Hide Articles List

8 articles on this Page

Cymdeitftasfa Chwartarol Mothodistiald…

-0---Gymanfa y Waslovalci

"YR HYN A DDYWED PAWB."

Y cldiweddar Mr Ciadstoiie.I

News
Cite
Share

Y cldiweddar Mr Ciadstoiie. I WEDI gvvaeledd bir, a bod am rai dyddiau mewn sefyilfa haner-anyniwybodol, bu farw Mrs Gladstone yn dawel brydnawu ddydd lau diweddaf yn MJien- arddlag. Dyna'r newydd prudd a ledaeuwyd dros yr holl wlad, gan wneud argraph ddwys ar bawb yn ddhvahaniaeth. Priodwyd hi a Mr Gladstone yu y flwyddyn 1839, a chafodd fyw ycbydig dros ddwy fiynedd at ol ei phriod enwog. Trwy ddydd lau, yr oedd aelodau hynaf y ten in yn bresenol, gyda Lady Frederick Cavendish a Dr Fraser, ac yr oedd- ynt oil yn yr ystafell pan y bu farw. Anfoawyd peilehrau ar unwaith yn hysbysu y newydd i'r FreL- hines, Tywysog Cymru, Deon Westminster, Deon Lincoln (mab-yn-nghyfraith), Syr Wm Harcourt, Syr H Campbell Bajinermaa, Mr Balfour, ac eraill. Yu ystod yr hwyr, cyrhaeddodd Master William Gladstone, etifedd Penarddlag o Eton, a'i ddwy chwaer o Lundain. Canai cloch Eglwys y Plwyf yu araf, a dangoswyd arwyddion eraill o alar yn y pentrcf. Cymer yr angladd Ie, trwy garsdigrwydd y Deon, ac yn unol a'r trefniadau a wnaed yn 1898, adeg marwolaeth Mr Gladstone, yn Myaachlog West- minster. Merch hynaf Syr Stephen Glynne, yr wythfed barwnig o'r enw, ydoedd Miss Catherine Glynne, a ddaeth yn adnabyddus i'r byd wedi hyny fel Mrs Gladstone- Teulu henafol ac anrhydeddus oedd Glynniaid Peiiarddlag. Ceir ei hanes yn Glyn Llifou, sir Gaernarfon, mor foreu a 1567, medd y Parch G Ellis yn ei Hanes Gladstone, ond yn nyddiau Cromwell y cawn ei gysylltiad cyntaf a Pen- arddlag. Cyn hyny, yr oedd yr etifeddiaeth yn ineddiaut Iarll Derby. Wedi dienyddiad yr larll vn 1651, prynwyd yr etifeddiaeth gau Sergeant Glynne. yr hwn a ddaeth yn Arglwydd Brif Farnwr yn Llys y Brenhin, Wedi adferiad Siarl yr Ail. Mab iddo ef, Syr Wm Glynne, oedd y barwnig cyntaf (1661). Bu farw tad Mrs Gladstone, Syr Stephen Richard Glynne, yr wythfed barwnig, yn 1815 a disgynodd gofal y plant ieuainc yn hollol ar y fam. Cyflawn- odd ei dyledswyddau nid yn unig mewn modd a'i gwnaeth yn anwyl i'wphlant. ond a'i gwnaeth hefyd yn wrthrych edmygedd cyfl'redinol. Merch ydoedd i'r ail Arglwydd Braybrooke, ac wyres (o ochr ei mam) i Mr George Grenville, yr hwn fu yn Brif- weinidog o Ebrill, 1763, hyd Gorpheuaf, 1765. Chwaer iddi ydoedd gwraig William Pitt (Arglwydd Chatham), yr hwn fu yn Brif Weinidog o 1757 hyd 1761, a thrachefn o 1766 hyd 1768. Gwelir felly fod mam Mrs Gladstone yn nith, ferch cyfnither, i'r ail Pitt, yr hwn fu yn Brifweinidog o 1783 hyd 1801, ac o 1804 hyd 1806 acyr oedd yn nith, ferch chwaer i'r Arglwydd Grenville, a fu yn Brif weinidog o 1806 hyd 1807. Yr oedd Mr Gladstone a Mr Stephen Glynne, brawd Mrs Gladstone, yn gyfeillion mawr pan yu efrydwyr yn Rhydychain; ac yn ystod y gwyliau talai Mr Gladstone ymweliadau mynych a, Phenardd- lag, a thrwy yr ymweliadau byn y daeth gyntaf i gydnabyddiaeth a'r hon fu wedi hyny yn gydymaith mor werthfawr ac anwyl iddo am y rhan fwyaf o'i oes. Wedi gorpheu ei efrydiaeth yn Rhydychain, aeth tymhor maith heibio heb iddo weled ei hen gyfeillion o Penarddlag. Oherwydd rhyw auhwyl- deb ar ei olygon, aeth ar orchymyn y meddyg am daith i'r Cyfandir. Ymddengys fod gweddw a phlant y diweddar Syr Stephen Glynne ar y Cyfan- dir ar yr un adeg. Fel Mr Gladstone, cyfeirient hwythau tua Rhufain, ac yn ddamweiniol cyfarfydd- asant, a chawsant gwmni eu gilydd am y rhau olaf o'r daith. Yn Rhufain, gwnaed cytundeb priodasol rhwng Mr Gladstone a Miss Catherine Glynne ac yn fuan wedi hyny, dyweddiwyd ei chwaer i Argl. Lyttleton. Unwyd y ddau gwpJ ar yr un adeg, sef y 25ain o Orphenaf, 1839, yn Eglwys Penarddlag. Mawr oedd y parch yn y pentref i deulu y Castell, a rhoddodd y briodas ddwbl gyfleustra i'r trigolion i ddangos eu teimladau da at y ddwy foneddioes. Ganwyd i Mr a Mrs Gladstone wyth o blant. Yr hynaf ydoedd Mr W H Gladstone, a anwyd Meh. 3, 1840, yr hwn a fuyn Aelod Seneddol dros Gaer, Whitby, a Dwyrain Swydd Gloucester, ac ar un adeg bu yn un o Arglwyddi y Trysorlys. Bu farw Gorph. 