Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

CYNWYSIAD :

YDYW'R DUWIAU WEDI BICIO?

News
Cite
Share

YDYW'R DUWIAU WEDI BICIO? DRWG genym orfod dweyd nad yw'r argoel- ion am heddwch buan agos mor lewyrchus ag oeddynt wythnos yn oJ. Fel y mwyaf- rif prophtvydern y pryd hwnw fod heddwch, o ryw fath beth bynag, yn ymyl. Yr oedd prif dref y ddwy dalaeth elynol wedi syrthio i'n dwylaw, a'r ddau gyti-arlywydd yn ffoaduriaid, neu o leiaf wedi encilio i'r rhanau mynyddig o'r wlad heb fawr obaith y gallent wneud dim gwaeth o hyny allan na rhuthrgyrchoedd. Modd bynag, buom yn ddigon gochelgar i ddweyd fod y Boer- iaid wedi llwyddo i gymeryd eu cyflegrau gyda hwy, a phob lie i gasglu nad oeddynt yn brin o borthiant iddynt eu hunain, eu hysgrubliaid, ac i'w gynau. Yna, ddydd Llun, cyhoeddwyd fod byddin yn rhifo o leiaf 2,000 o Foeriaid wedi cael tu cefn i Arglwydd Roberts, a thori ei gysylltiad a'i adnoddau trwy lwyr ddyfetha tuag ugain milldir o'r reilffordd. Dyma'r waith gyn- | taf i'r Maeslywydd gael ei faglu gan y gelyn dewr a ch yfrwys. Fe bar yr anffawd lawer o anhwylusdod i'w fyddin, yr hon, ar 01 gweithio ei ffordd yn mlaen i Johan- nesburg a Pretoria, a raid ddybynu am ei chynaliaeth ar yr hyn eill hi gasglu rhyngddi a'r toriad yn y reilffordd. Rhaid i' Roberts bellach, hyd • oni adgyweirir y galanasdra, ofalu am yr hyn I a adawodd o'i ol, cystal a threfnu ar gyfer I yr- hyn sydd o'i flaen, sef llwyr ddarostyng- iad y gelynion ac ystyr amlwg hyn oil rdyw oediad terfyn y rhyfel. Yn y cyfamser, nid oes ball ar y bob! Ida sydd yn rhagdrefnu y ffordd ddoethaf I i'w chymeryd pan orchfyger y gelyn. Ni waeth heb son am y dosbarth hwnw, ac nid yw'n fychan, a fynent grogi y ddau gyn arlywydd, a charcharu pob un a ddygodd arfau yn erbyn Prydain yn y rhyfelawd, os nid hefyd a roddodd ryw anair i Mri Rhodes a Chamberlain, y dos- barth hwnw fu yn tori ffenestri ac yn Uuchio ceryg at bwy bynag na chydsyniai a hwy yn nghylch y rhyfel. Ond y bobl y mae eu barn o wir bwys ydyw'r rhai sydd yn awyddus am i Brydain Fawr, yn awr ei buddugoliaeth, ymddwyn yn an- nialgar tuag at y gorchfygiedig. Gwyro oblaid mawrfrydedd, yn hytrach nag fel arall, wnaeth Mr Gladstone ddeunaw mlynedd yn ol a phe buasai ei bolisi doeth a phwyllog wedi ei ddwyn yn mlaen yn ei yspryd eangfrydig ef, buasem wedi ysgoi y rhyfel. Dyna wnaeth dyn- ion goreu Prydain yn mhob oes, dyna awyddfryd calon pob Prydeiniwr gwir wladgar y dyddiau hyn ac y mae yr ar- gyfwng presenol yn gyfle gwerthfawr i ymbwyllo, ac ymogelyd rhag creu trefed- igaeth newydd anfoddog, anffyddlon i'r Goron, wrthryfelgar, a fydd yn ddraen yn ystlys Prydain yn lie perl yn ei choron. Help mawr i hyny fydd darllen pob llyfr ellir gael o hanes y bobl yr ydym yn ymladd a hwy o'r ddwy ochr—y pro- Brz*toiz a'r pro -Boer. Y mae miliynau o drigolion y wlad na wyddant ddim am hanes y Boeriaid ond a welsant yn ei new- yddiaduron, y mwyafrif o ba rai sydd wedi gwastraffu cymaint o'u casineb ar Kruger fel nad oes ganddynt ddim yn weddill ar I gyfer y diafol. Yn y cyfamser, nid yw'r newyddion i law y dyddiau diweddaf yn galonogol. Y naae'r Prydeiniaid eto wedi anturio gormod,achael eu dal. Y tro hwn, catrawd Seisnig yn rhifo o 600 i 700 a faglwyd gan y gelyn. Cymerodd yr anffawd le wythnos i heddyw (Mehefin 7), mewn He o'r enw Roodeval. Bataliwn o gartreflu oeddynt, yn dwyn yr enw 4th Derbyshire," neu Sherwood 'Foresters." Ond allan o fyddin o 220,000, ni fydd y golled hon o chwech i saith cant o garcharorion yn fawr ond cyn belled ag y cymyla yr anrhydedd milwrol, mwy nag y bydd ych waith ddinystr y reilffordd y cyfeiriwyd ato uchod. Y newydd trymaf a'n cyrhaeddodd ydyw ymddiswyddiad Mr Schreiner, Prif-weinidog Cape Colony. Llawer a faeddwyd arno gan newyddiadur- on Cecil Rhodes yn Ne Affrica, a Jingoaid y wlad hon. Gan mai Is Ellmyn ydoedd, amheuid pob peth a wnai, a phriodolid iddo bob math o frad a gau-ddybenion. Llab- yddiwyd ef unwaith ar un o heolydd Cape Town, fel y llabyddiodd Jingoaid Scar- borough a manau anwar eraill yn y wlad hon Mr Schreiner, ei frawd-yn-nghyfraith, yn benaf am ei fod o'r un enw ag ef. Ond nid oes gan Brydain gyfaill ffyddlonach a gonestach na Mr Schreiner yn y Penrhyn ac y mae ei erlidwyr yn Lloegr yn dechreu gweled a chydnabod hyny erbyn hyn. Dydd LIun, anogai y Times LIundain fod i Weinyddiaeth newydd gael ei ffurfio, o ddynion cymedrol, gyda'r boneddwr hwn, y bu'r orad Seisnig yn ei ddylorni ar hyd y misoedd diweddaf, yn ben ami. Y mae'r awgrym yn fwy o glod i gallineb presenol y Times nag i'w graffder yn yr amser aeth heibio. Colled ddirfawr i bleid- wyr tegwch a fydd ymddiswyddiad Mr Schreiner ond trwy ei ymdrechion o blaid Lloegr anniolchgar gyda'i gydwlad- wyr y mae wedi colli eu hymddiried a Lloegr trwy hyny wedi colli cyfaill gwerth- fawr yn y drafodaeth agoshaol. Ym- ddengys fel pe byddai gan Ffawd rhyw anffawd i'w hyrddio at bob buddugoliaeth Seisnig yn y rhyfel direswm hwn. Tra y mae Buller yn graddol weithio ei ffordd i gyfarfod Arglwydd Roberts yn Pretoria, fe ddryllir ugain milldir o reilffordd, fe faglir chwe chant o filwyr Prydain, ac fe ymddi. swydda y cyfaill goreu a feddai Prydain yn mhlith Is Ellmyn Deheu Affrica. Bu- asai cenedl farbaraidd yn gofyn, A ddig- iodd y duwiau wrthym ?

-0 GWRS Y BYD.