Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
Goran Ail, Art DYIg." Ieiu na'd gamwaith." Duw a phob daioni. CTNELIR EISTEDDFOD TEMLWYR DA LERPWL YN HOPE HALL, HOPE STREET, Dydd Mercher, Gwyl y Bane, Rhagfyr 26, 1900. PRIF DESTYNAU. AWDL Y GADAIR-Awdl (heb fod dros 400 o linellau), Yn gyfryw ag wyf fi, ond y rhwymau hyn (Actau xxvi 29). Gwobr, £ 2 2a a ^hadair Dde^, gwerth £ 4 4a. LIBRETTO I GANTAWD [CANTATA) DDIRWESTOL, cyfaddas 1 gerddoriaefch at wasanaeth Temlau'r Plant, Gobeithluoedd, &c. Gwobr, -54 4s. PRIF DRAITHAWD—Traithawd Beirniadol ar y Llyfr, lhe Temperance Question and Social Reform,' gan Rowntree a Sherwell. Gwobr, £ 4 4s. TRAITHAWD (cyfyngedig i Ferched), Ein chwaer syrthiedig.' Gwobr, £ 1 Is. PRIF GYSTADLEUAETH GORAWL—I'r Cor o Feibion (heb fod dan 35 na thros 50 mewn nifer) a gano oreu Croesi'r Anial" (T Maldwyn, Price). Gwobr laf, P,25, a Thlws Aur i'r Ai weinydd 2il, 25. [CHIEF CHORAL COMPETITION—not under 35 nor over 50 in number-for the bdst rendering of Crossing the Plain (T Maldwyn Prite). First Prize, JS25 and a Gold Medal to the Conductor; Second Prize, £5.] Gellir exel rhostr gyflawn o'r Testynam ond aufoa stamp at LLEW WYNNE. Tsgri/enydd, Ashfield, 98 Westbourne Road, Bit ker. head Eisteddfod Gadeiriol NEWMARKET, GWYL Y BANG, AWST 6ed, 1900. Yr holl entries i fod i mewn erbyn GORPHENAF 14eg, 1900. E. WYNNE, Bryn Terfyn, Newmarket. Rhudd- lan R.S.O. T. C. ROGERS, Greenfield House, Dysertb, Rhyl THE ROYAL NATIONAL EISTEDDFOD LIVERPOOL, SEPTEMBER 1900. THE OFFICIAL PROGRANNE is now in course of preparation, and Advertising Spaces may be secured on application to the Pub- lisher ISAAC FOWLKES, 8 Paradise Street, Liverpool. EisteddfodGeqedlaetliol Lerpwl 1900. AIL ARGRAPHIAD, gydag ychwanegiadau, o'r RHESTR 0 DESTYNAU, Pris 6ch, trwy y post 7c. I w cael o Swyddfa'r "eymro, 8, Paradise Street. CERDDORIAETH GYMREIG. JOHN JONES, Wholesale and Retail Uusio Seller BETHESDA, NORTH WALES. Cbdwib ar law y Stoo Fwyaf Amrywiaethol ye Nghymru o GAN 15HON (SONfJS) CYMBEIG I &0 fel rheol danfonir pob archeb gyda throad y post Anfoner am y Catalogue yn cynwya tua 600 o wahaqo Ganeuon LEWIS WILLIAMS, "T"AT V,OR & DHAPER, 2S Fernhill Street Brethynau da Detholiad da. Gwaith da. B EAR'S pAW RESTAURANT. LORD-STREET, LIVERPOOL. ENTIRELY NEW MANAGEMENT. HIGH-CLASS FOR LADIES & GENTLEMEN. Patronised by the Clergy and County Families, BEST AND MOST VARIED A LA CARTE MENU IN TOWN. Under the Personal Superviiion of Telephone, 542. J. RAMBERT, Telegrams, Nobilitas. Manager. Telephone No. 2339. Telegrgms-Marquees ESTABLISHED HALF A CENTURY. HOWARD S CART & WAGON SHEETS, Tarpaulins, Horse Clothing, Nose Bags. I -i- I I Tents, Marquees Temporary Awnings. TEMPORARY BALL-ROOMS r Lighted, Decorated, Parquet Floor laid. 35, REDCOSS STREET, LIVERPOOL. I Writ or send for Quotations. I I •\ GLOVES A SPECIALITY. The Most Complete Stock of Ladies' an Ohildren Gloves in Liverpool MILES' PATENT SEAMLESS GLOVES, 3/111 per pair, made from the finest French skins. Endless variety of Rehable Makes of Kid and Suede Gloves for Ladies at 1/6,. 1/11, 2/61, and 2/11 per pair. Sbroag and Useful English Laathec Glove' for Girls, Boys, or Infants at 1/0, 1/6J, 'and: IlIli per pair. ENRY MILES & CO. 25 and 25A, CHURCH STREET, (Opposite Pro Cathedral) LIVERPOOL. Y CYMRO: Danfonir UN cori yn ddidraul trwy y Post Am 12 mis, 5/6—Am 6 mis, 3/0 Am 3 mis, 1/P Blaenrfal yn unig. ;0: At Eln Gohebwyr. Dylai pob gohebtaeth reolaidd gyrhaedd zV Swyddfa cyn canol dydd Llun, neu ni ellir ei chvhoeddt." yn y rhifyn cattlvnol RHAN VI. o Coflant a Llythyrau Dr Lewis Edwards, Pris Swllt; drwy y post Is lie. Lerpwl: 1. FOULKES, Swyddfa'r Cymro,
CYNWYSIAD :
CYNWYSIAD Undeb Annibynwyr Cymru. Y Brawdlysoedd Chwarterol. Afalau Canada. Haf anwadal. Mr Stanley Leighton, A.S. Gwendid Synwyr Canol Oed. Y Rhyfel yn Affrica. Cyffro China. Cynwysiad y Morthwyl.
