Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
Goren An, ArlIJysg." Iesu na'd gamwaith." Duw a phob daioei." CTNBLIR EISTEDDFOD TEMLWYR DA LERPWL YN HOPE HALL, HOPE STREET, Dydd Mercher, Gwyl y Bane, Rhagfyr 26, 1900. PRIF DESTYNAU. AWDL Y GADAIR-Awdl (heb fod droB 400 0 lineIlau), "Yn gyfryw ag wyf 6, ond y rhwymau hyn (Actau xxvi 29). G-wobr, £ 2 2a a Chadair Dderw, gwerth £,1 4s. LIBRETTO I GANTAWD (CANTATA) DDIRWESTOL, cyfaddas i gerddoriaeth at wasanaeth Temlau'r Plant, G-obeithluoedd, &c Gwobr, £ 4 4s. PRIF DRAITHAWD—Traifchawd Beirniadol ar y Llyfr, "The Temparanc-e Question and Social Reform,' gan Rowntree a Bherwoll. Gwobr, £4 4s. TRAITH A WD (cyfyngedig i Ferched), "Ein chwaer syrthiedig." G wobr, Pl Is. PRIF GYSTADLEUAETH GORA WL-I'r Cdr o Feibion (heb fod dan 35 na throa 50 mewn nifer) a gano oreu Croesi'r Anial" (T Maldwyn Price). Gwobr laf, P,25, a Thlws Aur i'r Aiweinydd 2il, £ 5. [CHIEF CHORAL COMPETITION—not under 35 nor over 50 in number-for the b st rendering of "Crossing the Plain (T Maldwyn Price). First Prize, P,2,5 and a Guld Medil to the Conductor; Second Prize, £ 5.] GteHircaal vhsatr gyfliivn o'r Testynan ond aaloa ifmmp at LLE W WYiVXE, Ysirifenydd, AshSeM, 9 Westbourne f' T?oad, Bkkenhead, THE ROYAL NATIONAL EISTEDDFOD :'tk; ;OØ t: LIVERPOOL, SEPTEMBER 1900. THE OFFICIAL PIPRIIP is now in course of preparation, and Advertising Spaces may be secured on application to the Pub- lisher ISAAC FOULKES, 8 Paradise Street, Liverpool. The Liverpool Royal.National Eisteddfod c H 0 1 Grand Open Rehearsal at HE&GLEK'S CIRCUS, WEDNESDA. Y EVENING, JULY 4th, 1900. Doors open at 7. Commence at 7-45. Silver Collection will be made. ADMISSION FREE BY TICKET. Tickets can be obtained from Members of the Com- mittee, Members of the Choir, and the Secretary, Mr R. D. GLYN ROBERTS, 6, Eversley Street I yru yr hen wlad yn ei blaen. Goreu Arf. 11 Arf Dysg. Swyn Cenedl yw sain Canu." Eisteddfod Gadeiriol NEWMARKET, GWYL Y BANC, AW ST 6 id, 1900. PRIF DESTYlYAU. Corau Cymysg Worthy is the Lamb' (Handel). Corau Meibion Croesi'r Anial' (T Maldwyn Price). Corau Plant 'Clychau Aberdyfi' (Emlyn Evans). Ptdw&rawd Y Rhosyna.u' (E D Lloyd). Deuawdau, Unawdau, Her-Unawd, chwareu a chanu gyda'r delyn. Testyn y Gadair A gelwir ei enw Ef Rhyfeddol.' Prif Draithawd Rhyfel yn ngholeuni dysgeidiaeth y Testament Newydd.' Mae y pwyllgor wedi dewis Penfro i feirniadu y farddoniaeth yn lie y diweddar Machraeth Mon. Y cyfansoddiadau ac enwau yr ymgeiswyr ar y gwahanol destynau i fod mewnllaw erbyn Gorphenaf l4eg, 1900.