Hide Articles List

10 articles on this Page

--Cohebiaethau.

---0-Birkenhead.

----I Yr Ysbytty Cymreig yn…

-. Y RHYFEL.

News
Cite
Share

Y RHYFEL. Brwydro ger Pretoria. GANOL yr wythnos ddiweddaf, ail agorwyd y cy- mundeb pellebrol a Pretoria, ac mewn canlyniad daeth drwodd rai hysbysiadau dyddorol o'r hyn a gymerai le. Dywedai fod Pretoria a Johannesburg yn berffaith dawel. Ar ol rhoi Pretoria i fynu. vmneillduodd y Cadfridog Botha tua 15 milldir i'r dwyrain ar y ffordd i Middleburg. Nid oedd gan- ddo ond mintai fechan ar y dechreu, ond yn raddol cafodd adgyfnerthion, a phenderfynodd Arglwydd Roberts ymosod arno. Pan gychwynodd y fyddin Brydeinig allan ddydd Llun, caed y Boeriaid mewn safle neillduol o gryf, ac anmhosibl ydoedd eu cyr- haedd o'r tu blaen Yr oedd y Cadfridog Botha, yn rhagweled na wneid cais egniol ar y wyneb, wedi gosod mwyafrif ei filwyr ar ei ddwy aden. Mabwysiadodd Arglwydd Roberts yr un cynllun- iau ag a lwyddasant o'r blaen. Anfonwyd y Cad- fridog French gyda dwy fintai 0 wyr meirch, a gwyr traed marchogol y Cadfridog Hutton, o am- gylch yr ochr ogleddol; a'r Cadfridog Ian Hamil- ton, gyda dwy fintai o wyr meirch, gwyr traed marchogol Ridley, a'r Cadfridog Bruce Hamilton, o amgylch yr ochr ddeheuol. Yr oedd adrati Pole- Carew yn y canol. Cyfarfyddodd French a Ian Hamilton a. gwrthwynebiad cryf, ond tua thri o'r gloch gwelodd Arglwydd Roberts ddwy fataliwn o wyr traed Bruce Hamilton yn agoshau at yr hyn a yrnddangosai yn allwedd i amddiffyniad y gelyn ar ei aden chwith. Bu agos iddynt enill hono erbyn nos, a gorchymynwyd i'r milwyr wersyllu ar y tir a enillasant. Yn y cyfamser, symudai Pole-Carew yn araf i'w cynorthwyo. Boreu dranoeth adnewyddwyd yr ymosodiad, ac ymladdai y Boeriaid gyda phenderfyniad di-ildio. Yr un cwrs a gymerai ein Cadfridogion, ond cadw- odd y gelyn ein gwyr meirch draw ar y ddwy aden am gryn amser. O'r diwedd,.gwthiodd Ian Hamil- ton-yr hwn a gyd-weithredai gyda Bruce Hamilton, yn cael ei gynorthwyo gyda Guards Brigade, adran Pole-Carew-yn mlaen, a chymerodd y bryn oedd 0 fiaen safle y Boeriaid. Wedi eu gyru o'r bryn y dywedwyd gan Arglwydd Roberts nas gellid ei gyr- haedd o'r ffrynt, aethaut i fryn uwch fyth ychydig i'r dwyrain. Yr oedd safleoedd y gelyn yn un- ion yr un fath a'r safleoedd a gadwasant mor hir ac mor gyndyn yn Natal yn nechreu y rhyfel. Wedi brwydro drwy y dydd, gadawodd y Boeriaid eu safle gref gyda'r nos, ac enciliasant fwy i'r dwy- raiii. Yr oedd yn amlwg fod y Cadfridog Botha yn ei awydd i gryfhau ei ddwy aden wedi gwanychu ei ran ganol yn ddirfawr. Pan yn encilio, gwasgodd Ian Hamilton yn mlaen, a bu raid i'r gelyn ffoi a'r gwyr meirch ar eu holau. Dywedai y Maes-Lywydd mai golygfa arddercnog ydoedd gweled y gwyr meirch yn teithio y tir an- hawdd o dau gawodydd o dan. Yr oedd ein colled- ion ychydig dan gant, yr hyn, meddir, oeddynnifer bychan iawn ac ystyried y sefyllfa. Symudiadau Baden-Powell. Anfonodd Argl. Roberts ddiwedd yr wythnos yr hysbysiad canlynol am symudiadau y Cadfridog Baden-Powell:— Adrodda Baden-Powell fel y canlyn o'r gwer- syll 40 milldir i'r de-orllewin o Rustenburg "ArolrhyddhadMafekingbu yn adgyweirio y reilffordd a gwifrau y pellebyr, ac yn dal gwrth- ryfelwyr, tros