Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
--Cohebiaethau.
Cohebiaethau. YR HYN A WELAIS AO A GLYWAIS YN EISTEDDFOD LLANSANNAN, Y SULGWYN. SYR, -Y tro o'r blaen y bum yo Llansannan oedd flwyddyn yn ol, pan oeddan nhw yn dadorchuddio y peth hwnw sydd yno-mae pawb yn gwybod am dano. Mi 'roedd mwy o son am dano fo cyn iddad- orchuddio fo nag sydd ar ol hyny ac yn siwr i chwi yr oedd mwv o son am Eisteddfod Llansannan eleni cyn iddi ddyfod nag sydd ar i hol hi, 'ddigtth ambell un. Mi welais yn yr Eisteddfod gymaint o bobol a^ oedd yno yn y dadorchuddio—ddim ilawn cymaiat o bobol fawr, hwyrach, ee fod yno rai go fawr yn yr Eisteddfod hefyd. Mi welais yno babell eang, a'i ¡ llon'd hi o bobol yn llawn yn mhob cyfarfod. Mi welais, ac mi glywais o ran hyny, chwech o gorau yn I cystadlu am y brif wobr, a phob un ohonynt yn canu yn ardderchog. Mi glywais Ffestin Jones yn dweyd wrth i barna nhw mai un o'r cystadleuon goreu a glywodd o 'rioed oedd hi, rhwng corau gwledig o'r fath. Mi welais gadeirio bardd da yn hynod o wael a Ilipa, arweinyddiaeth y sereinoni yn dila a dieffaith, a'r bardd yn edrach yr un fath a bydd dyn o dan law y barbwr yn caal tori ei wallt-hwyr gias gyno fo iddo fo ddarfod. Mi glywais Mis3 Teify Davies yn canu can y cadeirio nes gwneud tipyn o firi mwd yn y lle. li welais Mr Herbert Roberts, M. P., a'i briod hpwddgar yno, yn elrych mor fodlon a chym- fforddas a phe basi nhw ar orseddau ac mi wells Trebor Aled ar ei ddeulin o fiaen Mrs Herbert yn talu ei warogaeth fel pa ba-a hi ar orseid. Ddaru mi ddim dallt b J oedd yn myn'd yn mlaen ar y pryd efallai mai cael ei investio yr oedd o. Dyna beta arall a glywais yno oedd Ilawer iawn o iaith y S-juth 0 el ei siarad; rhflÍ o'r South oedd yr arweinycTdion ond mwy na. hyny oedd clywed un o froaorion y lie yn siurad "laith y South," a hyni yn fynieh fel din o'r South. Mi 'roedd y peth yn ferwindod i glustiau trigolion y parthau, sydd yn gwybod na fu y brodor yn y South, ond ar i dro. Mi fydda i yn meddw), Mr Golygydd, fod tipvn o gomon sens yn fwy o bolp i ddyn o tiaen pobol na'r sens arall hwnw, waeth os ua bydd comon sens mae'r llall yn cael ei sbwylio ry wsut Be ydach chi yn i fediwl, syr ? Ua da iawn ydach chi am ed rych ai bethe yn ngoleuni cornon sens. Mi gafwyd Eisteddfod lwyddianus a llewyrcnus iawn, a mae'n siwr fod y pwyllgor y tu gora i'r clawdd o ddigon, -Yr eiddoch, TOMOS Huws. YN EISIEU. -.KNSODDEI RIAU. I MR GOL.-Nis gwn a ydych chwi, syr, mewn eisieu o'r nwyddau uchod yn eich swyddfa, neu rai o'ch brodyr Ilengar mewn gwewyr pan mewo ymdreoh i greu ansoddair nice, at eu gwasanaeth. Pcsibl y gallwn ni yn yr ynys hou eich cynorthwyo. Gwelais mewn newyddiadur a gyhoeddir yma y I frawddog a ganlyn :—" Gwasawaethir yn Nghymanfa Llangefni eleni ar y 14 a'r 15fed cyfisol gan y pre- getbwyr canlynol :—Yr amryddawn Iorwerth Ddu, Maesteg; yr hyawdl-ymroddol a chymhellol Idwal Jones, Forth yr athronfardd brc-gethwr Pedr Hir, Lerpwl; y moesog bregethwr miniog W S Jones, Cae fyrddiu, yn cael eu eymysgu ag un o ben Jd y wlad yr efengylaidd Daniel Davies, Gapal Gwyn.' Gwnaeth Ceiriog, o fendigedig goffadwriaeth. lawer o hwyl o'r peiriant englynu, a galiaf dybio fod p3ir- iant wedi ei ddarganfod i greu ansoddeiriau. Os nad yw geiriau bostfawr fel yna am bregethwyr yr efengyl yn blaut y Philistiaid, ao yn arogli yn gryf iawn o cant, nis gwn beth sydd felly. Y syml a'r natunol pia hi, bobl bach.