Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

---SASIWN Y SULGWYN. j

News
Cite
Share

SASIWN Y SULGWYN. j NID oea dim yn medda mwy o atdyniad i r j Cymry na chymanfaoedd ptegethu; ac er treulio pob Sabbotb ar hyd eu hoes yn swn yr efengyl, deil 1, Yr hen, hen Ilanes fytb yn ei fl is, Hwyrach nad yr un cymhelliad bob amser aydd yi3 tynu y tyrfaoedd at eu gilydd, ond beth bynag am hyny, nis gallwn synied am hyd yu nod ddifyrwch uwch na hwn. Grwydd- om y cyhuddir ni weithiau o ragtith, ac nad yw ein cymaiifaoedd pregethu yn meddu ond yn union yr un amcan a '• Rhedegfeydd cenyl- au i'n cymydogion y Saeson ond a chaniatau hyny, y mae y pieser a'r difyrwch pe na bae yn ddim byd arall, yn sicr yn nodweddiadol o chwaeth llawer uwch, ac y mae ei ganlyniadau yn llawer mwy beodlthiol. Er cymaint o son a fu am Hen Gymanfaoedd Gymru, nid oes yr un yn dal mor ïr ac yn ei bias a Sasiwa y Salgwyn yn Lerpwl. Y mae bellach yn hen setydiiad, ac yn un o'r sefydliadau mwyaf poblog&idd yn mblith Cymry y ddinaa, er hwyrach y galksai y eyaalliad^u fod yn lluos- ocacb, eto ac ystyried yr adeg o'r flwyddyn, ac fod Iluaws o'a brodyr yn y ddinas yn awyddas am gymeryd mantaia ar ddydd gwyl i fyned am dro o awyr glos, fwll, y ddinas, i anadlu awyr iach y wlad, y mae y cynulliauau ya bobpeth allesid ddisgwyl. Y mae adgofion melus yn aroa am ami i Sulgwyn dreuliwyd yma, a gobeithiwn mai nid ditfrwyth fydd y Gymanfa eleni eto. Er fod lie ami i H wr Duw yn wag, yr hen wynebau yn cilio a'r ¡ rhai newyddion yn dod i lanw'r byichau, gallwn ddweyd fod gan y Metbodistiaid heddyw lu o bregethwyr nad oes raid iddynt gywilydd ohonynt. Fel arfer, deobreuwyd y Sasiwn eleni yn rhai o'r addoldai ncs Iau, yna cafwyd pregethau yn llawer o'r capelau nos Wener a nos Sadwrn, a thrwy y dydd Sabboth yr oedd pob capel yn perthyn i'r enwad yn cadw gwyl. Dyma'r pregethwyr fu yma eleni :— Y Parchn J H Williams, Brymbo; J Morgan Jones, Caerdydd; D Joae, Garegddu; T Chas Williams, B.A., Portbaethwy Dr J Cynddyl- an Jones, Caetdydd William Thomas, Llanrwst; Evan Phillips, Castellnewydd-Emlyn Richard Humphreys, Lianfaglan J J Roberts, Porthmadog David Williams, Llanwnda; E J Jones, M.A., Caernarfon; S T Jones, Rhyl; W Ryle Davies, Lkmdam; JE Hushes, M.A., Caernarfon; Evan Jones, Dolgellau; Thomas Levi, Aberystwyth; J T Job, Betheada; David Roberts, Ffestiniog J R Williams, Rhydbach a Robert Jones, Rhosllanerch- rugog. Y SEIAT FAWR. Bore Llun fel arfer, am 9-30 o'r gloch, cynaliwyd T Seiat Fawr, yn Hengler's Circus, dan lywyddiaeth t Parch Wm Owen, Web3ter Road. Yr oedd nifer ddao weinidogion yn bresenol, a chafwyd cynuiliad rhagorol o bobl, er nad oedd mor lluosog ag ami i flwyddyn. Dechreuwyd yn brydlon trwy ganu yr