Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Dirwyn i fynu Eisteddfod lerpwl

News
Cite
Share

Dirwyn i fynu Eisteddfod lerpwl MAE'N debyg fod y cyfarfod o'r Pwyllgor Cyff- redinol a gynaliwyd nos Fercher diweddaf yn y Common Hall, Hackins Hey, yn derfynol ya aglyn ag Eisteddfod lwyddianus 1900. Cyuulliad Had fychan ddaeth yn nghyd, ac aed drwy y gwaith yn dawel iawn,-dipyn yn anniben. Llywyddid gan Mr Wm Evans, Y.H. Y Cadeirydd a ddywedodd ei fod yn tybio ddar fod i bawb oeddynt breseaol ddarllen, fel yntau, y gyfriflen argraphedig oedd o'u blaen. Cynwysai fieithiau o bwys. Da oedd ganddo allu llongyfarch y Pwyllgor ar lwyddiant yr Eisteddfod. Hyfryd fyddai ganddo edrych yn ol ar ei gysylltiad a'r Pwyllgor a'r Eisteddfod. Teimlai ddaifod i'r gweithrediadau gael eu dwyn yn mlaen yn bur heddychol, ac heb achos i beri teimladau briw i neb. Ofnai ar y cyntaf ymgymeryd a'r swydd, ond wedi gwneud ni chafodd ond caredigrwydd gaa bawb. Gwnaed ei swydd yn hyfrydwch iddo. Gofiuiai, modd bynag, oherwydd un peth-fod 300p y dydd yn myn'd i gynal y sefydliad rhagorol hwu. Gresyn na f'ai genym adeilad sefydlog allai gynwys deng mil o bersonau. Costiodd yr adeilad y tro hwn, dan yr amgylchiadau uwyaf ffafriol, l,500p. Go- beithiai y byddai genym erbyn yr Eisteddfod nesaf neuadd deilwng o'r ddinas, modd y gellid sicrhau 2,000p o weddill at rhyw amcan teilwng yn lie y 173p presenol. Darllenwyd llythyrau oddiwrth y Parch Griffith Ellis, Boode, a Mr William Evans, Elm Bank— y ddau yu datgan eu gofid oherwydd eu hanallu i fod yn bresenol. Mr Llew Wynne, yr ysgrifenydd cyffredinol, a gyf lwynodd adroddiad o'r pwyllgor gweithiol yn dangos ddarfod i ohebiaeth gymeryd lie rhwiig yr ysgrifenydd â Dyfed, yn nglyn a gwaith yr olaf yn derbyn gwobr am Riangerdd Ardudfyi, yn groes i reol 9 yn yr amodau, ac yn rhoi enw a chyfeiriad ffugiol. Cymellai y pwyllgor gweithiol i'r canlynol gael ei basio Yn gweled fod Dyfed yn gwrthod dychwelyd gwobr a dderbyniodd ya groes i reol nawfed yr amodau, yr ydym yn pende fynu peidio symud yn mhellach, ac yn dymuno trosglwyddo y mater poenus i ystyriaeth bellach yr Orsedd, i'r hon y gall fod yn fwv perthynol." Cynygiodd Mr W E Parry fod argymelliad y pwyllgor gweithiol yn cael ei dderbyn, ac eiliwyd af gan y Parch J Lloyd Jones. Mr Glyn Roberts a gynygiai fod y mater yn cael ei adael lle'r oedd. Ni enillwn ni ddim. Nid oedd genym fel pwyllgor chwaneg i'w wneud. Eiliodd Gwilym Mathafarn. Mr Llew Wynne Yr oedd genym fel pwyllgor rywbeth i'w wneud yn y mater. Yr oeddym wedi cymeryd safle bendant, a bradychem wendid pe gad- awem y peth lie yr oedd. Yr oedd genym i osod ein hunain ya iawn yu wyneb y cyhoedd, a pheri nad amheuai neb ni o fod yn cefnogi y fath ymddygiad. Parch D Powell: Mae'n wir i Dyfed wneud peth na ddylasai, ond tybiai i'r pwyllgor hefyd wneud peth na ddylesid drwy gyhoeddi y Rhiangerdd. Oherwydd hyny, rhaid i'r pwyllgor, i fod yn gysoa beidio cymeryd ei safle ar waith Dyfed yn gwrthod dychwelyd y wobr. Mr Llew Wynne a