—Yr eiddoch, DAFTDD DAFIS. SWYDDOGION CYHOEDDUS M,C. LERPWL YN 1882. SYR,-Caniatewch i mi alw eich sylw at rai cam- gymeriadau yn Ilythyr "Boaz"yn y Cymro ar y mater uchod.. 1 Gweinidogion—Wedi ei adael allan: xC o ±vo* berts, Egremont, yr hwn sydd eto yn fyw yn Aws- tralia, ond nis gwn a ydyw yn weinidog gyda rhyw enwad; nid ydyw, mi gredaf, gyda'r Mechodistiaid. Nid yw E J Evans, Southport, i lawr-yn awr o Walton ond y rheswm, yr ydwyf yn tybio, ydyw mai yn Southport, y tuallan i Lerpwl, yr oedd y pryd hwnw. 2. Pregethwyr—John 'Williams: yn awr yn wein- idog. J Isaac Jones: dylasai fod yn J Isaac Hughe3; yn awr yn weinidog yn yr Unol Dalaethau. John R Evana: heb ei enwi. 3 Biaenoriaid — D Jon?s, St James Road: wedi marw. W Morgan, Elm Bank: wedi marw. o Williams, Merton Road i lawr "wedi marw y ruae yn fyw. ac ya aelod yn Princes Road, Bangor, ond nid yn flaenor. W Jones, Bedford Terrace: wedi marw yr oedd wedi ymddiswyddo ryw gy- maint o amber cyn ei farwolaeth. M.
---0-Birkenhead.
-0- Birkenhead. Y MAE Cymry dau tu'r afon yn cydymdeimlo a Megan Mon a'i chwaer yn marwolaeth eu mham, gweddw y diweddar Barch Benjamin Evans, yr hyn agymerodd le ddydd Llun diweddaf yn Rock Ferry.
----I Yr Ysbytty Cymreig yn…
Yr Ysbytty Cymreig yn He Affrioa. DRWG genym ddeall fod newydd gofidus wedi cyr- haedd o'r Ysbytty Cymreig yn Bloemfontein. Dy- wedirfod pedair o'r nyrses ac un o drinwyr y clwyf- au wedi marw o'r clefyd, a bod Dr Thomas Jones, Manceinion, yn ngofal yr hwn yr oedd yr Ysbytty, ar ei ffordd adref yn wael. Ddydd Sadwrn, cychwynodd y Proft. Alfred Hughes, Coleg y Brenhm, yr hwn a weithredai fel ysgrifenydd i'r gronfa, allau i Ddeheudir Africa ar fyr rybudd i gymeryd lie Dr Jones. -0- 0 fiaen ynadon Caernarfon ddydd Llun, cyhudd- wyd Owen Williams, porthmon gwartheg, yn byw vn Ty Isaf, Corwen, o fyued i'r tren wedi iddo n d- evchwyn, ac ymosod ar David Hughes, un o swydd. ocrion y reilffordd. Rhoddwyd tystiolaeth fod y cyhuddedig yn dyfod gyda thren hwyr o Afonwen, a phan gyrhaeddodd Caernarfon cafwyd ef yn got,- wedd ar lawr. GofynocM un o weision yr orsaf iddo i ba le vr oedd am fyned, ond yn lie ateb, gwth'iodd ef "i ffwrdd. O'r diwedd daeth allan, a safodd ar y platfform, a gwrthodai ddangos ei cocyn na dweyd ei enw. Yn mhen ychydig fun- vdau, cychwynodd y tren i gyfeiriad Bangor; rhuthrodd Williams i gael myned iddo, ond llithr- odd. Llusgwyd ef am gryn bellder, a rhedodd David Hughes, porter, i'w gynorthwyo, a gofyn iddo ollwng ei afael. Gwrthodai, ond tynodd Hughes a casglwr tocynau ef i ffwrdd oddiwrth y tren, a syrthiodd ar lawr. Pan gododd i fynu, tarawodd Hughes yn ei wyneb gyda'i ffon. Dir- wvwld ef i 21s a'r ecsta-i am bob trosedd. 011 Lied ystormus oedd y dioiodaeth yn Nghynghor Dosbarth Colwyn Bay yr wjthnos ddiweddaf. Ar v diaeld rhoddodd Mr John Roberts ei sedd i fynu tel gwrthdystiad yn erbyn gwaith y Cynghor yn gwrthod penodi Cymro yn ben gweitniwr ar y flordd.