emyn "O! anfou Di yr Ysbryd Glan," ar y don "Ban- gor," a darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch J R Williams, Rhydbach. Dywedodd y cadeirydd mai gweddus iddynt oil ydoedd cydnabod daioni yr Arglwydd tuag atynt am ganiatau iddynt gjfarfod eleni eto yn Seiat Fawr Lerpwl. Er y Seiat y llynedd cymerwyd cant o frodyr a chwiorydd o'u plith gan angau, a thros hauer cant wedi eu diarddel, felly nid oeddynt hwythau vma. Yn mhlith y rhai a fuont feirw yr oedd dau weinidog a chwech diacon. Y gweinidog- ion oeddynt y Parchn E Lloyd, Bootle, ac Owen Jones, Boswell Street—dau o heddychlon ffydd- loniaid Israel, a'r peth mwyaf yn perthyn iddynt ydoedd eu crefjdd, a gadawsant eu hoi ar y cylch- oedd yr oeddynt yn troi ynadynt. Y diaconiaid oeddynt y Mri Thomas Lloyd, ac Owen Hughes, Fitzelarence Street; R Jones, Garston; Isaac Roberts, Anfield Road; J Edwards, Princes Road a D Davies, New Brighton. Yr oeddynt oil yn bur adnabyddus, ac yn llafurus yn eu gwahanol gylchoedd. Y mwyaf amlvrg efallai ydoedd Mr Lloyd, yr hwn oedd yn golofn gadarn yn y Cyfarfod Misol. Dywedir na chollodd yr un Seiat Fawr er y flwyddrn 18i5, sef y flwyddyn y daeth i'r dref. Dyma Seiat Fawr olaf y ganrif, a Sasiwn y Sulgwyn wedi ei chynal yn ddifwlch ar hyd y gaurif. Cych- wynwyd hi yn y fiwyddyn y sefydlwyd y Method- istiaid gyntaf yn Lerpwl, sef 1787. Ni wyddai pryd I p y cychwynwyd y Seiat Fawr, ond yn flaenorol i 1842 cyntd d hi yn hen gapel Pall Mall. Yn 1843 cynaliwyd hi yn hen gapel Bedford Street, ond oherwydd fod y capel yn rhy fychan bu am rai blynyddau wedi hyny yn nghapel Dr Rafflesr wedi hyny bu yn yr Amphitheatre am 12 mlynedd, a 12 mlynedd arall yn y Philharmonic Hall, ac yn y flwyddyn 1880 gymudwyd hi i Hengler's Circus. Y rheswm o'r crwydro hwn ydoedd ei bod yn myned ya rhy fawr i'w phabell. Yr oedd dros bedair mil yn bresenol yn yr Amphitheatre, pan nad oedd ond 2,500 o Fethodistiaid yn Lerpwl. Ond testyn llawenydd ydoedd fod Duw yn symud i'w chanlyn Un o'r cyfarfodydd rhyfeddaf ydoedd un a gynal- iwyd yn Bedford Street, pan y torodd allan yn orfoledd. Dipyn ynflat oedd y cyfarfod ar ei hyd, ileB y cododd Morgan Howells ar ei draed ac a adroddodd y penill "Dros y bryniau tywyll niwlog," a phan y daeth at y geiriau Gad i'm wel'I y boreu wawr," dyma hi yn orfoledd. Duw roddodd fawr- edd ar y Seiat, ac yn fuan yr a y Seiat fawr yn Seiat Fach os na fydd Duw gyda hi. Da fuasai ganddo weled rhai o'r hen bregethwyr yn y Seiat eto, a theimlai yn wylaidd yn y gadair wrth gofio pwy fu yn ei llanw tua ugain mlynedd yn ol. Aumhosibi eu cael yn ol, ond gellir cael peth annhraethol well, cael y Duw oedd gyda hwy, a dymunai arnynt oil weddio am ei bresenoldeb, a chael y moroedd o drugaredd