Hide Articles List

8 articles on this Page

Helynt yn Mwrdd CwarohaldwaicJ…

-:°:-Nodion o Fon.

Marwolaath Dr Ryle, cyn-Etgcb…

News
Cite
Share

Marwolaath Dr Ryle, cyn-Etgcb Lerpwl. GTDA gofid dwys yr ydym yn cofnodi marwolaeth yr Hybarch Dr Ryle, cyn-Esgob Lerpwl. Er ei ymddiswyddiad yn mis Mawrth diweddaf, gwaelodd ei iechyd yn raddol, a daeth y diwedd ddydd Sul diweddaf yn Lowestoft. Yn marwolaeth Dr Ryle, yn yr oedran teg o 84: mlwydd, cyll Eglwys Loegr ei heagob hynaf, a'r adran Efengylaidd yn yr Eglvrys hono ei harweinydd amlycaf a mwyaf penderfynol. Ei ddymuniad penaf I er's blynyddau ydoedd cael marw yn yr harnis." Bu agos iawn i'r dymuniad gael ei gyflawni. Ond gorfododd y gwaeledd a'i cyfarfu yn Hydref di- weddaf ef i roddi ei swydd i fynu, a chymerodd ei ymddiswyddiad le Mawrth laf. Gyda dymuniad i wneud perffaith gyfiawnder a gwasanaeth Dr Ryle i Eglwys Loegr fel cyfangorph, buasai raid i farnwr teg ddweyd mai ei gymeriad ar y cyfan ydoedd dyn plaid, galluog a chadarn. 0 I ddechreu ei yrfa glerigawl, cymerodd i fynu safle arbenig, ac anaml, os byth, y symudai yn mhell i edrych ar gwestiynau o safbwynt arall. O'r dech- reu i'r diwedd, amddiffynodd ei olygiadau ei hun am atbrawiaeth yr Eglwys, defodaeth ac arferion, a beirniadai olygiadau y rhai a wahaniaethent oddi- wrtho gyda'r fath lymder a dyfalwch fel yr edrych- ent, er yn ddiamheuol onest, braidd yn eithaf- ol. Nid oedd gan ddefodaeth rwysgfawr a thraddodiadau eglwysig un atdyniad iddo ef, ac ni wnaent yr argraph leiaf arno. Hwyr- ach fod gan gysylltiadau boreuol a thymher bersonol gryn lawer i wneud a hyn. Ar y cyntaf, ni fwr- iadwyd ef yn glerigwr. Yn fab i'r diweddar Mr John Ryle, A.S., Macclesfield, dygwyd ef i fynu ar gyfer gyrfa wleidyddol; a hyd yn 25ain oed, ed- rychai ar hyny fel cynllun ei fywyd. Ond yn sydyn daeth tro ar amgylchiadau collodd ei dad safle fas- nachol o gryn ddylanwad, a bu raid i Ryle ieuanc droi ei olygon i ryw gyfeiriad arall. Penderfyuodd gymhwyso ei hun ar gyfer cymeryd urddau, ac ni chafodd reswm byth i edifarhau. Ganwyd Johu Charles Ryle yn Park House, Macclesfield, Mai lOfed, 1816. Cafodd ddygiad i fynu gofalus, ac yn yr amser priodol anfonwyd ef i ysgol Eton. Yn 1833, derbyniwyd ef i mewn i Goleg Crist, Rhydychain, lie y daeth yn fuan yn enwog fel chwareuwr ac fel myfyriwr. Eaillodd ysgoloriaeth Prifysgol Craven yn 1836, ac anrhyd- edd dwbl mewn clasuron yn 1837, pryd y cymerodd hefyd ei B.A. Anrhydeddwyd ef a'r radd anrhyd- eddus o D.D. gan Brifysgol Rhydychain yn 1880. Ordeiniwyd ef yn 1841, ac yn yr un flwyddyn pea- odwyd ef i guradiaeth Exbury, swydd Hants Yn mhen dwy flynedd, penodwyd ef yn rheithor St. Thomas, Winchester. Yn 1844, daeth yn rheithor Helmington, Suffolk, yr hon fywoliaeth a roddwyd iddo gan yr Arglwydd Ganghellydd, ac arosodd yno hyd y flwyddyn 1861, pan y cynygiodd Esgob Nor- ich iddo fywoliaeth Stradbroke, Suffolk. Penodwyd ef yn Ddeon Gwledig Norwich yn 1872, yn bregeth- wr arbenig yn Nghaergrawnt yn 1873 a 1874, ac yn Rhydychain yn 1874,1876, 1879, a 1880. Yn 1880, penododd Arglwydd Beaconsfield ef i Ddeoniaeth Salisbury, ond cyn iddo dderbyn y swydd yn ffurfiol penodwyd ef i Esgobaeth newydd Lerpwl, achysegr- wyd ef yn