-. Y RHYFEL.
Y RHYFEL. Brwydro ger Pretoria. GANOL yr wythnos ddiweddaf, ail agorwyd y cy- mundeb pellebrol a Pretoria, ac mewn canlyniad daeth drwodd rai hysbysiadau dyddorol o'r hyn a gymerai le. Dywedai fod Pretoria a Johannesburg yn berffaith dawel. Ar ol rhoi Pretoria i fynu. vmneillduodd y Cadfridog Botha tua 15 milldir i'r dwyrain ar y ffordd i Middleburg. Nid oedd gan- ddo ond mintai fechan ar y dechreu, ond yn raddol cafodd adgyfnerthion, a phenderfynodd Arglwydd Roberts ymosod arno. Pan gychwynodd y fyddin Brydeinig allan ddydd Llun, caed y Boeriaid mewn safle neillduol o gryf, ac anmhosibl ydoedd eu cyr- haedd o'r tu blaen Yr oedd y Cadfridog Botha, yn rhagweled na wneid cais egniol ar y wyneb, wedi gosod mwyafrif ei filwyr ar ei ddwy aden. Mabwysiadodd Arglwydd Roberts yr un cynllun- iau ag a lwyddasant o'r blaen. Anfonwyd y Cad- fridog French gyda dwy fintai 0 wyr meirch, a gwyr traed marchogol y Cadfridog Hutton, o am- gylch yr ochr ogleddol; a'r Cadfridog Ian Hamil- ton, gyda dwy fintai o wyr meirch, gwyr traed marchogol Ridley, a'r Cadfridog Bruce Hamilton, o amgylch yr ochr ddeheuol. Yr oedd adrati Pole- Carew yn y canol. Cyfarfyddodd French a Ian Hamilton a. gwrthwynebiad cryf, ond tua thri o'r gloch gwelodd Arglwydd Roberts ddwy fataliwn o wyr traed Bruce Hamilton yn agoshau at yr hyn a yrnddangosai yn allwedd i amddiffyniad y gelyn ar ei aden chwith. Bu agos iddynt enill hono erbyn nos, a gorchymynwyd i'r milwyr wersyllu ar y tir a enillasant. Yn y cyfamser, symudai Pole-Carew yn araf i'w cynorthwyo. Boreu dranoeth adnewyddwyd yr ymosodiad, ac ymladdai y Boeriaid gyda phenderfyniad di-ildio. Yr un cwrs a gymerai ein Cadfridogion, ond cadw- odd y gelyn ein gwyr meirch draw ar y ddwy aden am gryn amser. O'r diwedd,.gwthiodd Ian Hamil- ton-yr hwn a gyd-weithredai gyda Bruce Hamilton, yn cael ei gynorthwyo gyda Guards Brigade, adran Pole-Carew-yn mlaen, a chymerodd y bryn oedd 0 fiaen safle y Boeriaid. Wedi eu gyru o'r bryn y dywedwyd gan Arglwydd Roberts nas gellid ei gyr- haedd o'r ffrynt, aethaut i fryn uwch fyth ychydig i'r dwyrain. Yr oedd safleoedd y gelyn yn un- ion yr un fath a'r safleoedd a gadwasant mor hir ac mor gyndyn yn Natal yn nechreu y rhyfel. Wedi brwydro drwy y dydd, gadawodd y Boeriaid eu safle gref gyda'r nos, ac enciliasant fwy i'r dwy- raiii. Yr oedd yn amlwg fod y Cadfridog Botha yn ei awydd i gryfhau ei ddwy aden wedi gwanychu ei ran ganol yn ddirfawr. Pan yn encilio, gwasgodd Ian Hamilton yn mlaen, a bu raid i'r gelyn ffoi a'r gwyr meirch ar eu holau. Dywedai y Maes-Lywydd mai golygfa arddercnog ydoedd gweled y gwyr meirch yn teithio y tir an- hawdd o dau gawodydd o dan. Yr oedd ein colled- ion ychydig dan gant, yr hyn, meddir, oeddynnifer bychan iawn ac ystyried y sefyllfa. Symudiadau Baden-Powell. Anfonodd Argl. Roberts ddiwedd yr wythnos yr hysbysiad canlynol am symudiadau y Cadfridog Baden-Powell:— Adrodda Baden-Powell fel y canlyn o'r gwer- syll 40 milldir i'r de-orllewin o Rustenburg "ArolrhyddhadMafekingbu yn adgyweirio y reilffordd a gwifrau y pellebyr, ac yn dal gwrth- ryfelwyr, tros gant o