gant o ba rai sy'n awr yn aros eu prawf. Wedi hyny efe a symudodd i'r Transvaal gyda byddin o rhyw 800 o filwyr i dderbyn ymostyngiad Boeriaid, ac i rwystro'r brodorion anrheithio. Y mae yn awr yn gweithio yn gyfundrefnol trwy ranbarthau Marico, West Lichtenburg, a Rus tenburg, gan ail sefydlu trefn a chasglu arfau a chyflenwadau. Y mae tua 600 o Foeriaid wedi ymostwng, a 230 wedi eu cymeryd yn garcharorion. Mae y penaethiaid lleol a gymerasnnt i fynu arfau gyda'r Boeriaid yn erbyn y Saeson wedi eu dal. Y mae'r brodorion yn y Transvaal sydd yn ym- ostwng yn croesawu yn galonog ein cyrhaeddiad i'w ^Daw y Boeriaid i mewn gyda pharodrwydd i weled Baden-Powell ac i drafod telerau ymostyng- iad ag ef. "Ymaentyncanmol y drefn a'r. ddysgyblaeth dda gyda pha un y mae milwyr Baden-Powell yn cario allan y gwaith o ymheddychiad." Klerksdorp wedi syrthio. Tref fwnawl bwysig ydyw Klerksdorp, a'i pobl- ogaeth tua 6,000. Y mae 120 milldir o Johannes- burg a chysylltir hi a'r lie hwnw gan reilffordd. Hys- bysa Argl. Roberts i genad o'r lie hwn adrodd wrtho fod y Cadfridog Cronje, ieu., yr hwn a lyw- yddai yno, wedi penderfynu ymostwng mor fuan ag y gwybu yn sicr fod Pretoria yn ein dwylaw ni. Dilynwyd ei esiampl gan lawer o bobl y gymydog- aeth, ac y mae'r llysdy yn awr yn 11a xn 0 arfau ac yn meddiant ein milwyr. Kitchener yn atal y gelyn. Ddydd Iau canfyddodd Argl. Kitchener fintai o'r Boeriaid yn vmosod ar gerbydres oedd wrthi yn ad- gvweirio y reilffordd ychydig i'r gogledd o afon Rhenoster. Mor fuan ag y gallodd, gorchymynodd i'w wyr meirch deithio tuag atynt, a llwyddasant i yru y gelyn ymaith ar ffrwst cyn iddo allu gwneud un niwed neillduol. Cafod un dyn ei ladd ac 11 eu clwyfo, yn cynwys rhai swyddogion. Dywed Argl. Kitchener fod Lieut. Micklem wedi gwneud gwaith da er's amser mewn adgyweirio y reilffordd, ond yn awr gorwedd yn glwyfedig, Twnel Laing's Nek Hysbysa y Cadfridog Buller fod y twnel wedi ei ao-or, ac i'r gerbydres gyntaf fyned drwodd pryd- nawn ddydd Llun. Bydd hyn yn fantais neillduol, aan v o-ellir cario ymborth a chyflenwadau drwodd vn hwylus i Volksrust. Y mae milwyr Buller yn awr yn gweithio eu ffordd i gyfeiriad Standerton, a disgwjlir, os na ddigwydd rhyw auffawd eto, y bydd yn fuan yn ymuno a lluoedd Arglwydd Roberts. -71 Brwydr yr Afon /and. Cymerodd brwydr Ie ar yr Afon Zmd yn nhrefedigaeth yr Afon Orange ddiwedd yr wythnos, ond nid oes neaiawr o r manylion weii cyrhaedd. Ymddengya i tua wyth gant o Foeriaid wneud cais i dori ar draws y reilfljrdd He yr oedd mintai o'r milwyr Ymherodrol. Oyr haeddodd y newydd i Krooastad, a cbychwyn- I odd y Cadfridog Knox i'r lie, gan ymosod a y j Boeriaid, a'u gorfodi i ftoi ymaith. Baden-Powell yn Pretoria. Cyrhaeddcdd y new-ydd oddiwrth Arglwydd Roberts, prydnawn ddydd Linn, fod Baden- Powell newydd gyrbaedd Pretoria, wedi cael ymdaith hynod lwyddianus yr holl ffordd. Meddianu Wakkerstroom. Cyrhaeddodd y Cadfridog Hildyard i'r lie bwn ddydd Sul, heb gyfarfod ag un gwrthwyn- ebiad ar ei daith, a meddiacodd y dref. Rhodd- odd llawer o'r trigolion eu harfau i fynu iddo, a thyngssant Iw o ffyddlondeb.

Angladd Mrs. Cladstone.

.Cyrddau y Dyfodol, &o.

Marchnadoedd.I

Advertising

Family Notices

Advertising