Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

,PWLPUDAU CYMREIG. Mehefin…

[No title]

IFfestiniog.

News
Cite
Share

I Ffestiniog. DTKA'H Sulgwyn a'i helyntion drosodd, a thawel- wch hyfryd wedi dod yn ol fel angel caredig, gan dywallt balm i glwyfau rhai, ac ymuno yn llawen- ydd eraill. Wedi cerdded yn flin trwy firi masnach a thrybestod y cyhoedd, pwy nil. ddiolcbai am dawel- wch y mynyddoedd ? YB Ysprxrr CTMBBIG AR FAiss T FRWTD*. Fel y gellir tybio, teimlir cryn ddyddordeb yn y sefydliad uchod yn yr ardal hon yn enwedig felly gan fod ein cyd-ardalwr gwladgar, Dr. Mills Roberts, yn mysg y prif feddygon. Trwy garedigrwydd boneddwr o'r ardal, cawsom olwg ar y Cape Argus am Mai 16, a'r Uloemfontein Post befyd. Cynwyaa y papyr hanes dyddorol iawn am aelodau yr Ysbytty Cymreig. Nos Lun, Mai 14eg, gadawodd y Proff. Thomas Jones, Mr Lynn Thomas, Mr Mills Ro- berts, y Ilaw-feddrgou Mr Lanning Evans a Mr Herbert Davies, y llaw-feddygon cynorthwyol, gyda 17 o swyddogion, am Bloemfontein. Nid yw safle yr ysbytty wedi ei beaodi hyd yn hyn, gan eu bod 1 yn disgwyl cyfarwyddyd arbenig oddiwrth y Maes- lywydd ar y pen hwnw ond yr oedd y prif law- feddyg yn awyddus am gael gwasanaeth y llaw- feddygon Cymreig, fel y galwyd am danynt ar un- waith o'r Cape i Bloemfontein. Arosodd y Milwriad Corkerill, y prif swyddog lleol a'i wraig, yn y Cape er gwneud trefniadau i gael celfi yr ysbytty i'r fan benodir i'w sefydlu. Dydd Mereher, cynaliwyd cyfarfod croesawol i'r holl aelodau cysylltiol a'r ysbytty, pa rai oeddynt oil yn bresenol ac eithrio y personau nodwyd uchod, y rhai oeddynt wedi ymadael am Bloemfontein. Cy- merwyd y gadair gau Mr E Powell, llywydd y Cam- brian Society yu Cape Town. Yr oedd y cynulliad yn un Iluosog a dylanwadol, ac yn cynwys gwein- yddesau a gwasanaethyddion amrywiol yr ysbytty. Aed trwy raglen ddyddorol iawn mewn canu, areithio, &c., gan mwyaf yn Gymraeg. Deallwn fod Lieutenant Jones, Ynysfor, Llanfrothen, hefyd yn mysg y cwmni, ac yn mwynbau y gweithrediad- au. Cafwyd gair oddiwrth y Maes-lywydd cyn diwedd y cyfarfod, yn gorchymyn i'r ysbytty gael ei sefydlu yn Springfoutein, a symudir yno ar un- waith. Yn briodol iawn, bydd y Ddraig Goch yn chwyfio uwchben yr ysbytty, a chalonau Cymreig yn curo o'i fewn. CYFAKFODYDD PREGETHU. Nos Wener, Sadwrn, a'r Sul, cyn y diweddaf, cyn- aliwyd cyfarfod pregethu blynyddol y Rhiw a'r Bowydd (M.C.). Gwasanaethwyd eleni gan y Parchn Evan Jones, Caernarfon Wm Prydderch, Gopa; W O Jones, B.A., Lerpwl; Thomas Wil- liams, Caergybi; a Joseph Jenkins, Ceinewydd. Yr oedd y cynulliadau yn lluosog, a'r pregethu yn wir afaelgar. Sonir beunydd beunos am bregeth y Parch W 0 Jones yn y Rhiw nos Sadwrn ar Daeth yr awr.' Pregeth a'i llon'd o Efengyl hyfryd oedd hono. CYMANFA ANNIBYNWTB MEIRION. Cynaliwyd yr uchod ar y 6ed a'r 7fed cyfisol yn y Llan. Cafodd y Gymanfa dderbyniad cynes i'n mysg, a phregethwyd i dyrfaoedd mawrion oddiar lwyfan yn yr awyr-agored gan y Parchn G Griffiths (Penar), Pentre Estyll; H Elfed Lewis, Llundain, ac 0 R Owen, Glandwr. Yr oedd telyn arian Elfed wedi swyno pawb, a boddlon oeddynt i fyned gydag