Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Y Sentdd a Lllnoll y London…

News
Cite
Share

Y Sentdd a Lllnoll y London & North Western. DTDD Llun, yn Nht y Cyffredin, dygwyd Meaur Cwmni Reilffordd y London & North Western yn mlaen am y trydydd ddarlleniad. Dywedodd Mr J Herbert Lewis mai amcan y mesur ydoedd rhoddi hawl i'r cwmni brynu tirtrwy orfodaeth yu siroedd Fflint, Dinbych, Caernarfon, a Mon i'r amcan o ledu y llinell a gwneud y cyfnew- idiadaa angenrheidiol yn y gorsafoedd. Niddymun- ai neb roddi un rhwyatr ar ffordd y Cwmni i gario allan y gwelliantau, am fod trafnidiaeth gynyddol yn Ngogledd Cymru yn galw am danynt. Ei amcan ef wrth siarad ar y mesur ydoedd galw sylw at y ffaith, er y cynyddmewo trafnidiaeth ar y llinell sydd eis- oes ya llinell ddwbl. ac y bwriedir ei gwneud yn bedair llinell—dwy i gerbydresi cyflym a dwy i'r rhai araf-nid oedd un darpariaeth ar gyfer gostwng y prisiau am gario nwyddau, y rhai sydd yn llawer uwch yma nag ar unrhyw ganghen o eiddo y Cwmni. Gosodwyd y llinell o Gaer i Gaergybi i lawr ar y cyntaf gan Gwmni Reilffordd Caer a Chaergybi. Un o'r rhesymau a ddygwyd yn mlaen yr adeg hono dros brisiau uchel ydoedd y gost fawr i osod y Jlinell i lawr. Pa un a oedd hyny yn bod ai peidio, prynodd Cwmni y L. & N.W. y llinell am haner y gost o'i gwneud, ac felly Did oedd ganddynt un bawl i gwyno am y gost gyntaf. Cwynent hefyd nas gallent dynu trafnidiaeth ond o un ochr i'r reilffordd yn unig, a bod y traeth mor arw ond y mor, yr hwn a achosodd yr anhawsderau hyn, sydd yn denu y degau o filoedd o ymwelwyr i draethell Gogledd Cymru bob blwyddya. Achosodd i ymdrochleoedd mawrion a phoblogaidd, a nifer o drefi llai ond sydd yn dal i gynyddu yn gyflym, i neidio i fynu ar hyd y traeth. Trwy y treli hyn, cynyddodd masnach a thrafuidiaeth y Cwmni mor gyflym ac mor fawr fel y gorfodwyd y Cwmui i ddyfod i'r Senedd i ofyn am alluoedd newyddion i'w galluogi i ymwneud a'r cynydd dirfawr a pharhaol, nid yn unig yn Ngog ledd Cymru, ond hefyd yn y drafnidiaeth rhwng Prydain a'r Iwerddon. Bu ymdrafodaeth ar brisiau nwyddau ar y Ilinell hon yn y Senedd yn 1891, pryd y tynodd Ty y Cyffredin y prisiau i lawr ar nwydd- au dan restr A i 95c y dunell y filldir, sef yr un bris ag a godid ar ranau eraill o'r brif linell. Cod- odd Ty yr Arglwyddi y pris, fodd bynag, i lie y 2 dunell y filldir. Yu y diwedd, gosodwyd y pris yn lie. Dadleuai y masnachwyr nad oedd dim yn cyf- 4 iawnhau i'r pris gael ei osod uwchlaw -95c, mwy nag ar ranau eraill o'r llinell; ac ni chlywodd ef erioed resymau digonol i'r gwrthwyneb. Os bu rheswm erioed dros godi y prisiau uchel, yr oedd wedi peidio a bod er's talm. Meddaiy Cwmni hwn safle mor fanteisiol ar y draethell, fel nad oedd gobaith i un C wmni arall allu cytadlu am gyfran o'r trafnidiaeth enfawr. Pe ceisiai unrhyw Gwmni redeg llinell gyfochrog, cawsent fod y L. & N.W. wedi cymeryd meddiant o bob lie cyfleus a manteis- iol o Gaer i Gaergybi. Yr oedd y Cwmui felly wedi sicrhau gorfaeliaeth ar hyd y llinell; gosododd gymaint ag a fedrai o gaaghenau i lawr, fel yr oedd y rhan fwyaf o Ogledd Cymru yn gwbl yn ei ddwy- law. Mewn undeb a'r Great Western, aeth i'r drafferth i osod lliuellau i