ba rai sy'n awr yn aros eu prawf. Wedi hyny efe a symudodd i'r Transvaal gyda byddin o rhyw 800 o filwyr i dderbyn ymostyngiad Boeriaid, ac i rwystro'r brodorion anrheithio. Y mae yn awr yn gweithio yn gyfundrefnol trwy ranbarthau Marico, West Lichtenburg, a Rus tenburg, gan ail sefydlu trefn a chasglu arfau a chyflenwadau. Y mae tua 600 o Foeriaid wedi ymostwng, a 230 wedi eu cymeryd yn garcharorion. Mae y penaethiaid lleol a gymerasnnt i fynu arfau gyda'r Boeriaid yn erbyn y Saeson wedi eu dal. Y mae'r brodorion yn y Transvaal sydd yn ym- ostwng yn croesawu yn galonog ein cyrhaeddiad i'w ^Daw y Boeriaid i mewn gyda pharodrwydd i weled Baden-Powell ac i drafod telerau ymostyng- iad ag ef. "Ymaentyncanmol y drefn a'r. ddysgyblaeth dda gyda pha un y mae milwyr Baden-Powell yn cario allan y gwaith o ymheddychiad." Klerksdorp wedi syrthio. Tref fwnawl bwysig ydyw Klerksdorp, a'i pobl- ogaeth tua 6,000. Y mae 120 milldir o Johannes- burg a chysylltir hi a'r lie hwnw gan reilffordd. Hys- bysa Argl. Roberts i genad o'r lie hwn adrodd wrtho fod y Cadfridog Cronje, ieu., yr hwn a lyw- yddai yno, wedi penderfynu ymostwng mor fuan ag y gwybu yn sicr fod Pretoria yn ein dwylaw ni. Dilynwyd ei esiampl gan lawer o bobl y gymydog- aeth, ac y mae'r llysdy yn awr yn 11a xn 0 arfau ac yn meddiant ein milwyr. Kitchener yn atal y gelyn. Ddydd Iau canfyddodd Argl. Kitchener fintai o'r Boeriaid yn vmosod ar gerbydres oedd wrthi yn ad- gvweirio y reilffordd ychydig i'r gogledd o afon Rhenoster. Mor fuan ag y gallodd, gorchymynodd i'w wyr meirch deithio tuag atynt, a llwyddasant i yru y gelyn ymaith ar ffrwst cyn iddo allu gwneud un niwed neillduol. Cafod un dyn ei ladd ac 11 eu clwyfo, yn cynwys rhai swyddogion. Dywed Argl. Kitchener fod Lieut. Micklem wedi gwneud gwaith da er's amser mewn adgyweirio y reilffordd, ond yn awr gorwedd yn glwyfedig, Twnel Laing's Nek Hysbysa y Cadfridog Buller fod y twnel wedi ei ao-or, ac i'r gerbydres gyntaf fyned drwodd pryd- nawn ddydd Llun. Bydd hyn yn fantais neillduol, aan v o-ellir cario ymborth a chyflenwadau drwodd vn hwylus i Volksrust. Y mae milwyr Buller yn awr yn gweithio eu ffordd i gyfeiriad Standerton, a disgwjlir, os na ddigwydd rhyw auffawd eto, y bydd yn fuan yn ymuno a lluoedd Arglwydd Roberts. -71 Brwydr yr Afon /and. Cymerodd brwydr Ie ar yr Afon Zmd yn nhrefedigaeth yr Afon Orange ddiwedd yr wythnos, ond nid oes neaiawr o r manylion weii cyrhaedd. Ymddengya i tua wyth gant o Foeriaid wneud cais i dori ar draws y reilfljrdd He yr oedd mintai o'r milwyr Ymherodrol. Oyr haeddodd y newydd i Krooastad, a cbychwyn- I odd y Cadfridog Knox i'r lie, gan ymosod a y j Boeriaid, a'u gorfodi i ftoi ymaith. Baden-Powell yn Pretoria. Cyrhaeddcdd y new-ydd oddiwrth Arglwydd Roberts, prydnawn ddydd Linn, fod Baden- Powell newydd gyrbaedd Pretoria, wedi cael ymdaith hynod lwyddianus yr holl ffordd. Meddianu Wakkerstroom. Cyrhaeddodd y Cadfridog Hildyard i'r lie bwn ddydd Sul, heb gyfarfod ag un gwrthwyn- ebiad ar ei daith, a meddiacodd y dref. Rhodd- odd llawer o'r trigolion eu harfau i fynu iddo, a thyngssant Iw o ffyddlondeb.
