Hide Articles List

8 articles on this Page

Cwasg Deheu Affrica.

-0-Cyrddau y Dyfodol, &o.

LieoS

[No title]

Y RHYFEL.

News
Cite
Share

Y RHYFEL. Anffawd i Gorphlu Prydeinig. DDIWEDD yr wythnos, derbyniodd Swyddfa Rhyfel y genadwri ganlynol Oddiwrth Arglwydd Roberts at Ysgrifenydd Rhyfel. Gorsaf Pretoria, Mehefin 5ed. Drwg genyf hysbysu fod 13eg Bataliwn o'r Meirchfilwyr Ymherodrol wedi gorfod ymostwng i gorphlu llawer mwy o'r gelyn ar yr 31ain o Fai, ger Lindley. Pan gefais hysbysrwvdd fod ymosodiad yn cael ei wneud ar y bataliwn, gorchymynais i Arglwydd Methuen fyned i'w cynorthwyo mor gyflym ag y gallai. Yr oedd Methuen ar y pryd bellder o ftordd ar ochr Heilbron i Kroonstad, a chychwynodd ar ei daith yn mhen haner awr ar ol derbyn fy mhellebyr. Erbyn deg o'r gloch boreu dranoeth, yr oedd wedi teithio 44 0 filldiroedd mewn pum awr ar hugain, ond er hyny yn rhy hwyr i waredu Yeoman- ry Spragge. Ymosododd Methuen ar rhwng dwy a thair mil o r Boeriaid, ac ar ol brwydr gyndyn, gwasgarwyd y gelyn yn llwyr. Mae yn ddigwyddiad pur otidus, ond gobeithiaf na fydd yr amser yn faith cyn y bydd y Meirchfilwyr wedi eu rhyddhau o'u caethiwed." Newydd cyffrous o Bloemfontein. CYMUNDEB ROBEHTS WEDI EI DORI. Cyhoeddwyd y pellebyr canlynol nos Sadwrn, o Capetown Mehefin Sfed. Kelly-Kenny a hysbysa o Bloemfontein fod gwifrau y pellebyr wedi eu tori yn Roodeval, i'r gogledd o Kroonstad, gan gorph o Foeriaid yn rhifo tua 2,000 0 wvr, gyda chwech o faes-gyflegrau. "Mae Kelly-Kenny yn anfon adgyfnerthion grymus i Kroonstad, ac yr wyf finau yn anfon byddin o Cape Colony. Gobeithiaf na fydd y rhwystr ond Y mae Roodeval ar y reilffordd 30 milldir o Kroonstad, ar linell unionsyth cymundeb Arglwydd Roberts. Anffawd arali. Pellebyr arall a dderbyniwyd ddydd Llun o Cape- town a gynwysa hysbysiad 0 Bloemfontein oddiwrth y Cadfridog Kelly-Kenny. Dywed i frwydr ffyrnig gymeryd lie ddydd Gwener rhwng Arglwydd Methu- en a'r gelyn i'r dehau o Heilbron, lie yr adroddid fod Colvile gyda brigad o'r Ucheldiroedd. Gadaw- odd Methuen Lindley ar y 5ed cyfisol, a digon o gyflenwad iddo ei hun a Colvile, gan adael Paget i ddal Lindley gyda digon o wyr a chyflenwad Gor- esgynodd y Boeriaid y wlad i'r gogledd o Kroon- stad, torasant yr holl wifrau pellebrol, dinystriasant ugain milldir o'r reilffordd, ac ymosodasant ar Gatrawd y 4ydd Derbyshire (Sherwood Foresters), y rhai oedd yn gwylied y llinell yn Roodeval. Cy- merodd y frwydr le ddydd Iau, yr hon a drodd allan yn fuddugoliaeth lwyr i'r gelyn. Dywediri'n byddin golli 95 mewn lladd a chlwyfo, ac i'r gweddill gael eu cymeryd yn garcharorion. Bataliwn o Filisia ydvw'r rhai hyn, y rhai a nurt- iwyd yn Manceinion, ac yno yr arosasant hyd nes yr anfonwyd hwy LDdeheudir Affrica fis lonawr di- weddar. Rhifent yr adeg hono 780 o wyr. Felly, yn ol y newyddion diweddaf, y maent oil wedi eu lladd, eu clwyfo, neu eu cymeryd yn garcharorion. Symudiadau Buller. Dal i wthio yn ei flaen yr oedd Buller ddiwedd yr wythnos. Ar y 6ed cyfisol, meddianwyd Bryn Van Wyk gan frighd 0 geffylau ysgeitn Deheu Affrica, ar ol gwrthsafiad cyndyn y gelyn. Lladdwyd ped- war a chlwyfwyd 13 o'r Prydeiniaid. Y diwrnod canlynol, cafwyd dau wn mawra dwy fagnel lynges- 01 i ben y bryn, a dau wn llai i lethr de-orllewin Inkwelo. 0 dan amddiffyniad y gynau hyn, ymosodwyd ar y llethrau rhwng Bwlch Botha ac Inkwelo. Plan- iwyd y rhuthr yn dda gan Hildyard, a chariwyd ef allan gyda gwrhydri gan y milwyr. Llwyddasant i fyned 0 amgylch y gelyn, nes eu gorfodi i gilio o u hamddiffynfa er mor gadarn ydoedd. Trwy hyn enillwyd safle o'r hon y gellid gwneud Laing-s Nek yn anniffynadwy. „ Gyda chryn anhawsder y caed y wageni i fynu r bwlch gan mor serth ydoedd. Canfyddwyd y rhifai y gelyn oddeutu dwy fil, ond ciliasant oddeutu 26 milldir i'r gogledd-orllewin. Baden-Powell wedi symud. Y mae yr Uch-Gadfridog Baden-Powell wedi symud ei bencadlys i Ottoshop, a'r Cadfridog Hunter a'i adran wedi gwneud Mafeking yn ganolbwynt. Ddydd Gwener, meddianwyd Lichtenburg gan y Cadfridog Barton. 