sylwai na ddarllenasid yr ohebiaeth i'r Pwyllgor Cyffreaitiol, neu deallesid y sefyllfa yn well. (Jyhoeddwyd y Riangerdd cyn i'r pwyllgor gweithiol wybod mai Dyfed oedd yr awdwr, ac fel uu ffordd allasai fod, ac a fu, yn foddion i'w ddatguddio. Mr Robert Roberts: Y cwestiwn ganddo ef oedd, nid cael yr ariaa yn 01, eithr pwysleisio y mater yn y fath fodd fel na ddigwyddai peth cyffelyb eto. Nid oeddym gymaint am yr arian ag am anrhydedd yr Eisteddfod. Trosglwydder y mater i'r Orsedd fel awdurdod gydnabyddedig yn nglyn a'r Eis- teddfod. Mr Glyn Roberts a fynai fod afreoleidd-dra wedi digwydd drwy gyhoeddi y Riangerdd. Yr oedd Dyfed wedi liithro drwy ddwylo y pwyllgor hwn, a bychana y pwyllgor fyddai trosglwyddo y mater i eraill. Mr Robert Roberts Rhaid ini wneud rhywbsth, oblegyd yr ydym wedi cymeryd stand uehel ar gwestiwn pwysig, ac nid anrhydeddus fyddai ei adael Ile'r oedd. Mr E Denman Mae achos fel hwn yn galw am sylw a chondemniad er mwyn purdeb yr Eistedd- fod. Trosglwydder y mater i'r Orsedd. Mr William Jones (Parker Street) a ddy wedai nad oedd fod Dyfed yn gwrthod dj chwelyd yr arian yn newid dim ar ei drosedd, a chynygiai eu bod yn pasio penderfyniad yn condemnio egwyddor yr ymddygiad, heb enwi Dyfed o gwbl. Mr Aneurin Jones a eiliai. Mr William Evans Nid dymunol ganddo ef, fel cadeirydd y Pwyllgor, ddweyd dim ar yr acbos hwn. Modd bynag, parodd lawer o ond iddo er pan glywodd yn ei gylch gyntaf. Credai nas gallai yr Eisteddfod fforddio i beth o'r fath ymn fyned yn mlaen, a d/lid cymeryd sylw pellach o'r mater. Cynygiwyd a ganlyn fel gwelliant ar argymheliiad y Pwyllgor Gweithiol:— Yn gymaint ag i Dyfed dderbyn gwobr yn groes i hawfed reol yr amodau cyffredinol argraphedig, mae y wyllgor hwn yn trosglwyddo y mater i awdurdodan yr Orsedd i ystyriaeth bellach. Mr Llew Wynne a gynygiai fod y gohebiaethau a Dyfed i gael eu cyhoeddidrwy y wasg,modd y gwelai y cyhoedd ddarfod i'r Pwyllgor wneud eu rhan. Mr J D Jones a eiliodd. Parch D Powell: Oni fyddai yn well anfon y gohebiaethau yn gyntaf oil i'r Orsedd ? Ofnai y byddai eu cyhoeddi yn foddioa i beri rhagfarn yn nglyn a'r achos. Mr Llew Wynne Nis gallai cyhoeddi yr oheb- iaeth beri rhagfarn, oad rhoi cyfleusdra gwell i bawb ddeall y sefyllfa, a gweled beth a wnaeth y Pwyllgor yn yr achos-golchi ein dwylaw oddiwrth y peth. Mr John Davies: Ystyriai mai infra dig oedd iddynt gyflwyno mater o'r fath i Orsedd y iieirdd 'i gyhoeddi drwy y wasg. Cadeirydd: Ouid digon fyddai ini gyflwyno y r nderfyniad i'r newyddiaduron ? Mr Isaac Foulkes: Credai mai y peth goreu .dynt hwy oedd cyhoeddi y gohebiaethau, a gadael c Orsedd gael allan ei thystiolaethau eihun. Wedi peth ymdrafodaeth bellach, pasiwyd y relliant. Cyflwynwyd yr adroddiad arianol gan Mr Robert Roberts, y trysorydd anrhydeddus, yn daagos fod Cyfanswm y derbyniadau yn 5334p Is 3c, yn cynwya 554p 16s mewn cyfraniadau, 103p 03 6c mewn gwobrwyon arbenig, 4374p 2s 3c oddiwrth werthiad tocynau, 135p hawlysgrif rhaglen, 29p 8s4c oddiwrth Gyngherdd