Hide Articles List

8 articles on this Page

Helynt yn Mwrdd CwarohaldwaicJ…

-:°:-Nodion o Fon.

News
Cite
Share

:°: Nodion o Fon. DDYDD Mercher diweddaf, yn y Tabernacl New- ydd, Caergybi, unwyd mewn glan briodas Mr R. Henry Hughes, Brunswick Road, Lerpwl, a Miss Jennie Thomas, merch hynaf Capt a Mrs Thomas, Neívry Street, Caergybi. Gweinyddwyd y ddefod ddyddorol gau y Parchn W Griffith (gweinidog), Wynn Davies (Everton Brow, Lerpwl), a Mr R P Williams, cofrestrydd. Gwas y briodas ydoedd brawd y priodfab, a'r morwynion oeddynt dwy chvvaer y briodferch, yr hon a roddwyd ymaith gan ei thad. Yr oedd y capel yn orlawn, a naturiol- hyny-, gan fod Miss Thomas yn hanu o un o deulu oedd hynaf a pharchusaf y dref. Mae hi kefyd yn adnabyddus iawn mewn cylchoedd cerddorol—yn un o'r cyfeiiesau mwyaf medrus, ac wedi rhoddi ei gwasanaeth yn siriol a pharod ar hyd y blynyddau mewn cyngherddau ac eisteddfodau. Mae hi hefyd wedi chwareu yr offeryn yn y Tabernacl Newydd yn ystod y deng mlynedd diweddaf yn hynod o ffyddlawn. Prawf o serch yr eglwys yn y lie ati ydoedd yr anrheg hardd a gyfiwynr/yd iddi o lestri ariau ar ei phriodas. Yr oedd y lluaws aurhegion eraill a dderbyniodd yn ihynod o brydferth a chost- favvr. Ymadawodd y par ieuanc yn y prydnawn i dreulio eu mis mel yn nghanol dymutiiadau da eu cyfeillion a'u cydnabod. Diolch i chwi, Mr Gol., am arlwyoyn eichrhifyn diweddaf dameidiau o ddanteithion blasus y Seiat Fawr. Sylwai un o'r siaradwyr mai angen penaf Cymru heddyw ydyw crefydd ymarferol. Beth fyddai i'r gvveiaidogion roi esiampl o'r grasusau prydferth y siaredid am danynt ? Yn ddiweddar yr oedd dau weinidog adnabyddus yn cynal c'yfarfod mewn capel yn Mon, y gynulleidfa yn weithwyr gua mwyaf. Yr oedd y ddau wedi traddodi yr un piegethau mewn capelau eraill yn yr un dref ar achiysuron blaenorol. Nid oedd eu costau teithiol oud ychydig sylltau, ond talwyd iddynt 5p. yr un. 11 Nis gwn pwy i'w beio fwyaf, yr eglwys am roddi ynte y pregethwyr am dderbyn y fath swm. Dy- wedir fod y ddau yn gefnog o bethau'r byd, ac heb deulu. Dylai gweinidogion ar bob cyfrif gael cyf- log i'w galluogi i fyw yu gysurus, ond y mae 10p. am hen bregethau ar ddiwruod yn yr wythaos yn afredymol, yn enwedig pan gofiwn fod gau eglwys Ciist gymamt o waith i'w wneud er codiyr''angheu- us o'r domen." Yn jr ardal lie y cyualiwyd y cyf- arfod y mae lluaws o deuluoedd tlodiou na fynych- ant umhyw le o addoliad, amryw yn rhy dlodioa i ga.et gwisgoedd cyfaddas. Onid crefydd ymarfer- ol" fyddai cynorthwyo rhai felly, a chyduabod gwasanaethambell weinidog tlawd yu fwy anrhyd- eddus sydd o dan bwys y byd yn cyflawni yn ddys- taw waith ardderchog dros ei Feistr ? Colli ddarfu Cor Undebol Llangefni yn Eistedd- fod Colwya Bay ddydd Liun y Sulgwyn. Nid yw er byny yn grwgnach ei fod wedi cael cam. Dyma J spryd rhagorol. Mor wahauol i Seindorf Aiian Ffestiniog ar ol colli yn Eisteddfod Llangefni y Pasg diweddaf. Bu bywyd y beirniad y pryd hwnw agos rnewu perygl. Ba Seindorf Drefol Porthaethwy, tan arweiniad Mr G W Senogles, yn chwareu yr wythuos ddi. weddaf o tlaau Ardalydd Mou a gwahoddedigion yn Piasnewydd, a mawr fwynhawyd eu gwasanaeth. Drwg gan luaws fydd cly wed am fai wolaeth Mr Richar is, ysgolfeistr, Bodedern. Bu'n wael am j WYlhnosau" Cymeriad dJddan a chyrneradvry iawn i gan bawb ydoedd, a theimiir chwithdod mewn ami gyichareiol. j Mae mab Arglwyddes Neave, Llysdulas, wedi dy- chwelyd o'r rhyfel yn Affrica. Yr oedd llawenydd mawr yn mysg trigolion Amlwcb. Bu rbialtwch mawr yn Llanfachreth ar fynediad Argl. Roberts i Pretoria- chwifiwyd baneri, tan- iwyd cyfiegrau, gwnaed dynion gwellt i gynrych- ioli Kruger, Cronje, Botha a Lloyd George, a gor- ymdeithiwyd gyda hwy drwy'r heolydd, ac yna lloagwyd hwy yn nghanol brwdfrydedd angerddol. Cymerai un os nad dau ustus heddwch ran yn y I gweithrediadau. -0:- MONFAB.

Marwolaath Dr Ryle, cyn-Etgcb…

Colofn Olrwoet

-0---DyfTry/i Clwyd.

Dail T8 (Hen a Newydd).

--0--IAddysg Grefftwrol yn…

--().---Barddoniaeth.