- Ysgrifenyddion E. WYNNE, Bryn Terfyn, Newmarket. Rhudd- Ian R.S.O. T. C. ROGERS, Greenfield House, Dryserth, Rhyl VERPOOL & J^ORTfl WALES. REGULAR DAILY SAILINGS (Sundays included). P.S. ST. TUDNO OR ST. ELVIES, Leaving Prince's Stage at 10-45 a.m. daily for Llandudno, Beaumaris, Bangor, and Menai Bridge, due back at 7-30 p.m. Frequent Sea Excursions from Llandudno to Menai Straits, round Isle of Anglesea to Holyhead, Douglas, Blackpool, &e. For fares and all further particulars apply to any of the Company's Agents or to the LIVERPOOL AND NORTH WALES STEAMSHIP Co., LTD., T G BREW, Secretary, 20 WATER STREET. LIVERPOOL. Tel. No. &66. WALTHAM WATCHES are the best Timekeepers in the World. NONE SO ACCURATE NONE SO DURABLE. NONE SO CHEAP Piiee in Silver from 208 upwards „ in Rolled Gold „ 50s „ „ in lCct. Gold 0' 84s „ in 18ct Gold „ 98 „ SCHIERWATER & LLOYD, Special Retail Agents, 29 Church Street, Liverpool. Telephone No. 2339. Telegrams-Marquees ESTABLISHED HALF A CENTURY. HOWARD'S CART & WAGON SHEETS. Tarpaulins, Horse Clothing, Kose Bags. Tents, Marquees Temporary Awnings. TEMPORARY BALL-ROOMS Lighted, Decorated, Parquet Floor laid. 36, REDDROSS STREET, LIVERPOOL Writ or send far Quotations. GLOVES A SPECIALITY. The Most) Complete Stick of uvdi'33' au Ohildren Gloves in Liverpool MILES' PATENT SEAMLESS GLOVES, 3/ll £ per pair, made from the finest French skins. Endless variety of Rehable Makes of Kid and Suede Gloves for Ladies at 1/6, 1/11&, 2/6, and 2/11 per pair. Sbroag and Usefal English Lsather* ^Glove' for Girls, Boys, or Infants at 1/01, 116;, 'f.a.nd; I/lli per pair. TTENRY MILES & CO 25 and 25A, CHURCH STREET. (Opposite Pro Cathedral) LIVERPOOL. Y CYMRO: Danfonir UN cori yn ddidraul trwy y Post:— Am 12 mis, 5/6—Am 6 mis, 3/0 ) Am 3 mis, 1/8 Blaendal yn unig. -:0:- At Ein Cohebwyr. Dylai pob gohebiaeth reolaidd gyrhaedd iW Swyddfa cyn canol dydd Llun, neu ni ellir ei chyhoeddi yn y rhifyn canlvnol
CYNWYSIAD:
CYNWYSIAD: Prif Weinidog y dyfodol. Cymrnfa Gyffredinol y Methodistiaid. Eisteddfod Cerygydrudbn. Helynt China. Cymru Fydd Llundain. Y diweddar Dr Tom Jones.
PRIF WEINIDOG Y DYFODOL.
PRIF WEINIDOG Y DYFODOL. Y MAE'N ddigon hysbys na fwriada Argl. wydd Salisbury, oherwydd llesgedd hen- aint, ymgymeryd a'r Brif Weinidogaeth yn y Senedd nesaf, a chaniatau mai ei blaid ef a ga fwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, yr hyn sydd yn dra thebygol. Beth fydd dedfryd y dyfodol arno fel Prif Weinidog nid yw yn hawdd penderfynu, ond ofnir mai anffafriol; canys fe wnaeth lawer o bethau na ddylasaai eu gwneuthur, ac ni wnaeth lawer o bethau y dylasai eu gwneuthur. Ond pwy fydd ei olynydd ydyw'r pwnc mawr sydd yn corddi medd- yliau lluaws yn bresenol. Dilynasid ef yn naturiol gan ei nai, Mr Balfour, arweinydd Ty y Cyffredin, a'r galluocaf, yn ddiamheu- ol, o'r Toriaid. Ond nid yw y boneddwr hwnw, er galluoced ydyw, agos mor bobl- ogaidd ag y gallesid disgwyl hyd yn nod yn mysg ei blaid ei hun. Cwynir ei fod yn ddiyni, yn ymarhous, mewn gair, nad ydyw yn ddigon ymosodol a Jingo- aidd. Tybia eraill mai llawer