Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

CYNWYSIAD:

PHILLIP Y PHILISTIAD.

News
Cite
Share

PHILLIP Y PHILISTIAD. HWYRACH fod rhai o'n darllenwyr yn cofio clywed son am Mr Lionel Phillips hwyr- ach nad ydynt, Bu ganddo ran flaenllaw yn nygiad oddiamgylch y rhyfel. Yn un o bed war dedfrydwyd ef i farw gan Lyw- adraeth y Transvaal am deyrnfradwriaeth, a'r rhan flaenllaw a gymerodd yn rhuthr- gyrch Jameson ond trwy hynawsedd yr Arlywydd Kruger yn benaf, tynwyd y cortyn oddiam ei wddf ef a'i dri chyd- fradwr-a throsglwyddwyd hwy i farn y gyfraith Brydeinig, yr hon a fu yn dra thyner tuag atynt-mor dyner fel y maent er's cryn amser yn wyr a'u traed a'u tafod- au yn rhyddion. Ni ddylem ychwaith an- nghofio dweyd fod Mr Phillips yn aelod o gwmni arianog Werner, Beit, & Co., Johannesburg, cwmni sydd wedi dangos mawr ofal am fuddianau yr Outlander mewn gwahanol ffyrdd a moddion, fel y gwelwyd yn ein rhifyn diweddaf. Nid ydym yn cyhuddo Mr Phillips, mwy na'r ffirm y mae ef yn aelod mor amlwg ohoni, o anfedrusrwydd. Gofalodd Mri Werner, Beit & Co. am danynt eu hunain a'ubudd- ianau y tuhwnt i bob canmoliaeth ac yna pa beth mwy naturiol i Mr Lionel na go- falu am fuddianau ei wlad, os nad yw yn perthyn i'r genedl hono na fedd hi yr un wlad. Yn yr yspryd rhagorol hwn y bu un diwrnod yr wythnos ddiweddaf yn Llundain yn traddodi darlith ar y "Rhag- olygon yn Neheudir Affrica." Fel y gall- esid disgwyl, daeth cynulliad lluosog yn nghyd i wrando Uitlander ac un sydd hefyd yn Gadeirydd y Mwnfeydd. Cymaint a hynyna am y rhagolygydd- y mae'n iawn ini wybod ychydig bob am- ser am yr athraw, gwleidyddol yn enwedig, cyn ystyried ei athrawiaeth. Ac yn awr am gynllun Mr Phillips i ddwyn trefn o'r annhrefn a ddygodd ef a'i fath ar Ddeheu- dir Affrica. Gellir dosbarthu ei gynghor- ion dan dri phen. Yn nghyntaf, pa fodd y rhanai ef ddyled y rhyfel rhwng y Fam- wlad a'r Drefedigaeth. Fel y gellid dis- gwyl, nid yw am roddi yr holl faich ar yr olaf, gan y llyffetheiriai hyny, meddai, ei dyfodol; ar yr un pryd, sylwa yn fwyn ryfeddol na ddylai hithau ddianc yn ddi- faich. Yn y geiriau hyn, diau ei fod yn datgan barn ei gyd arianwyr ac yntau. Ond y gwir yw mai cyfiawnder a fyddai gorfodi y rhai barodd y rhyfel i dalu am dani; a bu gan Uitlanders fel Werner, Beit, a'u cyfeillion a'u swyddogion, fwy i'w wneud a hyny na neb arall. Tegwch tuag at bawb a fyddai i Lywodraeth Pryd- ain gymeryd meddiant o bob gwaith a chloddfa aur a pherlau sydd yn y Trans- vaal a'u defnyddio i'w digolledu o'r hyn a wariodd yn benaf o'u herwydd. Onid oes diareb Saesneg mai y sawl alwant am y don sydd i daiu i'r crythor ? Dirwy fach ar Rhodes a Phillips a'u cyffelyb fyddai eu dodi yn ngharchar hyd oni thalent y ffyr- ling eithaf. Ond fe ddaw'r mamonwr cyfrwys a digydwybod allan o'r fèg yn bensych y talwr yn y pen draw fydd yp Ymherodraeth," wrth yr hyn y golygir, pan fyddo talu yn y cwestiwn, y trethdal- wr yn y wlad hon. Pan ddaw Mr Lionel at yr ail fater, sef iaith y gorchfygedig yn