CHINA.
CHINA. HEOLYDD Pekin, y brifddinas, yn llifeirio gan waed dynol sicrwydd fod un o Ivs- genhadon Germani wedi ei lofruddio, a He cryf i ofni fod yr holl lysgenhadon eraill, yn nghyda'r cenhadon Cristionogol, wedi cyfarfod yr un dynged y genedl anferth -yn cynwys y bedwaredd ran o'r hil ddyn- ol-mewn aflywodraeth a gwrthryfel, blith draphlith, na wyr undyn tuallan i China, nac ond ychydig tu fewn, pwy sy'n ben, nac yn debyg o fod yn ben yn y dyfodol; yr Yra- nerodres Waddolog a'r Ymherawdwr a ddiorseddwyd fisoedd yn ol wedi eu dien- yddio gan y gwrthryfelwyr a elwir Boxers, neu eto hwyrach yn eu hanog yn mlaen i gyflawni yr ysgelerderau a briodolir iddynt. Tybiaeth arall a ffyna yn mysg dosbarth o bobl a adwaenant China yn dda, ydyw mai y Tywysog Tuan, tad hawlydd arall am goron China, a dyn o ddylanwad mawr gyda'r Chineaid, sydd yn blaenori y ter- fysg. Edrycher ar dwmpath o forgrug, wedi gwylltio, ar ddiwrnod poeth yn mis Awst, ac yn gwau trwy eu gilydd yn groesymgroes, a cheir cyffelybiaeth wan o sefyllfa annosbarthus y genedl luosocaf yn y byd, fel ei darlunid gan amryw ohebwyr newyddiaduron ddydd Sadwrn. Modd bynag, yr wythnos hon credir nad yw'r hanesion uchod o leiaf yn wir i gyd, ac nad oedd y sefyllfa yn Pekin lawn cynddrwg ag y tybid. Ond y mae prif amcan y cythryfwl, debygem. yn ddigon hysbys oddiallan, sef ymlid pob estron o'r wlad. Cred grefydd- 01 a henafol y Chineaid ydyw mai hwy, a hwy yn unig, biau China. O'u hanfodd a thrwy draisy gorfu iddynt ganiatau ar y cynt:af i estroniaid drigo yn eu terfynau ac mewn enbydrwydd am eu bywydau y preswyliodd y cyfryw yn eu plith bob amser. Goddefid hwy yno, a dyna'r cwbl. i Ond fel y lluosogent, a'r cenadon Cristion- ogol yn llwyddo i broselytio, cynyddodd, chwerwodd a chrynhodd, y gwrthwyneb. iad nes y torodd yr argae yn yr ym- ffrwydriad hwn. Yr agwedd waethaf i'r achos, ac edrych arno o safle yr estron, ydyw mai po fwyaf gwrthwynebus i'r estron fyddo gwladweinydd, mwyaf ei ffafr gyda'r Chineaid. Y dyn gwaethaf yn ngolwg cenedloedd eraill ydyw'r dyn goreu yn eu golwg hwy. Y Galluoedd a deimlant fwyaf o ddy- ddordeb yn y cynhwrf Chineaidd ydyw y Gallu mawr newydd sydd wedi ymddyrch- afu yn rhyfeddol yn ystod y blynyddau di- weddaf, sef Japan ac wed'yn daw Pryd- ain, Rwsia, Germani, Ffrainc, a'r Unol Daleithiau, y Gallu newydd arall sydd wedi dechreu taflu ei olwg yn drachwantus dros ymylon ei wlad fawr ei hun ar eiddo cenedloedd eraill. Ar Japan mewn gwir- ionedd y dylanwada symudiadau China benaf. Y mae'r ddwy genedl fawr, gyw- rain, yn eiddigus o'u gilydd, yn cashau eu gilydd, er's oesau, ac onibai am ymyriad y Galluoedd eraill, Rwsia yn benaf, buasai Japan fuddugoliaethus wedi mynu darn helaethach o diriogaeth ei gelyn yn union ar ol y rhyfel gwaedlyd a fu rhyngddynt yn 1895. 