gwell Prif Weinidog a wnai Due Devonshire-mai efe, mewn enw o leiaf, ydyw arweinydd yr adran Undebol o'r Weinyddiaeth-ei fod yn wladweinydd pwyllog, mawrfrydig, ac o brofiad helaeth. Ond, o'r ochr arall, y mae, meddir, yn fwy diyni na Mr Balfour, ac ni fedd y ddegfed ran o'r hyn a elwir tact y boneddwr hwnw. Wedi enwi y ddau Seneddwr blaenllaw hyn, pwy sydd yn mysg y Blaid Undebol allai lanw y swydd er rhyw lun o foddlon- rwydd i'r blaid hono, neu yn wir sydd yn ddigon uchelfryd i feddwl am ei llenwi ? Oes, y mae un, a'i lygad yn ddisyfl ar y safle ddyrchafedig er's misoedd, os nid blynyddau, hawdd gweled ei osgo ati ac nid yw ei gyfeillion, nac yn wir ei elyn- ion-y mae iddo ddigonedd o'r ddau ryw- ogaeth-heb ddatgan hyny yn groew a chyhoeddus. Nid breuddwyd o'i eiddo ef ei hun na lluaws eraill ydyw'r syniad y mae y tufewn i derfynau y posibl a'r teb- ygol a bu llawer peth hynotach yn hanes Prif Weinidogaeth Prydain. A pha fath Brif Weinidog a wnai y Gwir Anrhyd. Joseph Chamberlain, tybed, canys ato ef y cyfeiriwn ? Am ei alluoedd nid oes nemawr o ddadl y mae'n siaradwr rhwydd, ac yn ddadleuwr craff a meistrol- gar, er nas gellir ei alw yn areithydd (orator), fel ei gyd gynrychiolydd John Bright, neu ei gyd swyddog Gladstone, neu y disglaer Beaconsfield, i'r hwn y tebyga fwyaf yn ei fuchedd ddringol o sefyllfa gymharol isel i reng flaenaf gwlad- weinwyr ei oes a'i ymwthiad yn mlaen er gwaethaf anfanteision a gwrthwynebiadau dirif. Y mae ei areithiau yn ddiffygiol yn y swyn a'r prydfcrthwch rhetoric a nod- weddai y tri seneddwr enwog a nodwyd ac y bu ganddo gysylltiad agos a. hwy yn gynarach ar ei oes. Gall ddadleu cwestiwn mor ddeheuig a chyfrwys a threfnu ei ffeithiau cystal ag y gallent hwythau ond yr oeddynt hwy yn ddynion mawr, ac o'r holl ansoddeiriau, da a drwg, a gymhwysir at Mr Chamberlain, ni chlywsom eto ei alw yn ddyn mawr. Yr oedd yn ddeugain oed yn 1876, pan groesodd gyntaf riniog Ty'r Cyffredin, ac y naae'n syndod iddo ragori cymaint fel Seneddwr wedi treulio haner ei oes hefo masnach. Ond dringodd yn gyflym yn ffafr ei blaid a'i harweinydd, a chyrhaedd- odd y swyddau o Lywydd Bwrdd Masnach a Bwrdd Llywodraeth Leol. Gallesid meddwl y gwnaethai hyn burion nod i uchelfrydedd y glewaf ei falchder ac nid ydym yn amheu nad doethineb ynddo yntau yn y pen draw fuasai peidio chwen- ychu dimifuweh. Llanwodd y swyddau hyny yn barchus, ond yr un yr ymgymerodd a. hi wed'yn, am na chafodd yr hyfforddiant gofynol ati yn gynar ar ei oes, yn dra diffyg- iol. Mae'n rhaid i'r gwladweinydd llwydd- ianus wrth addysg a hyfforddiant yn ei ieu- enctyd cystal a'r crefftwr medrus a llwydd- ianus. Amlygodd Mr Chamberlain ei ddiff- ygobrif nod angen y diplomat llwyddianus yn ei drafodaeth ar fater y Transvaal gy- maint felly, fel y creda miloedd y gallesid yn hawdd osgoi y rhyfel