Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Ysgolion Eglwysig yn y Senedd.
Ysgolion Eglwysig yn y Senedd. PAJST y cynygiodd Mr Balfour ohiriad y Ty, ddydd Llun, cwynodd Mr Samuel Smith am y dull gortnesol yr ymddyga y Llywodraetfa iuag at hawliau aelodau preifat. Dranoeth yr oedd ef I gyflwyno mater o bwys neillduol i boblog- aethBr otestanaidd y wlad, ond dyma hwythaa yn myned i'w amddifadu o hyny, ac yn cymery:! mantaia ar bob cyfle i gau allan bob cyfeiriad at gwestiynan sydd yn codi oddiar Ddefodaeth yn yr Eglwysi a'r Ysgolion Cenedlaethol. Yr oedd Protestaniaid y wlad yn ddig am y eamddefn- ydd a wneir o'r Ysgolion Gwirfoddol a'r Oolegau Hyfforddiadol iddadwneud gwaith y Diwygiad. Ameanent ladd egwyddorion y tfydd Brotestan aidd yn meddyliau y plant. Amddifadir plant Ymneiilduol rhag dyfod yn athrawon hyd yn nod yn yr ysgolion elfenol hyn, a gwaherddid hwy i'r colegau, fel rheol, os na wadanfc y ffydd y dygwyd hwy i fynu ynddi. Cyfeiriodd at am- gylcbiad lie y bu raid i ferch ieuanc bertbynol i'r WeBleyaid arwyddo llythyr yn cynwys dat- ganiad na wnai mwyaoh fynychu un lie o addol- iad perfchynol i'r enwad hwnw, ac y dychwelai i Eglwys Loegr, cyn y cawsai ei phenodi yn atbrawes. Nid oedd hyn ond engraipht deg o'r hyn a gerir yn mlaen trwy y wlad yn gyffredin- I ol. Sylwodd hefyd ar yr arferiad i orfodi plant Ymneilldaol I orymdeithio i'r Eglwys, a dyagu iddynt athrawiaethau orefyddol croes i ewyllys y rhieni ac os meiddiai y rhieni wrthdystio, byddai y personlaid y Sul canlynol yn en henwi ac yn ymosod arnynt o'r pwlpod, ac yn ami cawsai y plant ddyoddef o'r herwydd. Apeliai ef at Fwrdd Addysg i wella pethau yn y cyfeir- iad hwn, oblegyd yr oedd yn rhwystr ar ffordd llwyddiant y plant, ac yn fagl i addysg yn gyff- redinol; ac er mwyn cael ymdrafodaeth ar y cwestiwn, eyitygiodd welliant nad oedd y Ty yn cael ei ohirio hyd dranoeth. Oeiaiodd Syr J Gorst a Mr Balfour ateb y cwynion hyn trwy ymresymu nad oedd y pethau y cwynid o'u plegyd ond eithriadau fod y plaut Ymneiilduol yh cael yr un manteision a'r un chwareu teg yn bron yr holl YsgolioaGwirfodd- ol, ac nad yw eithriadau a allaut ddigwydd yn awr ac eilwaith yn ddigon i'r Ty gyineryd sylw ohonynt. Cefnogwyd y gwelliant gan Mr Lloyd George mewn araith lem, a dangosodd yn eglur fel yr oedd yr adran gydwybodol yn cael ei cham- ddefnyddio, ac nad oedd yn ddigon o amddiffyn i'r plant. Cyfeiriodd at amryw amgylchiadau neillduol. Yroedd yr ysgolion yn hollol yn nwylaw parsoniaid Anglica aidd, a'u hameatt penaf ydoedd lladd Ysgolion y Bwrdd a phros- elytio plant. Siaradwyd yn mhellach gan Arglwydd Fitz- maurice, Mr H 0 Arnold Forster, Syr H Campbell- Bannerman, Mr Broadhurst, a Mr J Herbert Lewis. Boddlonodd Mr Smith ar yr ymdrafodaeth, a thynodd ei welliant yn ol.
_10;-Afiechyd Mrs Gladstone.