0 ran gwareiddiad a llywodraeth drefnus, nid oes gymhariaeth rhwng y ddwy wlad, yn enwedig er 1889, pan y mabwysiadodd Japan lywodraeth gyfan- soddiadol ar ffurf yr eiddo Prydain a'r Unol Daleithiau. 0 hyny allan, hi a ym- ddadblygodd yn gyftymach nag odid i wlad arall yn y byd; ac yn ol a ddywedai Mr Brodrick yn .N h y Cyffredin nos Lun, ar ei byddin hi y dybynir yn awr am waredigaeth y llysgenadon, os yn fyw, o Pekin, a gwastrodi y terfysg yn China. Nid camp dibwys fydd hyny ond yn ol y newyddion ddydd Mawrth, y mae hi wedi dechreu arno eisoes yn awchus, gan daflu, gyda iddi dderbyn y caniatad, fyddin o 13,000 tros y culfor sydd yn ysgar rhyng. ddi a thir y gelyn. I deimladau goreu y natur ddynol ddiwylliedig, ymddengys trefniant fel hyn yn oer a haiarnaidd canys nid yw amgen na gollwng un genedl lawn o gasineb a dial ar genedl gymydogol, sydd eisoes yn mhangfeydd ymddatodiad gwrthryfel- oedd a phob math o annghaffael cym- deithasol a gwladwriaethol. Ond nid yw'n hawdd canfod beth arall ellid wneud tan yr amgylchiadau. Rhaid gwneud rhywbeth ac nis gall yr un o'r galluoedd eraill wneud dim ar ei ben ei hun heb gynyrchu eiddigedd yn y lleill, hyd yn nod pe byddai ganddynt fyddin i'r perwyl, yr hyn nid oes gan un ohonynt beth bynag, canys anhawdd chwythu tan â. blawd yn ngenau." Ni fedr Prydain Fawr, er cy- maint ydyw,hebgor yn ebrwyddfyddin fawr i arbed bywydau ei llysgenhadon a'r cen- hadon Cristionogol yn China, tra y mae dau can mil o'i milwyr dewraf a'i chad- fridogion medrusaf, yn amddiffyn budd- ianau mamoniaid yn Neheubarth Affrica. Am sefyllfa ddifrifol China, a'r bwn- glerwch ar du y Galluoedd Ewropeaidd, nis gellir cael gwell esboniad na'r araith a draddododd y Parch Hopkin Rees, cen- hadwr a dreuliodd flynyddau lawer yn China, yn nghyfarfod yr Undeb Cynull. eidfaol Cymreig yn Mhorthmadog yr wythnos ddiweddaf. Dywedai Nip oedd yr helynt a dorodd allan yn China mewn bod pan adawodd ef y wlad hono yn mis Mai. Gellir gofyn beth oedd yr achos ohono ? Heb betrusder, dywedai yn groew mai canlyniad uniongyrchol an- noethineb cynrychiolwyr y Galluoedd Ewropeaidd yn y lie ydoedd. Yr oedd y Llyngeswyr yn gyfrifol, nid am yr belbul ar ran y Boxers, ond am yru r fyddin Chineaidd trosodd atynt. Beth ddy- wedid yn y wlad hon pe buasai gallu tramor yn gyru cadlongau lfynu'r Tafwys, agorchymyn i'r gwarchodlu Prydeinig fyn do r gaer sy'n gwarchod Llundain, fel y gorchymynodd llyngeswyr Ewrob gyda'r Chineaid yu Taku Gwarchodid y caerfaydd hyn gan filwyr China, a chanlymad naturiol y gorchymyn brwntoedd eu gyru trosodd at y Boxers-gelynion pob estroniaid. Dywedai ef fwy na hyn-mai Syr Claud Macdonald ei hun sy n gyfrifol am yr agwedd fvgythiol a gymerir ?an j0xe!r?' ? rhoddayai ef ei droed 'i lawr pan y Prydemiaid yn Hvdref diweddaf. gallesid lluddias y gwrthryfel yn ei fabandod. Ond caniata- wyd 1 r cenadon gael eu herlid, heb i'r llysgenadon wneud dim IW hamddiffyn, a'r canlyniad fu i'r Boxers ymhyfhau, ac ymosod yn nesaf