Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
r Y RHYFEL.
r Y RHYFEL. Mynediad i Johannesburg. MHWIT pellebyr a ddanfonodd o Johannesburg, hysbyaodd y Maes-Lywydd fod y faner Bry- deinig yn chwyfio uwchben Johannesburg, ond nl chyrhaeddodd dim manylion hyd ddydd Sal. Ymddengys i lawer o ymlaid gymeryd lie yn ystod yr wythnos o amgylch y dref a phan y gorymdeithiodd milwyr Arglwydd Roberts i mown i'r dref i'w meddianu yn ifurfiol, ddydd Iau, yr oedd y Cadfridogion French a Hamilton yo rhy bell i allu cymeryd rhan yn y seremoni. Cawsant fyned i mewn a chymeryd y dref heb ddim rhwyatr, am fod y milwyr Boeraidd wedi ffoi, a'r rhan fwyaf o'r gynau a'r defnyddiau saethu gyda hwy. Felly y mae y dref yn ber ffaith dawel, a hysbyaa Arglwydd Roberts fod y bobl yn rhoddi eu barfau i fynu yn wirfoddol, ac nad yw y dref wedi dyoddef nemawr oa dim. Ymosod ar Syr Charles Warren Ganol yr wythnos ddiweddaf, ymdeithiodd Syr Charles Warren gyda mintai o saith cant o wfc i Faberspruit, deuddeng milldir o Douglas, at derfynaa gorllewinol y Transvaal, ac yno cv- merodd feddiant o amddiffynfa gadarn. Yn ystod y nos, ac nid oedd goleu lleuad, amgylch- ynodd y Boeriaid hwy yn ddyataw, a llwyddodd rhai ohonynt i lithro yn mlaen rhwng y gwyl- wyr, a chymeryd meddiant o safleoedd bychain cyflsus. Cymerodd un cwmni feddiant o ardd rhwng dau ffermdy, ac yn agoa i safle y meirch- filwyr. Ychydig cyn toriad y wawr, dechreuas- ant danio o amryw gyfeiriadau ar unwaith, ar wahanol ranaa y gwers/ll, a llwyddodd y cwmni oedd yn yr ardd i dori y cysylltiad rhwng y meirchfilwyr a'r traedfilwyr. Yr oedd y ceffylau wedi eu gollwng yn rhydd i bori, a chan i'r saethu ddechren mor sydyn, dychrynasant a rhedasant ymaith. Anhawdd ydoedd cael cyfle i danio ar y gwyr yn yr ardd, ond daliodd ein milwyr yr ymosodiad yn ddewr. O'r diwedd, gorchymynadd Syr Charles Warren, yr hwa oedd ei hun gyda Gwirfoddolwyr Due Edin- burgh, am fod eu harweinydd, y Mtlwriad Spence, wedi ei ladd, iddynt gyfeirio eu boll saethu i'r ardd, a dygwyd gwn maxim a inagnel i weitbrediad. Taflwyd y fath gawod o beleni i'r ardd, fel y gorfodwyd y Boeriaid i encilio wedi derbyn colledion trymion. Gadawsant rai lladdedigion a chlwyfedigion ar eu holau, a chariasant amryw ymaith. Parhaodd y frwydr am awr. Ar ol gyru y gelyn o'r ardd, cyfeiriwyd y saethau at finteioedd eraill, nes y ffoisant ymaitb ar garlam, ond gan fod amryw o'u ceffyl- au wedi diar,c, methodd eiu milwyr erlid ar eu hoi Lladdwyd 18 o'r Prydei vwyr (yn cynwys y Milwriad Spencer), a chlwyfwyd 30, ya cyn- wys amryw swyddogion. Symudiadau Buller- Dal yn gyndyn y mae'r gelyn yn Natal, ac y mae Syr Radvers Buller yn gorfod ymladd ei holl ffordd yn mlaen. Pan yn enciiio, nid a'r Boeriaid yn mhell, a chyda bod ein milwyr yn symad yn iniaen ar ol enill un safta, bydd y gelyn ar eu llwybr drachefn, ac yna brwydr arall. Amddiffynfa gadarnaf y Boeriaid yn y rhaubatth hwn yn ddiweddar ydoedd Lung's JSek, ac yr oeddynt wedi parotoi i wneud gwrthsafiad cyndyn a phenderfynol