pe y drafodaeth yn nwylaw gwr cyfarwydd o'i ieuenctyd a'r gwaith a chael a chael fu hi wed'yn rhyngddo a thaflu'r deyrnas i gweryl allasai ddiweddu yn andwyol iawn gydag Awstralia. Er hyn oil, y mae'r wlad yn, credu yn Chamberlain, a'r wlad wedi'r cwbl sydd yn gwneud Prif Weinidogion. Nid yw hi yn canfod ei ffaeleddau, er fod ganddo amryw. Mae'n sicr nad yw wedi talu nemawr sylw i'w anwadalwch, a chwidredd trofaus ei fywyd cyhoeddus. Deg i un y meddylia lai ohono fel Tori rhonc yn awr am iddo ddechreu ei fywyd cyhoeddus fel gwerinwr eithafol na'i bod yn cofio am ei fabolgampau gorchestol pan yn Rhyddfryd- wr blaenllaw, ac y cefnogai Ymreolaeth i'r Iwerddon nes y cwympodd ma's gyda Phar- nell nac fel Dadgysylltwr yr Eglwys yn Nghymru nes y gwrthododd Rhyddfryd- wyr Cymru ddyfod i gytundeb ag ef ar y mater. Cof byr sydd gan y wlad fel rheol; a diau iddi annghofio yr addewid a wnaeth ei heulun yn 1895 am help i'r hen a'r meth- iantus Credir fod y seneddwr amlwg yn addaw gan dybied mai Rhyddfrydwr ydyw byth, ac yn cyflawni fel Tori. Diau mai colied ar y pryd oedd ymadawiad Mr. Chamberlain a'r Rhyddfrydwyr ond y maent erbyn hyn yn dechreu ymfoddloni i'r drefn, a theimlo na fydd eu colled hwy yn fawr o elw i'w gwrthwynebwyr, yn enwedig os byth y dyrchefir eu harwr yn Brif Weinidog.
-0-CWRS Y BYD.
-0- CWRS Y BYD. China. PRIN ac ansicr ydyw'r newydd o China. Un pefch y gellir dybynu arno ydyw fod y wlad fawr boblog yn berwi gan wrthryfel, ac nid yw'n hawdd dweyd p'rnn yw'r Llywodraeth reolaidd a pha'r un y chwyldroadol. Y mae symudiadau Rwsia hefyd yn nghyran gogleddol China yn peri cryn ddrwgdybiaeth. Gyda byddin o tua 2,000 o filwyr tir a mor, wedi ei gwneud I fynu o amrywiol genedloedd ond y mwyafrif yn Bry- deiniaid, cychwynodd y Llyngesydd Seymour tua Phekin, y brifddinas, er mwyn amddiffyn a gwaredu bywydan, 08 nid yn rhy hwyr, y cen- hadon Cristionogol a'r llysgenhadon Ewropiaidd o'r enbydrwydd y maent ynddo. Pan yn ys- grifenu y geiriau hyn, ni chlywsom fod yr un gair wedi cyrhaedd Hong Kong beth fa llwydd nen aflwydd y llu bychan dewr. Y mae ein Llywodraeth mewn mwy o niwl am sefyllfa pethau yn China nag ydoedd ar ddechreuad rhyfel y Transvaal. -1 y Deillion a'u Lfyfrau- CERDDA gwybodaeth y deillion druain i'w syn- wyrau trwy flaenau eu bysedd yn lie trwy eu llygaid. Y maent yn bobl ddarllengar fel rheol; ond prin o angenrheidrwydd, gan y draul o'n cynyrchu, ydyw en llyfrau. Argrephir eu llyfrau ar bapyr trwehus, y llythyrenau wedi eu chwyddo gan yr hyn a elwir yn Braille type. Cynwysa Llyfrgelloedd Cyhoeddus ein prif drefi gryn nifer o'r math yma o lyfrau. Ceir yn Llyfrgell Birmingham 500 ohonynt, megys yr Ysgrythyrau, a gweithiau Shakespeare, Scott, Tennyson, Ruskin, a Browning; tra y mae 251 yn Llyfrgell Rydd Plymouth, ac o'r nifer hwnw benthyciwyd 226 y llynedd