Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Gohobiaethau.

News
Cite
Share

Gohobiaethau. GWARTHUS! GWARTHUS SYR,-Nid yw eagealasdod gwarthus yr awdardodau milwrol yn Neheu Affrica o'n claf a/n clwyfus yn myn'd yn llai wrth ei drafod. J'r gwrthwyneb, chwanegodd amddiffyniad muagrell y Llywodraeth nos Wener yn ngwyneb y cyhuddiadau difrifol a ddygid i'w herbyn, yr AChoa yn waeth nag o'r blaen. Eu prif esgusawd ydoedd fod y gelynion wedi dryllio y reilffyrdd fel nas gellid cludo meddygon a moddion madd ygol i iiniaru poenau y trueiniaid a ddirdynid gan y poenau mwyaf, ac a adewid i ymgreinio tan eu clefydon a'u clwyfau am wythnosau. Buasai unrhyw adyn creulon yn y wiai hon a ymddygasai tuag at aoifaii fel y gwnaeth yr awdurdodau hyn tuag at eu cyd-ddynion, yn cael eu carchara am giealondeb at greaduriaid direswm. Ar bwnc yr anhawsder gyda'r reil- ffyrdd, dy wad y Times i "fyddin Prydaiu gyr- haeid Bloemfontein, Mawrth 13, ac yr oedd trenau ddigon yü rhedeg rbwng y dref hono a Cape Town erbyn Mawrth 19, acya mhen pump neu chwech wythnos wedi hyny, sef yn niwedd Ebrill a dechreu Mai, y gwelodd Mr Burdett- rCoutts y golygfeydd erchyll yn y maes ger Bloemfontein." Yn ei araith o esgusodioa nos Wener, dywedai Mr Wyndham fod yn rhaid iddynt gael bob dydd fit o dunelli o adnoddau rhyfel. Buasai pum' tunell o foddion meddygol yn ddigonol i ddiwallu anghenion yr yabyttai ,ond fel y sylwai Mr Lloyd Geerge, yr oedd y rheolwyr milwrol ar gymaint brya i gyrhaedd y Transvaal, fel na allent hebgor un trea bychan mewn chweoh wythnos i liniaru doluriau y cleifion anffodus. Arferai Bonaparte aaefchu ei glwyfedigion i'w rhyddhau o'u poenau onid oedd y creulonddyn hwnw yn fwy trugarog na'r ellyllon diofal a oddefent i'w cyd-wladwyr ddi hoeni am wythnoaau ar draws eu gilydd fel Uygod ffreinig mewn sach, a marw pryd y deuai angau tosturiol i'w gwaredu o'u dirdyniadau. Mewn difrif, beth mae Prydain Fawr yn feddwl ohonieihun? Bath mae'r Oristionogion rhy- f elgar Ilaoi;)g hyny sydd yn Marydain, ac wedi pleidio y rhyfel melldigedig a ffiiidd hwn o'i ddechreu diachos a direswm i'w bresenol creu- lawn, yn feddwl ohonynt eu hunain ac o'u proffea a'u crefydd ? Onid mwy dirag'rifch fyddai Iddynt gynull eu Baiblau a'u Teatamentau yn un goeScerth fawr, ac i fwg yr arogldarth eagyn 1 ffroenau y Duw cyfiawn, a'r Hwn sydd ya eis- tedd ar ei ddeheulaw-yr Hwn ni wnaeth gam ac ni chaed twyll yn ei enau 1" Mor wahanol ydyw mwyafrif ei genhadon y dyddiau hyn i'r Addfwyn ei Han! Mor ryieddol o dawedog ydynt Sut y mae ganddynt y gwyneb i gymer yd eu testyn o'r Ysgrythyr LAn, sydd tuhwnt i ddirnaiaeth. Llyfr o waith Moloch a Pharo a Nero fyddai gymhwysaf ar astell llawer pwipud yn Lloegr, ie a Chymru, fel y mae mwyaf cywil- yddus dweyd, y dyddiau hyn ac nid "Efengyl ein Harglwydd lesu Grist." Y mae genyf lawer o bethau eraill i'w dweyd, angenrheidiol eu dweyd, ac a ddywedaf eto gyda eich caniatad chwi ond rhag myn'd a gormod o'ch gofod, mi derfynaf y tro hwn. Crist neu Jingo, un o'r ddau nia gellir gwasanaethu Duw a Mammon. Y r eiddoch, EGLWYSWR.

GWRENG A BONHEDDIG.

--ù--Birkenhead.

Yr Yspyttai yn Neheudir Affrica.

-:0:-Undeb Anttibynwyr Cymru

I Oyffryn Clwydø

----Tan dychrynllyd yn New…

-0-,---Lfythyr Liunclain

CYMRU FYDD.

Y PARCH JOHN ELIAS HUG-HES.

UNDEB T CYMDEITHASATJ DIWTYLLIADOL.

Die Sion Dafydd I