Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Coiotn llirweat

--0-Dyffryn Giwjfd,

IFfestiniog.

Dall Te (Flen a Newydd),

Advertising

LLYTHURAU IIHEN FFARMWK.

News
Cite
Share

mi gawn ddunion iawn i fund ono, i ddadneud gwaith Coben, a rhoid duti ar yr yd, a mi eith y tfarmwrs ymlaun yn braf wedin, cotiwch chi ddwad i'r cwarfod.' I Na ddo i buth bothol i gwarfod o'r fath, Mistar,' meddwn ine, tydio ond y gwaith gwiriona neufch- och chi rioed fudde'n well o'r haner i chi neyd cwarfod i ostwn ar ych tirodd, a rhoid lesys i'r ty- nantied dene fudd raid i chi neud yn y pen draw, wauth i chi dawlud ych hetie nerbyn y gwynt, ne geisio galwdoe nol, na cheisio caul hen dreth yryd yn i hoi mi gymer pobol Lloiger ddigon o ofai na cheith yr hen guawes hono ddim i pounid nhw yto, a pheth arall— Ond mi dorodd ary nhrawst i, a mi ddychryodd regi yn Sasneg, 4 Wuddoch chi ddim a. phwu rydach chi'n siarad ?' medde fo, ydach chi'n prytendio ych bod chi'n gwbod y pethe'n well na fi pie rydach chi'n dusgud rhw gwyddorion drwg a thrufelgar wel ene ? Mae arna i ofn, Dafydd, ych bod chi'n dar- llen y papur drwg hwnw, 'r Mysere mau nhw'n yn i alw fo.' 'Ydw, Mistar,' medde fine, 'yn i dderbun ag yn ddarllen o es pan ddaeth o allan gynta.' '0, roeddwn i'n meddwl,' medde fynte, mau'n rhaid i chi beidio fyna i ddim i'r un o'n nhynant- ied i ollwn y fath bapur i'w tai.' Mi geith ddwad i nhy i try bo gin i dy," meddwn ine. 4 Mau'r papur ene chwedich andwuo chi, Dafydd,' medde Mistar, 'mi roeddech chi'n ddun pur ffeind o'r blaen, ond mi rydw i chwedi marcio arnoch chi rwan ystahvm bod chi'n fwy stiff o'r haner—newch chi ddim gwrando ar gynghor gin ych gwell, toes bosib na wn i a math yn well na chi a'cb ffasiwn.' 'Mi wn iue rwbefch bellach hefud debig gin i,' meddwn ine, 4 mi rydw i'n ddigon hen bellach i feddw] trosta ffun, a mi rydw i'n penderfynu gneyd; a tae'r ffarmwrs i gid yn gneyd runfath, mi ddoi pethe i drefn toe y da.' Mi naech chi a'ch ffasiwn drefnbraf ar y bud yma,' medde fynte, 4 caech chi'ch pwrpas. Mau'n rhyfedd gin i atoch chi, Dafydd, fod yn siarad wel rydach chi. Ond dowch i'r cwarfod ddydd Mer- cher nesa.' 4 Na ddo, Mistar,' be fine, ddo i:ddim iddo fo.' 4 Ai ddowch chi ddim ?' 4 Na ddof run cam.' 4 O'r gore, Dafydd, mi gewch chithe madel odd- yma faswn i ddim yn disgwil peth wel hun gyn- I z!1 thoch chi, mi fum i'n fistar da i chi.' 'Mi fum ine'n denant da i chithe,' be fine, 'mau'r ffarm yma'n well o fwy na'r haner na phan ges i hi, mi wuddoch o'r gore a mi ddaru'ch chithe godi'n rhent i ddwu waith wel roeddech chi yn ngweld i'n gwella'r tir a fella, chi oedd yn caul y fargen a'r fantes, oddiwrth fy llafur a nghost i—y chi a'r per- son talwch chi bris teg am y gost a'r llafur gymeris i hefo'r ffarm yma, a chymwch hi i chi y foru nesa, om rhan i.' 4 Dafydd,' medde Mistar. 