Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Y RHYFEL.

Ymladd yn Nhrefedigaeth Orange.

-0--CHINA.

-0--Nodion o Fon

News
Cite
Share

-0-- Nodion o Fon YR wythnosau hyn y mae gwahanol enwadau y sir yn cadw eu huchelwyliau blynyddol. Man cyfarfod y Bedyddwyr ydoedd Llangefni, lie y daeth tyrfa- oedd lluosog yn nghyd, ac y mwynhawyd gweini- dogaeth rhai o gewri yr enwad. Y mae achos y Bedyddwyr mewn gwedd lewyrchus iawn. Bu symud o'r hen gapel (Cildwrn), lie y bu yr anfarw- ol Christmas Evans yn weinidog, a'r hwn sydd tua haner milldir o'r dref, i'r capel newydd sydd mewn llanerch ddymunol yn agos i orsaf y reilffordd, ac yn swn murmuron afon Cefni, o fantais fawr i'r eg lwys. Mae y gweinidog llafurus—y Parch T. Frimstone-yn ymddaugos yn llwyddianus a chys- urus iawn yn mysg pobl ei ofal. Yr wythnos ddiweddaf ymgynullodd Annibyn- wyr y sir i Lanerchymedd, tref henafol ac enwog iawn sydd wedi enill iddi ei hun er's hlynyddau yr enw Athen Mon. Y mae rhai o gewri y pwlpud Cymreig wedi codi yn y dreflan hon, ac yma y gor- phwys rhai o weinidogion mwyaf adnabyddus y ganrif oddiwrth eu llafur." Nid oedd Cymanfa yr Annibynwyr mor lluosog ag arfer eleni, a diau mai gerwinder y tywydd oedd yn cyfrif am hyny. Yr oedd y pregethwyr oil yn mysg hoelion wyth yr enwad drwy Dde a Gog- ledd, sef y Parchn R Reea, Alltwen T Stephens, Wellingborough; Elfed; T Nicholson; ac 0 L Roberts, Lerpwl. Mae y ddau olaf yn rhai a fag- wyd ac a godwyd yn yr Ynys, ac erbyn hyn wedi dringo i enwogrwydd mawr fel pregethwyr ac ar- eithwyr. Pfegethai y ddau gyda'u gilydd yn nghap- el yr Annibynwyr y noson olaf, ac ni anughofir yn fuan y pregethau grymus a draddodwyd ganddynt. Teimlai pob Monwyson yn falch fod yr hen sir wedi magu pregethwyr mor arddarchog. Yr oedd Elfed, fel arfer, yn dlws a barddonol a Rees, Alltwen, vn rymus ac effeithiol. Gobeithio y bydd i'r Gy- inanfa adael dylanwad er daioni yn y sir yn gyffred- I inol. I ¡ Mae tipyn o annghydfod wedi ei achosi yn mhen- tret tawel Llantachraeth oherwydd y rhialtwch mawr a fu yno yn ddiweddar i ddathlu cwymp Pre- toria. Treuliwyd prydnawn i wledda yn yr Ysgol- dy, a chyualiwyd mibilgampau ar raddfa eang mewn maes cyfagos. Gorymdeithiwyd gyda fflam- dorchau yn yr hwyr drwy yr heolydd, ac ni bu ter- fyn ar y miri hyd haner nos. Dywedir fod y gweitbrediadau yn cael eu noddi gan reithor y plwy a gweinidogion a blaenoriaid y gwahanol gapeli. Mae rhai o'r ardalwyr wedi ysgrifeau i'r wasg i'w condemnio yn llym, a siaradodd un diacon y nos Sul dilynol yn gryf yn erbyn y rhai perthynol i'r achos yn y lie oedd wedi cymeryd rhan arnlwg yn yr helynt. Ofnwn y bydd i effeithiau annymunol ddilyn y rhialtwch, gan fod teimladau cynhyrfus wedi codi yn mysg trigolion y pentref. Mae y tywydd yr wythnos hon wedi bod yn hy- nod ansefydlog—y ffarmwyr yn diolch am y gwlaw. ond perchenogion tai gyda glanau y mor yn edrych yu brudd ar y ffurfafen ddu bygddu uwchben." Er hyny, y mae ymwelwyr yn dylifo i'r wlad, ac amryw o dai tua Rhosneigr ac Ynys Cybi wedi eu Ilenwi yn barod. Yn y tren y dydd o'r blaen yr oedd dau fon- eddwr yn cael hwyl ar ganmol glanfa newydd Col- wyn Bay, pryd y sylwodd gwladwr dirodres, Be 'dach chi'n son am biars Llandudno, Rhyl a Cholwyn Ray ? Nid oes yr un ohonynt i'w cymharu a mor- fur Caergybi. Gellwch gerdded am yn agos i ddwy filldir i ganol y mor ar hyd y mor-fur, a chadernid o dan eich traed, a hyny yn rhad ac am ddim." Wrth son am y mor-fur, mae englyn go- didog y Parch Nicholson Jones yn dyfod yn fyw i'm cof:— Braich estynol mewa brochus donau,-ddeil Ar nos ddu ei golau Celf ddyd glyd noddfa glau—o'i dwndwr, Fan yma i longwr fo'n ymyl angau, Monfab. --0-

Eisteddfod Cenedlaethol 1900.

0 Marchnadoedd.

Advertising

Cyrddau y Dyfodol, &o.

----,--u--Usoi.

Family Notices

MR JOHN VAUGHAN o Nannau.

Advertising

Family Notices

Advertising