yn eiu cyfarfodydd. Yn YSTADBGAU. Cyflwynwyd yr ystadegau gan y Parch T Rees Jones. Wele grynodeb ohonynt Y mae nifer y capelau a'r lleoedd pregethu yr un a nifer yr wythnosau mewn blwyddya (gvvyr pawb pa faint yw hyny), sef 52; a nifer yr eglwysi yr un a nifer llyfr;»u vr Hen Destanient (gall nas gwyr pawb pa faint yw nyny), sef 39. Y mae lleihad o un yn y naill a'r llail er y flwyddyn 1898-yr aehos yn White- haven wedi ei roddi i fynu oherwydd ymadawiad y Cymry o'r dref. Nifer y swyddogion eglwysig, yn weinidogion, pre- gethwyr, a blaenoriaid, 218; y cymunwyr, 8,439; cynydd yn Lerpwl a'r cyfficiaa o 201, a lleihad yn ngorsafoedd y (jenhadaeth Gartrefol 0 3. Derbyn- iwyd i gymundeb 261, cynydd o 19, yn cael ei wneud i fynu fel y canlyn riant yr eglwys a dderbyniwyd 170, cynydd o 62 eraill, 91, lleihad o 48. Nifer y dychweledigion o'r byd, 112; lleihad o 19 ymgeiswyr am aelodaeta eglwysig, 176; cynydd o 16 yn Lerpwl a'r cyffiniau, a lleihad o bump yn y gorsafoedd cen- adoi. Derbyniwyd trwy docynau, 1287; cynydd o 20 ymadawodd trwy docynau, 1059 lleihad o 19 yn Lerpwl a'r cyffiniau, a chynydd o'r un nifer yn y gor- safoedd cenadol. Ymadawodd heb docynau, 122; cynydd o 29, Y mae amgylchiadau neillduol mewn cysylltiad ag un eglwys, o'f hon yr ymadawodd 30, yn eglut-o y cynydd. Diarddelwyd 58, cynydd o 24. Bu farw 111, Helhad o un. Bu cynydd yn nifer aelodau yr Ysgolion Sibbothol yn Lerpwl a'r cymniau o 106, a lleihad yn y gorsafoedd cenliadol o 35; ond y mac, lleihad yn nghyfartaledd y preseaoldeb yn yr holl gylch o 276 (248 yn Lerpwl a'r cyffiniau, o 28 yn y gorsafoedd cenadol): fel, er fod 7785 o enwau ar lyfr- au yr ysgolion, nid yw cyfartaledd y presenoldeb ond 4222. Tuedda ystadegydd yr Undeb Ysg,lion, fel fy hunan i briodoli rhyw gymainb o'r llmhad i gYliyd mewn manylder a chywirdeb yn nghadwraeth cyint- on yr ysgolion. Nifer y gwrandawyr, 13,527, cynydd o 33 yn Lerpwl a'r cyffiniau, a lleihad o 92 yn y gar- safoedd cenadol. ( Cyfrifon Arianol—(a) Casgliadau Cyhoeddus. Cyf- answm y rbai hyn ydyw 12,045p 0s 5¡J; cynydd ar 1898 o 5,319p 9s Ofo- Casglwyd at Achosion debol, yn cynwys yr hyn a wnaed yn ystod y flwydd yn at gasgliad arbenig y Gymdeithas Gauadol Gar- trefol, 2,055p 19i 2jc cynydd o 383p 9s lOe. Casgl- wyd at y Feibl Gymdeithas, 360p 15s Oc, cynydd o 4p 17s 6e: at yr Ysgol Sabbothol, 502p 14s 7io, l-lei- nad o 13p 12s 8ic; i'r tlodion, 429p 14s lie, cynydd o 43p 19s 10o at adeiladu, adgyweirio, a thalu dyled capelau, 5,972p 0s Itic, cynydd o 3,590p 17s Ole; at yr hospitals, Infirmaries, a'r Dispensaries, 239p 6" 7c, cynydd o 26p 14a Ie; at achosion eraill (Nodachfa Capel Webster Road yn henaf), 1,432p 7s 5c, cynydd o 1,168p 18s 5c. (b) Casgliadau