Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Brwydr yr laith yn Ngho!wyn…
Brwydr yr laith yn Ngho!wyn Bay. DIOLCH i Mr John Poberbs am ei ymdrechion pybyr 0 blaid iawnderau ei gydwladwyr yn eu .gwlad eu hnnain. Mae digon o ddynion yn gallu deall Cymraeg cystal a Saesneg, a Saesneg cystal a Cbymraeg, a deall pa fodd i edrych ar ol ffyrdd Oolwyn Bay Hawn cystal a hyny i'w cael heb gymeryd na Sais na Chymro uniaith. A phan etholwyd Sais uniaith i'r swydd trwy bleidlais derfynol y cadeirydd rai wythnosau yn ol, dangosodd Mr Roberts fod ei egwyddor yn gorwedd yn is na'i (1kfod, trwy ymddiswyddo a thalu y ddirwy arferol o 5p. I lanw y lie ar y Bwrdd a wnaed trwy hyny yn wag, ail gynyg- iwyd Mr Roberts a thrwy fwyafrif o 19, etholwyd ef, er na chanfasiodd o gwbl ac nad oedd ganddo gynifer ag un cerbyd i gludo atholwyr gweiniaid eu coesau ar ddyddiau o'r Jath i'r pol. Pan ddygpwyd yr achos gerbron drachefn nos Fawrth, canys ni fynai y Sais a benodwyd o'r blaen trwy bleidlais y Cadeirydd mo'r swydd, daliodd Mr Roberts, yn cael ei gefnogi gan dri nen bad war, i amddiffyn yr un owrs ag o'r blaen; a dangosodi rhai o'i wrtbwynebwyr eu han- nghymwysder i fod yn aelodau o'r Bwrdd trwy eu diffyg o synwyr cyffredin ar fater o'r fath. Modd bynag, enillodd y Cymry eu hamean; ac nid yw yn debyg y penodir Sais uniaith yn arolygydd y gweithwyr ar ffyrdd Colwyn Bay o Jbyn allan.
Mesur Cau r Tafarnau ar y…
Mesur Cau r Tafarnau ar y Sul yn Nghymru. fSu Pwyllgor Sefydlog y Gyfraith yn ystyried y mesur uchod ddydd Mawrth, Syr James Fer- gason yn llywydda. Yr oedd agos yr boll well- lantau, a lanwent ddwy dndalen, yn enw Mr H D Greene. Yr unig eithriadau oedd y rhai yn enw Mr Monk, i ddileu nielusion o adran neillduol, a Mr Maiks, i orfodi dyn i gerdded deuddeng milldir cyn yr ystyrid ef yn deithiwr. Fodd bynag, tynwyd yn ol y rhan fwyaf o'r gwelliant- au cynygiedig, a phasiodd y mesur drwy y pwyllgor yn mben deng munyd. Yr oedd y mesur yn ngofal Mr Herbert Ro- berts, a derbyniodd gynygiad Mr Monk i ddileu inclusion o'r mesur. Cynygiodd Mr Gedge fod y mesur i gynwys myglys, llawer ffurf ar yr hwn y gwyddai trwy brofiad oedd yn feddwol.-Gwrthodwyd y gwelliant heb ymraniad. Mabwysiadwyd y gweddill o'r adranau heb f mdrafodaeth ond gwnaed gwrthdystiad gan Mr Gadge, yr hwn a deimlai na fyddai i ben- derfyniad pwyllgor mor fychan gael fawr o effaith ar y Ty, ac y byddai i'r mater gael ei gyflwyno eilwaith i'w yatyried. Gorchvmynwyd i'r mesur gael ei ddwyn ger. ,bron y Ty.
