Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

CYNWYSIAD:

PHILLIP Y PHILISTIAD.

-0-CWOS Y BYD.

News
Cite
Share

-0- CWOS Y BYD. Rhyfel China. OBLEGYD rhyfel ydyw a dim yn fyr o hyny. Fel y gwelir oddiwrth yr hanes byr sydd mewn colofn arall, cynbyrfus iawn ydyw'r ffurfafen, ac y mae'r ystorm eisoes wedi dechren na wyr yr un gweledydd na dewin pa le na pha bryd y terfyna. Y mae gweithredoedd o ryfel wedi eu cyflawni rhwng Rwsia, Ffrainc, Germani, Prydain, a Japan, ar y naill ochr, ac ar y llall yr Ymherodraeth fwyaf poblog ar y ddaear, yn cynwys, meddir, tua'r drydedd ran o'r hil ddynol. Nid oes ambeuaeth pwy a drecha yn y pen draw ond mor arswydus ydyw meddwl am y galanaadra a wneir o byn i hyny. Ac wedi dal yr ysglyfaeth, yr ysgyrnygu danedd a fydd wrth ei ranu. Y mae cymaint o ddrwg- deimlad yn awr rhwng Rwsia a Japan, fel y credir yn gyffredinol nad oes dim a'i boddlona ond rhyfel a'r cwestiwn difrifol i Brydain ydyw a all hi, gyda'r ysbryd ymladdgar mell- digaid sydd wedi ei godi ynddi yn ddiweddar, a bwnglerwch ei Llywodraeth, gadw o'r llynclyn ofnadwy. Yn lie anog ein gwyr ieuainc i ddysgu saethu, onid gwal) i Arglwydd Salisbury I a'i griw fyddai eu gwaredu rhag y chwareu peryglus hwnw. Modd bynag, os gadewir hwy yn hir mewn awdurdod bydd angen am y ddysg- eidiaeth. Dadgorphoriad y Senedd. NID oes gymaint o son am byn yn awr ag yd- oedd wythnosau yn ol a chredir yn lied gyffredinol na chymer etholiad le hyd yr hydref neu ddechreu y gauaf, os yn wir y flwyddyn hon. Ceisiwyd yn y Senedd nes Lun gael gan Mr Balfour roi rhyw oleuni ar y mater, ond bu y cais yn aflwyddianus. Y mae gan y Prif Weinidog hawl i ddadgorphori pan y gwelo oreu, ond yn unol ag arferion y Ty ac efallai nad yw gorchfygiad y Boeriaid yn ddigon Ilwyr eto i gyhwfan y faddugoliaeth o flaen yr ethol- wyr pwyllog ac ni wyddis yn iawn pa fodd yr aiff Lloegr yn mlaen yn China. Mr Wm. Jones &'i Etholwyr. NID ydym yn cydweled a Mr Jones ar fater gwaddoli Prifysgol Babyddol yn Iwerddon, ac nis gallwn ddeall pa fodd y gali yntau yn gyson & Rhyddfrydiaeth Gymreig er's oesau wneud hyny. Ar yr un pryd, yr ydym o galon yn cymeradwyo ymddygiad Bedyddwyr ei ethol- seth yn eu gwaith ychydig ddyddiau yn ol yn gwrthod eondemnjo Mr Jones ac am y rheswm nad yw y pwnc hwnw ya awr o flaen y senedd, nac i'w restru gyda'r hyn a elwir yn practical politics. Pan ddeio, diaa y bydd Me Jones, wedi adystyriaeth, ar yr ocur iawn, Beth am seda Mr Lloyd-George ? A GYLL Bwrdeisdrefi Arfon wasanaeth Mr George a'r anrhydedd mawr o gael eu cynrych- ioli ganddo yn y Senedd ? Wrth weled rhai o arweinwyr y Rhyddfrydwyr yn Nghaernarfon, Bangor, a manau eraill yn yr etholaeth cyn feddwed ar y gwag ogoniant a'r bwystfilwch sydd yn myn'd yn rnlaen yn Neheu Affrica a'r Toriaid ynfytaf sydd tuallan i Seilam Dinbych, ofnwn am ddyogelwch sadd yr aelod Cymreig mwyaf hyawdl sydd yn y Senedd. Colled i Ryddfrydiaeth Cymru fyddai gorchfygiad Mr George a dianrhydedd bythol i Fwrdeisdrefi Arfon fyddai ei wrthod a'r Rhyddfrydwyr blaenllaw hyny sydd wedi ymollwog o flaen y d6n o Jingoaeth gwallgof fydd yn gyfrifol am hyny. Fe aiff y llewygfa anmhwyJlog ryfelgar hon heibio yn