yno. Hys bysir yn awr fod y Cadfriiog Buller wedi ym- os d arnynt a'n trechu. a'u bod hwytbau ar ffo, a Buller ar ei ffordi i Standerton. Baden-Powell a Lerpw!. Cofir i Arglwydd Faer Lerpwl, adeg rhyddbad Mafeking, anfon at yr Uwch Gadfridog Baden- Powell yn gofyn a foddlonai ef i dderbyn Sword of Honour oddiwrth ddinasyddion Lerpwl, ac a ddeuai ef yma i'w derbyn ? Y mae'r Arglwydd Faer wedi derbyn y pellebyr canlynol:— "Teimlaffyhun wedi fy anrhydeddu yn uchel gan eich llongyfarchiadau cynes, a'ch cynygiad caredig o Sword of Honour, yr hwu a dderbyniaf yn ddiolchgar,—B ADEK-PO WELL CWYMP PRETORIA. Dydd Mawrth, rhoddwyd Pretoria, prif-ddinas y Transvaal, i fyuu yn ddiamodol i Arglwydd Roberts. Derbyniodd Swyddfa Rhyfel bellebyr byr oddiwrth y Maes-lywydd yn hysbysu hyny. Mewn brys-negesau eraill edrydd hanes y gweith- rediadau a gymerodd le cyn cyrhaedd Pretoria. Yr oedd ei fyddin wedi cyrhaedd o fewn ychydig fill- diroedd i'r dref er diwedd yr wythnos ddiweddaf. Gyda'r wawr bore Llun, cychwynasant o'u gwersyll, ac wedi teithio deng milldir, cyrhaeddasaut Six Mile Spruit, ac yr oedd dwy ochr yr afon yn medd- iant y gelyn mewn nifer mawr. Yn'fuan cliriwyd y glanau deheuol i'r afon gan y traedfilwyr marchogol dan y Milwriad Henry a'r Milwriad Ross, yn cael eu cynorthwyo gan amryw adranau ereill. Dilyn- asaut yr encilwyr am yn agos i filldir, pan y taniwyd arnynt o safle guddiedig. Dygwyd y gynau llyn gesol a'r fagnelfa frenhinol i'r lie, a chyn pen ychydig funydau gadawodd y Boeriaid eu safle, a cheisiasaut droi aden chwith ein byddin, ond gwrthsafwyd hwy gan y meirchfilwyr yn eff eitliiol. Er eu haflwyddiant, gwasgasant eto i gyfeiriad aden 61 Roberts. Daeth y Cadfridog Ian Hamilton i'w cyfarfod, llwyddodd i'w troi yn ol, ac enciliodd y Boeriaid i gyfeiriad Pretoria. Ar ol deuddeg awr o w deithio a brwydro, gwersyllodd y Prydeinwyr nos Lun ar y tir a euillasaut yn ystod y dydd, ac o fewn pedair milldir i Pretoria. Gyda'r nos, ymddengys i Hamilton a'i draedfilwyr marchogol ddilyn yr encilwyr hyd o fewn 2,000 o latheni i'r dref. Gyrodd y milwyr Boeraidd yn frysiog drwy y dref, ac anfonwyd swyddog Prydein- ig i mewn i hawlioy drefynenw Arglwydd Roberts. Y chydig cyn haner nos, deffrowyd Roberts gan ddau swyddc,g o'r Weiiniaeth, y rhai a gyflwynent iddo lythyr oddiwrth y Cadfridog Botha yn cynyg cad- oediad i'r amcan o benderfynu amodau ar ba rai yr oeddynt i roddi y dref i fynu. Hysbysodd y Maes- Lywydd hwy y buasai yn llawen ganddo gyfarfod a'r Cadfridog Botha boreu dranoeth, ond y buasai raid i'r ymostyngiid fod yn ddiamodol. Anfonodd Botha atebiad yu 01 ei fod wedi penderfynu peiaio amddiffyn Pretoria, ac yr hyderai yr amddiifynid y gwragedd, y plant, a'r eiddo. Gorchymynodd Roberts i'w fyddin gychwyn tua'r dref ar doriad y dydd a thra ar eu taith, daeth tri swyddog gwladol i gyfarfod Roberts, gan ei hysbysu eu bod yn dy- mun. rhoddi y dref i fynu, a threfnwyd i'r fyddin gymeryd meddiant ohoni am ddau o'r gloch. Yr oedd Mrs Botha a Mrs Kruger yn Pretoria.
