Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Dirwyn i fynu Eisteddfod lerpwl
Dirwyn i fynu Eisteddfod lerpwl MAE'N debyg fod y cyfarfod o'r Pwyllgor Cyff- redinol a gynaliwyd nos Fercher diweddaf yn y Common Hall, Hackins Hey, yn derfynol ya aglyn ag Eisteddfod lwyddianus 1900. Cyuulliad Had fychan ddaeth yn nghyd, ac aed drwy y gwaith yn dawel iawn,-dipyn yn anniben. Llywyddid gan Mr Wm Evans, Y.H. Y Cadeirydd a ddywedodd ei fod yn tybio ddar fod i bawb oeddynt breseaol ddarllen, fel yntau, y gyfriflen argraphedig oedd o'u blaen. Cynwysai fieithiau o bwys. Da oedd ganddo allu llongyfarch y Pwyllgor ar lwyddiant yr Eisteddfod. Hyfryd fyddai ganddo edrych yn ol ar ei gysylltiad a'r Pwyllgor a'r Eisteddfod. Teimlai ddaifod i'r gweithrediadau gael eu dwyn yn mlaen yn bur heddychol, ac heb achos i beri teimladau briw i neb. Ofnai ar y cyntaf ymgymeryd a'r swydd, ond wedi gwneud ni chafodd ond caredigrwydd gaa bawb. Gwnaed ei swydd yn hyfrydwch iddo. Gofiuiai, modd bynag, oherwydd un peth-fod 300p y dydd yn myn'd i gynal y sefydliad rhagorol hwu. Gresyn na f'ai genym adeilad sefydlog allai gynwys deng mil o bersonau. Costiodd yr adeilad y tro hwn, dan yr amgylchiadau uwyaf ffafriol, l,500p. Go- beithiai y byddai genym erbyn yr Eisteddfod nesaf neuadd deilwng o'r ddinas, modd y gellid sicrhau 2,000p o weddill at rhyw amcan teilwng yn lie y 173p presenol. Darllenwyd llythyrau oddiwrth y Parch Griffith Ellis, Boode, a Mr William Evans, Elm Bank— y ddau yu datgan eu gofid oherwydd eu hanallu i fod yn bresenol. Mr Llew Wynne, yr ysgrifenydd cyffredinol, a gyf lwynodd adroddiad o'r pwyllgor gweithiol yn dangos ddarfod i ohebiaeth gymeryd lie rhwiig yr ysgrifenydd â Dyfed, yn nglyn a gwaith yr olaf yn derbyn gwobr am Riangerdd Ardudfyi, yn groes i reol 9 yn yr amodau, ac yn rhoi enw a chyfeiriad ffugiol. Cymellai y pwyllgor gweithiol i'r canlynol gael ei basio Yn gweled fod Dyfed yn gwrthod dychwelyd gwobr a dderbyniodd ya groes i reol nawfed yr amodau, yr ydym yn pende fynu peidio symud yn mhellach, ac yn dymuno trosglwyddo y mater poenus i ystyriaeth bellach yr Orsedd, i'r hon y gall fod yn fwv perthynol." Cynygiodd Mr W E Parry fod argymelliad y pwyllgor gweithiol yn cael ei dderbyn, ac eiliwyd af gan y Parch J Lloyd Jones. Mr Glyn Roberts a gynygiai fod y mater yn cael ei adael lle'r oedd. Ni enillwn ni ddim. Nid oedd genym fel pwyllgor chwaneg i'w wneud. Eiliodd Gwilym Mathafarn. Mr Llew Wynne Yr oedd genym fel pwyllgor rywbeth i'w wneud yn y mater. Yr oeddym wedi cymeryd safle bendant, a bradychem wendid pe gad- awem y peth lie yr oedd. Yr oedd genym i osod ein hunain ya iawn yu wyneb y cyhoedd, a pheri nad amheuai neb ni o fod yn cefnogi y fath ymddygiad. Parch D Powell: Mae'n wir i Dyfed wneud peth na ddylasai, ond tybiai i'r pwyllgor hefyd wneud peth na ddylesid drwy gyhoeddi y Rhiangerdd. Oherwydd hyny, rhaid i'r pwyllgor, i fod yn gysoa beidio cymeryd ei safle ar waith Dyfed yn gwrthod dychwelyd y