Eglwysig-At y weinidogaeth, 5,724p 2s ne, cynydd o 64p 118 9c at achosion eraill (yr elfenau yn Swper yr Arglwydd, Cymdeithas Dorcas, a dilladu tlodion), 127p 9s 2e, lleihad o 3p 7s 10c. Derbyniwyd o ardretbi eisteddleoedd a thai, 2,316p 6s 4c, cynydd o 58p 123 4ic. Y mae cyfanswm yr boll gasgliadau eglwysig a chy- hoeddus, gan gymeryd i mewn ardreth yr eisteddle- oedd. yn 20,212p 188 7c cynydd ar y flwyddyn 1898 o 5,438p 14s 8!c. Parch. E. JAMES JONES, Caernarfon: Wrth ddarllen yr adroddiad yn fanwl, cyffroid llawer mwy o feddyliau nag a ellid eu datgan yn y cyfarfod. Yr oedd hanes eglwysi Methodistiaid Lerpwl a'r cylch, mor bell ag j gellid casglu oddi- -vvrth y ffigyrau, yn gyfryw ag y gallent longvfareh eu gilydd—nid mewn balchder ac ymffrost, ond mewn diolchgarwch i Dduw am y llwyddiant. Yr eu gilydd-nid mewn balchder ac ymffrost, ond mewn diolchgarwch i Dduw am y llwyddiant. Yr oedd cynydd yn mhob colofn bron. Mewn un peth yn unig yr oedd lleihad, a da ganddynt mai lleihad oedd yn y peth hwnw. Testyn llawenydd a diolch garwch ydoedd y cynydd mawr yn nghyfanswm y casgliadau-dros ugain mil wedi eu cusglu mewn un flwyddyn. A chofiwu fod rhanau helaeth o'r swm wedi eu cyfranu gan weithwyr y ddinas. Yr oedd yma un elfen yn neillduol yn werth sylwi arni, sef fod swm mawr o'r ugain mil wedi eu casglu at bethau y tuallan i'r eglwysi eu hunain nid at y weinidogaeth a chodi y capelau heirdd, ond o dair i bedair mil wedi eu cyfranu at achosion y tuallan i'r eglwysi; hyn oedd werthfawr, am ei fod yn dangos yspryd yr eglwysi. Y mae dyled yr adeiladau wedi dyfod i lawr i swm bychan iawn, dim ond rhyw 9.000p. rhwng y gorsafoedd cenadol, ac yr oedd hyn yn dweyd rhywbeth arall, fod yn eu gallu i gyn- orthwyo llawer ar bobl eraill. Dymunai wneud apel gynes, daer o ddyfoder calon, am eu cydym- deimlad a'r anturiaeth fawr y mae'r cyfundeb wedi jftngymeryd ag ef yn bresenol—yr anturiaeth fwyaf yr ymgymerodd y cyfundeb ag ef erioed. Yr oedd casgliad y can mil yn myned yn ei flaen, a da oedd ganddo weled fod Lerpwl wedi addaw o chwech i saith mil eisoes. Nid casglu y can mil punau oedd y peth mawr, ond y cais i anfon rhyw tltrill dniy y Corph i gyd, i deimlo eu bod yn un corph yn ceisio gwasanaethu yr Iesu ar y ddaear. Drwg ganddo weled nad oedd yr Ysgol Sul mor llewyrchus ag y dymunid. Yr oedd yma berygl i Gymry wedi ym- adael o Gymru adael hen ffyrdd y Cymry o fy w yn dduwiol; ond welodd ef fawr o lewyrch ar y cyf- rvw erioed. Bydded iddynt ymroi at y ffurf dra- ddodiadol yn eu mysg o fyw yn dduwiol hyd nes y ceir diwygiad a rhyw ffurf gwell. Ar ol canu, Braint, braint," &c., galwyd ar y Parch THOMAS LEVI, Aberystwyth, i agor yr ymddiddan ar y mater oedd wedi ei osod i siarad arno, sef