Hotflon o Faelor.
Hotflon o Faelor. Nos Sadwrn. SONIAXS yr wythnos ddiweddaf am gorau methiant- u. yn Maelor yma. Wel, gwaethygu y mae hi yn lie gwella. Ychydig amser yn ol cynaliwyd dau gyngherdd mawreddog i geisio gwneud ceiniog fach at drysorfa yr Yspytty Cymreig i faes y rhyfel, ac aed i lawer o drafferth yn y parotoadau, a chyrch- wyd doniau aruchel o'r brif-ddinas i wasanaethu. Dywedais wrthych yr adeg hono mae teneu oedd y cynulliadau, a bu yma gryn feio arnaf am fy sylw- adau. Erbyn hyn profwyd na ddywedais mo'r haner, a throdd yr anturiaeth allan yn waeth nag y tybiwn. Yr wythnos hon, cyflwynwyd y fantolen i'r pwyll- gor, ac wele, yn lie swm teilwng at y gronfa, .£12 yn fyr i dalu'r gost. Druan o'r yspytty pe byddai raid iddi ymddibynu wrth leoedd fel Gwrecsam. A dyma'r bobl sydd yn boddro am wahodd y 'Steddfod Genedlaethol i'w plith am 1902. O'r hyn lleiaf, dyna ddywed y papyrau newydd ac fe wyr y rhai hyny lawer mwy na ni yma am hyny. 'Does yma yr un cyfarfod na dim wedi ei gynal i'r amcan o anfon cais erbyn 'Steddfod Lerpwl, a 'dwn i ar y ddaear ar ba awdurdod yr adroddir ar g'oedd gwlad fod Gwrecsam yn y rhedeg. Rhyw greaduriaid tua'r dref, mae'n siwr i chi, sydd am i bobl eu gweled. Gobeithio yr anwyl, medda fi, na themtir y 'Stedd- fod byth i ganol y fath bobl i gael ei gwaradwyddo. Maddeued y cyfeillion yn Brymbo i mi am adael eu cyfarfod cystadleuol yn ddisylw yr wythnos ddi- weddaf. Yn annghof yr aeth. Math o brawf- gyngherdd ydoedd. a gynelid yn nghapel yr Hen Gorph, dan Iywyddiaeth Mr Peter Williams, Lodge. Y Parch J. Garnon Owen, Bwlchgwyn, oedd yn arwain, a Mr R, Bryan yn clorianu. Cafwyd cynulliad gweddol dda, a nifer go lew o gystadleuwyr. Siomedig dros ben oedd y canu, a synem na fuasai'r beirniad yn fwy Ilym wrthynt. Os canu, canu, ac nid oernadu 1 Y goreu ydoedd Tom Morris, a dyfarnwyd iddo y wobr, yr hoa a enillodd yn rhwydd. Da, modd bynag, fod yno beth arall, a chawsom dal am fyned yno, yn adroddiad Joseph Edwards, Cefnmawr, o "Ffoadur" Cynonfardd. Y Sul a'r Llun, cynaliodd Annibynwyr Rhos-y- medre eu cyfarfod pregethu blynyddol, a phrofodd yn llwrddiant. Y cenadon eleni oeddynt, y Parchn S. Roberts, Seacombe, ac R. Deiniol Jones, Llanrhaiadr-yn-Mochnant, a phregethodd y Parch Edward Jones (Wesleyad) nos Sadwrn. Bu y clybiau diota yma sydd yn bla ar y dyffryn, dan sylw yn nghyfarfod Undeb y Gweinidogion yn Johnstown pwy ddiwrnod, a rhoddwyd ar y cadeir- ydd a'r ysgrifenydd i dynu allan benderfyniad i'w anfon i'r holl eglwysi. Wn i faint o ddaioni wna peth felly, ond yn sicr y mae yn hen bryd i wneud rhywbeth er atal rhwysg y ffurf newydd hwn ar bechod a llygredd yn ein dyffryn. DYFFRYNWB
-:0:--Agor Piar Newydd Colwyn…