wobr. Mr Llew Wynne a sylwai na ddarllenasid yr ohebiaeth i'r Pwyllgor Cyffreaitiol, neu deallesid y sefyllfa yn well. (Jyhoeddwyd y Riangerdd cyn i'r pwyllgor gweithiol wybod mai Dyfed oedd yr awdwr, ac fel uu ffordd allasai fod, ac a fu, yn foddion i'w ddatguddio. Mr Robert Roberts: Y cwestiwn ganddo ef oedd, nid cael yr ariaa yn 01, eithr pwysleisio y mater yn y fath fodd fel na ddigwyddai peth cyffelyb eto. Nid oeddym gymaint am yr arian ag am anrhydedd yr Eisteddfod. Trosglwydder y mater i'r Orsedd fel awdurdod gydnabyddedig yn nglyn a'r Eis- teddfod. Mr Glyn Roberts a fynai fod afreoleidd-dra wedi digwydd drwy gyhoeddi y Riangerdd. Yr oedd Dyfed wedi liithro drwy ddwylo y pwyllgor hwn, a bychana y pwyllgor fyddai trosglwyddo y mater i eraill. Mr Robert Roberts Rhaid ini wneud rhywbsth, oblegyd yr ydym wedi cymeryd stand uehel ar gwestiwn pwysig, ac nid anrhydeddus fyddai ei adael Ile'r oedd. Mr E Denman Mae achos fel hwn yn galw am sylw a chondemniad er mwyn purdeb yr Eistedd- fod. Trosglwydder y mater i'r Orsedd. Mr William Jones (Parker Street) a ddy wedai nad oedd fod Dyfed yn gwrthod dj chwelyd yr arian yn newid dim ar ei drosedd, a chynygiai eu bod yn pasio penderfyniad yn condemnio egwyddor yr ymddygiad, heb enwi Dyfed o gwbl. Mr Aneurin Jones a eiliai. Mr William Evans Nid dymunol ganddo ef, fel cadeirydd y Pwyllgor, ddweyd dim ar yr acbos hwn. Modd bynag, parodd lawer o ond iddo er pan glywodd yn ei gylch gyntaf. Credai nas gallai yr Eisteddfod fforddio i beth o'r fath ymn fyned yn mlaen, a d/lid cymeryd sylw pellach o'r mater. Cynygiwyd a ganlyn fel gwelliant ar argymheliiad y Pwyllgor Gweithiol:— Yn gymaint ag i Dyfed dderbyn gwobr yn groes i hawfed reol yr amodau cyffredinol argraphedig, mae y wyllgor hwn yn trosglwyddo y mater i awdurdodan yr Orsedd i ystyriaeth bellach. Mr Llew Wynne a gynygiai fod y gohebiaethau a Dyfed i gael eu cyhoeddidrwy y wasg,modd y gwelai y cyhoedd ddarfod i'r Pwyllgor wneud eu rhan. Mr J D Jones a eiliodd. Parch D Powell: Oni fyddai yn well anfon y gohebiaethau yn gyntaf oil i'r Orsedd ? Ofnai y byddai eu cyhoeddi yn foddioa i beri rhagfarn yn nglyn a'r achos. Mr Llew Wynne Nis gallai cyhoeddi yr oheb- iaeth beri rhagfarn, oad rhoi cyfleusdra gwell i bawb ddeall y sefyllfa, a gweled beth a wnaeth y Pwyllgor yn yr achos-golchi ein dwylaw oddiwrth y peth. Mr John Davies: Ystyriai mai infra dig oedd iddynt gyflwyno mater o'r fath i Orsedd y iieirdd 'i gyhoeddi drwy y wasg. Cadeirydd: Ouid digon fyddai ini gyflwyno y r nderfyniad i'r newyddiaduron ? Mr Isaac Foulkes: Credai mai y peth goreu .dynt hwy oedd cyhoeddi y gohebiaethau, a gadael c Orsedd gael allan ei thystiolaethau eihun. Wedi peth ymdrafodaeth bellach, pasiwyd y relliant. Cyflwynwyd yr adroddiad arianol gan Mr Robert Roberts, y trysorydd anrhydeddus, yn daagos fod Cyfanswm y derbyniadau yn 5334p Is 3c, yn cynwya 554p 16s mewn cyfraniadau, 103p 03 6c mewn gwobrwyon arbenig, 4374p 2s 3c oddiwrth werthiad