o Cyhuddiad o Lofruddio yn…
o Cyhuddiad o Lofruddio yn erbyn Ffermwr. DYGWYD John Owen, ffermwr, Moelygarth, o flaen fnadon Trallwm, ddydd Llun, ar y cyhuddiad o lofruddio ei wraig ar yr 2il o Fehefin. Yr oedd xynulliad mawr yn bresenol. Dywedodd y cyfreithiwr erlynol fod y ddau wedi priodi yn Mawrth, 1898, ac yr oedd dau blentyn o'r briodas, ond bu farw yr hynaf. Gyda'r carcharor A'i wraig yr oedd ei dad, John Owen, yn byw, a'i frawd Charles, lleg oed a'r diwrnod y cymerodd y digwyddiad le daeth ei frawd Edward drosodd o Rhaiadr. Oddeutu 10 30 aeth y tad a'r bachgen Charles i'r gwely, a thua'r un amser aeth y car- -charor allan i ollwng merlen yn rhydd o adeilad tua chanllath o'r ty, a gadawodd ei frawd Edward yn y ty yr un pryd. Yn mhen rhyw ddeng munyd dywodd y tad ergyd gvVn i lawr y grisiau, a chlyw- odd hefyd ei fab yn gwaeddi Nhad, nhad." Rhed- odd i lawr, a gwelodd Mrs Owen yn haner eistedd Ar y llawr, a'i gwr yn ei dal i fynu. Dywedodd y carcharor wrth ei dad ei fod yn agor y drws i ddod i'r ty pan y clywodd yr ergyd, ac yr oedd mewn pryd i ddal ei wraig yn syrthio. Anfonwyd am Dr Thomas, Trallwm, ond bu farw cyn i'r meddyggyr haedd. Yn y trengholiad ar y corph, dychwelwyd rheith- farn i'r wraig gyflawni hunanladdiad. Ychydig Wedi hyny amheuwyd y gwr, a chymerwyd ef i'r ddalfa ar y cyhuddiad o lofruddiad gwirfoddol. Rhoddwyd amryw dy'stiolaethau yn y llys yn profi fod y ddau bob amser ar y telerau goreu a'u gilydd, ac ni chlywyd un gair croes rhyngddynt y diwrnod hwnw. I'r gwrthwyneb, yr oedd y ddau yn Uawen a chwareus. Methwyd a phrofi y cyhuddiad, a gollyngwyd y carcharor yn rhydd yn nghanol eymemdwyaeth y dyrfa. -0-
Digwyddfad hynod yn Mangor.
Digwyddfad hynod yn Mangor. CYMERODD y Barnwr Syr Horatio Lloyd gryn am- ser yn Llys Sirol Bangor, ddydd Llun, i wrandaw a^hos pur anarferol. Hawliai Margaret Jane •hughes, 14 mlwydd oed, yn byw yn Hirael, Ban- gor, trwy ei thaid, Hugh Hughes, llifiwr, iawn am QiWeidiau oddiar ymddiriedolwyr Neuadd y Psn- ?hyn, Bangor, ac oddiar Mr Edward Jones, gynt o f angor, ond yn awr o Borthdinorwig. ol Neuadd y Penrhya, fel y gwyddis, ydyw neuadd Syhoeddus Bangor, a goleuir hi trwy y to. Y mae gWydr trwchus ar y to a'r nenfwd. Yn nghefn y Neuadd arweinia grisiau i fynu i ystafell fechan, o'r On y gellir myned i'r neufwd. Fis Mehefin di- ^eddaf, cynaliwyd nodachfa yn y neuadd gan eglwys • ethodistaidd Hirael, Bangor, ac yr oedd y neuadd edi ei llogi gan Mr Edward Jones. Yn ystod yr .,wyr, aeth llanc o'r enw Thos J Roberts, 16 oed, r nenfwd, a syrthiodd trwy y gwydr i'r neuadd. 'weidiwyd yr hawlydd yn yr achos hwn gan y D di ac yn awr hawliai iawn am hyny. can! •id *°d y ddamwain wedi cymeryd lie mewn vn ^aiad i esSeulusdra y diffynyddion i wneud y lie a adyogel, fel nas gallai'r llanc fyned i'r nenfwd a sangu ar y gwydr. tVsV/fwyd nifer o dystion yn mlaen, a chafwyd vr v,10,th ° berthynas i'r niweidiau a dderbyniodd vr ra1Trlydd»tra ybu raid iddi fyned dan driniaeth yn -Djwedai ceidwad y neuadd fod yr Jon'a wedi eu trosglwyddo i'r diffynydd Edward ne,7nLam 7 noson' ac mai efe oedd 7a gJ'frifol am y aua tra yr oedd yr agoriadau yn ei feddiant. Pilad -V diff->rnyddion nad oedd un diffyg yn ad- Waifch y neuadd, ac nad oeddynt hwy yn gvf- atn y ddamwain, Talodd y Barnwr ymweliad a'r neuadd, a gohir- i Odd ei ddyfarniad.