:0: Agor Piar Newydd Colwyn Bay. Nos Wener, agorwyd piar newydd Colwyn Bay gydag allwedd aur a llawer o ddefod. Un rhan o'r piar yn unig sydd wedi ei gwblhau, yr hwn o'r fyn- edfa a fesura 316 troedfedd o hyd. Ar derfyn y tymhor presenol, dechreuir adeiladu yr ail ran ac wedi ei orphen bydd yn 1,050 troedfedd o hyd. Yn ei ben bydd glanfa, cabanau i ymochel, a llwyfan i chwareuon awyr-agored. Ei led yw 40 troedfedd, a saif pafiliwn i ddal 2,500 o bersonau 50 llath oddiwrth y porth. Adeiladwyd y pafiliwn yn ar- ddull rydd y Renaissance. Saif y brif fynedfa yn y canol, ac esgynir iddo ar hyd grisiau. O'i bobtu ceir siopau, ac y mae y conglau tyrog wedi eu cor- oni ag addurniadau. Ar ganol y to ceir dome, ac o'i fewn wyntyll drydan i awyru yr adeilad yu briodol. Oddifewn, y mae'r adeilad wedi ei gynllunio yn y fath fodd fel ag y gellir perfformio dramodau a chwareu-gerddi yn gystal a chYDaI cyngherddau uchelradd ynddo. Ceir dorau dwbl yn mhob myn- edfa; egyr yr holl ffenestri, ac y mae'r trefniadau ayvyrawl yn berffaith. Gall y cynulliad lluosocaf fyned allan o'r neuadd mewn ychydig funydau pe digwyddai rhyw auffawd. Y cynllunwyr ydynt Mri Mangnall a Littlewoods, Manceinion cymerwyr yr holl waith yw'r Widnes Foundry Company a'r Mri William Brown a'i Feibion, Salford, oedd adeilad- wyr y pafiliwn. Paentiwyd yr olygfa ar leni y llwy- fan gan Mr Hart, Llundain. Mri Goodalla'u Cyf., Lerpwl, wnaeth yr addurniadau oddifewn y neuadd; gosodwyd y trydan gan Mri Lightfoot, dan arolyg- iaeth Mri Lacy, Clirehugh, a Sillar, peirianwyr ym- gynghorol; a'r dodrefnwyr oeddynt Mri Dean a'u Cyf., Manceinion. Mr A F Lalande, Colwyn Bay, sydd wedi ei benodi gan Gwmni'r Piar yn ysgrifen- ydd a rheolwr. Am saith o'r gloch, ymgynullodd tyrfa fawr ar y traeth ac yn Marine Drive. Cerddodd Mr A F Mason (Cadeirydd y Cyfarwyddwyr), Mri J W H Littlewood (cynllunwyr), Mr George Bevan (cad- eirydd y Cynghor Dinesig), Mr J H Roberts (clerc y Cynghor), Mr W Jones (cynllunydd y Cynghor), ac eraill, at borth y piar. Yno cyflwynodd Mr W H Littlewood allwedd aur i Mr Mason, gan ddatgan gobaith y byddai'r piar o fudd mawr i drigolion ac ymwelwyr a Colwyn Bay, ac y byddai llwydd ar an- tur y Cwmni. Mr Mason, wrth gydnabod y rhodd a sylwodd fod rhyw gyfeiilion caredig mewn tref gyfagos yn taenu y chwedl nad oedd y piar yn gadarn a dyogel, eithr aryr awdurdod uchaf parth ei ddyogelwch y rhodd- odd yr ynadon ddydd Mereher y trwyddedauangen- rheidiol i'r Cwmni. Cafodd y Cwmni bob cefnog- aeth gan y Cynghor Dosbarth a'i swyddogion, a dy- munai ddiolch yn gyhoeddus iddynt am hyny. Mr George Bevan a sylwodd fod y Cynghor yn gwerthfawrogi ysbryd ac antur y Cwmni yn cyflen- wi yr unig beth ag yr oedd Colwyn Bay yn ddiffyg- iol ohono. Yr oedd y pafiliwn ar y piar yn rhagori ar bob un ar draethau Gogledd Cymru. Meddent hefyd dalent gerddorol o radd uchel yn ngherddorfa M. Riviere, ac yr oeddynt wedi cyflogi Madame Patti i ganu yn y cyngherdd agoriadol. Ar ran y Cynghor a'r trigolion, dymunai i'r antur lwyddiant mawr a pharhaol. Yna agorodd Mr Mason y porth yn ffurfiol, a chafodd y cyhoedd fynediad rhydd a rbad i'r piar a'r pafiliwn. Ymgynullodd dros 2,000 o bobl yn y pafiliwn, yr hwn a fawr edmygid.
