Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Ffestiniog.

News
Cite
Share

Ffestiniog. TREFNTJ. NIS gellir disgwyl llawer o waith heb drefn a pharo- toad, ac Did yw yr enwadau Ymneillduol yn ein plith yn ol i neb pwy bynag yn y daioni hwn. Nos Sadwrn ddiweddaf, bu cynrychiolwyr y Methodistiaid yn yr ardal yn trefnu ar gyfer Cyman- faoedd y flwyddyn nesaf. Cyfarfu y cynrychiolwyr yn nghapel y Garegddu, dan lywyddiaeth Mr Rich. Williams (Britwn). Derbyniwyd adroddiad y Pwyllgor Cerddorol, y rhai a ddetbolasant 15ego donau, alr antbemau, 'Da, was, da a ffyddlawn,' a'r Nefoedd sy'n datgan,' &c., ar gyfer y Gymanfa fawr a'r 5ed ran o Lyfr Tonau ac Emynau y Cyfundeb ar gyfer Cymanfa'r Plant. Awgrymodd yr Henadut Andreas Roberts y priod- oldeb o gael un d&n ar gyfer yr eglwys Seisnig, sef Bartholomew,' o'r Bristol Tune Boole, a chydsyn- iwyd i'w rhoddi i mewn. Sylwodd Mr Owen Jones, Erwfair, yn y fan yma, mai prin yr oedd, y Cymanfaoedd yn ateb eu pwrpas gan mor ychydig oedd y cynulleidfaoedd, fel y cyf- ryw, yn fanteisio arnynt. Yn ngwyneb hyny, pas- iwyd ianfon cais at swyddogion pob eglwys yn gofyn iddynt roddi cyfle wedi'r bregeth ar nos Sabboth un- waith bob mis i bawb ymuno i geisio perffeithio can- ladaeth y cysegr. Gorchwyl lied bwysig yw dewis arweinyddion i'r Cymanfaoedd hyn. Dyma fel y dewiswyd at y flwyddyn nesaf:— I arwain y Gymanfa fawr, Mr Tom Price, Mer- thyr Cymanfa'r Plant, Mr W James Jones, Beth- esda; Rehearsals, Mr W M Williams, Tanygrisiau; Cyfeilwyr, Mr J T Williams, Miss Jennie Parry, Miss Sallie Jones. Arholwyr cerddorol, Mri John G Thomas a W M Williams. Yn nwylaw y cyfeillion uchod bydded bendith ar y cymanfaoedd, ac na fydded i neb lusgo ysbrydion cloff i lwybrau'r Arch y flwyddyn nesaf, pwy bynag fydd byw. Mawr dda i Ariander am drefnu i gymaint o waith gael ei wneud mewn cyn lleied o amser, fel y gallai pawb ddymunai gael y pregethu hefyd nos I Sadwru. PREGETHU. Cynaliodd yr Annibynwyr eu Cymanfa bregethu flynyddol nos Wener, dydd Sadwrn, a'r Sul diwedd- af. Yr oedd yr hiu yn ffafriol, y cynulliadau yn lluosog, a'r pregethu ar y cyfan yn rhagorol. Yr oedd hanes Pregeth y Gwynfydau' gan y Parch Ben Davies wedi cerdded o'r blaen, o'r Undeb o Borthmadog a dywedir iddo ei thraddodi gydag arddeliad mawr yn Salem nos Sul. Yr oedd cynifer a 14eg o bregethwyr yn sefyll i fynu yn yr wyl gobeitbio i laver o'r had ddisgyu mewn tir da, a chael dyfnder daear. Lion genym weled y Parch D Miall Edwards yma dros yr wyl. Ilrysied yma i aros ac nid i wib- ymweled fel hyn. Caniataer i ni hefyd wrth fyned heibio longyfarch Mr John Lewis Williams, Brynbowydd, ar ei waith yn enill ei B.A. Nid oes nemiwr amser er pan oedd yn gweithio yn y chwarel; ond gwaith yw y parotoad goreu ar gyfer pob gwrhydri. MANION. Yn Llaugynog, bu Mr E Ffestia Jones yn arwain Cymanfa lewyrchus un o'r wythnosau diweddaf. Prudd genym gofnodi marwolaeth Mr John D Owen, un o flaenoriaid Capel y Bowydd. Cafodd gystudd maith a dirdvnol. Diangodd o'i ofid boreu Sadwrn diweddaf. Mae yma gryn ddisgwvl am y Morthwyl, i weled r, .1 pa faint 0 briodoldeb sydd yn enw y llyfr newydd hwn. Tipyn yn frwd yw hi yn nghylchoedd Addysg yn yr ardal 0 hyd. Synwn i ddim na tbyr hi allan yn wenfflam ryw ddiwrnod. Gobeithio y ceir gwlaw cyn hyny, onide ni cheir dwfr i roddi y tan allan. Mae Tudur Lhvyd wedi cael het newydd er pan welais ef ddiweddaf. Edrycha yn ddemocrataidd dros ben. Bu amryw o'r beirdd yn gwibio drwy yr ardal yr wythnos ddiweddaf. Gwelsom Elfed, Ben Davies, Crwys Williams, a chlywsom fod Watcyn Wyn yn nhawelwch Beddgelert yn bwrw'r Sul diweddaf, ac yn bwrw llawer o'i ludded, ni obeithiwn, hefyd. Y mae yma gryn lawer wedi ymfudo i'r De yr wythoosau diweddaf. Gobeithio y daw pobpeth o dde gyda phawb ohonynt. Chlywais i ddim o hanes Cor Meibion y Moelwyn ers tro. Y mae'r arian yn eu galw'n ddyfal beun- ydd i bar'toi.' Cwynir fod rhai o fasnachwyr yr ardal yn man- teisio yn annheg ar y darn diwrnod gwyl sydd gan- ddynt yn wythnosol. Dylai Cymdeithas y Masaachwyr edrych i mewn i hyn, rhag ofn fod Julasiaid yn eu plith. Ymddengys fod y llwthyrgludwyr yn yr7 ardal yn dymuno cael gwyl bob nawn Iau hefyd. Buasai yn liawer mwy naturiol a christionogol iddynt ddymuno I cael eu rhyddhauar y Sabboth. Oni wnaed cyfeiriad grymus at hyny yn nghyfar- fod Cynghrair yr Eglwysi Rhyddiou dro yn ol ? Buasai yr holl ardal yn cydymdeimlo a chais felly. Beth fyddai deisebu. yn y cyfeiriad yna, gan ddechreu yn Jerusalem? PRYDBRI. -0--

Helynt Claddu yn Sir Ff,int

I Nodlon 0 faelor.

Colofn Dlrwest.

Dyffryn Clwrde

Y Brawdiysoedd Chwarterol.

Cwallgofdy Gogledd Cymru.'