y dyfodol, ofnwn mai ychydig o'r cynghorwr doeth na'r han- esydd goleuedig a geir yn ei ymadroddion. Dyma ei syniadau Rnnv ychydig o debygolrwydd teuluaidd yn unig sjdd rhwng y Dwtsh a siaredir yn Nehau Affrica ag Is-Ellmynaeg Holland a chan na fedd ramadeg na lleoyddiaeth ar ei helw, rhaid iddi ddiflanu yn fuan. Yr iaith y gorfodid holl weision Llywodr- aeth y Transvaal i'w defnyddio a myned tan arholiad ynddi cyn y caent swydd ydoedd iaith Holland ac nid doeth na buddiol ydyw defnyddio iaith estronol yn yr Ymherodraeth. Os cefnogwn y Dwtshaeg, gellwch fod yn sicr y bydd i'r gelyn gy- meryd hyny yn arwydd o'n gwendid. Ynawr ydyw'r amser i Brydain Fawr ddangos yn mhob modd mai hi ydyw'r feistres." Dyna y Philistiad Seisnig i berffeith- rwydd, neu gynffonwr iddo. Y ffordd sicr- af i estyn oes y Dwtshaeg yn y Transvaal fyddai dilyn cynghor Mr Phillips. A fynai efe wneud Rwsia o Brydain, a Pholand o'r Transvaal ? Ai nid gwell tybed a tyddai i Loegr ymddwyn at iaith y Transvaal fel yr ymddygodd tuag at y Ffrancaeg yn Canada, at yr ieithoedd brodorol yn India, ac fel yr ymddyg yn ddiweddar i raddau helaeth yn Nghymru aty Gymraeg. Nid ymddengys ychwaith y gwyr y cynghorwr ymhongar ddigon o hanes cenedloedd gorchfygiedig i wybod nad yw difodieu hiaith yn un sicr- wydd o'u teyrngarwch. Cymerer y ty- el y lwythau Celtaidd. Pwy mor deyrngar a'r Cymry Cymraeg a'r Ysgotiaid Galaeg, ac mor annheyrngar a'r Gwyddelod y llethwyd eu hiaith gan y gorchfygwyr? Ond prin y byddai cynlluniau na chynghorion Mr L Phillips yn werth sylw, onibai ei fod yn cynrychioli y dosbarth achosodd y rhyfel ac yn engraipht o gulni, malais, a dial- garwch y dosbarth hwnw. Ond y pwnc mwyaf dyrys sydd o flaen Llywodraethwyr Deheu Affrica. a'r pwnc sydd wedi blino llawer ar yr Unol Daleith- iau, ydyw lliw croen y deiliaid. Y mae'r hyn a bregethir gan genhadon, ac a ddysg- ir gan Gristionogaeth, yn faen tramgwydd i Lywodraeth bresenol Lloegr. Ymgroesa yn sych-dduwicl rhag caethwasiaeth a'i drygau erchyll, cyhudda y Boeriaid ogreu- londeb at y brodorion, ac eto cyhoedda yn ddigon difloesgni na wna yr un cyfreithiau mo'r tro i'r bobl dduon ag i'r bobl wynion. Unwaith y cydnabyddir israddolder y Negro, agorir y drws i'r dyn gwyn wneud defnydd israddol ohono, naill ai fel caethwas, a than yr enw hwnw, neu mewn ffurf a than enw arall mwy hyfryd i'r glust. Llefara Mr Phillips yn ddigon di- bryder na wiw disgwyl y gellir llywodr- aethu y du a'r gwyn gyda'r un cyfreithiau, a'u cynysgaeddu a'r un breintiau. Druan o'r du, pan rydd Prydain, ei gyfaill goreu er's oesau, unrhyw sylw i gyfarwyddiadau dyn fel Lionel Phillips. Y mae ei ragolyg- on yn dduach na'i groen. Disgwylia Mr Phillips y bydd ymfudo mawr o Brydain i'r Transvaal a'r Dalaith Rydd pan ddybeno y rhyfel, ac yglynallu- aws o'r rhai aethant allan i ymladd yn y wlad, ac felly y bydd yno yn fuan fwy o Brydeiniaid nag o Ddwtsh. Ond dysgir ni gan hanes fod ymfudwyr fel hyn yn mhen oes neu ddwy yn fwy gwladgar na'r brodorion.

-0-CWOS Y BYD.