YMWELIAD MADAME PATTI.
YMWELIAD MADAME PATTI. Prydnawn dydd Sadwrn, ymgasglodd milotdd lawer o bobl gyda'r reilffyrdd o amrywiol fanau i weled a chlywed Brenhines y Gan yn y Pafiliwn newydd. Gwisgwyd y dref ag addurniadau pryd- ferth, a chafodd y gantores enwog dderbyniad teilwng. Yn yr orsaf, cyflwynwyd iddi anerchiad ac album o olygfeydd yn yr ardal ar ran y Cynghor Dosbarth. Fel y gallesid disgwyl, yr oedd y pafil- iwn wedi ei orlenwi, a chafodd y gantores enwog encor gwresog ar ol pob un o'i thair can. Y cantor- ion eraill oeddynt Miss Ada Crossley (contralto), Mr Jack Robertson (tenor), Mr Watkin Mills (bass), a Miss Alice Dessauer yn chwareu ar y berdoneg. Rhoddwyd derbyniad cynes iddynt oil, a mawr y canmol sydd ar y cyngherdd.
-0--Birkenhead.
-0-- Birkenhead. Y mae'n arfer an y Mutical Herald gynyg gwobr fisol am gyfansoddi cerddoriaeth a'i henillydd y mis hwn oddiar 240 o yrogeiswyr ydyw Mr Wm Jones, Glover Street, neu Sun Street Street fel yr adilabydd- ir ef oreu. Ar gyfansoddi chant y rhrgorodd. Peth garw ydyw bod o hil.
--:0:-Nodion o Fon.i
-0:- Nodion o Fon. MAE Ardalydd Mon wedi dyohwelyd i Bias Newydd i dreulio misoedd yr haf, a da gan yr ardalwyr ei weled. Nid yw wedi trigianu yn Mon ond am ych- ydig iawn er marwolaeth ei dad. Bydd rhialtwch mawr yn cymeryd lIe yn y palas ar y 15fed o'r mis hwn, sef dydd ei ben blwydd yn 25ain 09d. Anfonodd athrawon ac ysgolheigion Ysgol Gen- edlaettiol Llanfair P.G. bellebyr i'w Mawrhydi y Frenhines Victoria i'w llongyfaroh ar ei dydd pen blwydd diweddaf; a chydnabyddwyd y genadwri gyda diolohgarwch o Buckingham Palaje. Mae Mr Edward Owen, Bedo, wedi cael ei ethol gan Gynghor Plwyf Llanfachraebh yn overseer oyn- orthwyol a chlerc, fel olynydd i'w frawd y diweddar Machraeth Mon. Bu C6r Boneddigesau Caergybi, o dan urweiniad Mrs Fraser Williams, yn cynal cyngherdd yr wyth- nos ddiweddaf, a mawr ganmolir y canu. Achoswyd cryn gyffro yn y Gaerwen yr wythnos o'r blaen drwy l ddau o blant Mr Richard Evans, Ysgoldy, fyn'd i chwareu i'r ardd lie yr oedd tas fechan o wair. Aeth y lleiaf, un bychan oddeutu tair blwydd oed, i ben y das, a rhoes y Hall hi ar dan. Canfyddodd cytnydog y bychan yn nghanol y tan, a llwyddodd i'w aobub, er wedi liosgi yn ar- swydus. Yr oedd Mr Evans oddicartref ar y pryd, a Mrs Evans yn y ty yn afiach. Gyda llawer o ym- dreoh y llwydd wyd i gadw yr adeiladau cyfagoa rhag myned yn wenfflam. Un noson yn ddiweddar yr oedd Mr John Griffith, lyddyn Sarah, Llaneilian, gyda nifer o hen ffrindiau doniol, wedi ymgynull ar ael bryn cyfagos i drafod pynciau y dydd, pryd yn ddisymwth canfyddid fod beudai ac yatablau ei amaethdai ar dan. Gwr cyf- lym, penderfynol a sydyn ydyw yr hen gyfaill, a'r foment y gwelodd ei fuarth yn goelcerth carlamai fel march buan dros bant a bryn, eithin a mieri, creigiau a tfosydd, i amddiffyn ei eiddo a'i hoffus briod. Di- lynid ef gan y fintai, a'r hen lane nwyfus Mr R Wil- liams yn