Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

CYNWYSIAD:

PRIF WEINIDOG Y DYFODOL.

News
Cite
Share

PRIF WEINIDOG Y DYFODOL. Y MAE'N ddigon hysbys na fwriada Argl. wydd Salisbury, oherwydd llesgedd hen- aint, ymgymeryd a'r Brif Weinidogaeth yn y Senedd nesaf, a chaniatau mai ei blaid ef a ga fwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, yr hyn sydd yn dra thebygol. Beth fydd dedfryd y dyfodol arno fel Prif Weinidog nid yw yn hawdd penderfynu, ond ofnir mai anffafriol; canys fe wnaeth lawer o bethau na ddylasaai eu gwneuthur, ac ni wnaeth lawer o bethau y dylasai eu gwneuthur. Ond pwy fydd ei olynydd ydyw'r pwnc mawr sydd yn corddi medd- yliau lluaws yn bresenol. Dilynasid ef yn naturiol gan ei nai, Mr Balfour, arweinydd Ty y Cyffredin, a'r galluocaf, yn ddiamheu- ol, o'r Toriaid. Ond nid yw y boneddwr hwnw, er galluoced ydyw, agos mor bobl- ogaidd ag y gallesid disgwyl hyd yn nod yn mysg ei blaid ei hun. Cwynir ei fod yn ddiyni, yn ymarhous, mewn gair, nad ydyw yn ddigon ymosodol a Jingo- aidd. Tybia eraill mai llawer gwell Prif Weinidog a wnai Due Devonshire-mai efe, mewn enw o leiaf, ydyw arweinydd yr adran Undebol o'r Weinyddiaeth-ei fod yn wladweinydd pwyllog, mawrfrydig, ac o brofiad helaeth. Ond, o'r ochr arall, y mae, meddir, yn fwy diyni na Mr Balfour, ac ni fedd y ddegfed ran o'r hyn a elwir tact y boneddwr hwnw. Wedi enwi y ddau Seneddwr blaenllaw hyn, pwy sydd yn mysg y Blaid Undebol allai lanw y swydd er rhyw lun o foddlon- rwydd i'r blaid hono, neu yn wir sydd yn ddigon uchelfryd i feddwl am ei llenwi ? Oes, y mae un, a'i lygad yn ddisyfl ar y safle ddyrchafedig er's misoedd, os nid blynyddau, hawdd gweled ei osgo ati ac nid yw ei gyfeillion, nac yn wir ei elyn- ion-y mae iddo ddigonedd o'r ddau ryw- ogaeth-heb ddatgan hyny yn groew a chyhoeddus. Nid breuddwyd o'i eiddo ef ei hun na lluaws eraill ydyw'r syniad y mae y tufewn i derfynau y posibl a'r teb- ygol a bu llawer peth hynotach yn hanes Prif Weinidogaeth Prydain. A pha fath Brif Weinidog a wnai y Gwir Anrhyd. Joseph Chamberlain, tybed, canys ato ef y cyfeiriwn ? Am ei alluoedd nid oes nemawr o ddadl y mae'n siaradwr rhwydd, ac yn ddadleuwr craff a meistrol- gar, er nas gellir ei alw yn areithydd (orator), fel ei gyd gynrychiolydd John Bright, neu ei gyd swyddog Gladstone, neu y disglaer Beaconsfield, i'r hwn y tebyga fwyaf yn ei fuchedd ddringol o sefyllfa gymharol isel i reng flaenaf gwlad- weinwyr ei oes a'i ymwthiad yn mlaen er gwaethaf anfanteision a gwrthwynebiadau dirif. Y mae ei areithiau yn ddiffygiol yn y swyn a'r prydfcrthwch rhetoric a nod- weddai y tri seneddwr enwog a nodwyd ac y bu ganddo gysylltiad agos a. hwy yn gynarach ar ei oes. Gall ddadleu cwestiwn mor ddeheuig a chyfrwys a threfnu ei ffeithiau cystal ag y gallent hwythau ond yr oeddynt hwy yn ddynion mawr, ac o'r holl ansoddeiriau, da a drwg, a gymhwysir at Mr Chamberlain, ni chlywsom eto ei alw yn ddyn mawr. Yr oedd yn ddeugain oed yn 1876, pan groesodd gyntaf riniog Ty'r Cyffredin, ac y naae'n syndod iddo ragori cymaint fel Seneddwr wedi treulio haner ei oes hefo masnach. Ond dringodd yn gyflym yn ffafr ei blaid a'i harweinydd, a chyrhaedd- odd y swyddau o Lywydd Bwrdd Masnach a Bwrdd Llywodraeth Leol. Gallesid meddwl y gwnaethai hyn burion nod i uchelfrydedd y glewaf ei falchder ac nid ydym yn amheu nad doethineb ynddo yntau yn y pen draw fuasai peidio chwen- ychu dimifuweh. Llanwodd y swyddau hyny yn barchus, ond yr un yr ymgymerodd a. hi wed'yn, am na chafodd yr hyfforddiant gofynol ati yn gynar ar ei oes, yn dra diffyg- iol. Mae'n rhaid i'r gwladweinydd llwydd- ianus wrth addysg a hyfforddiant yn ei ieu- enctyd cystal a'r crefftwr medrus a llwydd- ianus. Amlygodd Mr Chamberlain ei ddiff- ygobrif nod angen y diplomat llwyddianus yn ei drafodaeth ar fater y Transvaal gy- maint felly, fel y creda miloedd y gallesid yn hawdd osgoi y rhyfel pe y drafodaeth yn nwylaw gwr cyfarwydd o'i ieuenctyd a'r gwaith a chael a chael fu hi wed'yn rhyngddo a thaflu'r deyrnas i gweryl allasai ddiweddu yn andwyol iawn gydag Awstralia. Er hyn oil, y mae'r wlad yn, credu yn Chamberlain, a'r wlad wedi'r cwbl sydd yn gwneud Prif Weinidogion. Nid yw hi yn canfod ei ffaeleddau, er fod ganddo amryw. Mae'n sicr nad yw wedi talu nemawr sylw i'w anwadalwch, a chwidredd trofaus ei fywyd cyhoeddus. Deg i un y meddylia lai ohono fel Tori rhonc yn awr am iddo ddechreu ei fywyd cyhoeddus fel gwerinwr eithafol na'i bod yn cofio am ei fabolgampau gorchestol pan yn Rhyddfryd- wr blaenllaw, ac y cefnogai Ymreolaeth i'r Iwerddon nes y cwympodd ma's gyda Phar- nell nac fel Dadgysylltwr yr Eglwys yn Nghymru nes y gwrthododd Rhyddfryd- wyr Cymru ddyfod i gytundeb ag ef ar y mater. Cof byr sydd gan y wlad fel rheol; a diau iddi annghofio yr addewid a wnaeth ei heulun yn 1895 am help i'r hen a'r meth- iantus Credir fod y seneddwr amlwg yn addaw gan dybied mai Rhyddfrydwr ydyw byth, ac yn cyflawni fel Tori. Diau mai colied ar y pryd oedd ymadawiad Mr. Chamberlain a'r Rhyddfrydwyr ond y maent erbyn hyn yn dechreu ymfoddloni i'r drefn, a theimlo na fydd eu colled hwy yn fawr o elw i'w gwrthwynebwyr, yn enwedig os byth y dyrchefir eu harwr yn Brif Weinidog.

-0-CWRS Y BYD.