ef, nid am nlltir neu ddwy, ond am ddegau o filltiroedd. Hyderwn y bydd dylanwadau yr oedfeuon hyn yn aros eto fel angylion gwarcheidiol ar hyd a lied ein hardaloedd. CTKGHERDD ELUSENOL. Cynaliwyd yr uchod yn y Neuadd Gyhoeddus nos Iau ddiweddaf, er budd Mr Cadwaladr Lewis, Bod- afon. Cymerwyd arweiniad y cyngherdd gan Mr Roberts, gorsaf-feistr Duffws, a gwnaeth ei waith yn rhagorol. Yr oedd y cadeirydd a'r arweinydd penodedig yn absenol. Cymerwyd rhan mewn dat- ganu gan y Mri Edward Lloyd, J 0 Davies, Hugh Roberts, Robert Roberts, R Twrog Williams, ac Owen Morris, Miss Laura Ann Jones, Ellen Jones a Ohor yr Aelwyd o Danygrisiau, a Seindorf Arian Oakeley. Adroddwyd gan Miss Catherine E Parry, yr eneth fach enillodd y llawryfon tua'r Bala y Sul- gwyn. Wedi adrodd Y Milwr Prydainig,' cafodd ei hail-alw, ac adroddodd Pa le mae fy nhad ? yn ddwys ac effeithiol. Yn yr ornest ar yr her-unawd, ymgeisiodd chwech, ac enillwyd gan Mr Hugh Ro- berts am ddatganiad rhagorol o'r Milwr Clwyfed- ig,' gwobr lp Is. Yr oedd y neuadd yn orlawn, a phob trefn a heddwch yn ffynu. Ofnwn nad ydym wedi cael yr holl fanylion; maddeued pawb y per- thyn iddynt os gadawyd enwau allan. BLODEU'R SULGWYN. Bu llu o'r ardal yn casglu blodeu ar feusydd cys- tadleuol tua'r Sulgwyn. Dyma nifer ohonynt:— QEnillodd Cor Meibion y Llan ar ddatganu 'Croesi'r Anial' yn Ngholwyn Bay a Chonwy. Bydd yr I Anial' hwn wedi ei groesi gan bawb yn y man. Colli oherwydd amryfusedd wnaeth Cor Meibion y Moelwyn yn y Bala. Dylasai y gohebwyr groniclo hyny; oblegyd, gyda phob dyledus barch i Gor Meibion Llangollen, nid oedd cysgod o obaith iddynt hwy am ei blod'yn ond ar faes yr amryfusedd.' Enillodd Bryfdir gadair Llansannan a gwobr am delynegion yn West Kirby. Yn y Bala, enillodd Mr Ted Lloyd a Llinos Moelwyn ar ganu, a Llinos Moelwyn a Catherine E Parry ar adrodd. Yn Ysbytty Ifan, enillodd Mr W Roberts, Maenofferen, 2p am y prif draithawd, a Mr John Pritchard am yr englyn i'r I Tafod.1 Eaglyn siaradus iawn yw hwn. Yn Nhrawsfynydd, enillodd Gwilym Morgan am ddarn o farddoniaeth a hir-a-thoddaid. Merch ¡ gafodd y gadair yno y tro hwn am bryddest Seisnig ar Gysgodau'r Hwyr,' sef Mrs Albert Jones, Bet- twsycoed, a dymunwn ei llongyfarch o eigion calon. MANION. Yr oedd Arddangosfa y Sulgwyn yma eleni yn llwyddiant mawr y derbyniadau yn gymaint arall a'r llynedd. Tipyn o draed moch' fu hi ar rai o aeJodau y Cynghor Dinesig tua Phont yr Afon Gam yn ddi- weddar. Dywedir fod tysteb Mr R Roberts, Wrysgan, yn myned rhagddi yn rhagorol. Haedda yr hen frawd wneuthur ohonom hyn iddo. Y Mri John J Williams, Glanypwll, a Morgan Roberts, Penrhyn, sydd wedi eu dewis i'w olynu yn y chwarel. Mae Cymanfa Plant y Methodistiaid eleni wedi rhoi bod i amryw lenorion, ond nid yw eu barn a'u I mater yn dda i gyd. Prin ydyw llwyddiant ein genwtirwyr eleni. I Tybed fod a wnelo Turkish bath Llandudno rywbetb I A hyn? ,I -if v I Derbynied Mr T P Edwards (Cairwyson) ein cydymdeimlad yn ei brofedigaeth o golli ei briod. Mae y Sul gwyn wedi bod yn -Sul du i lawer lor hyd a lled y byd. PBYCBRI.

-.0;---Llythyr Lerpwl

[No title]

Advertising

--LLYTHURAU