blaanori, yn ol ei arfer dda yn mhob cyf. yngder. Ymddangosent fel catrawd o filwyr yn ym- lid y Boeriaid. Mr Griffith gyrhaeddodd gyntaf, wrth gwrs, ac sr ei fawr lawenydd gwelai ei ardderch- ocaf frenhines yn ei gyfarfod, yn ei dull tawel, serch- og a hunan-feddianol arferol. Be di'r brys, John bach?" ebai ei anwylyd. Brys, Mari anwyl!" ebai John, weli di mo'r adeiladau ar dan?" "Shon bach, gan bwyll," atebai y wraig, 'yr hen bone eifchin, Cae y Cefn, ydi hona mae'r beudy'n ol reit." Diolch byth," ebai John. Faset ti byth yn rhed- eg cymaint Idaswa i mewn peryg," ebai yr hen iar. Digon tebyg, wir," meddai John, mae digon eraill i'w cael, ond ma'r adeilad heb ei aiwrio." Daeth yr hen Benybryn ag amodau hsddwch yn mlaen, a diweddwyd y noson gyda swper teilwng mewn hwyl a heddweh. Hen sefydliad yn Nghaergybi ydyw Regetta dydd Llun y Sulgwyn. Yn y blynyddau gynt yr oedd mewn bri mawr, ond yn ystod y blynyddau diweddaf nid o fawr ddim dyddordeb yn cael ei gymeryd ynddi. Yr oedd y gweithrediadau eleni yn nodedig o ddifywyd. Yr oedd canoedd o ddyeithriaid yn y dref, a'r cwbl a ellir ddweyd ydyw ddarfod iddynt gael cyttawnder o awelon iach M6r y Werydd. Yr oedd pob math o ddifyrion am atian ar y traeth, a phlant, fel pobl mewn oed, yn ymddangos yn awydd- us waghau t.pyn ar eu Uogellau. Cafodd y ceff- ylau pren gelnogaeth neillduol gan bob oed a rhyw. Yr oedd "saethu am gnau"yn boblogaidd iawn hefyd, a chyrchai canoedd i babell eang 1 weled dau laslanc tafodrydd yn ffug-ymladd. Pe buasai Eis. teddfod yn y Neuadd, ni buasai yn haner 11awn, ond gwariwyd ugeiniau o bunau ar y traeth gan blant yr Ysgolion Sul i weled ffwlbri ac i borthi chwant. MONFAB.
-0-Marohnado.add.
-0- Marohnado.add. Oaer—3Ieh 2 Gwenibh gwyn, newydd, 0s 0c i 4s 3o y 75 pWV8 • hen, 0s Oo; coch newydd, 4s lc i 4s 2o; hen eto' 0s 0c i 0s 0c ceirch newydd, 2s 4c i 2s 8c y 64 pwvg • hen, Os 00 i 03 Oc y 64 pwys haidd at fragu, Os Oc; y 60 pwys haidd at falu, newydd, Os Oc i 0s Oc hen' Os Oc i Os Oc y 64 pwys; ffa newydd, Os 00 i 43 90 v 80 pVE3;nheA' -Sn°V 5\6° y 80 Pwya; indrawn, newydd, lis Oo i 0s Oo; hen ebo, 0s 0c i 10s 0c v 240 pwys. J Bangor, Meh 1 Ymenyn tfres, 11c i Is 00 y pwys; wyau, 16 i 0 am Is; biff, 7c i 10c y pwys; molltgig, 80 i 10c cig oen, Is i la 1c y pwys cig lloi, 8" i 10c poro 7o i Joe moch tewion, Oc i 4c y pwys. Cywion, 58 00 i 53 60 y cwpl; ieir, 4s Oc i 4a 6c yr un cywion hwy aid, Os Oc i 3s Oc yr un. Amlwch, Meh 2 Ymenyn ffres, OsOc i Is 83 y pwys wyau ffres, 0 i 16 am La bin, 7c l 9c y pwys molltgig, 7c i 10c cig oen, Is y pwys; cig lloi, 0c i 0c pore, 60 i 8c cywion, Os Oc i 3s c Y cwpl; ieir, Os 0c i 0s 00 yr un hwyaid, Os 00 yr un. J Caernarfon, Meh 2 Ymenyn, lie i Is Oo y pwyS wyau, 18 i 20 am swllb biff, 2ic 1 9c y pwys; molltgig, 7c i 9c • cig oen, 10c i lb Oc y pwys cig lloi, 50 i 8c; poro, 50 i So cywion, Os Oc i 0" Oo y cwpl; ieir, 4s 6c i 53 Oc y cwpl; hwyaid, Os Oo i 3s 6c yr un gwyddau, Os Oc i 0s 0c yr un. Birmingham, Meh 5 Biff, 6fc i 7to y pwys; molltgig, 50 i 9!c; oig oen, 90 i lOo eg lloi, 00 i Oo. Moch bacwn, Od Oc i 10s Oc y soar perchyll, 10s Oo i 10s 6o hychod. 