4ydd, 1891. Ei fab ef, yr hwn a anwyd yn 1885, ydyw etifedd presenol Penarddlag. Y meib- ion eraill ydynt y Parch Stephen Edward Glad- stone, ficer Penarddlag; Mr Henry Neville Glad- stone, a Mr Herbert John Gladstone, yr Aelod Seneddol dros Orllewinbarth Leeds a'r Chwip Rhyddfrydol presenol. Bu farw yr ail ferch yn 1850, ac y mae eto yn fyw Mrs Wickham, gwraig y Tra Pharchedig E L Wickham, Deon Lincoln Mrs Drew, priod y Parch Harry Drew a Miss Helen Gladstone. Cydnabyddir yn gyffredinol na lanwodd un wraig erioed ei lie yn well na Mrs Gladstone. Pa faint ydyw dyled ein gwlad iddi, nid ydyw yn bosibl dweyd. Yr oedd yu wraig dyner a charedig, a phen- derfynodd o'r cychwyn gysegru ei bywyd i gvsur ei phriod. Gwnaeth lawer i ysgafnhau ei iafur, ac i symnd ymaith ei bryderon. Dilynai ef i bob man, a phrofodd ei huu yn gydymaith ffyddlawn hyd y diwedd. Ni ellir dweyd ei bod yn feddianol ar allu oedd meddyliol cryfion, nac ychwaith yn awydau3 am freintiau gwleidyddol iddi ei hun nac i'w rhyw Eto yr oedd ganddi, i raddau uwch na'r cyffredin" amgyffrediad o'i dyledswyddau, ac nid oedd angen neb ddweyd wrthi sut i'w cyflawiai. Credir na fuasa1 brwdfrydedd angerddol a chyfansoddiad cryf All Gladstone wedi dal cyhyd onibae am ofal cariadus r a ffyddlon ei briod. Fa un ai yn casglu ffeithiau yn Naples ar gyfer ei gyhuddiadau yn erbru gorthrwm y Llywodraeth yn ystod yr adeg tra yn ceisio fel Uchel-Ddirprwywr gymodi yr Ion- iaid i gael hunanlywodraeth "dan yfaner Brydeiuig, neu ynte yn rheoli yr Ymherodraetn Brydeinig o Downing Street, yr oedd Mrs Gladstone wrth ei ocnr, yn batrwm o wraig i wladweiMvdd irivTyaf a galluocaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gartref yn Mhenarddlag, yr oedd yn esiampl o'r j hyn y dylai ein cyfoethogion fod. Carai elusengar- weh ac ymwelai yu fynych a'r tlodion, gan gyfranu i'w hanghenion. Cododd yno ddau sefydliad elusenol-cartref i blant amddifaid a chartref i hen wragedd, am y rhai y trefnodd ofal parhaol. Nid oes neb yn galaru mwy ar ei hoi heddyw na'r bobl diodion y bu hi byw yn eu hymyl ar hyd ei hoes. SYMUD Y COUTH I LUNDAIN. Bore ddydd LInn, symudwyd corph Mrs Gladstone o'r Castell i Eglwys Penarddlag. Ychydig wedi wyth o'r gloch y bore, ymgynullodd y gweision a'r tenantiaid o flaen porth y Castell yn barod i'r oryna- daith tua'r Eglwys. Yr oedd yn foreu hyfryd. Ychydig cyn naw, cariwyd yr arch allan ar elor, yn cael ei dilyn gan aelodau o'r teulu, nifer o gyfeillion, •a'r meddygon. Pan yr elai yr orymclaith araf, dawel, drwy y pentref, yr oedd y lleni i lawr dros bob ifenestr, a 1 lawer o bobl o bobtu'r ffyrdd yn edrych. Wedi cyrhaedd i'r Eglwys, gosodwyd blodeu ar yr arch a gweinyddwyd y sacrament o Swper yr Ar- glwydd i'r teulu gan y Parch W T Williams. Yn ystod y dydd, yr oedd rhyddid i bawb fyned i weled yr arch, a chymerodd lluaws raawr fantais ar y cyf- leusdra. Ganol dydd, gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd dracbefn ac am chwech o'r gloch, darllenwyd rhan o'r gwasanaeth claddu a chanwyd emynau. Am chwarter wedi saith, cludwyd yr arch i'r orsaf yu mhresenoldeb cynulliad mawr, a chymerwyd hi gyda'r tren i Lundain. Anfonwyd blodeu gan Dywysog a Thywysoges Cymru, a llu o foneddigion eraill.

——ojI Yr Yspytty Gymreig yn…

--0-! Angladd y Cyn-Esgob…

._-SjfffradiiioS

Advertising