Rhwymedigaethau y Broffes Gristionogol," seiliedig ar Ephesiaid iv. 1-3 Yr oedd creiydd yr Efengyl yn alwedigaeth, fel y dengys y geiriau, sef galwedigaeth ysprydol a nefol. Yr oeddynt wedi eu galw i fod yn saint—cyfranog- ion o'r alwedigaeth nefol, uchel alwedigaeth Duwyn Nghrist lesu. Galwedigaeth ddaearol ydyw y gwaith ag y maedyn wedi cysegru ei hunan iddo. Y meddwl ydyw, fod y dyn yn cael ei gymhwyso at I a ryw waith arbenig, a gelwir hyny yn alwedigaeth. Pwysig ydyw i ddyn ddod o hyd i'r hyn y mae cym- hwysder ynddo tuag ato. Y mae rhai yn camsynied eu galwedigaeth, a hawcld deall hyny oddiwrth eu gwaith, mor chwitbig ac mor afler y ceisiant ei gyf- lawni. Galwyd y Cristion gan Dduw at waith ar- benig, a chynysgaeddodd ef a chymhwysderau agallu i ddilyn y llwybr—ei symud i Grist a'i wneud yn greadur newydd yn Nghrist, a Christ yn dyfod i drigo trwy ffydd ynddo, Y dyn ya Nuw, a Duw ynddo yntau. Dyna'r cy-mhwysder mavvr. Y ffordd i ddadblygu y cymeriad geir yn yr adnodau taa sylw, sef rhodio yn addas i'r alwedigaeth gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, yn nghyda hir- ymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr ysbryd yn nghwlwm tangnefedd." Rhaid cario allan y pethau hyn yn ein bywyd. Nid eu gwneud oddiar deimlad o ddy- ledswydd, ond am fod yr ysbryd ynom. Pethau ydynt nas gall y gwir Gristion beidio eu gwneud. Un gostyngedig o galon oedd Iesu Grist, a buasai yn drais ar ei natur i fod yn ddim arall; yr oedd ei natur ddwyfol a'i natur ddynol yn liawn gras. Bydded i ninau wneud ein galwedigaeth yn sicr trwy ddadblygu y grasusau hyn. Rhaid i ni feithrin ysbryd maddeugar, a maddeu fel y mae Duw yn maddeu—maddeu o'r galon. Ac wrth wneud y pethau hyn, ni lithrwn ni ddim byth. Parch E. ROBERTS, Dolgellau, a ddywedodd fod y mater yn gofyn sylw dyfal. Cynwysa ddau wirionedd mawr cyferbyniol— rhwymedigaeth neu ddyledswydd i gadw undeb yr eglwys, sef undeb yr ysbryd, mewn cwlwm tang- nefedd a phob aelod eglwysig ynddo ei hun yn berson annibynol a chyfrifol. Y mae undeb ac an- nibyniaeth-y ddau yn hollol gyson a'u gilydd, ac nid yw y naill yn dinystrio y Hall. Ca'r undeb le mawr gan yr Apostol; nid undeb fel gronynau y gareg, nas gall y naill symud heb y Hall; nid fel y tywod ychwaith, na lynant wrth eu gilydd ond undeb corph-llawer o aelodau ac un corph, a phob aelod yn rhydd i weithredu yn annibynol, eto mewn undeb perffaith. Ceir syniadau ardderchog am undeb yr eglwys yn yr adnodau nesaf—undeb yr yspryd yn treiddio trwy y corph. Ond gan fod pob aelod o'r eglwys yn berson, rhaid wrth ddyfalweh mawr i gadw'r undeb, mewn gostyngeiddrwydd ac addfwynder, mewn hir-ymaros gan oddef ein gilydd. Mewn gostyngeiddrwydd yn adnabod ein hunain, ac yn