1, i Y mae'r Boeriaid yn y cymydogaethau cylchynol yn parhau i roddi eu harfau i lawr, ac i dderbyn am- ddiffyniad y milwyr Prydeinig yn erbyn y brodorion, y rhai sydd yn dechreu aflonyddu. Bu y Baralongs mewn ysgarmes ar lan yr afon Harts, a llwyddwyd i gymeryd nifer mawr o wartheg. Y mae'r cyflenwad dwfr wedi ei adnewyddu yn Mafeking, a'r cymundeb gyda'r pellebyr a'r reil- ffordd wedi ei adnewyddu i'r dehau er canol yr wythnos ddiweddaf. Symudiadau yn y Transvaal. Ddechreu yr wythnos, yr oedd y Cadfridog Rundle yn Hammonia, ac yn gallu cydweithredu a'r Adran Drefedigaethol sydd dan y Cadfridog Brabant yn Fieksburg. Hysbysid fod oddeutu chwe' chant o Foeriaid wedi rhoddi eu harfau i fynu yn ardal Ficksburg, ond fod byddin o bedair mil wedi myned i gyfeiriad Bethlehem. Dydd Gwener, ymwelodd dau synrychiolwr Boeraidd a'r Cadfridog Bundle, a chawsant ymddyddan maith, ond ni wyddis beth oedd amcan y cyrarlyddiaa. Yn ardaloedd gorllewinol y Transvaal, y mae y Cadfridog Hunter a'r Milwriad Plumer yn symuft yn mlaen yn gyflym. Ar ol meddianu Ventersdorp, y mae y Cadfridog Hunter jn teithio yn mlaen i Potchefstroom, tra y mae y Milwriad Plumer yn agoshau at Rustenburg. Y mae Ventersdorp oddeu- tu 30 milldir o Potchefstrom; a Rustenburg 55 milldir i'r gorllewin o Pretoria. Buller yn Nhrefedigaeth yr Orange. Ddydd Sul, cyrhaeddodd Syr Redvers Buller i safle gyfleus lie mae'r afonydd Klip a Gansolei yn uno a'u gilydd, bymtheng milldir i'r gorllewin o Laing's Nek, yn nhiriogaeth yr Orange. Rhed yr afon Klip o'r gogledd i'r gorllewin, yn gyfochrog a reilffordd Charlestown a Johannesburg, ond 0 ugain i bum milldir ar hugain oddiwrthi. Bu raid tamo ar y gelyn droion cyn cyrhaedd y safle hon, ac am cangyfrifir eu bod yn rhifo oddeutu tair mil. Yr oedd yn amlwg eu bod hwythau am feddianu y safle hon, ond gorfodwyd hwy i encilio a flaen tanbeleni ein magnelau mawrion. Gwnaeth ceffylau ysgeifn Deheudir Affrica a brigad y Meirchfilwyr wasanaeth gwerthfawr yn yr ymdaith, a'r fagnelfa dan ofal Major Ray, R.N., a Capten Jones, R.N. Nid oedd yr anffodion rhwng Laing's Nek a'r afon Klip, ond chwech wedi eu lladd a saith wedi eu clwyfo. Bu'ler yn y Transvaal. Y newydd diweddaf ydyw am lwyddiant y Cad- fridog Buller i yru y Boeriaid ar ffo, gan adael yn llwyr eu safleoedd cedyrn yn Laing's Nek a Majuba. Cymerodd brwydr le ddydd Llun yn agos i Charles- town, lie yr oedd y gelyn mewn nifer luosog gydag amryw fagnelau. Catrawd Dorset gymerodd y rhan fwyaf blaenllaw, a chyda blaen y bidog y gorfodasant y gelyn i encilio; a gwnaeth brigad y meirchfilwyr wasananaeth gwerthfawr. Ni wyddis beth oedd ein colledion, ond tybiai Buller eu bod dan gant. Erbyn ddydd Mawrth gwersyllai byddin Syr Redvers Buller bedair milldir i'r gogledd o Volks- rust yn y Transvaal, ond methodd ar ei daith a chymeryd dim o'r gelyn yn garcharorion, na medd- ianu eu magnelau. BIRMINGHAM.—Cynaliwyd cyfarfod arbenig o Gymdeithas Cymru Fydd, nos Wener diweddaf, i gjrflwyno anrheg fechan i'w hysgrifenydd ffyddlawn Mr R. O. Morgan (gynt o Lerpwl), ar achlysur o'i briodas a Miss Kate Pritchard, merch Mr Pritchard, adeiladydd, Burbury Street. Caed cyfarfod hwyliog. Wedi i'r llywydd egluro amcan y cyfarfod ,cyflwynodd y trysorydd, Mr R. Jervis, i Mr Morgan Swan Foun- tain Pen aur gwerthfawr, a datganodd ei lawenydd o'r fraint i wneud hyny o wasanaeth ar ran y gym- deithas, gan fod diwydrwydd ac ymroddiad y cyfaill yn haeddu hyny. Siaradodd amryw o'r aelodau, canwyd caneuon, adroddwyd englynion, a diolch- odd Mr Morgan yn gynes iddynt. Penderfynodd Cynghor Dosbarth Dinesig Llan- gollen yr wythnos ddiweddaf fenthyca, yn unol a chaniatad Bwrdd Llywodraeth Leol, 4,151p. at ail osod pibelli dwfr, &c.

Advertising

Family Notices

Advertising