ar y diplomat- wyr a'r m arsiandwyr a phan welwyd eu bod hwy a'u heiddo mewn perygl, dechreuodd y Ilysgenadon ym- ysgwyd, ond yr oedd yn rhy hwyr. Dyna hi eto. Bwnglerwch, trawsder, balchder, y swyddogion yn arwain gwled. ydd i gamddeall a chamfarnu eu gilydd, ac i dywallt gwaed y naill a'r llall. Felly y bu hi gyda dwy Weriniaeth fach flodeuog y Dalaeth Rydd a'r Transvaal; dyna'r fel, mae'n hawdd gwel'd, yn Coomassie; ac nid ydyw yr helbul yn China yn eithriad. Oni ddylid sefydlu llys cyd-genedlaethol i brofi, ac i grogi os bydd raid, y drwg- weithredwyr swyddogol sydd yn gyru gwledydd benben a'u gilydd heb raid nac achos ? --0-- Ddydd Mawrth, bu farw Thomas Jones, llafurwr, Johnstown, mewn canlyniad i niweidiau a dderbyn- iodd yn ngwaith clai yr Hafod y diwrnod cynt.
OWHI Y BYD.
OWHI Y BYD. Afalau Canada. YCHYDIG oddiallan i'r fasnach a wyr fod Canada yn danfon toraeth o afalau croyw neu ffresh i'r wlad hon naw mis o'r flwyddyn; ac yn y dyfodol, deallwn y gwneir trefniadau ar gyfer eu danfon y tri mis arall. A phan ystyrier y pellder, mae'n syndod y gellir eu prynn yma mor rhad. 0 ran bias a ehymh wysderau coginol, y maent bron cyatal ag unrhyw afalau sydd yn y wlad hon. Esgealusir y gwaith o gynyrchu y ffrwyth- au hyn, fel yn wir ffrwythau eraill y berllan, yn alarcs gan Brydeiniaid. Ambell un mewn ambell ardal syid yn yatyried fod yn rhaid i goed afalau ac eraill wrth wrtaith ar eu gwreidd- iau ac ysgythru a thocio eu cangau. Planir pren ieuanc yn rbywle heb gymaint achwilio os yw gweryd y llecyn yn gymhwya ai peidio, ac yna gadewir iddo gymeryd ei siawns-os daw arno ffrwyth, da os na ddaw, dim llawer o bwys. Nid felly yr oedd ein tadau haner canrif yn 01. Cymerent hwy gymaint dyddordeb yn eu hafalau fel yr oedd ganddynt enwau arnynt, megys y Mersol, Per y Gwenyn, Pig y Glomen, &c.; a theimlent cyn falched o berllan ffrwyth- lawn a'r ffarmwr o'i ychain neu ei ddefaid cigog. Y tyddynwyr a'r bythynwyr wedi colli dyddor- deb a phleser yn eu gerddi a'u perllanau, ydyw un achoa, ac nid achos dibwys ychwaith, fod y wlad yn mynei yn rhy wag o drigolion a'r trefi yn rhy lawn. Pe fel arall, ni fyddai cymaint o alw am afalau o Canada, mwy nag y byddem yn dibynu cymaint am ein porthiant ar wledydd tramor.
Haf anwadal
Haf anwadal MAE llawer blwyddyn er pan gawsom fis Mehefin mor wlyb y ddau haf diweddaf, modfedd o wlaw a ddisgynodd yn Mehefin, tra y cafwyd eleni ddwy fodfedd a haner. Gogledd Iwerdd- on gafodd fwyaf ohono, lie y gwlawiodd 3t mod- fedd mewn un wythnos. Anwadal iawn a fu'r tymheredd yn ystod Mehefin. Ar y laf, nid oedd y gwres ond 53 o raddau ar yr lleg, yr oedd yn 89 gradd-yr uwchaf mor gynar ar y flwyddyn er 1841. Dengys y mesur/dd ein bod ar y blaen o haner modfedd ar gyfartaledd y blynyddau diweddaf gyda'r gwlaw yn chwe' mis cyntaf y flwyddyn, a thua chant o oriau ar ol gyda'r tywyniad haul.
Gwendid Synwyr Canol Oed.
