Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Helynt yn Mwrdd CwarohaldwaicJ…

-:°:-Nodion o Fon.

Marwolaath Dr Ryle, cyn-Etgcb…

Colofn Olrwoet

-0---DyfTry/i Clwyd.

News
Cite
Share

-0- DyfTry/i Clwyd. DINBYCH PHIF atdyniad y Sulgwyn yma ydoedd y rhedeg a mabolgampau eraill ar dir y Castell. Ymgynullodd dros dair mil o bobl, a fu yno erioed y fath hwyl. Yr oedd nifer yr ymgeiswyr ynyramrywiol gystadl- euon yn bur lluosog, a chafwyd cryn ddifyrwch yn y rhedegfeydd olwynwyr-yr olaf i gael y wobr, y rhedegfa deir-coes, a'r rhedeg mewn sachau, Heb- law y cystadleuon, yr oedd yno glwb o lanciau o Manceinion yn myned trwy nifer o ymarferiadau corphorol dyddorol, ac ych wanegoid Seindorf Filwr- 01 y Gwirfoddolwyr at y dyddordeb. Dydd Mawrth,jyn nghapel Peniel, gweinyddwyd y ddefod briodasol rhwng Miss H M Hughes, Segrwyd Ucha, merch ieuengaf y diweddar Mr Wm Hughes, King's Mills, & Mr R R Lloyd, mab ieuengaf Mr Owen Lloyd, Bachymbyd Fawr. Gweiayddwyd gan y Parch David Jones, Rhuddlan. Dyma'r briodas gyntaf a weinyddwvd yn y capel hwn, ac fel arfer, cyflwynwyd Beibl hardd yn anrheg i'r par ieuanc ar ran yr eglwys. Ymadawsant yn y pryd- nawn, yn nghanol llongyfarchiadau eu cyfeillion, i dreulio eu mis mel yn Hastings. Nos Sadwrn, ar ol cystudd maith, bu farw Mr Gold Edwards, un o gyfreithwyr goreu a mwyaf ad- nabyddus Gogledd Cymru. Efe ydoedd cofrestr- ydd Llys Sirol Dinbych, a llanwai amryw swyddi eraill. Bu am lawer o flynyddau yn oruchwyliwr etholiadol y Rhyddfrydwyr yn ,y sir a'r bwrdeis- drefi, ond yn ddiweddar ni chymerai ran flaenllaw mewn materion cyhoeddus. RHYL. Cynaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Gweithiol Cyng- hrair Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru, yn Rhyl, ddydd Iau, dan lywyddiaeth v Parch Evan Jones, Caernarfon. Prif waith y cyfarfod ydoedd trefnu ar gyfer y gyfres o gyfarfodydd ceihadol y bwriedir eu cynal ddechreu y flwyddyn. Cynelir y cyfarfod- ydd hyny yn y trefi o Chwefror 16 hyd y 26ain, ac yn y wlad am yr wythnos yn dechren Mawrth 2il. Peuderfynwyd gwasgu ar y cynghorau lleol i wneud trefniadau cynar a phriodol ar gyfer hyny. ) RHUTHIN. I Ddydd hu cynaliwyd cymanfa ganu flynyddol Bedyddwyr Dyffryn Clwyd yn Llanelidan, lie yr ymgynullodd cynulleidfa fawr, ac y cafwyd cyfar- fodydd pur lwyddianus. Yr arweinydd ydoedd Mr Edwards, y postfeistr. Y Sul cyn y diweddaf bu farw Mr J H Davies, paentiwr, Market Street, yn 67 oed. Yr oedd yn wael er's amser, ac nid oedd ond wyth mis er pan fu ei wraig farw. Yr oedd Mr Davies vn adnabyddus i gylch eang, a pherchid ef gan bawb o'i gydnabod, yn mhell ac yn agos. Cymerodd yr angladd le ddydd Mercher, yn mynwent Rhewl, ac yr oedd tyrfa fawr yn bresenol, yn cynwys cynrychiolwyr o Urdd y Coed wig wyr; ac yr oedd pedwar diacon o eglwys y Tabernacl yn bresenol, o'r hon yr oedd Mr Davies yn aelod ffyddlawn. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn E J Williams, Tabernacl, ae Ambrose Jones, Trefnant, wrth y ty ac wrth y bedd gan y Parchn E Jones, Merllyn, ae E J Wil- liams.

Dail T8 (Hen a Newydd).

--0--IAddysg Grefftwrol yn…

--().---Barddoniaeth.