Hide Articles List

6 articles on this Page

Coiotn llirweat

--0-Dyffryn Giwjfd,

IFfestiniog.

News
Cite
Share

Ffestiniog. CTERES 0 GYMANFAOEDD CANU. Mae yr awelon yn llawn o sain can a moliatit va yr ardal hon er's wythnosau bellach, ac yn profi yn eglur yr afael gref sydd gan gerddoriaeth ar ysbryd ein cenedl ni Dylaswn fod wedi crrbwyll am rai o'r Cymanfaoedd hyu o'r bla^n oud gvretl hwjr na hwyrach. Cymanfa GANU METHODISTIAID Y LLAN. Cynaliwyd yr iichod yn nghapel Peuiel. LIy. wyddwyd gan y Parch Owen Ellis, LlaDuwcWlm, ac arweiniwyd y cann gan Mr D. Jenkins,Mus. Bac. Aberystwyth. Cafwyd Cymatifa rhagorol; yr oedd rhai o r touau yn hynod o effeithiol, a'r Salm-donau yn llifo mor esmwyth ag afonydd araf drvry ddol- diroedd llyfnioll. Gwych oedd y datganiad o'r ddwy anthem hefyd Coron Cyfiawnder "(Jenkins), a "Cydgeuwch i'r ArghTydd" (Tom Price) Gwnaeth yr arweinydd lawer o sylwadau buddiol ac adeiladol ar farddoniaeth a duvrinyddiaeth yr emynau, a chanodd gan gysegredig o'i eiddo yn ughyfarfod yr hwyr. Cymaufa ragorol oedd hon, a hawlia pobl y Llan ganmoliaeth arbenig am eu ffyddlondeb yn y cjfeiriad hwn. Cymanfa Gebddorol Y Y/eslbtatd. Cynaliwyd hon yn y Blaenau, yn oghapel Jerusalem (A.), dydd Clun wrthnos i'r diweddaf Yr arweinydd ydoedd Mr R. Wilfrid Jones, R AM. Hyd yr ydym yn eofio. dyma ei yraddtwigosiad cyntaf yn ein plith yn y cymeriad o arweinydd Cymanfaol. Yn ddiddadl mae Wilfrid yn gynllun o arvreinydd a gofala beidio siarad ond pan fydd g&nddo rywbeth i'w ddweyd—gallasai ddweyd hvrnw yn fwy hyglrw. Taflai vsbrydiaeth i'r canu, ac yr oedd ambell ddolef gynhyrfns o'i eiddo yn ein had- goffa am y diweddar Stephen Tanymarian. Yu nghyfarfod yr hwyr, yr oedd y capel helaeth dan ei sang, a'r tonau ar anthema.u yn myn'd yn rhigorol. Buasai geiriau mwy adnabyddus, a m wv o wlith arnynt yn fwy derbyniol iawer tro. Wrth feddwl mor eaug yw Cylchdaith Porthmadoc. ac nad oedd y cantorion wedi cael cyfle i gydgann o'r blaen ar y tonau hyn, yr oedd eu hunoiiaeth a'u cydsym- udiadau yn destyn syndod. Cafwyd auerchiadau gan Mri Cadwaladr Roberts, E. Ffestiu Jones ac amrvw eraill. CYMANFA GANU YR ANNIBYNWYR. Cynaliwyd hon yn Jerusalem navrn a nos Sadwrn diweddaf. Yr arweinydd ydoedd Mr T. Glyndwr Richards, Mountain Ash. Bu Mr Richards yma o'r blaen a rhoddodd gyfrif da ohono ei hun a gwydd- om fod ei glod fel arweinydd corawl ledled y wlad. Anhyfryd genym fynegi na chawsom fod yn bresenol er cymaiut eiu hawydd. Deallwn fyd yno ganu da. Ond y cintorion diwylhedig yn unig oedd yn canu, am y rheswm meddai Mr Richards fod y tonau yn rhai newydd a dieithr i gyd. Dylasai y rhai yr oedd yn perthyn iddynt ofalu am rai tonau y gall- asai yr holl gynulleidfa yruuuo ynddynt, er mwyn sicrhau tipyn o frwdfrydedd. Yr oedd cerddorfa yu perthyn i'r Gymanfa hon, a hwyrach mae dyma ei phrif neillduoIrwydd Yr oedd yr offerynau lliu- ynol yn seinber a melodaidd meddai cyfaiil wrthyf, ond naw dwbl wfffc i'r