Llythyr Liundain
Llythyr Liundain Gan TAFWYSON. I MB WILLIAM JONES, A.S. UN o'r cylchgronau mwyaf poblogaidd sydd gan y Sais ydyw y Strand Magazine, eiddo y Mri George Newnes a'i Gyf., ac o fis i fis traethir yn hwn hanes y Senedd gan Mr H W Lucy, o'r Daily News, gyda darluniau gan y caricaturist enwog, Mr F C Gould. Yn y rhifyn am fis Gorphenaf, ceir y darlun cyf- ochrog o Mr William Jones, A.S.,a gwneir y sylwadau canlynol Un o'r areithiau mwyaf llwyddianus yn y tymhor pre- senol ydoedd yr un a dra- ddodwyd gan aelod Cymreig, yr hwn, yn ol ei gofnodiad gwylaidd ei hun ar ddaleuau Dod, a wasauaethodd fel ys- golfeistr yn Nghymru, ac wedi dyfod i Lundain daeth yn is-athraw mewn Ysgol y Bwrdd, ac oddiyno dyrchaf- (wyd ef yn athraw yn Rhyd- chain. Eto, pan gododd Mr William Jones yn annis- gwyliadwy i gymeryd rhan yn y ddadl ar y cwestiwn o sefydlu Prifysgol Babaidd yn Dublin, hawliodd ar unwaith sylw y Ty, yr hwn a lanwai fel yr elai y siaradwr yn ei flaen, ac eisteddai pawb gan wrandaw a sylwi fel pe wedi eu swyngyfareddu, yn debyg i fel y gwelwyd y Ty ar rai adegau pan y siaradai Mr Bright neu Mr Gladstone. Dirgelwch y llwyddiant anarferol ydyw mai an- fynych y cyfrynga Mr Jones mewn dadl; ei fod yn yn gwybod am beth y siarada; fod ei wefusau yn cael eu eyffwrdd gan dan yr hyawdledd hwnw nad yw yn bosibl ond i'r Celt; a bod ei ymddygiad mor lednais nes bron a bod yn ofnus. Y mae dynion a roddent eu coronau a chyfoeth mawr am gael y der- byniad a roddwyd mor wirfoddol i'r ysgolfeistr Cymreig diymhongar. Yn Nhy y Cyffredin, nis gellid ei brynu a. sefyllfa nac arian." Dyna ddywed un o'r ysgrifenwyr Seneddol goreu fedd y wasg Seisnig, ac y mae Ty'r Cyffredin yn awr wedi rhoddi sel ei gymeradwyaeth ar ddewisiad Arfon o'r bachgen o Rydychain (oherwydd fel "Jones of Oxford" yr adnabyddir ef eto). Mae Cymru wedi colli cedyrn, ond gall sychu ymaith ei dagrau, oherwydd y mae prophwydoliaeth y bardd y daw'r meib yn lle'r tadau," yn dechreu cael ei sylweddoli. CYMDEITIIAS Y C YMMRODORION. Cafodd eich gohebydd wahoddiad oddiwrth Lyw- ydd a Chynghor Cymdeithas Anrhydeddus y Cym- mrodorion, nos Fercher ddiweddaf, i fyned i ym- gomwest yn y Grafton Galleries. Gofod a balla i mi enwi pawb oedd yno, ond yr oedd ynoarglwyddi ac arglwyddesau, marchogion ac Aelodau Seneddol, doctoriaid ac amryw barchedigion, ac heb ddosbarthu yn mhellach, gallaf ddweyd yn ddibetrus y buasai yn anhawdd cael cynulliad mwy urddasol o Gymry. Cafwyd amryw ganeuon gan gantorion adnabyddus, a threuliwyd noson lawen dros ben. Y GWYLIAU. Ydynt, y maent wedi dechreu. Gwelir hyny pan anfonwch lythyral1 at gyfeillion, gan ddisgwyl ateb- iad buan-daw