6s 9o I 7s 3c y scor. Salford, Meh 5. Pri|fu i. 7|c molltgig, 8|o i 9fc cig oen 8|c i lO^o; cig lloi, 5te i 7c y pwys. Moch, 8s 10c 1 103 2o y scor. Uiundain, Meh l Marchnad dawel iawn unwaith eto, a gwenith a blawd yn gwerthu am bris y farchnad gynt Araf ydoedd haidd at falu, ceircb yn weddol sefydlog, ac indrawn mat yn ddrutach. °' Gwrecsam. Meh 4 Biff, 6c i 7ic; molltgig, 8o i 9c; lloi, 7c i 9c; pore, Os Oc i Os Oc y scor cig oen, 00 i 10c lloi 7c i go ieir, Os Oc Os Oc hwyaid, Os Oc. Xaazigefm, Mai 31 Ymenyn fires, 10c y pwys wyau, 20 i 21 am BWllt; ieir, 23 30 i 2s 60 yr un; hwyaid, 5a 60 i 63 Oc y cwpl; moch tewion, 3ic i 4o y pwys; pyre, 14s 118s Oc yr un biff, Oc i 00 y pwys raolitgig, Oc i Oc; oigoen, Oo i 08 cig lloi, Oc i Oc pore, Oa i Oc.
r Cyrddau y Dyfodel, Ao.
r Cyrddau y Dyfodel, Ao. Miheflm 16-listeddfed Wigan. Medi 18, &c—Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl. Rhag 26-Eisteddfod Tamlwyr Da Lerpwl.
Lioti.
Lioti. Dywedai y Parch David Williams, Llanwnda, ynySeiatFawr ddydd Llun, na "Thag'na fo mo'r- hen lyfr hymns newydd yma." Y mae miloedd o'r un farn ag of. Llongyfarchwn Miss Cissie Davies (merch Mr- Peter Davies, Warwick House), ar ei gwaith yn enill y gwpan arian a'r wobr am y datganiad goreu o'r Mr-unawd yn Eisteddfod West Kirby. Dyma. y tro cyntaf iddi ymgeisio mewn datganu. Eiddun- wn i Miss DaTies ddyfodol llwyddianus, a hyderwnt y bydd iddi ymgeisio am y llawryf yn yr Eisteddfod Genedlaethol Medi nesaf. -0-
0 Ddyffryn Nantlle.
0 Ddyffryn Nantlle. Y HAD yr uoawdydd adnabyddua Mr Alex Hender-: son yn myned i ffurfio Cdr Meibion o'r Dyffryn cerddgar yma, ac Eisteddfod fawr Larpwl fydd y maea cyntaf iddynb fyned i gystadlu. Yn wir, fe ddylasai o6r llwyddianus godi o le mor lawn o ad. noddau. Brydnawn ddydd Ian, yr oedd pwyllgot boneddig- esau Nodachfa y 3eindorf wedi trefou gwledd i bawb a dalai am dani. Wedi i bawb ymddigoni, cafwyd cyngherdd amrywiaethol tan lywyddiaeth Mr Rich. ard Owen, ac arweiniad y Parch J Hughes, B A. Gwasanaethwyd gan Miss M King Sarah, Mri G D' Jones, H M Jones, R Evams, W S Hughes, J Rath- bone Evans, A Henderson, ac 0 Llewelyn Owen hefyd gan Mr J D Griffith fel unawdydd offerynol, a. chan y Seindorf Arian. Cyfeiliwyd tel arfer gan Mr G Owen. Mae cyngherddau er budd y seindorf" mor ami nes ydynt 1 raddau yn myned yn annerbyniol gan y cyhoedd, yn destyn dirmyg bechgyn direidus, ac yn bechadurus yn ngolwg ami un pur glo3. Parha y seindorf i dderbyn galwadau. Ddydd Sadwrn, yn gynar, blaenorai Cymdeithas y Cieifion yn Nghwmyglo ac yn y prydnawn cyflawnai yr un gwaith gyda Chymdeithas gytfelyb yn Mhenygroes. Mae yr adeilad prydferth i'r Seindorf ymarfer wedi ei gwblhau, a byddis yn myned trwy'r ddefod o'i agor yn lied fuan. Diau y bydd iddo wasanaethu mwy nag un amcan. BBCDIWB,
