Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Cymanfa y Wesleyaid.

--\--Sasiwn y Mathodistiaid…

DYDD Mawrth.

[No title]

< Nodion o JF:\o'or.

News
Cite
Share

< Nodion o JF:\o'or. Nos Sadwrn. Eithaf gwag oedd yr hen ddyffrya ddydd Liun y Sulgwyn, gan i bawb allai ymlwybro rywsut ei gwadnu hi oddiyma, ac nid oedd prinder lleoedd i ddewis rhyngddynt i fyned i dreulio'r diwrnod. Profodd 'Steddfod y Bala yn atdyniad gd.rw, wel- wch chwi, ac aeth llu mawr i gaulyn Harmonic y dref tuag yno. Ond fel y bu gwaetha'r modd, bu raid dychwelyd adref heb y wobr. Chwareu teg hefyd, fe ganasant yn rhagorol ag ystyried, a thyst- iai Tom Price ei fod yr un farn a. ni yn hyny ond —ie, yn mhell y bo'r ond yua-y drwg ydoedd fod yno gor gwell. Heu ymladdwr ydyw cor y 'Mwythig, wyddoch, a 'doedd hi yu glod yu y byd iddo guro cor nadyweto yn ei ddiliad cwta. Tra mai plueu yn het yr Har- monic ydoedd iddo ddilyn mor glos wrth ei sodlau a churo hen gampwyr 'Stiniog a'r Ber%vyi. Campus, hogia anwyl, daliwch ati, da chwi, a pheidiwch a dilyn esiarnpl hen gorau Gwrecsam. Mrmvch wobr yn rliywle cyn rnarw, betli bynag. Caatores newydd o Faelor ddaeth i'r golwg yn y Bala ydoedd Ethel Myfanwy Taylor, Gwrecsam. Eniilodd y wobr ar yr unawd i gontralto allan o 18 o ymgeiswyr. Y mae nodwedd a thalent y tad yn blodeuo yn ieuauc yn y ferch. Enillodd David Ellis ychwaneg o glod trwy guro pencampwyr o Loegr a Chyinru yn 'Steddfod West Kirby, ar yr uuawd i denor. Dyma'r wythfed gys- tadieuaeth iddo er y Nadolig, a churo bob tro. Ond yr helynt fwyaf o'r lot ydoedd gwaith Abon yn dwyn y gadair dderw adref o Colwyn Bay. Llon- gyfarchwn y cyfaill mwyn a dirodres ar ei gadair gyntaf ond yr hyn a roddai yr arbenigrwydd mwy- af ar y peth ydoedd y ffaith mai dyma'r gadair gyntaf i ddyfod i'r Cefu er cyn cof, fodd bynag. Gynted ag y cyrhaeddodd y newydd ar aden y fellten, dyma hi yn gynhwrf gwyllt trwy yr holl ardal, a phenderfynwyd heb ddim lol drefnu der- byniad teitwng i'r gwr a'i gadair. Nos dranoeth y cyrhaeddodd, a dyna He yr oedd tyrfa aaeinf o bobl yn ei gyfarfod yn ymyl Rhiwabon. Tynwyd y ceffyl o'r cerbyd, a llusgwyd ef yr holl ffordd, tra y blaenorid yr orymdaitb gan Seindorf Drum Sj- Fife Gethia Dafis, a mawr oedd y rhialt- wch. Aroswyd yu ymyl preswylfod y bardd, ac yn y fan cafodd Joseph Wright ei hun yn llywyddu cyfarfod inawreddog o tua dwy fil o wrandawyr. Traddodwyd anerchiadau brwd gan y Cadeirydd a'r brodyr G W Hughes, Christmas Jones, Parchn J Lewis ac Edward Jones, a saethwyd englynion a phenillion o'r cawell gan Arthur Davies, W H Lloyd, Joseph Edwards, ac Emlyn Davies A wel- soch chi 'rioed siwt beth-pan yn pasio bore dran- oeth, yr oedd y ffordd yn drochion sebon i gyd, digon i wneud i ddyn dyeithr feddwl mai golchfa defaid neu rywbeth felly fu yno. Wedi hyny, digwyddai yn ffodus iawn fod Tom Tom ac Emlyn wedi dyfod i'r dyrfa o rywle, a chafwyd can gan bob un, nes yr annghofiodd pawb y trochion a'r cyfan. Diolchodd Abon am yr holl long., fitrehiadau, ac ymwahanodd y llu dau ganu yr anthemau cenedlaethol. Nos Fawrth, cymerodd amgylchiad dyddorol, poblogaidd ond hynod beryglus, le yn Nghapel Mawr y Rhos ac fel arfer mewn amgylchiadau o'r fath, aaeth cjrnulliad lluosog yn nghyd. Noswaith