addfwyn tuag at eraill, yn goddef ein gilydd mewn cariad. Y mae amrywiaeth diderfyn, ond undeb yspryd. Trychineb fuasai colli ein hunan- iaeth, ac felly rhaid cadw y ddau. Rhaid eu trin yn dyner rhag eu niweidio. Y mae eisiau dynion pen- derfynol a chryfion dros egwyddorion y gwirionedd, ond yn ystwyth mewn rhyw fan fanylion. Y mae eisiau cysondeb ac addfwynder. Yr oedd Paul yn gwneud ei hun yn bob peth i bawb, ond nid dyn ystwyth ydoedd felly eithr cryf ac annhyblyg oedd Paul. Rhaid i ninau fod yn gryf dros y gwir- ionedd, ond yn oddafgar gyda phethau dibwys. Parch. J. CYNDDYLAN JONES: Dyma fater amserol ac angenrheidiol. Credai mai pwyso yr oedd yr Apostol yn y fan yma ar ein rhwymedigaeth i sancteiddrwydd, heddweh, a thaugnefedd. Rhodiwch yn deilwng o'ch galwed- igaeth, ac y mae'r rhodio hwn yn perthyn i fywyd beunyddiol y Cristion. Cwyd yr Apostol y safon yn uwch yn y naill epistol ar ol y Hall. Yn yr Epistol at yr Ephesiaid—"rhodiwch yn addas i'ch galwedigaeth Philipiaid, rhodiwch yn addas i'r Efeiigyl;" Colossiaid, rhodiwch yn addas o'r Ar- glwydd lesu Grist;" ac yn Thesaioniaid, "rhod- iwch yn addas o Dduw dyna'r safon uchaf. Pa nifer ohonom sydd yn ymdrechu cyrhaedd y safon yna ? Cymerwn arnom enw Crist, ond nid ydym yn rhodio yn addas i'n galwedigaeth. Y mae yn bwysig i ni ddadblygu mewn daioni, a datguddio gogoniant Duw. Gwna llawer ohonom waith da, ond nid ydym yn blodeuo mewn gwaith da. Pan y gwnai yr Arglwydd lesu waith da, gwnai ef yn y fath fodd fel yr oedd prytlferthwch ynddo. Dyna lie yr ydym ni yn colli, nid ydý m yn cyihaedd prydferthwch mewn daioni. Gwnawn ein gweith- redoedd da yn brydferth fel y byddont yn atdyn- iadol. Y mae ami i wr a gwraig dda, ond mor hagr eu hymddyddaoion. Niweidir eia bywyd gan ddiff- yg prydferthweh. Rhodiwn yn addas i'n galwedig- aeth dylai Crist lewyrchu ynom gerbron dynion, a Duw yn cael ei ogoneddu trwy hyny, fel y byddo i'r byd hefyd ogoneddu Duw trwom ni. Dylai ein cymeriadau fod yn dryloew fel gwydr, fel y gellid nid yn unig edrych arno, ond drwyddo, a gweled Duw yr ochr arall. Hyn wnai heddwch yn ein plith, a rhwng cenedloedd. Anmhosibl rhodio yn addas tra y mae cymaint o annghydgord yn ein plith. Nid rhyddiaeth ddylai y Cristion fod, ond barddoniaeth. Y mae y gwirionedd mewn rhydd- iaeth, ond mewn barddoniaeth y mae'r gwirionedd wedi ei wisgo a phrydferthweh. Barddoniaeth Duw ddylem ninau fod, a dylem ymegnio i gyrhaedd prydferthwch ac undeb yspryd. Y mae undeb yn mhob peth mawr a phwysig-un ffydd, un bedydd, un yspryd, un corph, ac un gronfa hefyd. Da ganddo ydoedd clywed Mr Jones yn cyfeirio at y grynfa gan mil-un gronfa i Ogledd a Deheudir Cymru, fel arwydd gweledig o'r cydgord oedd rhyngom Bydded i'r cyfeillion