4 Syr,' meddwn ine. 4 Liciech chi ddim cael treth yr yd yn i hoi. mewn difri 4 Licio ne beidio, ni welwch chi na mine buth mo 'r dudd; a deyd y gwir gonest i chi, liciwn i buth mo'i weld o chwaith, toedd dim ond y felldith yn i chalyn hi rioed. Peth o bwrpas i godi rhenti tirodd uwchlaw igwerth nyturiol oedd hi o'r dechre, o achos ych bod chi, 'r byddigions, chwedi rhedeg i ddled- ion wrth swagro a gambio, a sincio'ch stadie trost i pene; a mi ddarych i sciamio hi i osod y dreth hono i godi'r yd yn y wlad yma uwchben i bris nyturiol a rhysymol, i gaul i chi godi y rhent uwchlaw gwerth nyturiol a rhysymol y tir, a mi gostiodd y dreth hono i lawer tlawd ddyodde newyn-do, mi lwgodd ganodd, a mi lwge ganodd yto, py cae hi i hail osod.' 'Wel, be fynech chi i ni neyd, Dafydd ?' medde Mistar. 4 Wel, syr,' meddwn ine, 'mi fynwn i chi gadw llai o gwn hela, ac o gyffyle rasys, a chynilo mewn llawer o bethe, a gyrud cyfreth y giam ar ol hen gyfrech yr yd,—a chyfreth y degwm ar ol hyna, a'i fold o i'r llwodreth at chosion y wlad, wel y galle hi dynud y trethi i lawr, a gadel i byrsonied Eglwys Lloeger gymud i siawns am fyfolieth, wel y mau gwnidogion y secte erith yn gneyd—pob dun i dde- wiaa chynal i grefudd i hun, a rhoid ati yn ol i gydwybod; dene rai o'r pethe a fynwn i chi neyd, Misfcar.' 'Yn y Mysere rydach chi'n dysgud rhwbethe wel ene, Dafydd,' medde Mistar. 4 Wauth ar ddyar yn mhle,'meddwn ine, 'mau'n hawdd i bawb weled bod sens ynthyn nhw.' Toes gin i ddim amser i siarad chwaneg a. chi heddyw, Dafydd,' medde Mistar, I n-ii alwa i hefoch chi eto rw ddiwrnod i ddanos pethe gwell i chi. Dydd da i chi, Dafydd.' Dy da i chithe, Mistar,' be fine. Ac wel ene daru ni madel. 'RHEN FFARMWR. 1849. (I barhau). COLLI AC ENILL. Mau; dynion bron yn ddieithriad yn foddlon aberthu neu golli rhai pethau er mwyn enill peth mwy. Pan gollir rhywbeth gwerthfawr yn ein golwg, cynygir gwobr am ei adferiad, ond mae llawer o golledion yn nadferadwy. Mae dynion yn ami yn colli y trysor penaf yn eu meddiant wrth geisio enill peth llai ei werth. Y trysor penaf a fedd dyn yw Iechyd, a chollir y trysor hwn weithiau trwy ei garnddefnydd- io, ac yn ami trwy esgeulnso gwneud defnydd priodol o'r moddion cymhwys j'w gadw a'i ddyogelu. Mae pawb, ar ol colli iecbyd, yn awyddus i gael adferiad buan, ac i'r dyben hwn cymerant y feddyginiaeth a ternir sydd oreu i gyrhaedd yr amcan. Y meddyglyn goreu sydd yu adnabyddua yn yr oes breseaol at walla amryw glefydau ac anhwylderau, ac i adfer yr lechyd, yw Quinine Bitters Gwitvm Evane, meddyg- iniaeth a ddyfeisiwyd ar ol blynyddau o ymchwiliad 1.0 ymbrawf. Cynwysa Bitters Gwilym Evans eIfen- a i rhiaweddol y prif lysiau meddyginiaethol sydd yn alaabyddus trwy yr holl fyd. Cydnebydd pawb sydd wedi rhoddi prawf arno mai y meddyglyn hwn yw y goreu at wella holl anhwylderau y cy11a: y giau yr afu a'r gwaed. Mae ar werth gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un, neu gellir ei gael ^wy y post am y priaiau hyn yn unionecyrchol oddi- wrth y parchenogion—Qainine Bitters Manufacturing Co., Limited, Llanelly, S. Wales.