tocynau, 135p hawlysgrif rhaglen, 29p 8s4c oddiwrth Gyngherdd y Messiah gan Gor yr Eisteddfod, a 32p 96 5c oddiwrth rehearsal. Yr oedd y treuliau yn 4933p 15s 6c, yn cynwys 1590p am y Paviliwn a'i adodrefnu, 623p 5s 10c y gwobr- wyon, &c., dan reolaeth y Pwyllgor Llenyddol, 1651p 7s Ie dan y Pwyllgor Cerddorol, 134p 10s 10c y Pwyllgor Celfau, 378p 6s 9c am argraphu a hys- bysebu, a 498p 5s 6c, costau cyffredinol. Yr oedd felly weddill o 400p 5s 9c. Ar gynygiad Mr Robert Roberts, ac eiliad Mr Lewis Jones, cafodd yr adroddiad arianol ei dder- byn. Cymeradwyodd y pwyllgor hefyd y rhodd o 52p 10s, yn ol fel y trefaasid gyda Chymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, i'r ysgrifenydd cyffredinol. Cyflwynodd Mr W E Parry adroddiad £ y pwyllgor arianol i'r perwyl fod y gweddill o'r arian, wedi talu ei haaer i Gymdeithas yr Eisteddfod, yn cael ei ranu felhyn :—lOOp i Gymdeithas Gienedlaethol Gym- reig Lerpwl, 50p i'r Cartref Cymreig i Perched, 20p i Gor yr Eisteddfod, a 3p 17s Hear gyfer man- dreuliau allant godi eto. Cyflwynodd yr ysgrifenydd adroddiad yn dangos safle gydmarol amryw Eisteddfodau diweddar ag Eisteddfod Lerpwl. Tra no, dderbyniwyd yn Eis ¡ teddfod Lerpwl yn 1884 ond 4200p mewa deg cjfarfod, deibyniwyd yn 190U, mewn naw cyfarfod, 4,374p Yn i-ighaerdydd, yn 1899, yr oedd. arian y drysau yn 2,864p, Ffestiniog ya 1898 yn 2,572p, ac yn Llandudno ya 1896, 2,886p. Eu i Eisteddfod Lerpwl, felly, ragori mewn arian drysau, a buasai eu gweddill yn llawer iawn mwy pe dderbyniasent chwaneg o gyfraniadau, oblegyd tra nad oedd gan Lerpwl ond 657p, yr oedd gan Gaerdydd 1,900p, a Ffestiniog 1,600p, o'r Synonell hono, Penodwyd is-bwyllgor i gydweithredu a, Chym- Z5 deithas yr Eisteddfod yn nygiad allan gyfrol o weithrediadau yr Eisteddfod. Ar gyuygiad Mr J D Jones, ac eiliad Mr John Davies, pasiwyd pleidlais o ddiolch i Mri Jones a Thomas, Chartered Accountants, am archwiiio y cyfrifon yn rhad ac am. ddim." Pasiwyd fod y gyfran o 173p 17s 10c yn cael ei throijglwyddo i Gymdeithas yr Eisteddfod Genedl- aethoi ar yr amod fod Cyfrol arferol yr Eisteddfod yn cael ei dwyn allan o fewa y deuddeng mis. Mr Isaac Foulkes a gynygiodd ddiolchgarwch i Mr W Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Cyffredinol, am y modd ffyddlon a deheuig y llanwodd ei swydd. Eil yn haelfrydig ac amyneddgar. Pryd bynag y codai ystorm mewn cyfarfod, byddai yn dawel bob amser tua'r gadair. Eiliwyd gan Mr John Davies, yntau hefyd yn canmol ein ffawd o gael boneddwr mor gymwys i'w swydd, a bod llwyddiant yr Eisteddfod i'w briodoli i raddau helaeth i'w fedr a'i ymroddiad. Wrth gydnabod y bleidlais unfrydol a brwd, dywedai Mr Evans fod yn hyfryd ganddo edrych yn ol ar ei brotiad yn nglyn a'r Eisteddfod cafodd lawer o gyfeillioa newydd, ac nis gwyddai iddo wneud un gelyn. Diolchwyd hefyd i'r ysgrifenydd a'r trysorydd, yn gystal ag i swyddogion yr is-bwyllgorau, a phawb a gymerasant ran flaenilaw yn nglyn a'r Eisteddfod. --0'
