Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Ar Flnlon y Odyfrdwy.

News
Cite
Share

Ar Flnlon y Odyfrdwy. Mab Cymdeithas Clerigwyr Edeyrnionwedi peader- tynu cefnogi'r syrnudiad i sefydlu catrawd o Wir- foddolwyr yn yr ardal. Dro yn ol, mabwysiadwyd penderfyniad hollol i'r gwrthwyneb gau weinidogion Ymneillduol y eylch. Lwc dda i Mr J B Parry. Gl*n Tegid, Bala. Ddydd Mercher, yn Ngbasnewydd, Mynwy, priodwyd ef a Miss Amy Thomas, Clifton House, Cross Keys. Y Parch W Jenkins, Machen, oedd y clymwr. Mae cynghorwyr Llandderfel wedi cyflwyno lOp at gyfoethogi llyfrgell y pentref. Yn Llys Sirol y Bala, 'ddydd Gwener, gertron y Barnwr William Evans, hawliai Edward Roberts, JSdeirion House, Bala, 4p gan Gwmni Reilffordd y Great Western, am niweidiau gafodd ei geffyl yn yr orsaf—Dyfarnwyd o du'r hawlydd, gyda'r costau. Dydd Mercher, cynaliodd Methodistiaid Edeyrn- .ion eu cymanfa ysgolion yn Nghorwen. Dylifodd canotdd iddi. Deuai plant y pentrefi mown wageni, ac yr oedd y llanciau ofalent am y meirch wedi bod yn fawr eu dyfalwch yn addurno'r pedwar-carnol; on. Er fod y tywydd braidd yn anffafriol, caed Oymanfa ,gampus-y canu, yr areithio, a'r holi a'r ateb, yn rhagorol iawa. Yr un dydd, yn Llandderfel, cynaliodd Annibyn- wyr y eylch eu Cymanfa. Caed cynulliadau a chyf- arfodydd rhagorol yma hefyd. Ddydd Sul, yn Nghorwen, cafodd y Bedyddwyr gyrddau arbenig. Daeth cenhadon o ysgolion y cylch 1 draddodi anerchisdaii-Mr Edward Hughes, Tre'r ddo), ar yr Ysgol Sul; Mr Jesse Roberts, Llansant- ffraid, ar ddirwest; a Mr Evan Jones, Cynwyd, ar gadwraeth y Sabboth. Mawr yw'r parotoi yn y Bala ar gyfer Sasiwn y Methodistiaid. Daw gweinidogion blaenaf y cyfun. .deb i wasanaethu ynddi. Bydd hon yn Sasiwn Or- deinio hefyd. Bu'r Parch G Ellis, Bootle, yn Llandrilla nos Lun. Pregethodd yn rymus, a chymhellai'r Gronfa Ganmil i sylw. Disgwylir canoedd i'r Bata ddydd Llun nesaf i tfwynhau'r Eisteddfod. Daw corau yno o'r Amwyth- ig, Gwrecsam, Llangollen, Ffestiniog, Dolgellau, &c. Orafanga deg o feirdd am y gadair, a'r oil yn tybio eu bod yn Ilawn "Doethineb." Os bydd yr hin yn deilwng o Mehefin, anhawdd cael lie Hyfrytach i ,-dreulio gwyl na'r dref ar lan y Tegid. GWTN. _A

-----v---Nodion o Uwohaled.

Uythyr Lerpwl.

Newyddion Cymrefg.

I.Llenyddlaetli.

I"-:f.I:-Nodion o Fen.I

Capel Newydd yr Annibynwyr…