fuan, ac yna pwy a gaut i ymladd am gydraddoideb crefyddol, am hawliau a iawn- derau dynoliaeth, ac egwyddorion tragwyddol Rhyddfrydiaeth, wed'yn ? Caerdydd a'i Haelod 'eneddol. MAE'N ddigon hysbys nad yw Toriaid Oaerdydd a'u cynrychiolydd, Mr Maclean, wedi cyd-dynu yn dda er's misoedd. Gwahaniaethant yn ben- af ar bwnc y rhyfel ac y mae'r Jingoaid Ceid- wadol wedi dewis ymgeisydd o'r enw Lawrence i ymladd eu brwydr yn yr Etholiad Cyffredinol. Bwriad presenol Mr Maclean ydyw apelio at yr etholwyr yn annibynel ar swyddogion y blaid ac ni fyddai'n syndod pa dychwelid ef, gan fod iddo ddylanwad mawr yn yr etholaeth fel prif berchenog y W(stern Mail; neu, o leiaf, os daw ef allan, ni etholir Lawrence. Yr ymgeis- ydd Rhyddfrydol ydyw Mr Robert Bird, cadeir- ydd y blaid, a bydd y frwydr, yn ol pob tebyg, rhyngddo ef a Mr Bird, gyda deg i un ar Bird. Yn yr etholiad diweddaf (1895), safai y pleld- iau :-MacleaD, 8,386 Reed, 7,562. Myn Caerdydd ini ei hystyried yn brif dref Cymru. Dylai prif dref y genedl fwyaf Rhydd- fiydig o'r pedair gael ei chynrychioli gan Rydd. frydwr, a hwuw yn Drymeo hefyd. Arwr y Rhyfel yn Gymro. DIM dadl am y peth. Yr oedd hen wraig yn byw yn Clifton rhyw chwarter canrif yn ol a fu yn nyrsio Arglwydd Roberts-chwedl y pryd- ydd, yn siglo cryd yr un a slglai fyd "—lawer- oedd o weithiau. General Abraham Roberts oedd enw tad Bobs," brodor o Gaerfyrddin, ac a ddaeth i fyw i Gaerfyrddin am yspaid o India, er mwyn ei iechyd. Yn yr amser bwnw, yr oedd yr hen wraig a nodwyd yn gog- yddes yn y teulu a chan iddi fyw yn hen a myn'd yn gymharol dlawd, cafodd lawer o gar- edigrwydd yn ei benainb g1.11 deulu Roberts. 11 Cyoaro parchus, sydd yn byw yn Lerpwl er's bfynyddau, ydyw fy awdurdod am yr hanes hwn yr oedd yn adwaen yr hen gogyddas yn dda yn Clifton, a dywedai y gellid dybynu ar ei geirwiredd ond nid oadd yn sicr (mae cymaint o amser) ai Abraham oedd enw'r tad, Mae'n wir mai yn [werddon y ganwyd y Maeslywydd, ond nid yw hyny o angenrheidrwydd yn rhwystr i'r stori uchod fod yn wir, ac mai yn ddiwedd arach y daeth y teulu i drigianu yn nhref ened igol y tad. Beth bynag dyna'r storl, ac yr wyf yn ei chy- hoeddi gan wybod y bydd ami ddarllenydd yn cilwenu yn amheus, ac yn dweyd mai ymgais arall ydyw I fcrofi fod pob dyn enwog yn Gymro. Yr enw Roberts. NID llawer o gyfenwau sydd mor Gymreig a Roberts, er mai Norman ydyw o ran dechreuad. Dengys hanes cyfenwau mor bendramwnwgl ydyw'r hen fyd yma. Dyna Roberts, Wil liams, Hughes, a Jones, nid Cymreig yn gyn- henid mo honynt, ond y mae tua dwy ran cr dair Cenedl y Cymry yn eael eu hadwaen wrth. ynt; tra y mae 11awn gynifer o Saeson yn dwyn yr enw Cadwaladr yn ei wahanol ffurfiau ag Bydd o Gymry. Nid oes deulu mor an-Nghym- roaidd yn Nghymru a'r Penrhyn a Pennant, nac yn mhlith y bendefigaeth enwau mwy Oym. reig; tra, o'r ochr arall, na chafwyd gwladgarwyr mwy pendant na'r Miltwniald a'r Salsbriaid yn y Gogledd a Nicolas a Stradling yn y Deheubarth. ) Gellid bod yn sicrbron mai Cym- ry cynhenid ar y cyntaf ydyw'r gawl sydd yn dwyn y cyfenwau yn dechreu gyda P neu B, megys Prys, Prydderch, Prisiart, &c., a diau fod Baden Powell yn hanu o rhyw linach Gym-