00109 Friffagol diogiedd Cymru.
00109 Friffagol diogiedd Cymru. CYNALIWYD cyfarfod haner-blynyddol Llys Llyw- odraethwyr y Coleg uchod yr wythnos ddiweddaf yn Mangor, pryd y daeth cjnulliad lluosog yn nghyd. Mr il. Bulkeley-Price, cadeirydd y Cyng- hor, a ddywedodd nad oedd ganddynt yr hyfrydwch o gael y liywydd (Arglwydd Kenyon) yn bresenol, ond yr oedd yno is-lywydd nodedig (y Prifathraw Rhys, o Goleg yr lesu, Rbydychain), a cbynygiai ef fod y Prifathraw Rhys yn cael ei wahodd i'r gadair. Hyn a eiliwyd gan Mr E. Hooson, ac a gariwyd yn unfrydol. Rhoed derbyniad croesawus i Dr Rhys pan gymerodd y gadair, a diolchodd am yr anrhyd- e id a osodwyd anio. Pasiwyd pleidlais o gydym- deimlad ar farwolaeth y ddiweddar Frenines. Eth- olwyd Mr Cadwaladr Davies yn is lyvvydd y Coleg. Darllenodd y Cofrestrvdd (Proff J E Lloyd, M. A.) y llythyr canlynol oddiwrth Mr Rathbone mewn atebiad i'r anerchiad a ddanfouwyd iddo ar achlysur blaenorol:— Green Bank, Liverpool, Chwef. 12,1901. Anwyl Proff Lloyd,—Mae genyf i ddiolch i chwi am eich dau nodyn ar yr Sled a'r ] leg o lonawr, ac am y copiau o adroddiad o'r gweithrediadau yn nghyfarfod haner-blyn- yddol Llys yllywodi-aetliwyr, yn gystal ag am gopi o'r penderfyniad gyda golwg ar fy ymneillduad. Nis gallaf dderbyn fel pe'n eu haeddu y termau rhy ffafriol yn mha rai y sonia y penderfyniad am y fath wasanaeth ag y bum i yn abl i' IV gyllawni yn ystod y tymhor dedwydd o'm cy- aylltiad agos a Chysnru. Ond y mae'n dra boddhaol i allu gadael gyda'm plant y fath gofnodiad o garedigrwydd a cUyfeillgarwch ag a estynwyd imi gan fy nghyd-swyddog- ion a'm cydweithwyr dros addysg yn Nghymru, er i hyny eu hiu-wain, nid yn yr engraipht hon yn unig, eithr ar hyd y blynyddoedd, i or-brisio fy ngwasanaeth, ao i briodoli i mi yr hyn oedd dd) ledus iddynt eu hunain, y rhai a fedd- ent wybodaeth well o Gymru, o gymawysderau Cymreig, ac o gwestiyn.au addysg, nag y gallwn i ei hawlio, ac ar y rhai y syrthlai y rhan fwyaf o'r llaftu* a'r cyfrifoldeb a gyn- yrchodd ganlyniadau dros ba rai yr ydym oil yn llawenhau yn gytun. Byddwch cystal a chyllwyno i Arglwydd Kenyon a'ch cyd-iwyddogion ar y staff no ar y Cynghor fy natganiad o'm diolch cynes t'iii cred hyderus y bydd iddynt ddwyn yn mlaen y gwaith a ddechreuasant mor dda, nes gwneir Cymru yn gynllun cyflawn o'r hyn y gall addysg ei gyf- lawni i bobl deilwng ohoni.—Yr eiddoch yn gywir, W. RATHBONE. Derbyniwyd darlleniad y llythyr gyda chymeradwy- aeth. SAFLE Y COLEG NEWYDD. Hysbysai Mr H Bulkeley Price y byddai yn wyb- yddus i'r holl ly wodraethwyr ddarfod i Gorphor. aeth Bangor gyuyg tir yn Nghae'r Esgob i godi arao adeilad parhaoi i'r Coleg. Ni phenderfynwyd y mater, ond hysbysodd Maer Bangor fod Cynghor y dref yn gyrti yn mlaen gyda phob prysurdeo posibl, ac y gobeithid y byddai pob anhawsderau yn fuan wedi ei symud. Nid oedd y tir y cynygid am dano yn ddigon ar gyfer y Coleg, ond yr oeddyut yn gwneud cais am ran o dir ar ystad y Penrhyn yn ych- wanegol. CADAlR FWNAWL. Pasiwyd penderfyniad yn datgan cymeradwyaeth y llys i'r cwrs a gymerwyd gan y Cynghor gyda golwg ar sefydlu yn y Coleg Gadair Fwnawl, gan 6 obeithio y cwrddai eu hapet am drysorfa a llwydd- iant. —o—o—
Mr Samuel Smith ar Addysg.