Gwendid Synwyr Canol Oed. GEILW gohebydd yn arwyddo ei enw George Darbs, M.D., aylw yn y Spectator atoedran gyr- iedydd y peiriant a barodd y ddamwain ddifrif- ol ar y reilffordd yn Slough ychydig wythnosau yn ol. Yr oedran hwnw oedd 59, medd Dr. Darba a thyn y caagliad oddiwrth hyny na ddylai yr un tren cyflym gael ei ymddiried i beirianydd uwchlaw 55 oed. Paham, yn enw pob rheswm ? meddai rbywun. Gwrandawed y cyfryw ar eirlau cyfieithiedig y meddyg el hun YN fy nhyb ostyngedig i, ni ddylai yr un dyn tros ei 55 oed gael gyru tren cyflym, am y rbeswm fod cof dynion am rhyw saith mlynedd neillduol o'u hoes yn wallus, pryd na feddant y gallu i sylwi nac i synied yn briodol. Clywais un o feddygon enwog Llundain yn dweyd y byddai ef pan rhwng yr oedran o 55 a 62 yn annghofio mewn munyd ae am y funud yr hyn oedd o flaen ei lygaid.. Nid oes dadl fod dyn, llawer o ddynion, ond nid pawb, yn annghofus ac yn gymyaglyd a chymylog ei feddwl yn fynych ei iau fyddai amlaf yn cael ei beio am hyny ond fe ryfedda lluaws at Dr. Darba yn nodi yr uchod fel yr yapaid mwyaf gwallgof ar fywyd dyn. Ami y sonir am yr ieuanc diofal a difeddwl, ac am yr hen hurt, ond bydd yn newydd iddynt glywed am "wendid synwyr canol oed." Onid gwell fyddai cydnabod ar unwaith mai rhyw greadur- iaid digon gwirion ydym i gyd ar hyd yr oes ar y goreu. Tybed nad yw profiad y mwyafrif o bobl yn gwbl wahanol i Dr. Darbs, ac mai'r adeg fwyaf addfed a grymus ar feddwl dyn, beth bynag, ydyw'r oedran a eilw'r Doctor yn oedran ei wendid."
Mr Stanley Leighton, A.S.
Mr Stanley Leighton, A.S. HEN gocosyn iawn o Dori hen ffashiwn, nobl, didrugaredd, anwybodas, ac yn sicr mai fa sy'n iawn ar bobpeth, ydyw Mr Stanley Laighton. Gan fod Croesoswallt yn ei etholaeth, y mae amryw Gymry yn mysg el etholwyr; ae nid oes amheuaeth nad yw'r ben bryfyn rhodresgar o ddirodres yn yatyried el hun yn rbyw fath o aelod Cymreig, canys fe sieryd ya dalog ac awdurdodol ar bob mater Cymreig a ddaw ger- bron y Senedd, a phob amser yn erbyn y Cymry a'u gofynion, ond mor dadol a fi sy'n gwybod, nid chwi, megys, fel mal hawddaeh gwenu arno na digio wrtho. Acun o'i ragoriaethau penaf fel gwrthwyneb- ydd ydyw ei chwanogrwydd i ddweyd yr hyn sydd yn sicr o niweidio ei ochr ei hun. Mae ei anerchion bob amser yn gwneud mwy o les i'r blaid gyferbyn nag i'w blaid ei hun. Yr oedd ei ymfflamychiad mewn cynulliad o Urdd y Fri- allen yr wythnos ddiweddaf yn engraipht nod edig o byn. Cymharai orchfygiad y Boeriaid i orchfygiad y Cymry gan Torwerth yn y 13eg ganrif ae yr oedd y naill a'r Hall, yn ei dyb ef, wrth gwrs, yr un mor gyfiawn. Dyna, ellid meddwl, ddull effeithiol iawn i enyn cydym- deimlad o leiaf yn y Cymry a'r Boeriaid. Fa Prydain erioed, medd Mr Leighton, mewn rhyfel cyfiawnach na hwn, oddieithr hefo'r Cymry er's talwm. Fel yn y dyddian gynt, felly yn awr, cred Mr Leighton mai bwriad y gelyn ydoedd gwthio y Saeson i'r mor, ac fe all y sawl a greda hyny, yn enwedig am y gelyn presenol, gredn unpeth ar wyneb daear, Wrth gwrs, mae dynion drwg anwladgar yn gweled bai ar "Englishman," chwedl ein doethawr, am fyn'd i ryfel ond beian nhw, drychwc'h ar gyflwr dirywiedig y blaid Ryddfrydol anonest, a drychwch hefyd ar deyrngarwch besbgvn y Colonies yn rhuthro I wasanaethu y famwlad.