gan y deillion i'w darllen gartref. Yn Eisteddfod Prifadinas yr Ucheldir. ARWYDD o iechyd calon cenedl ydyw yr Eis- teddfodau lleol a gynelir mor ami yma ac acw yn Nghymru y dyddiau hyn ac eleni ymon- odd Ceryg am y tro cyntaf o ddifrif &'r symud- iad. Ac yn anad un man, ni ddylasai plwyf genedigol Edward Morris o'r Perthi Ltwydion, John Jones o'Lanyg rs, y B^rwn Prys, a Thal- iesin a Llew Hiraethog gadw ar ol; yn enwedig pan gofier mai Ceryg y Drudion ydyw Prif- ddinas yr Ucheidir, yn cynwys plwyfi Llanfi- hacgel Glyn Myfyr, Llangwm, Yspytty Ifan, a Phemtre Foelas—plwyfi y mae eu henwau yn adxiabyddas i Gymru oil ar gyfrif y gwyr o nod a anwyd ynddynt. Ycbydig fuasai yn gwybod am y Llanfihttngol hwu onibai am Owain Myvyr a'r gynysgaefch lenyddol a roes i'w genedl yn y Myvyrian Archaiology am Langwrn onibai mai yno y cartrefai yr hell brydydd a chyhoeddwr Huw Jones; nac am Bias lulyn a Phentse Foelas onibai mai dyna gartrtfi Tomas Prys, un o brif feirdd ei oes, a John Thomas, un o feirdd goreu ei oes yutau. Y mae'r pum' plwyf mynyddig heddyw cyn llawned o lengarwyr a iienoritm ag y buont erioed. Prawf o hyny ydyw i'r ddwy brif wobr lenyddol gael eu henill gau ddau frodor, sef y gadair gan fardd ieuanc gryturns o gorph a meddwl, a'r prif draithawd gan henafgwr gwybodus sydd wedi goroesi ei bedwar ugain mlwydd oed. Yn ddiau un o'r rbwystrau a gadwodd Ceryg y Drudion rhag cynal E steddfod ar raddfa eang ya mhell cyn hyn ydyw ei safle anhygyrch. Y dref agosaf iddo ydyw Corwen, ac y mae hitbau ddeng milldir oddiyno, yna daw'r Bala tua deu ddeng milldir, wed'yn Ruthyu bedair milldir ar ddeg, Llanrwst un milldir a1: bumtheg, a Diubych t ,i a'r un pellder. Ond ffordd ddrwg echrydus sydd yno o'r olaf, y mae Rhuthin a'r Bala yn well, ac Did oes well ffordd yn Ngbymru nag sydd oddiyno i Battws-y Coed a Chorwen, gan y saif Ceryg y Drudion ar ffordd fawr Telford o Gaergybi i Lundaic, ar hyd yr hon, cyn agor y reilffordd rhwng Caerlleon a Chaer- gybi, y dygid yn mlaen bron yr holl drafodaeth rhwng Lloegr a'r Iwerddon. Tua ugain mlynedd yn ol, bwriadwyd cael reilffordd o Ceryg i Ruthin, gwnaed darnau helaeth ohoni, a llinell werthfawr a rhamantus a fuasai; ond torodd y contractor, a thrwy ddiofaJwch pobl Rhuthin, aeth yr boll lafur yn ofer. Ond er mor anhygyrch y lie, earodd yr Uchel- dirwyr brawf ddydd Iau nad yw hyny yu rhwystr anorfod i gynulliad mawr. Yr oedd y Llan yn haner llawn o gerbydau o bob maint a lInn-rhai ohonynt o ddyffrynoedd Clwyd, Edeyrnion, Conwy, &e. Hwyrach fod y mwy- afrif o Gorwen a'r BaJa, ond yr oedd yno hefyd luaws o'r Bettws a Llanrwst, ac o D linbyeh a Rhuthin, heblaw ugeiniau o'r llanau a'r pentrefi cyfagos, a'r ffermwyr wedi penderfynu cadw gwyl. Y mae enw'r lie yn arwyddo hynafiaeth mawr, p'run bynag a ddylid ei sillebu yn Ceryg y Druidion, fel y