rhai'n o rhyw gwr o Gymru bedwar neu bum' niwrnod ar ol y dydd eu disgwylid. Mae y cynulleidfaoedd hefyd yn dechreu teneuo, ac ni chynelir ond y ddau gyfarfod arferol yn ystod yr wythnos. Dywedir i mi mai pobl o sir Fon sydd gan mwyaf yn Lerpwl yna wel, Cardis ydyw Cym- ry Llundain, ac yn ardaloedd glan y mor tua sir Aberteifi, am y mis neu ddau nesaf, ceir gweled llu o'n dinasyddion, ac yn yr Eisteddfodau, megys yr wyl sydd i'w chynal yn Penllwyn, bydd torf o Gardis y Brifddinas. Daw rhai ohonom hefyd tua'r Gogledd, a gallwn sicrhau y byddwn yn teilyngu pob awr o seibiant ddaw in rhan. Mae'n debyg y daw rhai i'ch gweled chwi tua Lerpwl yn adeg yr Eisteddfod, a gwyddom y cawn groesaw Cymreig genych. Chwi wyddoch fod cwmniau y reilffordd wedi codi yn mhrisiau y tocynau, ond gallaf eich sicrhau na fuas- ai dyblu y cyfryw yn cadw Cymry Llundain oddi- wrth ein hen wlad ac nid oes dim yn gwruuid cystal gwladgarwr o ddyn a bod yn mhell o'i wlad dros amser. -0:
Brawdlysoedd yr Haf.I
Brawdlysoedd yr Haf. MALDWTN. CYNALIWYD brawdlys Maldwyn yn y Drefnewydd ddydd Gwener, gerbron yr Arglwydd Brif Farnwr Arglwydd Russell o Killowen. Nid oedd yr un carcharor i'w brofi, na'r un achos cyfreithiol i ddod gerbron a chyflwynodd yr Uchel Sirydd, Capten Lovell, Llanerchyddol, bar o fenyg gwynion i'r Barnwr. Liongvfarchodd y Barnwr y sir a'r uchel reithwyr ar sefyllfa pethau. Dyma ei ymweliad swyddogol cyntaf ef a'r sir. Gwelai oddiwrth gyf- rif y prifgwustabl fod nifer y troseddau yn y sir yn lleihau yn flynyddol er's pum neu chwe mlynedd. MEIRION. Yn Nolgellau, ddydd Llun, o flaen Arglwydd Russell. Yr oedd Mr R C Anwyl yn bresenol fel uchel-sirydd, a Mr J C Hughes fel is-sirydd. Gan nad oedd yr un carcharor i'w brofi, cyflwynwyd par o fenyg gwynion i'r Arglwydd Brif Farnwr, yr hwn a longyfarchodd y sir ar absenoldeb troseddau o natur y rbai ddygir yn mlaen mewn brawdlys- oedd. Ond sylwai gyda gofid ar gynydd meddw- dod, ond hwyrach y gellid esbonio hyny trwy fod y dosbarth gweithiol yn derbyn mwy o arian i w dwy- law. --0-- Yr wythnos ddiweddaf, cynaliodd Mri Dew a'i Fab, Bangor, arwerthiant yn Ngwestty y Marine, Llondudno. Yr eiddo cyntaf i'w roddi i fynu ydoedd I palasdv Bron Meillion, sydd ar ochr y Gogarth, gyda'r tir eang o'i ddeutu a'r tai blodeu. Yr oedd ar brydles o 99 mlvnedd o'r flwyddyn 1873. Wedi nifer o gynygion, tynwyd ef yn ol am 4,200p. Rhoddwyd Sywell House, ar y mor-rodfa, i fynu wed'yn, yr hwn sydd ar brydles o 99 mlynedd, ond ni chynygiwyd digon am dano, a thynwyd ef yn ol. Ddydd Llun ordeiniwyd Mr Gough, o Goleg Caerfyrddin, yn weinidog eglwys Annibynwyr Cymreig Connab's Quay. j
.ftewyddiON Cyinreig.
