath syndod fel na wyddent am eiliad neu ddwy pa beth i'w wnend, oad yn ebrwydd cododd bloedd anferthol 0 gefnogaeth iddo 0 gaaoedd o yddfau, a daeth y lie yn ferw aflywodraethus trwyddo draw. Cerddai y llaac yn chwitnwth yn mlaea i'r cylch, ac ysgydwodd law a'i wrthwynebydd yn gyfeillgar. Erbyn hyn yr oedd lwmp mawr wedi codi i wddf Llangar, unwaith drachefn. Edmygent blwc y llanc ieaaae, ond amheueut ei nerth a'i fedr i god- ymu a Huco'r Mynydd. Y mae fel ewig yn myn'd yn erbyn bustach pesg I" sylwai Lora Hughes, 0 dan ei hanadl, wrth ei chwaer. Ond, ni chlywodd Moll mohoai, yr oedd ei holl enaid hi yn yr ymdrechfa oedd ar gym- eryd lie i lawr yn y maes. Nid amheuai y fua am eiliad nad Hywel a drechai, oad yr oedd hyd yn nod Mary Hughes yn gorfol cyfaddef fod gwahaa- iaeth dybryd rhwng yr ymdrechwyr. Llafn tal oedd Hywel Wyn, ystwyth mae'n wir, fel yr helyg- en, ond meddal ac anaddfed ei gymal, tra yr oedd ei wrthwynebydd yn ddyn cydnerth esgyrniog, cadarn ei osodiad, a medrus yn nghyfriaioa y gelf- yddyd, heblaw hyny. Cratai Robyn Snoa ei ben, gan wneud cilwg ofaus, lIeehwmidd, o'r tu ol i Mr Hag ties—y fuaud nesaf yr oedd y clochydd yn graddfaa gaa boeaau Gwelai Hywel Wyn yn llytu y llawr Ond, ar unwaith, daw y llaac ar ei draed eil- waith, yn edrych yn ddim gwaeth oherwydd ei godwm, yn hytrach y mae efe yn fwy penderfyaol ei wedd, ac yn llawer mwy huuanfeddiaaol nag o' r blaen. Yr oedd efe wedi dysgu rhy wbeth yn ei godwm, a fyddai 0 fudd iddo erbyn yr ail rowad, ac yr oedd efe ya berwi mewa awydd i ail ym. aflyd. Ni chawsai ei wrthwynebydd ei dripioef mor ddfieremoni yr ail dro! A chaa daflu ei droed aswy yn mlaen yn ddeheuig, cofleidiai Huco yn gynes, gan wasgu a'i holl egui ar ei wyneb ef. Yr oedd efe ugain mlynedd ya iau D.I. r codymwr clod- fawr a chyinaiat a hyny yn llai o doaeg oddeucu ei galoa ef. Gwyddai mai yr uaig ffordd i drechu Huco oedd pwyso ar ei anadl ef. Daliodd y llanc fel y gele ato, nes y teimlodd fod ei nerth ef ei hun yu pallu,ynatynodd ei droed i mewn yn chwimwth, a chydag ysbonc disymwth gwrthiodd Huco drach ei gefn, a syrthiodd y ddau i'r llawr—Huco yn isaf