Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Cymanfa y Wesleyaid.

--\--Sasiwn y Mathodistiaid…

DYDD Mawrth.

News
Cite
Share

DYDD Mawrth. Yr ysgrifenydd ydoedd y Parch E. J. Jones, Caernarfon, ac yr oedd y rhan fwyaf o'r cynrych- iolwyr yn bresenol. Hysbyswyd y cynelir y Gym- deithasfa nesaf yn Mhwllheli, Awst 22ain i 24ain. Rhoddwyd cauiatad i Gyfarfod Misol Lerpwl i werthu capel Barrow, a'r elw a geir oddiwrtho i ) fyned at waith cenadol yn yr ardal. Rhoddwyd caniat-ad hefyd i werthu capel Crosby Row, Llun- dain. Dymunai Cyfarfod Misol Gorllewin Meir- ionydd i'r Gymdeithasfa ystyried y dymunoldeb o ddadleu y cwestiwn o uno y ddwy Athrofa, ond hysbyswyd i'r Gymdeithasfa ddiweddaf ohirio y. mater hyd nes y cyflwynai Pwyllgor Coleg y Bala ei adroddiad. Peaodwyd pwyllgor i ofalu am gof- golofn Charles o'r Bala, sydd o flaen capel Tegid, ac i drefnu o berthyuas i'r gweddill o .£80 sydd mewn Haw. Galwyd sylw at gyfarfod can'mlwyddiant y Wes- leyaid Cymreig sydd i'w gynal yn Rhuthin mis Awst, a phenodwyd y Parchn Dr James, Maucein- ion Francis Jones, Abergele; a Mr J Herbert Ro- berts, A.S., i fyned yno a chyflwyno llongyfarch- ,y iadau y Cyfundeb i'r brodyr. Cyflwynodd y Parch John Owen, Wyddgrug, adroddiad yn nglyn a'r pwyllgor ar y Babaeth. Penderfynwyd i swyddogion y Gymdeithasfa gyda swyddogion Cyfarfod Misol sir Fflint, arwyddo y notes of hand am holl dreuliau capel Saesneg Tre- ffynnon, yr hyn oedd oddeutu £ 3,000. Penodwyd ymddiriedolwyr dros y capel newydd a adeiladwyd yn Llanfair, Mon, gan Mr Evan Thomas, Birming- ham, a'i drosglwyddo i'r Cyfundeb. Penodwyd y Parchn Francis Jones a John Owen, a Dr Roger Hughes, Bala, ar Bwyllgor Coleg Duw- yddol y Bala. Am 6 o'r gloch yn yr hwyr cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Capel Tegid, pryd y traddododd y cyn-gymedrolwr, y Parch D Lloyd Jones, ei anerchiad lywyddol. Y testyn a gymerodd ydoedd Peryglon y weinidogaeth yn yr oes hon." Yr oeddynt oil wedi eu bedyddio gyda'r amcan mawr o wneud y pwlpud y gallu mwyaf i ddyrchafu eia gwlad a'n cenedl. Meddai y cyfundeb bregethwyr grymusach a mwy poblogaidd,yn ol ei faint,driugain mlynedd yn ol, nag oedd ganddynt ugain mlynedd yn ol, ac nag sydd ganddynt heddyw. Y mae'r capelau wedi eu gwella, eu prydferthu, a'r canu, yn fwy celfydd Y mae pob trefniadau yn liglyn a'r cyfundeb wedi dadhlygu a gwella llawer, a'r perygl heddyw ydyw i'r trefniadau mawr hyn, gymeryd lie pregethiad yr efengyl yn ein plith. Y mae'r cyfun- deb wedi mwy na threblu yn ystod y 60ain mlynedd, ac amheuai ef yn ami a oeddynt yn dilyn ol traed eu tadau mewn difrifoldeb ac ymgysegriad. Cododd Dnw bregethwyr mor alluog yn Nghymru yn ystod y ganrif ag unrhyw bregethwyr yu haues yr eglwys, ond yr hyn a wnaeth iddynt roddi eu holl egni i waith y weinidogaeth ydoedd y di- wygiad a dorodd allan trwy argyhoeddiad dynionfel Whitfield, Wesley, Rowlands, a Davies. Gallent olrhain dylanwad a llwyddiant pregethwyr goreu Cymru i'r achosion hyn. Yr oedd eu gallu- oedd yn gyfryw fel y buasent yn codi i enwogrwydd mewn unrhyw oes. Rhwystr arall ar ffordd llwydd- iant y weinidogaeth ydyw y gwahanol gyfeiriadau yn mha rai y rhed egni meddyliol ac ysprydol dyn- ion. Addysg, masnach, materion lleol, a gwleid- yddiaeth, ac yn arbenig chwareuon, sydd yn denu sylw dynion yn awr. Am y pethau hyn y siaredir ac y meddylir, a'r canlyniad ydoedd fod pethau ys- brydol a thragwyddol yn gorfod rhoddi ffordd. Ymladda yr un pethau yn erbyn rhagoroldeb pre- gethau, a dyfethant eiieithiau eu traddodiad. Gwas- treffir egnion meddyliol ac ysprydol ar ormod o bethau, yn lie eu crynhoi a'u defnyddio i hyrwyddo crefydd a phurdeb yn y wlad. Rhwystr arall ar ffordd llwyddiant y weinidogaeth ydoedd y diffyg dyfalbarhad a chysondeb, a thyfiant diogi. Dyna un o achosion penaf methiant bugeiliaid a gweini- dogion. Terfynodd trwy ddweyd na bydd i Dduw adael Ei eglwys, ond y cwyd eto ddynion yn ilawn yni ac argyhoeddiadau dyfnion, a'u calonau yn llosgi dros achos y Gwaredwr. Boreu heddyw (Mercher) cynelir y Cyfarfod Or- deinio. Rhyddwn y gweddill o hanes y cyfarfod- ydd yr wythnos nesaf.

[No title]

< Nodion o JF:\o'or.

Advertising

Cymdeithas Cynorthwyol Mwnwyr…

March

Advertising

-0 GWRS Y BYD.