ftewyddiON Cyinreig. Bwriedir agor ysgoldy newydd yr Ysgol Ganol- radd yn Abermaw ar y 31ain o'r mis hwn. Y mae Mrs Hunter, Plascoch, Mon, yn adnew- yddu yr hen lanfa yn Mau Cemaes. yr hon sydd er's cymaint o amser mewn safle adfeiliedig. Derbyniodd Annibynwyr Cynwyd dros 200p. o elw oddiwrth eu nodachfa tuag at ddileu dyled eu capeli. Da genym ddeall am Iwyddiant Miss Annie Lewis' merch Mr G Lewis, argraphydd, Penygroes, yn 11 enill ysgoloriaeth yn Ngholeg Aberystwyth. I- Yn ngweithfeydd Mri J C Edwards, Rhiwabon, casglwyd 28p. Is. 6c. yn ystod mis Mehefin tuag at Gronfa Newyn yr India. Anfonwyd yr arian i Arglwydd Faer Llundain. Y mae'r Parch D Emlyn Evans, B.A., wedi dech- reu ar ei weinidogaeth yn nghapel Annibynwyr Seisnig Bangor, fel olynydd i'r Parch D S Jenkins, B A., yr hwn a symudodd i Ferthyr. Y mae'r capel wedi ei adnewyddu, ac fe'u goleuir a thrydan Am y tro cyntaf erioed, y mae Cymro, y Parch J Morgan Gibbon, wedi ei benodi i gynrychioli Eglwysi Cynulleidfaol Prydain yn Nghynghor Tair- Blynyddol yr Eglwysi yn yr Unol Daleithiau. Cy- ferfydd y Cynghor yn Portland, Maine, yn 1901. Gerbron ynadon Abergele, ddydd Sadwrn, cy- huddwyd chwech o lanciau o beri poen i fynychwyr addoldy trwy eistedd ar wal a gwneud sylwadau an- weddus. Ar ol eu rhybuddio i ymddwyn yn well rhagllaw, dirwywyd hwy i swllt yr un a 6s 6c o gostau. Yr Anrhyd. W M Bruce, ail fab y diweddar Arglwydd Aberdar, sydd wedi ei benodi yn ysgrif- enydd yr ail adran o Fwrdd Addysg y Llywodraeth. Rhoddodd ei benodiad foddhad mawr i bawb sydd yn caru llwyddiant addysg yn Nghymru. Ddydd Sadwrn, ymadawodd gwirfoddolwyr Ban- gor, Caernarfon, Bethesda, a Choleg y Brifysgol, am New Brighton i fyned drwy bythefnos o ymar- feriad. Eu prif swyddog yw'r Milwriad Hugh Savage. Aeth lluoedd i'w danfon at yr agerddlong St. Tudno.' Dydd Gwener diweddaf, gwelwyd rhyfeddod mawr yn Ynys Enlli. Cychwynodd cwch o Bwll- heli, ac ynddo beiriant at dori gwair, a hwyliodd am Enlli. Daeth y trigolion at litn y mor i weled y peiriant rhyfedd, a syllent yn syn arno, canys ni fu un ar yr Ynys erioed o'r blaen. ANNIBYNWYR GOLBORNE.—Nos Sadwrn a'r Sul, Gorph. 7fed a'r 8fed, cynaliodd yr eglwys uchod ei hwythfed wyl flynyddol, pryd y pregethodd y Parchn R Peris Williams, Gwrecsam, a D Lewis, Rhyl. Cynulliadau lluosog, pregethau miuiog a dylanwadol, ac yspryd y peth byw i'w deimlo'n am- lwg trwy y cyfarfodydd. Dydd Gwener, bu Mr T Darlington, M.A., Arol- ygydd Ysgolion, Aberystwyth, yn traddodi anerch- iad ar y Cod Addysg newydd mewn cynadledd o athrawon yn y Drefnewydd, a dydd Sadwrn yn Mhorthmadog. Syniad sylfaenol y Cod newydd, meddai, ydyw mai nid athrawon testynau yw yr athrawon ond athrawon plant. Cynaliwyd diwrnod areithio blynyddol a rhanu gwobrwyon Coleg Trefecca, ddydd Iau. Llywydd- id gan y Parch W James, Aberdar. Pasiodd 12 allan o'r 19 o ymgeiswyr a safodd arholiad am fyned i'r Coleg. Traddodwyd anerchiadau