Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

------Dail To (Hen a Nevoydd).…

-0-Damwain yn Rhoetryfan.

News
Cite
Share

-0- Damwain yn Rhoetryfan. CYMEKODD dam wain ofidus le boreu ddydd Llun yn Rhostryfan, ger Caernarfon. Yr oedd cerbyd per- .,thynol i Mr William Humphreys, Pantiau, yn dwyn llwyth o bobl o gapel Moeltryfan i Gymanfa yr An- oibynwyr yn Nghriccieth. Pan yn agos i Gallt Pengwylwyr, dychrynodd y ceffyl rywsut, a dech- reuodd redeg. Neidiodd pedwar i lawr o'r cerbyd ar unwaith. Pan yn ngwaelod yr allt, dymchwelodd y cerbyd, a derbyniodd wyth o bersonau niweidiau fel y canlyn :—Thomas Griffith, gyrwr, niwed difrif- 01 i'w gefn; Mrs Jones, Bryngwynt, a phlentyn, gwasgiad yr ymenydd Owen Hughes, Garregwen, & Griffith Owen, Jericho, tori eu coesau Mrs Dor- othy Owen a Willie Owen, Jericho, niwed i'w pen- U; Mrs Roberts, Bryn Cadfan, man friwiau. Es- tynodd preswylwyr y lie bob cynorthwy iddynt, a daeth y meddygoa Williams, Rhostryfan Parry ac Evans, Caernarfon ac Owen, Penygroes, i weini arnynt. -0: RHUTUIN.—Cynaliodd Dr. J. R. Hughes dreng- holiad yn ngharchar Rhuthin, ddydd Llun, ar gorph Price Lloyd Jones, yr hwn oedd yno yn aros i sefyll ei brawf am ymgais o hunanladdiad. Ym- ddengys i Jones gael ei droi o'i swydd fel gyriedydd -lerbyd llythyrau, am anmhrydlondeb, o fewn blwyddyn i'w amser i gael pensiwn, a'r canlyniad fu |ddo fyned i yfed yn drwm, ac o'r diwedd ceisiodd ladd ei hun. Tra yn y carchar gwaelodd ei iechyd, a bu farw ddydd Sadwrn o glefyd y galon a'r dyfr- ghyf. Gwnaeth y trengholydd sylwadau Ilym ar I' Waith yr ynadon yn anfon y dyn i'r carchar. Ei farn ef ydoedd fod diffyg ar ei synwyrau, ac nid y carchar ond y gwallgofdy oedd y lie i un felly. Nid oes un dyn yn ei iawn bwyll yn ceisio am ei fywyd ei hon, ac felly nid fel troseddwr ond fel un fywyd ei hun, ac felly nid fel troseddwr ond fel un heb fod yn ei synwyrau y dylasent ei brofi. Ystyr- tai fod yr ynadon wedi gwneud camgymeriad di- frifol. Dychwelodd y rheithwyr reithfarn i Jones farw o glefyd y galon a'r arenau, yn cael ei ddilyn gan y dyfrglwyf. Ychwanegasant nad oeddynt yn dymuno cysylltu eu hunain a sylwadau Dr Hughes „ar yr ynadon.

Cymanfa Cyffredinol y Methodistlaid.

ANERCHIAD Y CSN-LYWYDU.

IChinaI

....------IEisteddfod Genedlaetl^ol…

-0-CWOS Y BYD.