sydd yn gofalu am y mudiad hwnw ymroddi ati, nid i guro yr haiarn tra y mae yn boeth," ond curo yr haiarn nes yr a yn boeth," ac yna fe lifa mwy na'r can mil i mewn i drysorlys y cyfundeb, a bydd yn arwydd gweledig o ras tragwyddol. I Ar ol canu Iesu, Cyfaill f'enaid cu," ar y don Aberystwyth," siaradwyd gan y Parch D. ROBEKTS, Rhiw. Y ffordd i ymddwvn yn addas ydyw ymddwyn fel na raid i ni ostwng pen yn wyneb ein cyfeillion, y byd, yr eglwys, a Duw. Ymddwyn yn addas i'r alwedigaeth uchaf-ni alwyd mo'r angel i hon, ond I fe alwyd Crist, ac i rodio fel y rhodiodd Ef y gelwir arnorn ninau, a dyma ddesgrifiad Paul ohoni-cyd- ddinasyddion a'r saint- yr urdd uchaf o greaduriaid Duw—yn deulu Duw, yn demlau Duff Duw ynom, Crist ynom, a'r Ysbryd ynom, dyna'r alwedigaeth. Y mae ynddi sail i Paul obeithio, a gweddia lawer drosti, ac ni raid i ninau ddigaloni. Cael Crist i drigo yn ein calonau ydyw y pwnc mawr, fel y byddom wedi ein gwreiddio mewn cariad. Nid oes un amheuaeth na chawn gymhorth i fyw yn addas o'r Efengyl ond gofyn am a chadw undeb yr ysbryd. Y mae'r fath ',eth yn bod a phobl mewn undeb a'u gilydd trwy yr Ysbryd Glan na thorir ef byth, ond t rhaid rhoddi chwareu teg iddo i ddwyn yr effeithiau. Os na roddwn iddo y meithriniad priodol, amddifad- ir ni o wmbredd o fendithion. Rhaid i ni adeiladu ein gilydd, ac ni ellir gwneud hyny heb dangnefedd. Rhaid cadw yr undeb yn dyn mewn cwlwm tang- nefedd. Parch T. C. WILLIAMS, B.A. Credai mai un o anghenion penaf Cymru heddyw ydyw crefydd ymarferol. Ni thybiai fod perygl iddi fyned yn wlad annghrefyddol. Y mae swyn arbenig yn y syniad crefyddol i'r Cymro, hyd yn nod pe heb ei gredu. Ond y mae angen dwyn y grefydd yma i ffurf fwy ymarferol. Ofnai nad yw ein pobl ieuainc yn llafurio cymaint ag oedd ein tadau i ddeall yr efengyl. Rhai yn dweyd eu bod yn anmheu y peth yma a'r peth arall, a hwythau heb erioed geisio ei ddeall. Y mae perygl hefyd i grefydd fyned yn ddim ond gwybodaeth, ac efallai fod y drefn newydd gyda'r Ysgol Sul yn tueddu i'r cyfeiriad hwnw. Eto rhaid wrth wybodaeth, ac y mae eisiau llawer mwy o frwdfrydedd, rhaid cael tan yn ein creffdd. Gwybodaeth ydoedd nodwedd ar- benig y Diwygiad Protestanaidd teimlad nodwedd- ai y Diwygiad Methodistaidd ac y mae eisiau diwygiad moesol eto, a bar i ni weled amcan y broffes. Hawdd siarad am hawliau a rhwymedig- aethau, ond rhaid cael crefyddwyr yn fwy ymar- ferol. Teimlir anhawsder yn y dyddiau hyn i gael pobl i fyned i mewn i bethau ysprydol yr eglwys, ac y mae eu nifer yn myned yn llai bob blwyddyn. Yr ydym yn myned yn ddefodwyr er ein gwaethaf, ac I yn y man bydd yn rhaid i'r pregethwr, a'r pregethwr yn unig, weddio dros bawb. 0, na ddeuai i'n gwlad don o dywalltiadau