lawr i amcauiou rhwystr- ol yn unig. Er engraipht, 30 mlynedd yn ol, bwr- iadwyd dwyn llinell wrthymgeisiol i Ogledd Cymru. Penderfynodd y ddau Gwmni uchod rwystro cys- tadleuaeth, ac mewn canlyniad gosodasant linell i lawr o Wrecsam i'r Wyddgrug i'r unig amcan o gau allan y reilffordd newydd. Ni agorwyd hi i deith- wyr am ugain mlynedd ac ni agorwyd hi ychydig flynyddoedd yn ol ond trwy i'r Cynghorau Sirol ac awdurdodau eraill waagu arnynt. Cyfeiriai at hyn i ddangos mor benderfynol oeddynt i gadw y gor- faeliaeth yn eu dwylaw. Rhaid cyfarfod yr yspryd hwn gyda'r un penderfyniad ar ran cynrychiolwyr y bobl i wrthwynebu y gorfaelwyr hyn gael caniatad i godi prisiau annheg ac afresymol yn yr ardaloedd lie y ffyna y gorfaeliaeth. Yn anffodus, nid oedd gan drigolion Gogledd Cymru unrhyw Gymdeithas nac Undeb priodol i amddiffyn eu buddianau mewn materion fel hyn. Gallai cwmni reilffordd cyfoeth- og a chorphoraeth alluog ymladd mewn manylion gyrph lleol bychain, y rhai oeddynt yn naturiol yn hwyrfrydig i wario arian y trethdalwyr mewn cyng- haws a chwmniau cyfoethog allent gyflogi y bar- gyfreithwyr goreu. Nid oedd gan wrthwynebwyr cyffredin un siawns yn erbyn cwmniau fel hyn. Yr oedd y frwydr mor unochrog fel nad oedd yn syn- dod yn y byd gweled Cynghorau Siroedd bychain, Cynghorau Trefol a Gwledig, yn hwyrfrydig i am- ddiffyn buddianau y masnachwyr a'r bobl, gan ofn gwario yn ofer. Ond yr oedd gan gynrychiolwyr etholaethau Gogledd Cymru hawl i wrthdvstio yn erbyn y prisiau uchel anarferol a godir am gario nwyddau ar y llinell. Gobeithiai y parheid i godi rhwystrau yn eu herbyn hyd nes y gwnant gyfiawn- der a'r ffactrwyr, masuacawyr, a'r cyhoedd yn -Ngogledd Cymru. Dymunai bobdaioni i'r Cwmni, oblegyd ni dderbyniodd ef yn bersonol ond pob caredigrwydd oddiar ddwylaw ei swyddogioti yn y wlad, a gobeithiai y gwelent yn fuan y cyfiawnder 0 ostwng eu prisiau i fasnachwyr sir Jîflint a siroedd eraill Gogledd Cymru. Siaradwyd yn mhellach yn yr un cyfeiriad gan Mri Lloyd George a W Jones. Cynygiodd Mr J Herbert Roberts welliant fod y mesur yn cael ei ddychwelyd i'r pwyllgor i'r amcan o adystyried adran 6, ac eiliwyd hyny gan Mr Mac- Neill, yr hwn hefyd a alwodd sylw at bresenoldeb ar Fainc y Trysorlys un Gweinidog ag oedd hefyd yn gyfarwyddwr taledig o'r Cwmni, ac a ddef/iyddiai ei gyfleustra fel Gweinidog y Goron er budd y Cwmni.—Ar gais y Llefarydd, tynodd ei sylwadau personol yn ol. Amddiffynwyd y Cwmni gan y Milwriad Lock- wood. Dywedai fod y Cwmni bob amser wedi gwneud ei oreu i gyfarfod a. phob cftynion a ddyg- wyd i'w sylw. Efallai fod man achosion o gwvnion 9 yn codi weithiau, fel gyda phobpeth arall, ond yr oedd y Cwmni yn barod i roddi ystyriaeth bwyll- og i bob cwyn, ac amcan y mesur presenol ydoedd cyfarfod a'r galwadau a'r fasnach gynyddol, a bydd y gwelliantau o fantais neillduol i drigolion Gogledd Cymru. Cefnogwyd y gwelliant yn mhellach gan y Mil. Pryce-Jones a Mr Flynn. Ar yr ymraniad, gwrthodwyd y gwelliant trwy 163 yn erbyn 10G, a darllenwyd y mesur y drydedd waith.

-0--. Y diweddar Barch J.…

IY RHYFEL.

Coffa Robert Owen.

Cyrddau y Dyfodol. &o.

Ueol.

Marohnadoedd.,

Birkenhead.

Advertising

Family Notices

Advertising