i'r myfyrwyr gan y Proff. Powell, Caerdydd, a'r Parch J Hughes, Lerpwl. Yr wythnos ddiweddaf, derbyniodd amryw o lo- feydd Deheudir Cymru archebion am lo oddiwrth y Morlys, y cyfan yn gwneud pedwar ugain mil o dunelli. Amrywiai y pris o 22s 6c i 23s y dunell. Dywedir fod Llywodraethau Japan, America, a'r Eidal yn y farchnad yn ceisio cytlen wad helaeth o lo y Dehau ar gyfer yr helynt yn y dwyrain. Yn Llys Ynadon Abergele, ddydd Sadwrn, cy- huddivyd casglwr rhedyn o'r enw Jones o niweidio rhedyn perthynol i Mr H R Hughes, Arglwydd- Raglaw sir Fflint. Tystiodd Mr Crabbe, yr hwn oedd yn erlyn, fod tunelli o redyn yn cael eu llad- rata o Ogledd Cymru a'u danfon ymaith gyda'r reilffordd. Cymerid pobpeth oedd yn werth ei gy- meryd o'r llwvni a'r cloddiau. Dirwywyd y tros- eddwr i 5s a 1p 9s 6c o gostau, neu 28 niwrnod o garchar gyda llafur caled. MARWOLAETH MR HUGH WILLIAMS, Porthmad- og.—Fore ddydd Gwener, ar ol cystudd maith a phoenus, bu farw y dyn addfwyn, a'r masnachydd cyfrifol uchod. Bu am rai blynyddau yn dwyn yn mlaen fasnach lwyddianus fel dilledydd yn Oxford Street, Lerpwl; ac er mwyn iechyd y teulu y symudodd i Borthmadog, lie y treuliodd weddill ei oes yn fawr ei barch gan wreng a bonedd. Anwyl yn ei deulu, gonest yn ei fasnach, ffyddlon yn ei grefydd, yr oedd ei fywyd diargyhoedd yn esiampl mewn llawer o bethau.-T. Dydd Mercher, cynaliwyd Eisteddfod Techau lwyddianus yn nghapel y Wesleyaid, Ffynongroew. Y llywyddion oeddynt Mri Wm Roberts, Y.H Glandon, Mostyn, a Mr Lewis Williams, M.E., Point of Ayr. Mr E D Lloyd, Bethesda, oedd yn beirniadu y canu, a loan Glan Menaiy farddoniaeth. Dyma'r prif ddyfarniadau :-U nawd i blant, Ada Williams, Rhyl. Unawd i denor, Moses Hughes, Axton. Unawd i soprano, Miss Williams, Rhyl. Unawd i bass, Arthur Williams, Newmarket. Ad- rodd i blant, J Parry Jones, Ffynongroew. Eto i rai mewn oed, T Alun Jones, Rhosesmor. Corau plant, cor Miss Annie Hughes Enillwyd yr hèr- I y unawd gan Miss Annie Williams, Rhyl, a derbyniodd y gwpan arian. Englyn a phenillion, W Parry, Mostyn. Y mae'r Parch John Williams, B.A., Dol- gellau, wedi rhoddi rhybudd i eglwys Salem, y bydd, trwy ymgymeryd a'r swydd o ysgrif- enydd y Genhadaeth Gartrefol, ya rhwym o dori ei gysyUtiad a'r eglwys hono fel ei bugail. 11 Ddydd Gwener bu Syr Courtney Boyle yn gwraudaw ar hyrwyddwyr rheilflfordd gul i gysylltu gorsaf Rbyd ddu a Beddgelert, o berthyoag i'r gwithwynebiadau a godid gan Fwrdd Masnach. Daethant i gyd-ddealldwr- iaeth ar y mater, a bydd i'r awdurdodau gadarnhau yr archeb, ac nid rhaid aros yn hir I cyn gweled y rheilffordd yn ffaith. Y mae mudiad ar droed i wneod rheilffyrdd s el ysgeifn o Gaernarfon i Dinas Dinlle ar un llaw, ac o Gaernarfon i Bethel, Bethesda, Ebenezer, a Din orwig. ar y llaw aral), a gweithir hwy gan I drydan. Y mae amryw gynygion oddiwrth gwmniau mawrion i wneud y gwaith yn awrdan ystyriaeth Cynghor tref Caernarfon.