nefol i'n dwyn eto at ein rhwymedigaethau. Parch J. J. ROBERTS, Porthmadog. Yr oedd dau air yn ymgynyg i'w feddwl- "rhwymedigaeth" Paul a "phroffes" Cyfarfod Misol Lerpwl. Y naill o ochr Duw, a'r Hall o ochr dyn Duw sydd yn galw, a dyn yn proffesu. A phrawf fod Duw wedi galw ar ddyn ydyw fod dyn yn dechreu galw ar Dduw. Wedi i Dduw alw y pechadur, disgwylir i'r pechadur hwnw byth wed'yn goleddu yr un egwyddorion, a disgwylir iddynt ddyfod i'r golwg yn ei gymeriad. Y mae y rhai a alwyd gan Dduwyn rhai gwahanol am byth. Ymae llais Duw yn myned i ddyfnder yn yr enaid nas gall un llais arall dreiddio iddo byth. Daw y dyn i ad- nabod ei hunan yn well, a dynion heddychol sydd yn yr eglwys, oddigerth ambell un a ddanfonodd y diafol yno i godi cynhwrf a helynt, ond nid rhai, wedi eu galw gan Dduw ydyw y rhai hyny. Galw y mae Duw o dywyllwch y byd i'w ryfeddol oleuni Ef. Beth wed'yn ? 0, rhodio yn addas i'r goleuni, fel y mynegom rinweddau yr Hwn a'n galwodd mewn ymarweddiad pur. Byddwn ddilynwyr Duw fel plant anwyl. Anhawdd gwneud fel y mae Ef yn gwneud heb fod yn debyg iddo. Os cawn oleuni, ysbryd, a chariad Duw ynom, fe wnawn lawer a bethau yn debyg iddo Ef. Y Parch D. WILLIAMS, Llanwnda. Yr oedd y cyfeillion eraill wedi dweyd bron bobpeth am y mater, fel nad oedd ganddo ef ond lloffi dipyn ar eu holau. Y peth peuaf hwyrach yn meddwl yr Apostol yn yr adnodau hyn, ydoedd undeb yr Eglwys a Chnst-cad w undeb yr yspryd yn nghwlwm tangnefedd. Y cyntaf a enwa ydyw y pwysicaf—gostyngeiddrwydd. Y mae hwn yn sicrhau yr undeb Beth yw yr helynt sydd ar y bobi ar hyd yr oesau, yn ymladd a'u gilydd a pheth, au felly ? O! balchder yspryd, hunanoldeb medd- wl, ac y mae'r hen gwestiwn yn fyw o hyd—pwy fydd fwyaf ? Y mae balchder nid yn unig am fod yn fawr, ond am fod yn fwyaf. O'r dyn ei hun y -b mae'r pethau hyn yn codi. Os myn nebddyfod yn fwyaf, bydded yn lleiaf o bawb. Rhaid bod yn weinidog i bawb. Pe buasem yn fwy gostyngedig cawsem ymwared o lawer iawn o helyntion yn y byd yma. Rhoddi gras y mae Duw i'r rhai gostyng- edig. Hoff yw Duw o'r gostyngedig a'r addfwyn. Yr oedd Crist am olchi traed ei ddisgyblion. Oft felly, dylem ninau wasanaethu ein gilydd mewn gostyngeiddrwydd a hynawsedd, a hyny yn ngwyneb ymddygiadau gwael pobl tuag atom. Bydded i Dduw aros gyda ninau, i feithrin hir-ymaros, gan faddeu yn barhaus i'n gilydd. Hyn yn unig a. sicrha undeb yn eia plith. Ymddiriedwn yn Nuw a ni a'u cawn. Rhoddwn gwlwm-gwlwm arno, fel na fydd neb yn uffern fedr ddechreu ei datod. Heddweh fyddo i eglwysi y ddinas, ac Arglwydd y Tangnefedd a roddo iddynt dangnefedd byth. Terfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch J J Williams, o'r America.

¡ -0-Mr Wm Jones, A.S., yn…

[No title]