cyrn hyrddod angherddorol oedi yno. LLWYDD. Parhau i Iwyddo mae ein cyfeillion cerddorol o hyd. Dydd lau diweddaf aeth nifer dda ohonynt dros fryn a phant i Eisteddfod Cerrigydruidion. Cor meibiou oddiyma dan arweiniad Mr R. Edmunds, Brynbowydd, enillasent X8, a Chwpan Arian, yno am ddatganu Y Milwyr Rhufeinig." Gutyn Eifion a'i briod a Mr R. Brotheu Jones, enillasent bron bobpeth arall yn yr adran gerddorol. Cafodd Gutyn ZI a Thlws y Tafod Arian, am yr her-unawd felly mae ganddo bellach dafod aur a thafod arian at ei wasanaeth. Yn mro Gutyn yn ol rhai, Rhiwddolion yn ol eraill, bu Mr E. Ffestin Jones, Miss A. E. Owen a Bryfdir, yn gwasanaethu nawn Sadwrn diweddaf. Dyma rai o'r buddugwyr:—Unawd Soprano, Mrs Grace Hughes, Bettwsycoed Baritone, Mr H. E. Owen, Capel Curig Tenor, Mr H. O. Hughes, Llan. Adrodd, Y Milwr Prydeinig," Mr R. Jones, Hafodlas, Bettws. Her-unawd, Nazareth," Mr Hugh Roberts, Blaenau Ffestiniog. Cyfarfod dyddorol oedd hwn, ar uwchaf y mynydd chwedl Ffestinfab LLA WENTDD. Llawenydd i ganoedd ynyr ardal hon oedd deall fod y Parch J.J. Roberts (Iolo Caernarfon) wedi ei ddewis yn llywydd Cymanfa Gyffredinol y Methodistiaid a llawenydd mwy oedd dealt ei fod i anerch cyfarfod yn yr ardal hon, dan nawdd Cynghrair yr Eglwysi Rhyddion, nos Fercher, y 27ain cyfisol. Bu y cyfundeb parchus y perthyna iddo, a'r geaedl a gar ei holl galon, yn dra ymarhous i gydnabod teilyngdod ygwrmawr ond ymddengys fod y naill a'r llall erbyn hyn yn ceisio gwneud iawn am eu dilynwch. TRISTWCH. Trist iawn yw cofnodi marwolaeth bachgen 15eg mlwydd oed. Dyma sydd genym i'w wneud yn hanes John Griffith Davies, anwyl blentyn Mr a Mrs G. G. Davies, Glanypwll Villa. Nid oedd raid iddo ef fel llawer farw i sicrhau clod. Fel yr lesu pan y fachgen, yr oedd ei gynydd yn amlwg, ac enillai lfafr gyda Duw a dynion. Drwy holl gylch ei adnabyddiaeth, nid oedd ond un syniad am dano, a hwnw oedd, ei fod ya ddiau yn dlws i'r Arglwydd. Cafodd gystudd maith, ond ni rwg- nachodd, a chafodd bob cymhorth i wella allai 11aw o guaNTd estyn iddo. Gorphwysed y dywarchen yn ysgafn ar dy fynwes Johnny bach. MANION. Wrth daflu dwr oer ar ben rhyw frawd, mae un o gerddorion yr ardal hon wedi myn'd i ddwr poeth ofnadwy. Nos Wener ddiweddaf, bu plant bach o Gartrefi Dr Barnardo yn y Neuadd Gyhoeddus, a chawsant dderbyniad caredig. Mae Gymanfa Bregethu yr Annibynwyr yn agos, gwahoddir pedwar-ar-ddeg o wyr grymus i'r Wyl. Rhoddodd Mr G. H. Ellis, Y.H., Penmount, wledd nos Fercher ddiweddaf, yn Ngwestty Maen- ofieren i bwyllgor a charedigion arbenig Arddang- osfa y Sulgwyn. Dywedir fod yno rai yn traflyngcu llawer o bethau heb eu clloi, ac eraill yn bwrw allan bethau nas buont yn ea calonau erioed. Lion genym weled Dr Richard Jones, M.D. (Rhisiart Feddyg) wedi cyrhaedd y fath safle fel bardd. Rhadi edrych arno bellach ysgwydd wrth ysgwydd a Pher Gauiedydd Israel. PRYDERI.

Dall Te (Flen a Newydd),

Advertising

LLYTHURAU IIHEN FFARMWK.