Yore, Mehefin o'r un flwyddyn. Pan y cynygiwyd yr esgobaeth iddo, dywedir iddo ddweyd wrth Arglwydd Beaconsfield, Fy Arglwydd, yr wyf fi yn rhy hen i wneud Esgob yr wyf yn 64." Edrychodd y Prifweinidog ar gorph cadarn a gwyn- ebpryd iachus Canon Ryle, ac ebai yn dawel, Ym- ddengys i mi fod genych gorph da iawn Ar Wyl Sant Barnabas, Mehefin 11, 1880, aeth nifer lluosog o ddinas'yddion Lerpwl i York i vveled y ddefod ddyddorol yn cael ei chvflawni, ac yn eu plith yr oedd y diweddar Christopher Bushnell, fel trysorydd y pwyllgor esgobawl; y diweddar Canon Hume yn cynrychioli y swyddogion, a'r diweddar Canon John Stewart. Y Sabboth canlynol, pregeth- odd yr Esgob newydd, am y tro cyntaf yn ei wisg- oedd esgobawl, ddwy bregeth ymadawol yn Eglwys Blwyfol Stradbroke, yr hon oedd yn orlawn o wran- dawyr. Cafodd dderbyniad cynes a chalonog i Lerpwl. Cymerodd y ddefod o orseddu le yn Eglwys Gadeiriol St. Pedr, Gorphenaf 1, 1880, a thraddod- odd yr Esgob anerchiad teilwng o'i swydd ac o'r am- gylchiad. Ar ei benodiad i'r Esgobaeth newydd a phwysig hon, cafodd Dr Ryle gyfle neillduol i enill enwog- rwydd fel Esgob ond fel ysgrifenydd traithodau poblogaidd, yn hytrach nag fel llywodraethwr eglwysig, y cofir ef oreu. Fel awdwr pamphledau yn ymwneud a chwestiynau y dydd bu yn hynod lwyddianus. Am ei lwyddiant fel llywodraethwr eglwysig, y mae gwahaniaeth barn yn bodoli. Cymer rhai olwg frwdfrydig ar ei lwyddiant fel esgob, tra y myn eraill ei osod i lawr yn bar isel yn y raddfa. Dibyna y golygiadau hyn yn ddiau ar y cydymdeim- lad neu'r diffyg cydymdeimlad a'i olygiadau eglwysig. Ymosodwyd arno yn llym a chwerw o dro i dro gan yr Uchel-Eglwyswyr. Nid oeddynt, fodd bynag, ond haeriadau gelynion, a pharhaodd yntau hyd y diwedd i gynrychioli adran arbenig a helaeth o'r Eglwys, Gellir dweyd yn ddiau na safai Dr Ryle yn y rhesg flaenaf fel duwinydd, fel trefnydd esgob- awl, nac fel gwladweinydd eglwysig. Gorweddai ei dalentau mewn cyfeiriadau eraill, a diau iddo wneud yr hyn oedd oreu trwy gad w at y pethau oedd ganddo duedd atynt a gallu i'w cyflawni mor ragor- ol. Yr oedd ei ddylanwad o'r nodwedd boblogaidd, ac nid oes amheuaeth na fu ei ddylanwad yn un iachus ar bawb a ddeuai i gyffyrddiad ag ef. Llwyddodd, fodd bynag, i lywio ei esgobaeth trwy bob ystorm heb daro yn erbyn un graig; ac yn ystod ei holl fywyd bu yn Eglwyswr ffyddlawn a chyson. Fel y dywedwyd, perthynai i'r adran Efengylaidd o'r Eglwys, ond ni chymerodd un ran yn y brwydrau defodol yn ystod y blynyddau di- weddaf. Hwyrach fod ganddo amryw resymau dros hyny. Ei awydd i beidio creu cynhwrf yn heddwch mewnol yr Esgobaeth, ac hefyd teimlai ei hun yn myned yn rhy hen i ddal cyffroadau dadleuaeth. Ei eiriau olaf i'r Esgobaeth oeddyut-" Glynwch wrth hen Eglwys Loegr, fy mrodyr anwyl; glynwch wrth ei Be-ibl, ei Llyfr Gweddi, a'i Llithoedd. Na adewch i un sefydliad elusenol ddyoddef. Ystyr- iwch y tlawd a'r anghenus. Cynortkwywch y gwaith cenhadol gartref ac oddicartref. Nac annghofiweh mai egwyadorion y Diwygiad Protestanaidd wnaeth y wlad hon yr hyn ydyw, ac na adewch i ddim eich temtio i gefnu arnynt."

Colofn Olrwoet

-0---DyfTry/i Clwyd.

Dail T8 (Hen a Newydd).

--0--IAddysg Grefftwrol yn…

--().---Barddoniaeth.