Advertising
I. FOULKES, Swyddfa'r Cymro, 8 Paradise Street, Lerpwl. Yn awi- yii. barod, Pris Stvllt, trwy y Pott Is Ie. Y MORTHWYL. Llyfr o Adroddiadau: SEF 140 0 DDARNAU Wedi eu dethol o waith Beirdd a Llenoiioa Hen a Diweddar.
[No title]
CYNWYSIAD. Tuda!. PAIO RHOI FVXU n. T'lfp,] II YFfoetHgaetli io 1ternidy nr (Ian f/) dedtren, 12 Ynys Killh a i (jroUiiidy Carolan 13 Kliianort Penrhyn (iwyr jm y 14 Mae Nhad wrtli y I,]yw S. R. 17 v i!ywy(Had, • ••• K'hr>i* 18 P f „ 'J™ Alai 13 Cynafan Morfa liluiddlan CMrionmld '>(> Dewrion Dulas. R. I'cmiumi 21 Gorcltest Hyr Rhys Ap Thonuis Ehm Fan/d 2i; M.iriac Kdwyn 11 i met hoi, 24 Myxyr Cymro mown Gwlad Bstronol 25 (xlyndwr yn auercli ci Filwyr Bereah <f. Kraiui 5(; lmsom John Penry yn y Cardial- Glaiit/stm/tfi 27 ftwddi Llewelyn Lletr Lhci/fo 28 Y Milwr Prydemig lin/tHir 30 RhithyrAnia1 An/an 32 I rem ?ir Iryniau Canaan L'to 3B Y Llythyr Giudydd Mrs. Jones..Berthhri/d 34 ^sgyiuad tlias i'r Nef Eben Fardd M Claddedigaeth Moses Jierir 3G lYmhestl ar y Mor Sarnwol 38 Catitl i'z, Eos lihwl-u-M 39 Marwolaeth Gwen dohiddan 40 1msom a'r Meddwl 11 41 Crist yn gosteg-u'r dymhestl. 42 Traitligaii ar Gwsg I'e(li- Ifost!l)t 43 Cywyddylawi F/iwi* Coramcy 44 Hiivieth am Fon 4.5 Y 1)(itinNvtiii yit y Cltw:tref Jivy/dir 46 Y Llong' ai- Dan JloOin Ddu Eruri 47 1 Bedd yn yr Ardd leuan Giri/n-edd 49 Arwerthiant y Oaethwas Hi-raethoy 52 Dinystr Teinl Jerusalem Eben Fardd 04 Dniystr Byddin Sennacherib S. 55 } I'fojului- Ci/nonfardd ofi Creadigaeth yr Adar Emrys 57 Cread Creaduriaid eraill ;■>'» Cywydd y Daru. n. J). 50 Cywydd yr Eira D. (tb 62 Yr Haf yn Genad i Forganwg 1, (i3 Glan'Alan ö4 1 on r Glocli Watci/n JJ i/n 5f) Yr Ystorm jf_ Xicholion 67 Cyfarcli Berwyn Cynddelw 69 0 am orwedd yn Merwyn 70 Cyw ydd y March 41ed 70 Dnngo'r Wyddfa loan Ddu, 72 1 Fam a'r Grloyn Byw Lewis Gh/n 73 Hen Feibl Ma wr fy Mam Tegidon 74 Y Gof Hiraethoq 76 Can y Bardd wrth Fniw Gwenffrwd 77 Breuddwyd f()io Caernarfon 78 Can y Glowr leuan Gwi/nedd SO Deilen a Chan Moelwi/n 81 Ymliohadau Al) 82 1 r Laith Gymraeg loan Arfon 84 I' en Wichlyd Meander 86 -t'i- G Y Llwv-'iog, r:twiiwiii sfi Y Ci a'r Cysgod 37 "Wesultipyn" Jlirarthnq 88 I towc Fitzwarren loto MSS 89 Ilenaint Ehedlldd Jnl 90 I'oriad Dydd n. LomifMou- 91 Dameg y Crane Nicandpr !)) Digon o dwnv—Ychydigowlau Anhysbys 93 Y Coblei-,i'i- liincer La Fontaine 94 Sweet William Tanymarian 95 Carlo 96 \r Asyn Anfoddog Boger Edwards 97 Dameg y Fwltur a'i Chywion O'r Cronicl 9S Y Llwynog a'r