y Lecsiwn oedd hi yno, ac fe wyddoch oil yr hei- yntion sydd yn nglyn a dewis y blaenoriaid yma. Erbyn cyfrif v pleidleisiau yn fanwl, cafwyd mai Hezeciah Jones a Zechariah Dodd safai ar ben y rhestr, er llawenydd i rat a mawr siom i eraill. Doethineb a gaffont gyda'r swydd. Peth pur annghyffredin yn myd yr Hen Gorph ydyw capel heb ddyled arno, a naturiol felly ydyw i'r cyfeilHoa ymgasglu at eu gilydd i gyd-lawenhau pan y digwydd amgylchiad felly. Dyna fti yn hanes capel Iihosdduyn ddiweadar, a phenodwyd ar ddydd i ddathlu ei Jiwbili," sef ddoe. Gwahoddwyd yr holl aelodau anifer o gyn-aelodau i'r wyl, a daethaut yno o bob eyfeiriad-rhai na wel- wyd eu gwynebau er's ilawer blwyddyn, a phawb yn gweuu am y siriolaf, gan gyd-lawenhau am y war- igaeth. Parotoisai y chwiorydd caredig a ffyddlawn (ac nid yn ami y ceir chwiorydd mor garedig ag yn Rhosddu) fyrddeidiau o bob rhyw ddauteithiou yn y prydnawn, ac ar y plant llawen a nwyfus y gwein- iasant gyntaf, tra y treuliai eraill yr amser i glebran ac ymgomio am helyntion y gorphenol. Wedi i'r rhai by chain gael eu digoni a myned i'r cae i chwareu, llanwyd y byrddau eilwaith, a methodd hyd yn nod y nifer mawr fu yn bwyta hysbyddu y bara brith. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyfarfod hapus iawn, dan lywyddiaeth y Parch Griffith Owen, gweinidog parchus yr eglwys am ugain mlynedd, a chafwyd ganddo anerchiad blasus. Rhoddodd Mr John Jones, Liverpool House, adroddiad dyddorol dros ben o hanes cychwyniad yr achos mewn ty anedd o fewn ychydig latheni i fedd Morgan Llwyd, yn y 70au rywbryd, ganddo ef a dau arall a dilynodd ef oddiyno, o'r naill le i'r llall, nes yr ymgartrefodd mewn ystafell fechan a ddefnyddir yn awr fel ysgol- dy ac wedi hyny i'r capel twt a hardd y dethlid ei Jiwbili y diwrnod hwnw. Sefydlwyd yr eglwys yn 1880 gyda 26 o aelodau ac erbyn diwedd 1882, rhifai 42 o aelodau, 43 o blant, a 107 yn yr Ysgol SuI" Cynydd fu ei hanes bob blwyddyn, fel erbyn diwedd y flwyddyn ddi- weddaf rhifai 117 o aelodau, 88 o blant, 198 yn yr Ysgol Sul, a chynulleidfa o 260 ac heblaw hyny, sefydlwyd canghen yn Rhosrobin, yr hon a gymer- odd ymaith gryn nifer o Rhosddu. Co'dwyd y capel yn 1886 ar draul o 1,408p Os 10c, heblaw y tir, yr hwn a roddwyd iddynt gan eglwys Seion; ac er mai gweithwyr yw yr holl aelodau, casglwyd o 1886 i ddiwedd 1899, 1,765p 19s 2c tuag at y ddyled yn unig. Yn ystod yr amser yna, talwyd 318p 18s 4c o log, yr hyn sy'n agos i chwarter swm y ddyled ac wedi talu amryw fan bethau eraill, y j mae ganddynt 46p 18s 9c yn weddill. Cafwyd anerchiadau hefyd gan Mr J E Powell, a j gynrychiolai eglwys Seion, a'r Parchn E Jerman, Gwrecsam, ac Edward Edwards, Carrog, un o blant yr eglwys. Canwyd gan gor y plant, dan arweiniad Mr Isaac Jones, ac unawdau gan Miss Jennie Ro- berts, Miss Gwladys Owen, a Mr Meirion Jones, tra y cyfeiliai Mrs R J Powell. Terfynwyd y cyf- arfod trwy weddi, ar ol pasio y diolchiadau arferol ar gynygiad y Parch Charles Williams, yn cael ei eilio gan Mr Wm Jones, ac ymwahanwyd wedi treulio oriau hapus dros ben. Bendithy nefoedd fo eto ar yr eglwys gynes a'i gweinidog ffyddlawn a charedig. Dyffbynwr

Advertising

Cymdeithas Cynorthwyol Mwnwyr…

March

Advertising

-0 GWRS Y BYD.