y Messiah gan Gor yr Eisteddfod, a 32p 96 5c oddiwrth rehearsal. Yr oedd y treuliau yn 4933p 15s 6c, yn cynwys 1590p am y Paviliwn a'i adodrefnu, 623p 5s 10c y gwobr- wyon, &c., dan reolaeth y Pwyllgor Llenyddol, 1651p 7s Ie dan y Pwyllgor Cerddorol, 134p 10s 10c y Pwyllgor Celfau, 378p 6s 9c am argraphu a hys- bysebu, a 498p 5s 6c, costau cyffredinol. Yr oedd felly weddill o 400p 5s 9c. Ar gynygiad Mr Robert Roberts, ac eiliad Mr Lewis Jones, cafodd yr adroddiad arianol ei dder- byn. Cymeradwyodd y pwyllgor hefyd y rhodd o 52p 10s, yn ol fel y trefaasid gyda Chymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, i'r ysgrifenydd cyffredinol. Cyflwynodd Mr W E Parry adroddiad £ y pwyllgor arianol i'r perwyl fod y gweddill o'r arian, wedi talu ei haaer i Gymdeithas yr Eisteddfod, yn cael ei ranu felhyn :—lOOp i Gymdeithas Gienedlaethol Gym- reig Lerpwl, 50p i'r Cartref Cymreig i Perched, 20p i Gor yr Eisteddfod, a 3p 17s Hear gyfer man- dreuliau allant godi eto. Cyflwynodd yr ysgrifenydd adroddiad yn dangos safle gydmarol amryw Eisteddfodau diweddar ag Eisteddfod Lerpwl. Tra no, dderbyniwyd yn Eis ¡ teddfod Lerpwl yn 1884 ond 4200p mewa deg cjfarfod, deibyniwyd yn 190U, mewn naw cyfarfod, 4,374p Yn i-ighaerdydd, yn 1899, yr oedd. arian y drysau yn 2,864p, Ffestiniog ya 1898 yn 2,572p, ac yn Llandudno ya 1896, 2,886p. Eu i Eisteddfod Lerpwl, felly, ragori mewn arian drysau, a buasai eu gweddill yn llawer iawn mwy pe dderbyniasent chwaneg o gyfraniadau, oblegyd tra nad oedd gan Lerpwl ond 657p, yr oedd gan Gaerdydd 1,900p, a Ffestiniog 1,600p, o'r Synonell hono, Penodwyd is-bwyllgor i gydweithredu a, Chym- Z5 deithas yr Eisteddfod yn nygiad allan gyfrol o weithrediadau yr Eisteddfod. Ar gyuygiad Mr J D Jones, ac eiliad Mr John Davies, pasiwyd pleidlais o ddiolch i Mri Jones a Thomas, Chartered Accountants, am archwiiio y cyfrifon yn rhad ac am. ddim." Pasiwyd fod y gyfran o 173p 17s 10c yn cael ei throijglwyddo i Gymdeithas yr Eisteddfod Genedl- aethoi ar yr amod fod Cyfrol arferol yr Eisteddfod yn cael ei dwyn allan o fewa y deuddeng mis. Mr Isaac Foulkes a gynygiodd ddiolchgarwch i Mr W Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Cyffredinol, am y modd ffyddlon a deheuig y llanwodd ei swydd. Eil yn haelfrydig ac amyneddgar. Pryd bynag y codai ystorm mewn cyfarfod, byddai yn dawel bob amser tua'r gadair. Eiliwyd gan Mr John Davies, yntau hefyd yn canmol ein ffawd o gael boneddwr mor gymwys i'w swydd, a bod llwyddiant yr Eisteddfod i'w briodoli i raddau helaeth i'w fedr a'i ymroddiad. Wrth gydnabod y bleidlais unfrydol a brwd, dywedai Mr Evans fod yn hyfryd ganddo edrych yn ol ar ei brotiad yn nglyn a'r Eisteddfod cafodd lawer o gyfeillioa newydd, ac nis gwyddai iddo wneud un gelyn. Diolchwyd hefyd i'r ysgrifenydd a'r trysorydd, yn gystal ag i swyddogion yr is-bwyllgorau, a phawb a gymerasant ran flaenilaw yn nglyn a'r Eisteddfod. --0'

00109 Friffagol diogiedd Cymru.

Mr Samuel Smith ar Addysg.

[No title]

Goheliiaethau.

Barddoniaeth.