Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Cymdeitftasfa Chwartarol Mothodistiald…

News
Cite
Share

Cymdeitftasfa Chwartarol Mothodistiald Gogledd Cymru. Parhawtd cyfarfodydd y Gymdeithasfa yn y Bala ddydd Mercher. Y cyfarfod pwysicaf ydoedd y gwasanaeth ordeinio yn y bore yn y Capel Mawr. Yr oedd tri-ar-ddeg o bregethwyr i gael en hordeinio i gyflawu waith y weinidogaeth. Daeth cynulliad mawr i'r cyfarfod, a llywyddwyd gan y Parch G Ellis. Wedi dechreu'r gwasanaeth yn y ffordd j arferol gan y Parch W Rowlands, Cefnywaen, dar- llenodd y Parch Ryle Davies, Llundain, y rhanau o'r Ysgrythyryr arferir eu darllen ar yr amgylchiad. Yua traddododd y Proff. Hugh Williams, Bala, an- erchiad galluog a grymus ar Natur Eglwys." Ar •; ei ol, gofynodd y Parch Win Jones, Lerpwl, y cwestiynau o'r Cyifes Ffydd i'r ymgeiswyr can- lynol-J W Jones, Nant Gwrtheyrn; J D Evans, B. A,. Brynaerau J K Jones. Rhyl; E W Roberts, Bodfari; W H Lewis, Johnstown; J Garnon Owen, Bwlchgwyn R Griffith, Ftiiut; R R Jones, Bala; R Jenkyn Owen, Newton-oa-the-Hill; Edmund Griffith, Lerpwl; J Evans, Llanidloes W J Roberts, Warrington J Tudno Williams, M.A., Llundain. Offrymodd y Parch J Hughes, Lerpwl, weddi,athraddodwyd y Cynghor gan y Parch Dr Wm James, Manceinion. Terfynwyd y gwasanaeth gan y Parch Dr Cynddylan Jones. Am ddau a phump o'r gioch, pregethwyd yn yr awyr-agored i gynulleidfaoedd mawriou gau y Parcha W 3yle Davies, Llundain; John Roberts, Tai Hen G Ellis, Bootle, a Dr Cynddylan Jones. Am ddau o'r gloch hefyd, cynaliwyd eisteddiad o'r Gymdeithasfa. Rhoddodd y Parch W Williams, Glyndyfrdwy, grynodeb o hanes yr achos yn Nwy- j rain Meirionydd, ac adolygwyd hyny gan y Parch Evan Davies, Trefriw. Cyfiwynodd Mr Robyns- Owen adroddiad o gyfarfod y diaconiaid. Darllen- odd y Parch Richard Jones, Mancot, adroddiad try- sorfa y Genhadaeth Gartrefol, yr hwa a. awgrymai eu bod yn penodi y Parch John Williams, B.A., Dolgellau, yn ysgrifenydd cyllogedig i'r drysorfa yn y dyfodol, ac hefyd yn ysgrifenydd i Gronfa yr Achosion Seisnig, ac i gyliwyno ei holl amser i'r gwaith. Dangosai adroddiad Cronfa yr Achosion Seisnig fod gweddiil o 227 p yn yrariandy. Dat- ganwyd boddhad ohervrydd sefyilfa Eglwys Seisnig Everton Brow, Lerpwl, a'i bod erbyn hyn yn hunan- gynaliol. Cyflwynwyd y Parch J J Williams, New York, i'r cyfarfod gan y Parch Ellis J Jones, Caer- narfon, a rhoddwyd iddo groesaw cynes. 171 Yn yr hwyr, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus i hy- rwyddo Cronfa y Can Mil Punau. Cymerwyd y gadair gan Mr J Herbert Roberts, A.S.,acyn nghwrs ei anerchiad, dywedodd ei fod yn ystyried y Bala fel y lie mwyaf addas i gynal cyfarfod yn nglyn a'r mudiad hwn, am i'r dref fod yn aelwyd a char- tref i asiryw o'r trysorfeydd mwyaf a'r achosion pwysicaf a gychwynwyd gan y Cyfundeb yn ystod y ganrif. Anerchwyd y cyfarfod yn rymu8 a hyawdl gan y Parchn Dr Cynddylan Jones, John Williams, Lerpwl, ac eraill.

-0---Gymanfa y Waslovalci

"YR HYN A DDYWED PAWB."

Y cldiweddar Mr Ciadstoiie.I

——ojI Yr Yspytty Gymreig yn…

--0-! Angladd y Cyn-Esgob…

._-SjfffradiiioS

Advertising