Mr Samuel Smith ar Addysg. WKXH siarad yn Nhreffynon y dydd o'r blaen ar bvrac addysg, dywedodd Mr Samuel Smith, A.S., iddo fod yn ddiweddar drwy Germany yn edrych i fewn i Gyfundrefn addysg yno, ac ofnai os na fyddai i'r bobl yn y wlad hon gymeryd y mater i fyny yn ddifrifol gadewid hwynt ar ol gan Germany ac America. Dywedai yr hoffai weled Ysgolion Byrddol a Gwirfoddol dan yr un awdurdod gyff- radinol, a'i Beibi yn cael ei ddarllen yn mhob ysgol yn Nghymru. .«1-)-
[No title]
Buy TEGOKRA" where you buy your Groceries. If not, buy your Groceries where you buy TifiUOiiEA."
Goheliiaethau.
Goheliiaethau. COLEG NORMALAIDD BANGOR. SYB,—Yr oeddwn yn llwyr gredu nad oedd m .vyach angen adgoffa i Gymro mai nid buddiol i'n gwlad y cri Cymru i'r Cymry," ond mae'n ym- ddangos fodd bynag mai dyma ddadl gref "Han Student" mewn cysylltiad a phanodiad is-athraw i'r Coleg uchod. Credaf yn sicr fod llawer gormod o helyat yn cael. ei godi yn nghylch derbyniad Saeson i'r Coleg hwn, Ar bob cyfrif rhodder llawn chwareu teg i'r Cymro, ond ai nid ein tuedd ni fel Cymry ydyw bod yn gyfyng ein syniadau nes methu gweled da mewn neb ond ein teulu ein hun. Gwir fod meibion Mon, Arfon, a Meirion dan anfantais, a'r anfantais fwyaf ydyw diffyg cyfleusdra i droi mewn Cymdeithas y tu allan i gylch bychan eu pentref gwledig, i eangu eu syniadau, a'u cyrhaedd- iadau addysgol, ac y mae cymdeithasu a'r myfyrwyr Seisaig yn y Coleg hwn, fel pob Coleg arall, yn eangu syniad y Cymro, acyn foddion addysg idde. Nid gwiw sylwi ar engreifftiau anffortunus, am y eeir y rhai hyn mor ami yn mhlith y Cymry a'r Saeson. Rwyf finau, Mr Gol., wedi bod drwy y rhestri o'r rhai a dderbyniwyd i'r Coleg am flyn- yddau, ac oddiwrth y rhai hyn gwelir yn eglur fod blaenoriaeth yn cael ei rhoddi i'r Cymro, a gofynir i'r Sais fod yn uchel ar restr yr Ysgoloriaeth cyn y caiff dderbyniad. Gyda golwg ar benodiad yr is-athraw, rheol y Pwyllgor yw dyrchafu y rhai ydynt wedi gwasan- aethu y Coleg yn ffyddlon am flynyddau hon yw rheol gyffredin pob sefydliad, ac yn sicr y mae yn rheol gyfiawn a chaf fi ac amryw o athrawon eraill fy siomi yn fawr os na ddilynir y rheol hon gan y Pwyllgor y tro hwn. Rwyf yn Gymro i'r earn, ac yn caru fy ngwlad a'm cenedl, ac am hyny yn dymuno y goreu iddi. Bu'm dan addysgiaeth E H Harding, Ysw., Mus. Bac., am ddwy flynedd, a chefais y fantais o ddod i gysylltiadau personol ag ef ac yn sicr ni welwyd erioed athraw yn fwy llawn o yni ac ymroddiad i'w udyledswyddau, a gofal dros y rhai dam ei addysgiaeth. Prawf y llwyddiaat neillduol a ddilyna ei ddosbarthiadau mewa celf a gwyddor fl wyddyn ar ol blwyddyn ei alIa fel athraw, ac y mae ei ffyddlondeb i'w waith am 20 mlynedd yn sicr o haeddu ei gydnabod trwy ddyrchaf- iad. Medda serch at y Cymro, os nad yw yn feistr ar ei dafodlaeth, ac ef allai nad yw yn hyn yn mhell ar ol ei gydymgeisydd. Cadwn oddiwrth gulni, a gwnawn gyfiawnder yn arwyddair.