Angladd Mrs. Cladstone.
Angladd Mrs. Cladstone. CYMERODD yr angladd le yn Mynachlog West- minster brydnawn ddydd Mawrth, yn mhresen oldeb cyonlliad lluosog, yn cynwys nifer o wyr blaenaf dan Dy y Senedd, a rhai o'r Teula Brenhinol. Darlleawyd y gwasanaeth angladd ol gan Ddeon Westminster, a chanodd y cor amryw ddarnau cymhwys, Yr oedd yr holl wasanaeth yn fyr ac yn syml fel eiddo Mr Gladstone o'r blaen ond er hyny, arnlygwyd parch neillduol i'w choffadwriaeth, a hawdd ydoedd canfod galar a phrudd-der yn ngwynebiiu yr holl gynulleidfa. Cafodd Mr a Mrs Gladstone dreulio oes faith yn nghwmni eu gilydd, a derbyniasant barch ac edmygedd. Yn awr gorwedda eo rhan farwol yn ochr ell gilydd, yn mhlith gweddillion mawr- ion y wJad.
.Cyrddau y Dyfodol, &o.
Cyrddau y Dyfodol, &o. Mehefin 21--Dittgtniad o'r "Cruciiixion" gan Gor Cerddorfa Mynydd Seion. Mehefin 21—Eisteddfod Gadeiriol Cerygydrudion. Mehefin 23, &c-Cylchwyl Flynyddol Wesleyaid Trinity Rd Mehefin 24—Cyfarfod Pregethu Annibynwyr Kensington. Gorpli. 4-Rehearsal Cor yr Eisteddfod. Medi 18, &c-Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl. llhag 2(i—Eisteddfod Temlwyr Da Lerpwl. -\):-
Marchnadoedd.I
Marchnadoedd. Caer.- illeh 14 Gwartheg blithion, 14p i 21p; cyfloion, 14p i 19p hespion, lOp i 14p; heffrod, 8pil4p; dyniewaid, 5p i 9p. Defaid, 25s i 26s yr un. Caer—Meh 16 Gwenith gwyn, newydd, 0s 0c i is 3c y 75 pwys hen, 0s 0a; coch newydd, 4s lc i 4s 2c; hen eto, Os 00 i Os Oc ceirch newydd, 203 4c i 2s So y 64 pwys hen, Os Oo i 0s Oo y 64 pwys haidd at fragu, Os Oe; y 60 pwys haidd at falu, newydd, Os Oc i 08 0c hen, Os Oc i Os Oc y 64 pwys ffa newydd, Os Oc i 4s 9c y 80 pwys; hen, Os 00 i Os Oe y 80 pwys indrawn, newydd, 10e 6c i 0" 0c hen eto, Os Oe i 10s be y 240 pwys. Bangor, Meh 15 Yinenyn ffres, Oc i Is 10 y pwys; wyau, 13 i 0 am Is; biff, 7c i 10c y pwys; molltgig, 8c i 10c cig oen, Is i Is lc y pwys cig lloi, 80 i lOo pore, 7o i 103 moch tewion, Oc i 4c y pwys. Cywion, 53 Oc i 5s 6c y ewpl; ieir, 4s Oe i 4s 60 yr un; cywion hwyaid, Os Oc i 3s 00 yr un. Amlwch, Meh 16 Ymenyn ffres, 10c i 110 y pwys; wyau ffres, 0 i 20 au; La biff, 7c i 9c y pwys molltgig, 7c i 10c cig oen, 110 i Is y pwys; cig lloi, Oe i 0C poro, 6c i 8e; cywion, Os Oc i 3s 6c y cwpl; ieir, Os Oc i 003 00 yr un hwyaid, Os Oc yr un. Llangefni, Meh 14 Ymenyn ffres, Is y pwys; wyau, 0 i 18 am swllt; ieir, Is 80 i 2s Oo yr un; hwyaid, 2s Oo i 2 6c yr un; moch tewion, 3io i 4c y pwys; pyre, 16s i 18s Oo yr un biff, 6c i 8c y pwys molltgig, 7o i 9c; cig oen, 11c cig lloi, 7c i 8c pore, 60 i 80. Birmingham, Meh 19. Biff, 5c i no y pwys; molltgig, 50 i 9io; oig oen, 90 i 90; cig lloi, Oc i 00. Moch baewn, Os 00 i 93 6c y scor perchyll, lOa 00 i lOa 6c; hychod, 6a 9c i 7s 2c y scor. Salfoxd, Meh 19. Pris;au :-BifI, 5c i 7e; molltgig, 7c i 910; oig oen, 9c i 91c; cig lloi, 60 i 70 y pwys. Moch, 108 0o i 10s 4c