gwneir yn gyffredin, nea y Drudion--y dewrion, fel y byddai fwyaf natur- iol na'r bastarddair arall, yr hwn nid yw na Cbymraeg na Saesneg. Lluosog ydyw'r tra- ddodiadau sydd ar lafar gwlad ac mewn llyfrau am y plwyf mynyddig. Yr oedd yno er's talwm rhyw gawr anferth o'r enw Cynwrig Rwtb, a dywedir y safai ei garchar ychydig islaw y Llan, yn yr un cae ag y cynelid yr Eisteddfod eleni, a lie y mae hen chwarel geryg yn awr. Mair Magdalen ydyw sant gwarcheidiol Ceryg y Dradion, ac y mae Ffynon Fair gerliaw y Llan, dyfroedd yr hon a ddeinyddir i fedyddio, ac oeddynt yn dda at weila ffitiau pan oedd mwy o bobl yn cael ffifc na gormod fel yn yr oes hon. Lie iawn am Eisteddfod ydyw Ceryg, ac fe'i cafwyd. Yr oedd ol doethineb ymarferol ar holl waith y pwyllgor. Ffodus tros ben ydoedd caelllywydd mor Gymroaidd, llengar, a rhwydd- galon a'r Milwriad Malnwaring, blaguryn o lwyth ucheldras y Salisbriaid. Y mae efe wedi I codi palas gwych, neu yn bytrach wedi ail adeiladu hen balas Bwlch y Beudy, ar fryncyn teg tua haner milldir o'r Llan, ac yno y treulii y rhan fwyaf o'r flwyddyn, yn gyrnydogol, car iadus, a mawr ei barch, yn ngbanol ei denant- iaid a'i gymydogion. Ac yr oedd aelodau eraill y pwyllgor-megys wedi eu tori at eu gwaith, heb i ni eu henwi rhag pecbu, oddieithr y lienor a'r bardd, Tom Owen o Hafod Elwy, cadeirydd y pwyllgor. Yr oeddynt wedi. darpar pabell helaeth, yr hon a lanwyd yn y tri chyfarfod I ac ni ddaeth neb i mewn yn afreolaidd ac heb dalu, ond cawod drom o wlaw yn nghyfarfod y prydnawn. Cafwyd cystadleuon uwchlaw y cyfartaledd ac na ryfedder os gwelir ar ol enwau amryw o'r buddugolion o hyn allan, Prize winner at Geryg y Drudion Eisteddfod, 1900 "—yn Saesneg yr ymogoneddir y dyddiau hyn. Anhawdd fuasai gwella ar y dull y cynaliwyd Eisteddfod gyntaf Ceryg. Talodd am dani ei hun, ac ychydig tros ben ar gyfer y nesaf. Di weddwyd cyfarfod yr hwyr cyn iddi dywyllu ond rbedodd y ddau gyfarfod arall i'w olynydd. Yr oedd beirniadaethau Emlyn Evans ar y cerddorion braidd yn faith weifchiau, ond nid ydym yn ei felo gan eu bod yn ddyddorol fel arfer, a chaent wrandawiad astud. Y Gof Ffraeth. MAE rhai o ddywediadau ysrnala Gof Clawdd Newydd wedi eu croniclo flynyddau yn ol yn y Cymro gan y Gwreichionydd. Gelwais gydag ef yn yr efail ar fy ffordd gan ddweyd mor ryf- edd oedd gweled dyn o'i gyrhaeddiadau ef yn gweithio tra Eisteddfod yn cael ei chynal o fewn deng milldir iddo—yn wir, dim gwerth ond Mynydd Hiraethog rhyngddo â. hi. 4t Ydech chi am i mentro hi 1" ebe dyn yr eingion, gan edrych yn ei ddull sobraf. "Ydech chi'n meddwl fod gynoch chi ddigon o Sasneg ar gyfer Steddfod Cerig y Drudion, deydwch 1" Yr oedd genyf. Traddododd y llywyddion, y Milwriad Mainwaring araith fer bwrpasol yii Gymraeg ac yr oedd Cymraeg Mr Herbert Roberts yn rhagorol, heb air o Saesneg. Sai.