Advertising
THE ROYAL NATIONAL EISTEDDFOD will be held in Liverpool on the 18th, 19fA, 20th, & 21st, SEPTEMBER NEXT. 7-About 2 1,600 is offered as Prizes in MUSIC, LITEBA- TURE, and ART. LLEW WYNNE, Ron General Secretary, Eisteddfod Offices, 1 Crosshall Street, Liverpool. By order of the Trustees. FREEHOLD BUILDING LAND AND CHAPEL IN SEACOMBE. BY MR. HENRY JONES. On Thursday, 21st June, at 3 o'clock p,m. in the Law Association Rooms, 14, Cook Street, Liverpool. A LL that PIECE OF LAND with Frontages to Brighton Street and Clarendon Road, and containing about 900 sqaare yards. Also the band- some Modern MISSION CHAPEL therein erected. Tenure Freehold. For particulars apply to Mr Henry Jones, Pro- perty Auctioneer, 5, Cook Street (Telephone 1779); or to Messrs Oliver Jones, Billson & Co., 5, Cook Street, Liverpool. JYVERPOOL & NORTH WALES.- REGULAR DAILY SAILINGS (Sundays included). P.S. ST. TUDNO on ST. ELVIES, Leaving Prince's Stage at 10-45 a.m. daily for Llandudno, Beaumaris, Bangor, and Meuai Bridge, due back at 7-30 p.m.' For fares and all further particulars apply to the LtVER- l'OOL AND NORTH WALES STEAMSHIP Co.,LTD., T G BREW, Secretary, 20 WATER STREET, LIVERPOOL. Tel. No. 6366. H OL YHEAD.-To let, comfortably furnished JL house, containing two sitting-rooms, five bed- rooms, bathroom (hot and cold), good kitchen and- usual offices, one acre walled-in grounds excellent water and saniftktion, bracing air, commanding splendid mountain and sea views, ten minutes walk from town and beach. Terns 2 guineas per week.— Apply Mns WILLIAMS, Brynsiriol.
Family Notices
GENEDIGAETHAU, PRIODASAl* MARWOLAETHAU. (BeneOtaaetb. Pierce—Mai 25, yn 7 Albany lioad, Southport, priod H. G. Pierce ar fab. atwolaetbau. Dakin-Alai 29, yii 67 oed, Samuel Dakin, Ffrydan Road, Bala, Davies—Mehefin 3, John Davies, painter, Ultutliin. Evaus-Alai 27, yn 74 oed, Jane Evans, Elusendai, Corwen. Ellis-Mai 29, yn Fairfield, Liscard, yn 77 oed, Jane Margaret, gweddw y diweddar R H Ellis. Joues-Alai 28, yn Eaton Road, West Kirby, John Herbert- Jones. Jones-Mai 28, yn 87 oed, Jane Jones, Llwyncwbl, Llan- gwm. Smithies—Mai 29, yn 67 oed, Nancy Smithies, Onen lun.- Rala.
Advertising
11 ^—mmrnmmmimmmmtt W. JON ES, Dental Surgeon 29, High St., WAVERTKEE SPECIAL ADVANTAGES. 1 All that is latest and best in Dental Surgery., 2 PERSONAL attention to each client.1 3 FREE Consultation. 4 Nitrous Oxide gas at low rates, when necessary' in preparing for New Teeth. 5 A large selection of DAINTY 1EETH, to suit every Variety of Face and Beauty BETTER and PRETTIER than those supplied at double the priocr by Dentists in West end of London. 6 KSTSiaredir Gymraeg neu Saesneg. Telephone 25 Wavertree. Printed and Published by ISAAC FOULKES ø: his Printing Establishment, 8, Paradise Street in the Parish of Liverpool, in the County of Lanester Telephone 1426 (Centra