y scor. Llundain, Meh 19 Agorodd y farchnad yd yn gryf heddyw, a'i bris Is yn uwch. Indrawn yn fwy sefydiog, ceirch yn dawel ac am ei hen brisiau. Lerpwl, Meh 19 Gwenith mewn galw cymedrol heddyw yn ol 2c y canpwys yn uwch. Y Gwenith Califfornaidd, Os Ooi 08 0c y canpwys. Ceirch a blawd ceirch yn gadarn a thawel. Indrawn America, 4s lOfc i 4s 11c; Plate melyn, 4s 4c i 4s 5c Odessa, 4s lljc i 5s Oo Galatz, 4s 111c i 5s 0o Cinquantina, 5s 7c 1 53 71c Pys, 5s 7c i 5s Se y canpwys; ffa Saidi, 27s 3c i 27s 6c y ehwarter. Rhuthin, Meh 18 Gwenith, 9s Oc i 9s 6c yr hob; haidd, 7s 6c i 9s 6c ceirch, 5s 2a i 6::1 Oe yr hob ymenyn ffres, Is 20 i Is 3c y p wyz, ieir, 3s 0c i 4s y owpl hwyaid, Os 00 i Os 00 y cwpl; wyau, 18 i 20 am Is.
Advertising
By order of the Trustees. FREEHOLD BUILDING LAND AND CHAPEL IN SEACOMBE. BY MR. HENRY JONES. On Thursday, 21st June, at 3 o'clock p.m. in the Law Association Rooms, 14, Cook Street, Liverpool. ALL that PIECE OF LAND with Frontages to Brighton Street and Clarendon Road, and containing about 900 Equars yards Also the hand- some Modern MISSION CHAPEL therein erected. TenureFreehold. For particulars apply to Mr Hearv Jones, Pro- I percy Auctioneer, 5, Cook Street (Telephone 1779); or .to Messrs Oliver Jones, Billson & Co., 5, Cook Street, Liverpool. jyVERPJQL & NORTH WALES. REGULAR DAILY SAILINGS (Sundays included). P.S. ST. TUDNO oil ST. ELVIES, Leaving Prince's Stage at 10-45 a.m. daily for Llandudno, Beaumaris, Bangor, and Menai Bridge, due baekat 7-30 p.m. Frequent Sea Excursions from Llandudno to Menai Straits, round Isle of Anglesea to Holyhead, Douglas, Blackpool, &c. For fares and all further particulars apply to any of the Company's Agents or to the LIVERPOOL AND NORTH WALKS STEAMSHIP'Co., LTD., T G BKEW, Secretary, 20 i WATER STREET, LIVERPOOL. Tel. No. 6366. Royal National Eisteddfod, Liverpool 1900. THE Executive Committee are prepared to receive Tenders for the erection of a Pavilion in the North Haymarket, Liverpool, in September next. All plans and particulars to be seen at the' Architects Messrs RICHARD OWEN & SON, 3 Cross- hall Street, Liverpool Quantities will be supplied on payment of a fee of two guineas, which will be returned on reiceipt of a bonafide tender. The Committee do not bind themselves to accept the lowest or any tender. c' Tenders (sealed) to be sent in not later than 2nd July, 1900, addressed to LLEW WYNNE, General Secretary Eisteddfod Offices, 1 Crosshall Street, Liverpool. The Liverpool Royal National Eisteddfod CHOIR- Grand Open Rehearsal at HFNOLF, 's CIRCUS, I at WEDNESDAY EVENING, JULY 4th, 1900,. Doois open at 7. Commence at 7-45. Silver Collection will be made. ADMISSION FREE BY TICKET. Tickets can be obtained from Members of the Com-" mittee, Members of the Choir, and the Secretary,, Mr R. D. GLYN ROBEBTS, 6, Everoley Street Capel y Wesleyaid Trinity Road, Bootle