Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

------Dail To (Hen a Nevoydd).…

-0-Damwain yn Rhoetryfan.

Cymanfa Cyffredinol y Methodistlaid.

ANERCHIAD Y CSN-LYWYDU.

News
Cite
Share

ANERCHIAD Y CSN-LYWYDU. Cyn rhoddi y gadair i fynu i'w olynydd, tra- ddododd y Parch Evan Phillips anerchiad hyawdl ar y testyn, Ein paryglon a'n hangea- ion." Wele grynhodeb ohoni :— Perygl eglwys Dduw yo mhob oes ydoedd cydymffurfio gormod 4'r byd. Ni cheir medd- yginiaeth, modd bynag, trwy gadw draw oddi- wrth y byd. Rhaid iddynt fyned allan i'r byd i wnetid daioni, a dychwelyd heb gymeryd rhan yn ei ddrygau. Ofnai fod llawer gormod o fydolrwydd yn ami yn y ffurfiaa a gymerir i dalu dyled y capelau. Nid oedd am ddweyd dim byd chwerw na chaled yn y cysylltiad hwn; yr oedd yn bosibl, efallai, cario yn mlaen hyd yn nod nodacbfa mewn modd mor uniawn a'r ddeddf foesol ei hun, mor bell ag na wneid un j drwg ynddi, ond a gynaliwyd un felly erioed 1 Ond a chaniatau fod un, yr oedd y gras o hael- ioni yn cael ei wastraffo, oblegyd nid offrwm i'r Arglwydd mewn ffordd yn y byd ydoedd yr arian a warir mewn nodachfa. Efallai y telid dyled y capel, ond nid oes yno roddi i Ddnw. Ffurf y byd o gynal crefydd ydoedd hwn, tra y mae crefydd ei hun yn ddwyfol. Amheuai hefyd eu bod yn cydymffarfio gormod a'r byd yn eu dull o gyfranu addysg grefyddol. Yr oedd moldio yr Ysgol Sabbothoi yn ol ffashiwn aef- ydliadau bydol yr un fath ag arwisgo Dafydd yn arfogaeth Saul. Dylai Llyfr yr Ysgol Sul ymwne'id & chalon dyn, ond at y deall yn uuig yr apeliai y cynllun a fabwysiedir yn awr. Diwrnod hapus i'r Ysgol Sul fydd hwnw pan y dychwelir y cynllan presenol o arholiadau yn ol i'w wlad ei hun. Beiat hefyd y duedd oedd yn rbai o blant Seion i alw am gymhorth bydol i wella eglwys Dduw. Ceid llawer o hyn yn nglyn &'r mudiad dirwestol. Yr oedd eisial1 gwylio hefyd yn erbyn chwareuon a defodaeth. Unai y ddau beth am eu bod yn arfer cerdded law-yn-Ilaw. Yr oedd y llyfr chwareuon a'r Llyfr Gweddi Cyffredin yn ami yn ngbwmni eu gilydd. Yn mhiith ein anghenion y dyddiau hyn yr oedd angen dynion o gymeriadau cryfion, dynion a'u dylanwad er daioni yn mhob cylch y troent ynddo. Ysmotyn du yr oes ydoedd diffyg ffydd anhawdd credu mewn Daw a fy gythia, ond nid oedd an anhawsder i gredu mewn Duw yn addaw. Yr oeddynt wedi gwan- ychu gormod i gredu mewn coap pechod. Yr oedd angen am ddynion a digon o nerth yspryd- ol ynddynt i ddatgan mewn iaith groew ac eglur fod uffern yn bod dynion yn deyrngar i Grist, ac a dderbyniant ei dystiolaeth o flaen eiddo yr uwchfeirniaid. Bendithiwyd Cymru a mamau duwiol. Y mae eisiau rhagor ohonynt. Y mae mwyafrif pregethwyr Cymru heddyw wedi dechreu ar eu gyrfa weinidogaethol oher- wydd y gwirioneddau a ddysgwyd iddynt gan eu mamau. Gobeithiai y bydd hyn yn wirion. edd am yr oes nesaf o bregethwyr. Gwelai angen mawr am ofalu am addysg grefyddol merched iouaine yu eglwysi. Nid y Bala na Threfecca roddai bregethwyr i ni yn y dyfodol ond y mamau, a rhaid trwytho y mercbed yn ngwirioneddau y Gair. Esgeoluswyd gormod ar y merched. Llawenbai wrth weled yr adfy w- iad addysgol yn Nghymru, a'r manteision a roddir i'r merched, ond ni wnaeth addysg erioed y ddyn yn aant, a'i brofiad. ef ydoedd fod y cyth reuliaii dysgedig yn amlach na'r angyiion dysgedig. Gadawer i all or Duw gael ei hadfer i'r cartrefi, a'r meibion a'r marched i weinyddu arni yn annibynol ar eu rbyw. Terfynodd ei araith trwy ddweyd mai'r augen penaf o'r cwbl ydoedd am dywalltiad helaeth o'r Ysbryd Gian. Yna cyflwynodd y gadair drosodd i'r Parch J J Roberts. Pasiwyd diolchiadau i'r cyn-lywydd a'r cyn-ysgrifenydd (y Parch G Davies, Casnewydd). Enwyd 23 am y swydd o ysgrifenydd am y ddwy flynedd nesaf, ac yn yr ail bleidlais safai rhwng y Parchn R Humphreys, Bontnewydd, a John Wil- liams, Lerpwl; yna dewiswyd Mr Humphreys. Yr oedd Dr T M'Gaw, Llundain, yn bresenol fel dirprwywr dros Eglwys Bresbyteraidd Lloegr, a thraddododd anerchiad cynes. Hefyd y Parch Dr Oliver, Glasgow a'r Parch Proff Orr, Edinburgh, dros Eglwys Rydd Ysgotland a'r Parch Dr G D Mathews ar ran y Cynghor cyd-Bresbyteraidd. Y dirprwywyr o'r America oeddynt y Parchn Owen Jones, J Jones Williams, a W 0 Roberts. Croes- awyd y dyeithriaid ar ran y Gymanfa gan y Parch Dr James, Manceinion. Parhaodd y Gymanfa ddydd Mercher, a rhoddwn yr hanes yr wythnos nesaf.

IChinaI

....------IEisteddfod Genedlaetl^ol…

-0-CWOS Y BYD.