Ceiliog-Coedinr Gwalchmai loo Croesaw i'r Gog alan Alnn 102 Bedd y Dyn Tlawd loan Emh/n 103 Can Gwraig v Pysgodwr Alan 104 ly Lwythr William Dewi W/ln 105 Ddwy t an- wrth y Bedd Robyn Ddu 106 Mair ei Film yn gwenu nrno Patrobas 107 Nos Sadwrn y Gweithiwr Cawrdaf 108 Y Bwthyn Mynyddig Itobyn Ddu, Erifri 109 Pictiwr fy Mam Talhaiarn 110 Fy Anwyl Fam fy Hunan Dafydd Ddu Eryri 111 Ymffrost Belsassar I. G. Geirionydd 112 Oyd Gwag fy Mhlentyn yw Jimri/s 114 Arwyddion Henaint Caledtryn 115 CanyFamrwrhtentyn Hiraethoq 116 Can y Crys L G. Ated 118 Mae pawb It phobpeth yn myn'd yn hen Trebor Mai 120 Mi glywaisy Gog Emr/s 121 Hwiangerddi y Weddw Pemtr 1^9 Gu-aenfab IS | yiotty i L Trebor Mai 124 XMtydd a feion a'r L stus Hiraethoq Y>r> ?r^g Hn^Ej?,Wad01 Brrfdir 126 ModrybModlan Talhaiarn 12S Modryb Modlan.—II. Modryb Modlan.—Ill ]] Galarnad Bol Haul y Twrnai Leieys Morl/s Mon 131 1 lie Petition. ICe I"j,tinifo(idi? Gwaenfab 135 O-utto r Cam ]Mawr Garmonydd 136 IV VQ- TV! Wat cyn TfíJn 137 Die Hion Dllfydd i Hanes besiwn yn Nghymru ,,140 Y Llwynog Clu-ydfardd 141 Crwydryn byclian ar yr Iieol Gwaenfab 14-> Merch y Melinydd F JimiBach IralHriad 144 Yr Afonig ar ei Thnith KW'r Edwards 146 ol Y Bad ar Ddyfroedd y Niagara Hywel (•?,->,>,w un Deio Lacli Jones, Llaiu/ollen 150 } r wyf wedi Yfed y GwyrIraid diweddaf Cyiie'ithia4 151 Cwyntaii Jane I- Glan Geirionydd 153 Ynison yr Afradlon Inhiithvc I -<s Bysgwch ddweyd "Na" -I'^bys 1,6 Arlimiwr medrus aeth ryw Ddydd 1% Y Llwynog a'r Gat.h Chwedl y Tri Meddwyn Breuddwyd AlTV?y KIl0sy"a" II yn o Mfion 163 1 l lodeiiyn y llosem.'iry Emrni 1 i:J 1 Lypd X Dydd Daniel Ddu, o Gerediyioh 165 Breuddwydion CPM™ \CC Gwraig y Llong a Mcrch y Fellten Ceiriog 186 I Lias Gogerddan J r, YTyaryBont (rwydd Dafydd y Crydd '"lV Parru l"l Biwedd y Telynor ri, H '■«, Uluuldenj'id, 77 Kobert Wynn yn Shalio Daniel Owen 179 ^mwel ad y Bardd !si 0i £ !X^ ^ed Yr Efeilliii(I Ellen Hu0hes, Brynenmn lFifi Imbell Dm Mynyddog 187 John T. Job 1S8 Cyflatan y Gwir M. ap Gwilym .Ddu o Jiifion 189 Heulwen wedi Gwlaw Gwim l, ,i Rhywbeth IthyJedd lorwertli Glan Aled 191 YR ydym yn galw y llyfr hwn Y MOttTHWYL" er mwyn ei wahaniaethu oddiwrth y Ilyfrau eraill o'r un natur sydd eisoes yn y Gymraeg, a'u henwau mor debyg i'w gilydd nes peri dyryswch i'r prynwr ac am y ceiswyd gwneud y detholiad i frnu o r darnau mwyaf tarawiadol—jn taro yr adroddwr yn nghyntaf, a thrwyddo ef y sawl fydd yn ei wrando.—Rhagymadrodd. I1* Swyddfa'r Cymro, 8 Paradise Street, Lerpwl.