—Yr eiddoch, EFKTDYDD. MAGWRFA BEIRDD. SYR, -DyddoroI iawn i mi, ac i lawer eraill mae'n debyg, oedd y rhestr a ymddaugosodd yn Nghwrs y Byd o feirdd a godasant yn Ninbych Orllewinol. Yn wir, mae hi yn rhestr bur gyfoethog. Yr un pryd, wrth imi feddwl am ranbarth arall sir Ddin- bych fe welir nad aeth awdwr y rhestr i'r maes lleiaf cynyrchiol i gasglu ei ffrwythau. Boed a fyno am hyny, mi gredaf y gellir rhestrau pur olygus o amryw siroedd eraill yn Nghymru, a rhai, efallai, lluosocach eu rhif na'r rhestr o West Denbighshire, er cystal hono. Rhyfedd gynifer o enwogion geir yn mhob ardal erbyn meddwl am danynt, a theithio tipyn yn ol i'r gorphenol. Nid oes genyf finau ond if nghof—ac efallai fod hwnw yn fy nhwyllo-wrth ysgrifenu nifer o enwau ag y tybiaf eu bod yn feirdd gwerth i'r sir lie codas- ant ymSrostio ynddynt. Beth be bae i minau daflu golwg dros sir Gaernarfon, Gwilym Peris Dawi Glan Ffrydlas Gwyndaf Eryri Glan Erch Gwilym Padarn Hugh Roberts Leen Gubyn Padarn Sion Lleyn Owen Gwyrfai leuan Lleyn loan Arfon leuan o Leyn John Hughes y Faenol Dewi Wyn o Eifion leuan Gian Gairionydd R. ap Gwdym Ddu Trebor Mai Elis Owen, Cefnmeusydd Dafydd Ddu Eryri Eben Fardd Tudno Sion Wyn o Eifion Creuddynfab Emrys Parch Robert Hughes Nicander (Robin Goch) Pedr Fardd Elia Wyn o Wyrfai Taliesin o Eifion John Jones (Pyll) loan Madog Hu Eryri Dafydd Nanmor Eryron Gwyllt Walia Rhys Goch Eryii Gwilym Cawrdaf Maethonwy Dafydd y Gareg Wen Dewi Arfon Parch Dd Jones (Treborth) Gwilym Peris Patrobas Bardd Treflys Glasyuys loan Mai loan ab Gwilym Hefin Arfonwyson Glan Llyfnwy Nid wyf wedi chwilio yn fanwl, hyd yn nod yn Ilyfr fy nghof, am yr holl feirdd enwog yn eu dydd yn sir Gaernarfon oad efallai y bydd i rtiywua mwy cyf- arwydd a, hanes sir y Wyddfa fy helpu. Go- beithio hefyd, meddaf fi, y ceir rhestrau cyffelyb o siroedd eraill Cymru. Wedi peuderfynu y cwes- tiwn, "Pa sir yn Nghymru gynyrchodd fwyaf o feirdd?" purion peth fyddai newid pwynt y cwas- tiwn fel hyn, "Pa sir gynyrchodd y beirdd mwyaf?" ADLAIS. HYMBYGIAETH LLENYSDDOL. SYR,Bu yr Awenau erynt, ebra nhw, yn ym- orseddu ar Parnassws ond ofnaf nad ydynt yno'n awr-o leiaf ar y "Parnassws" lie y gwyntyllir bi-irddoniaeth ar gyfer newyddiadur neillduol heb fod gan milldir o olwg Castell Caledfryn. Mae darllen y cynyrchion a'r feirniadaeth arnynt yn ddyddorol dros ben, a thswy ganiatau i'r naill a'r Hall ym. ddangos yn yr un rhifyn, rhoddir cyflaustra rhagorol i'n darllenwyr i wneud hyny. Yn wir, ao yn wir hefyd, mae y cynyrchion, fel rheol, yn llawer mwy o feirniadaeth ar y feirniadaeth nag yw y feirniadaeth ar y cynyrchion. Beth debygwch chwi o "englyn" fel hwn ?