Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

LLYTHURAU 'RHEN FFARMWR.

News
Cite
Share

LLYTHURAU 'RHEN FFARMWR. Gan y Parch WM. REES (Gicilym HiraetJtog). CASTIAU HEN FFARMWYR. OLYGWYR —Y mae Rhen Ffarmwr wedi fy nigio i yn ofnadwy wrth redeg ar y gweision a'r raorwyn- ion yn son am ei bwdin, ei wyneb pres, a'i ginio prin. Ni fydd dim pwdin yn ei dy ond dwywaith yn y flwyddyn i'r gweinidogion gael cynyg arno sef nos Nadolig, a'r Pasg. Ond dydd calangauaf a ddaeth, a finau ydwyf yn rhydd ac os ydych yn Olygwyr teg, gadewch i mi roi ychydig o lawer o gastiau Hen Ffarmwr ger gwydd darllenwyr yr Amserau; y maent yn ffeithiau. 1. Y dorth o flaen TJsbusiaid.—Dywedodd Sian, Nel, gad y dillad allan heno, edrach wynant dipyn.' Dywedodd Gutto'r gwas, Dos a'r dorth yma allan hefyd, edrach wynith hi y mae yn goch iawn.' A bu eryn gynhwrf cydrhwng Gutto a Sian ar y mater ac yntef, yr hen gono, yn clywed. Y boreu canlynol, yr oedd meeting yn Lian aeth Gutto i'r ty, a chafodd afael yn y dorth, a chymerodd hi dan ei gesail, a dywedodd, Os barua'r Ustusiaid fod hon yn ffit i'w bwyta, mi bwytaf hi onide, wna'i dctim.' A chychwynodd tua'r Llan. Ar hyn, yr oedd Sian yn gwaeddi'n groch, N el, galw ar dy feistr, brysia bobl anwyl, galw ar dy foistr— y dorth yn myned o flaen Ustusiaid brysia, galw ar dy feistr.' A Nel, yn hoffi'r sport, oedd yn lied hwyrfrydig i gychwyn. Pa fodd bynag, yroedd yn rhaid myn'd a'r Hen Ffarmwr a ddaeth, a goddi- weddodd Gutto, ac achubodd y dorth rhag myn'd o flaen yr Ustusiaid, trwy addo i Gutto y byddai y dorth nesaf yn wynach, ond nid oedd. 2. Y carpad pyd)-edig.-Fel yr oedd Nel yn ys- gwyd carpad, dywedodd, Meistres, y mae hwn wedi pydru, ni ddeil o mo'i ysgwyd.' Gad iddo,' ebai Sian, mi wneith y tro ar welyau'r llanciau yn llofft y beudy.' Ac yr oedd yr Hen Ffarmwr braidd yn ei weled yn rhy dda i liyny. 3. Yr egwyddor wÚfoddol. Y mffrastia yr Hen Ffarmwr gryn lawer yn yr egwyddor wirfoddol pe byddai gwirfoddoldeb pawb fel yr eiddo ef, ni fyddai wiw son am dani hi. Un dydd Sul, gyrodd Sian Nel i'r ty nesaf i newid ceiniog, gael i'r Hen Ffarmwr ddimai i'w rhoi yn y casgliad yr oedd ceiniog yn ormod gaiidd.) i'w rhoi, er mai un waith yn y mis y bydd y casgliad yn y capel hwnw. Un tro arall, yr oeddym ein dau wedi myned i wrando arG. C., i B—n—, a dygwyddodd fod yno gasglu ac wrth wel'd yr Hen Ffarmwr yn chwilio ei boced- au, ac heb gael dim, a rhag cywilydd drosto, cyuyg- iais geiniog iddo gofynodd yntef yn ddistaw yn fy nghlust, Oes genyt ddim dimai ?" Atebais, Nag oes. A chan nad oedd ef am roi mwy na dirnai, rhoddodd y geiniog i mi yn ei hoi a dyna i chi beth yw ei egwyddor wirfoddol o. Byddai yn mhob ffair gyflogi yn Lian- a chyflogai was neu forwyn heb ofalu dim am rin- wedd angenrheidiol i ddyfod i deulu, yn enwedig i blith plant ond rhyw hen slyfen oreu am slafio fycldai ei boint o. Un felly oedd y forwyn oedd ganddo o flaen Nel. Nid oedd llestr glan, na llwy lan, na dim glan i gael o'i dwylaw braidd un amser. Ac nid ellid ei choelio braidd am ddim a ddywedai. Mynai heuru, ryw noswaith, nad oedd wedi cymer- yd d&r golchi y llestri i wneyd uwd ond yr oedd hyny yn rhy eglur, canys yr oedd y cadach llestri yn yr uwd. Pan oedd yr Hen Ffarmwr yn Guardian, yr oedd y gair am dano fo, mai efe oedd y brynta wrth y tlawd o'r holl Guardians. Ac y mae'n ddigon hawdd coelio hyn, canys y mae yn yr Amserau yn gweiddi am ddiddymu treth y tlodion. Ac ni rydd o na thamaid na llymaid i neb tlawd. Cafodd Mari, ei ferch, ei biwsio yn ofnadwy am roi cwpan- ed o laeth i ryw wreigan weddw. "Yr wyf fi," meddai ef, "yn methu a chael digon o laeth i'r moch." A meddai Guto, "Gwyn fyd na fuaswn yn fochyn, gael i mi laeth i'w yfed." Ydwyf ei hen was, BEUNO. (I barhau).

0 Ddyffryn Nantlle.

[No title]