Cynelir Cylchwyl Flynyddol yr eglwys uchod, Nos Sadwrn a'r Sabboth nesaf, Mehefin 23 a'r 24t Nos Sadwrn am 7 o'r gloch pregethir gan y Parch. OWEN WILLIAMS,. Caernarfon Y Sabboth, 10-30 Parch OWEN WILIJAMS,, 2-30 Parch E. MOSTYN JONESs 6-0 Parcbn OWEN WILLIAillS, ac E. MOSTYN JONES, CYFNEWIDIAD PilESWYLfOO Y mae LEWIS WILLIAMS, TAILOR. &> DRAPER, 29 VRONHILL STREET, wedi newid ei brew- wylfod i 25 Fernhill Street Diolcha Lewis Williams am y gefnogaeth a gafodcf yn y gorphenol, a hydera yr estynir yr unfhyw iddo" eto yn ei gyfeiriad newydd. Sicrheir y caiff pob archeb ei sylw manylaf, Dewisiad rbagorol o Frethynau at Dymhor yr Haf. F^ARM HOUSE TO BE LET, furnished, during Summer Months, containing Sitting Room, Dining Room, and two bedrooms, together with detached Cooking Room and Servant's Bedroom. Situated in one of the prettiest spots in the Vale of Clwyd. Situate one mile and a half from Ruthins or Rhewl Railway Stations. Apply, R. J. JoNEs, Acar Fer, Llanbedr, Ruthin. OLYHEAD.-TO let, comfortably furnished n. house, containing two sitting-rooms, five bed- rooms, bathroom (hot and cold), good kitchen and* usual offices, one acre walled-in grounds exaellenb water and sanitation, bracing air, commanding splendid mountain and sea views, ten minutes walk from town and beach. Terms 2 guineas per week.- Apply MRS WILLIAMS, Brynsiriol.
Family Notices
prtoDasau. Jones—Jones—Meh 7, yn nghapel Talybont, Bala, gan y Parch J Rowlands, Edward Jones, Nantdir, a Margaret Jones, Tanymynydd. Thomas—Jones—Meh 8, yn Eglwys Cynwyd, gan y Parch Lodwick Davies, Hobt E Thomas, Brook Street, Corwen, a Maggie Jones, Tan'rallt, Cynwyd. Thomas—Hughes—Meh 13, yn nghapel Horeb, Llanfair- fechan, gan y Parch W Mathews, M. A., yn cael ei gyn- orthwyo gan y Parch W R Jones, F.R.G.S., William M Thomas,Clifton Villa, New Briglitou, a Margaret (Maggie), unig feroh Robert Hughes, 1, H., Bodlondeb, Llanfair- fechan. ilmrwcdaetbau. Evans- Mehefin 18, yn mhreswylfod ei merch, Jersey Villa, Rock Ferry, Anne, gweddw y diweddar Barch Benjamin' r Evans, ac anwyl fam Maggie Evans Parry. Ellis-M h 12, yn 54 mlwydd oed, Hugh Eilis, Mount Street, Bala. Hughes—Meh 10, yn 74 mlwydd oed, John Hughes, Penyr- erw, Llangwm.
Advertising
W JONES, Dental Surgeon 29, High St., WAVEETEBI SPECIAL ADVANTAGES. 1 All that is latest and best in Dental Surgery.- 2 PERSONAL attention to each client. 3 FREE Consultation. 4 Nitrous Oxide gaa at low rates, when necessary" in preparing for New Teeth. 5 A large selection of DAINTY lEETH, to suifr every Variety of Face and Beauty BETTER and PRETTIER than those supplied at double the price, by Dentists in West end of London. 6 SSFSiaredir Cymraeg neu Saesneg. Telephone 25 Wavertree. Printed and Published by ISAAC FOULKES at his Printing Establishment, 8, Paradise Street ID the Parish of Liverpool, in the County of Lancster Telephone 7^26 (Central)"