— Y MODUR (MOTOR). Gwir hyglod gar i gludo-yn esmwyth Symuda heb flino Brenin pedrolfeni'n bro, Yw fy modur hyf i'm mudo. Ac yn mhellach, beth feddyliwch chwi o'r feirniad- aeth ganlynol arno:—" Y mae y ddwy Hnell gyntaf yn weddol dda, ond nid yw y ddwy ddiweddaf agos cystal, eto yn gywir parthed cynghanedd." Wei, wel, dyma beth yw hymbygiaeth llenyddol heb os nac onibae Gwyr pob newyddian yn nghyfrinion y Gynghaaedd Gymreig mai y llinell olaf o'r englyn yw yr unig un gywir; ac, yn wir, nid yw hono chw.tith yn fesurol gywir yn ei pherthynas a'r llinell flaenorol. Yn yr un golofn ceir y llinellau oan- lynol,— Draws ei sain mae dros senu. Unoliaeth helaeth hylawr,—gwroniaeth, Garla nodau swynfawr. Mae cyhoeddi llinellau mor amlwg wallus i'r neb a wyr ddim am gynghanedd fel rhai cywir yn cam- arwain eu hawdwyr yn lie eu hyfforddi. Digrif dros ben yw sylw y Golygydd wrth un o'i Ohebwyr Nid yw o un dyben ceisio gwneud englyn hab astudio y rheolau. Prynsd yr Ysgol Farddol, ac astudied hi, os ydyw am englynu." A ddaeth i feddwl y beirniad fod eisiau deall rheolau englyn i'w feirniad yn gysSal a'iwnead? Gobeithio y bydd i'r bardd leuanc a gynghorir i fyn'd i'r Ysgol Farddol alw heibio ei athraw ar y ffordd, fel y gallont ganu gyda'u gilydd ar y mesur adnabyddus,— Ni awn i'r Ysgol Farddol, awn, Awn, awn i'r Ysgol hon. NID B.B.D. GEIRIAU LLAFAR GWLAD. SYR,-Difyrwch mawr i mi ydyw darllen colofn "OWlS y Byd." Mae bob amser mor naturiol-yn enw- felly pan yn defnyddio geiriau Oymraeg liafar gwlad. Wn i ddim yn y byd mawr pa le y mae eicb goheb- ydd yn dod o hyd iddynt, os nad yn ei ymdaith hyd groesffyrdd la), Dyna un gair a dynodd fy sylw yn y Cymro cyn y di- weddaf-clot)en. Mae hi fel cloben o dref yn sy- mud ar wyneb y dyfnder." Pan welais y gair, dyg. odd i'm oof rigwm Cymreig a genid gan blant glanau y Ddyfrdwy pan y byddai hono yn lledu'n ei llwydwawr," ac yn gorlifo ei glanau. Canai y plant: Mae Dyfrdwy'n codi'n glompen I fyn'd a defaid Corwen I wneud potes oynes, coch I blant a moch Llangollen. Glompen fyddem ni y plant yn ddweyd, ond hwyrach mai cloben eydd yn iawn. Dywedir "cloben o ddynes," ac os bydd hono wedi eich digio dywedir yr hen globen fawr." Dywedir fod hwn a hwn ar gefn globen o gaseg," ond "glamp" o geffyl; "glamp" o ddyn "cloben" o ttoa, ond "glampobastwn." Ai tybed mai gwrywaidd am cloben ydyw clamp ? Hyd y gwelais i, nid yw yr un o'r ddau air yn eiriau geiriadurol, Pwy o'r gramad- egwyr yma all roi dipyd o oleu arnynt ? Dyna air arall a ddefayddid yn yr un golofn oedd clwt "—fod rhyw ddyn wedi colli ei sedd a myned ar y elwt." Clwt, yn ol y geiriadur, ydyw Clwb at.d o,wtyn -a clout, a piece of cloth, &c." Mae yn sior ddigon mai nid myned i eistedd ar apiece of cloth y mae y bygylwr Harris y cyfeiria eioh gohebydd ato felly y mae yn rhaid fod yna rhyw feidwl arall i'r geiriau. a hyny yn tarddu oddiar lafar g ov lad. Tybed fod ystyr gyntefig y dywediad yn cyfeirio at ddyn heb dJ na diddos i fyned iddo, dim ond comin y plwy i lechu. Gymaint mwy barddonol na desgrif- iad y Saeson o'r un peth —" turned into the street Dyna air arall i'm tyb i sydd yn y dyddiau