Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Helynt yn Mwrdd CwarohaldwaicJ…

-:°:-Nodion o Fon.

Marwolaath Dr Ryle, cyn-Etgcb…

Colofn Olrwoet

News
Cite
Share

Colofn Olrwoet PASIODD ei ail ddarlleniad yn ddi wrth wyaebiad, ac y mae pob rhagolwg y caiff Meaur y Plant, tan ofal Mr Souttar, fyned trwy borth cyfyng ei drydydd darlleniad yn Nhy'r Cyffredin ddydd Mercher nes- af, yr 20fed cyfisol. Yn mhlith canoedd o fyrddau cyhoeddus y wlad a'i cefnogant, nid oes yr un mwy calonog a diamwys na Chynghor Dinas Lerpwl, yr hwn a bleidleisiodd 55 yn erbyn 19 trosto. Daeth ai y cymhelliad grasusol ar ran y plant druain oddi- wrth Bwyllgor Gwylio y Cynghor, yr hwn yn y blynyddau diweddaf a wnaeth gymaint tuag at enill i'r ddinas enw da am ei hymdrechion i reol- eiddio yn hytrach na chael ei rheoleiddio gan y Fasnach Feddwol. Anghenfil rn unig allai wrth- wynebu deddfwriaeth ar bwnc mor bwysig ag atal plant tyner tan 16 oed rhag cyrchu diod o dafarnau i rieni neu lettywyr a gormod o gywilydd arnynt ei nol eu hunain, neu hwyrach rhy feddw na chawsent ragor pe'r aethent. Rhai da am glebar dros eu hawliau, a chwyno am eu gorthrwm, yn gyffredin ydyw Undebau Gweith- wyr, ond pur ddall a phendew i weled gwir achos- ion eu helbulon a'u hanawsderau. Yn allanol y tybiaut hwy fod pob drwg a diffyg, mewn cyfalaf- aeth cryf, dideimlad, ar un Haw, a Senedd wan, dan ei phawen yn rhy fynych, ar y Haw arall; ond er fod gormod sail i'r gwyn uchod, yn arferion afradus a diddarbod y gweithwyr eu hunain y mae eu prif elyn, a rhaid symud y drwg oddifewn, chwedl y pregethwyr, cyn y ceir fawr dda o ddeddfwriaeth y tuallan. Pa hyd y pery cynghrair mor agos rhwng Llafur â'r Dafarn ? Paham y rhaid cynal pob pwyllgor neu glwb gweithwyr ar ddibyn mor serth, oddiar yr hwn y llithra cynifer ohonynt bob blwydd- yn i'r dyfnder anadferadwy ? Paham na ellir trefnu na gorymdaith nag arddangosiad heb fod nawdd a hugan y dafarn tros y cwbl ? Pan benderfyno y gweithwyr ddatod y llyffethair hwn o'u plethiad eu hunain, bydd eu gorthrwm penaf wedi diflanu. Ie, ie, geiriau d6l a duwiol; ond pwy ddaw a'r gweithwyr a'u hundebau i edrych ar bethau o'r saf- bwynt yna ? Eu harweinwyr ac y mae argoel fod rhai o'r cyfryw wedi cael gweledigaeth eglur ar y mater. Yn ei anerchiad i Gynadledd flynyddol Undebau Llafur y Werddon yn Nublin y dydd o'r blaen, sylwai Mr Leahy mai y ffordd i nerthu pob agwedd ar y symudiad llafurol yn yr Ynys Werdd fyddai i arweinwyr y dynion eu tywys hyd lwybrau Dirwest, yn lie taflu holl bwys eu dylanwad o du y Fasnach Feddw. Anogai ei gydweithwyr i ffurfio cynghrair unedig o nerthoedd Llafur a nerth- oedd Dirwest. Ni roddwyd erioed iddynt iachach cynghor; a'r 11 hyn a ddywedodd Mr Leahy wrth weithwyr y Werddon, dyweded eu harweinwyr hwythau wrth weithwyr Cymru, Lloegr, a'r Alban. Anfonodd Gol. y Licensed Trade News at Lady Henry Somerset i ofyn ai tybed iddi mewn gwirion- edd wneud y sylw yn ei haraith yn Wolverhampton nad oedd gan y Fasnach Drwyddedol na gwleid- yddiaeth, dyngarwch, na rhagolwg yn y byd ond gwneud arian." Do, ebe hithau yn ei hateb moes- gar ond cystwyol iawn ac aeth yn mlaen i ddyfynu o eiriau gwladweinwyr, dyngarwyr, ac Adroldiad Mwyafrif y Ddirprwyaeth Drwyddedu i ddangos eu b -d hwythau yn coleddu syaiad cyffelyb ond yn ei ddatgan hwyrach dipyn yn llai cryno. Y tro nesaf, Lady Henry, yr ewch ati i dynu llun mor gywir, co-qwch mor hoff gan bawb, yn enwedig yr hagr, ydyw cael euffiatro. JB AITSH.

-0---DyfTry/i Clwyd.

Dail T8 (Hen a Newydd).

--0--IAddysg Grefftwrol yn…

--().---Barddoniaeth.