di- weddaf hyn" wedi myned ag ystyr wahanol iddo,— "Gwe^ian." Nis defnyddid ef un amser flynyddau yn ol i ddesgrifio dyn meddw ond yn hytrach defn- yddid ef i ddesgrifio dyn o dan faich trwm-dywed y ffarmwr pan y sonia a u lwyth mawr-" Yr oedd yr hen drol ya gwegian dano foneu weithiau, ctyw- som y gair yn cael ei arfer pan yn desgrifio gwr o dan or-!ywodraeth y wraig,—" Mae hi yn feistres corn arno fo, flas o ddim gwegian efo hi." Ac hyd yn ddiweddar ni chlywsom y gair yn cael ei ddefnyddio at ddyn wedi meddwi. Ac yn sicr ddigon mae digou o amwysdra o'i gylch i'w ddefnyddio at y eyfr) w amgylchiad. Ac oni dd, wed un o'n poetau— Ni raid i'n yfed whiskey I Wegian uwchben ein traed," Felly gall dyn "Wegianuwohban ei drd" o dan ddylanwad pethau eraill. Ond dyweder fod dyn wedi meddwi'does dim amwysdra am dani. Rhid mai y whiskey neu rhyw ddiod alcoholaidd arall fydd wedi achosi hyny. 0 ganlyniad, mae o bwys ein bod yn cadw yr hen eiriau Cymraeg yn eu lleoedd priodol, a chyda'u oyfiawn ystyr. T. G. H. -ô-
Barddoniaeth.
Barddoniaeth. HEN GERDID-" ELEN RHYS." AR fore Sul yn fawr fy serch, Meddyliaf am y twynaf ferch; Yr awen a'i dyohymyg chwardd, Gan feddwl am yr eneth hardd. 01 tyred adref gyda brys- Ni charaf neb fel Elen Rhys, Ei Haw a'i chalon hi a ges, Carasom mewn angerddol wres Ond fe ddaeth gelyn ffals, difri, A llwyddodd i'n gwahanu ni. Ond doed rhyw angen gyda brys I'm huno gydag Elen Rhys. Yn fynych iawn mae dynion call Yn fy nghynghori yn ddiball, Yn cynyg i mi hon a hon, Fel geneth ddenol, hardd a lion: Pe cawn i un o'r breiniol lys, Mil gwell f'ai genyf Elen Rhys. Er gwg ei theulu yn barhaus, A chael celwyddau tra sarhaus, Ac er im' gael rh) buddion ffol I beidio dilyn ar eu hoi; Ac er im' gael cyfreithiol wys, Yr wyf yn caru Elen Rhys. Pa bath i mi yw golud byd ? Cael cysur yw fy mhwnc o hyd Os ydyw Elen yn dylawd, A llu yn gwneud ohoni wawd- Pe byddai rhaid, mi brynwn grys i. A phob peth rown i Elen Rbys. Mor unig yw yn gweini'n awr, Heb ganddi le i roi' phen i lawr, Tra minau mewn digonedd gwydh, A moddion bydol, hardd fy nrych. Pan ddaw hi'n ol, modrwyaf fys A charaf fyw ag Elen RhYd. Bu'n ngwlad y Sais, bu'n gweini'n ffol, Ond wedi hyny dod yn ol A myn'd i Fon a'i hawyr glir, Ond methu aros yno'n hir Nid oes gorphwysdra mewn un Ilys Nes deui ataf, Elen Rhys. v, yt yn edrych heihio'r coed, Rwy n disgwyl clywed swn dy droed, Dy wel d fel buost, eaeth dlos, Yn dod i'm bwthyn gyda'r nos. Tyr'd eto ataf gyda brys, OyMyw hyd angau, Elen Rhys. I YK HELIWR. YR HELIWR" ydoedd y testyn i gyfansoddi dau englyn arno yn Eisteddfod Glynceiriog, y Pasg. Darfu i rhyw walch cellweirus newid ychydig ar y testyn ag anfon y canlynol i law y beirniad :— YR HELWYR." Ein milwyr, helwyr, yliog,-yn Affrig Sy'n effro gynddeiriog, A llonydd ni cha'r llwynog- De Wet. Ar antur wedi'r huntio-drwy y wlad A rhyw lun o baffio, Twt, twt, mae De Wet ebo- Ynrhydd.