_10;- Afiechyd Mrs Gladstone. ER'S dyddiau bellach, y mae sefyllfa iechydMra Gladstone yn peri cryn bryder. Yn Nghnstell Penarddlag yr erys, ac y mae ei phlant adref yn gweini arni. Ddydd Mawrth, ymwelodd Dr. Fraser, Bwcle, a bi ac ar ei ymadawiad, hys- byswyd fod y foneddiges hybareh wedi cael noson well, a'i bod ychydig yn gryfach nag ydoedd y diwrood cynt. Ni bu fawr o gyfnew- idiad yn yetod y dydd. Heddyw (ddy id Mer cher), ymwelir a. hi gan Dr Biss, Llucidain, yr hwo a weinyddai ar ei phriod enwog. Derbyn- ir llu mawr o bellebrau yn y Castell bob dydd yn ymholi am dani, ac amlyga y Frenbines ac aelodau eraill o'r Teulu Brenbinol, bryder dw/s oherwydd ei gwaeledd.
Anrhydeddu Cymry o Lerpwf.
Anrhydeddu Cymry o Lerpwf. CTNALIWYD cyfarfod dyddorol nos Sadwrn, y 26aia o'r mis diweddaf yn nghapel M.C. Glanrhrd, Llan- wnda, ger Caernarfon, o dan arweiniad Mr Morris, Park, i gyflwyno anerchiad goreuredig hynod bryd- ferth i Mr Thos. Williams, Gwylfa (o ffirm Mri R Williams a'i Fab, Lerpwl), a Mrs Williams, fel arwydd o'r parch diffuant a fynwesir tuag atynt gan eglwys a chynulleidfa y capel uchod. Wedi i'r cadeirydd agor y cyfarfod gydag araith bwrpasol, caed anerchiadau rhyddieithol a barddonol campus gan y Parchn D Williams, Fron Villa; Rd Hum- phreys, Bontnewydd; 0 G Owen (Alafou), Ysgol- dy Evans, B.A., Brynaerau David Roberts, Rhiw, Ffestiniog; J Jones (loan Glan Menai), Mri W Griffith, Maengwyn Jethro Joaes, Glan- rhyd ac adroddiad gan Mr Samuel Jones, Glan- rhyd. Chwareuodd Miss Morris, Park, amryw ddarnau ar y berdoneg, a Mr John Morris ar y bib, yn dra medrus. Cafwyd can hefyd gan Mr W 0 Roberts, Nant, yn dda iawn. Yn absenoldeb Mr Williams oherwydd anhwyldeb, derbyniwyd yr an- erchiad gan Mrs Williams, yr hon a ddiolchodd mewn geiriau detholedig a phriodol ar ei rhan ei hun a'i phriod. --0-- Dydd Gwener, gwelwyd golygfa frwdfrydig yn Abergele a Phensarn. Yn y bore, derbyniodd priod Henry Gillmore, Mount Pleasant, Abergele, bell- ebyr oddiwrth ei gwr yn hysbysu y byddai yn cyr- haedd adref gyda thren neillduol. Aethai Gill- more allan i faes y rhyfel yn Ne Affrica yn mis Hydref diweddaf, ac yr oedd yn bresenol yr adeg y cymerwyd Cronje yn garcharor, a chlwyfwyd ef a, bwled yn ei forddwyd. Ar olbod yn yr ysbytty am dymhor, anfonwyd ef adref er adfer ei iechyd. Ym- gynullodd tyrfa i'r orsaf i'w ddisgwyl, ac wedi iddo gyrhaedd, gosodwyd ef mewn cerbyd, a llusgwyd ef yn nghanol banllefau drwy Rensarn ac Abergele. Cymerwyd ef i Westty y Bee, ac yno y croesawyd ef a'i deulu i giniaw ardderchog. Dydd Gwener diweddaf, agorwyd yn ffurfiol gapel newydd y Wesleyaid yn Nghaergwrle. Ymgasglodd lluaws mawr o wahanol leoedd. Y mae'r addoldy, yr hwn a gostiodd fil o bunau, wedi ei godi ar le amlwg a chyfleus ar y brif keol. Agorwyd ef gan Mrs J S Howarth ag allwedd arian a gyflwynwyd gan Mr Ingall o Birmingham. Wedi hyny, dador- chuddiwyd ffenestr liwiedig brydferth yn y ganghell gan Mr W Thomas, Gwrecsam, ar ran ei frawd, Mr Edwin L Thomas o'r America, yr hwn a roddodd y ffenestr er cof am ei rieni. Heblaw arian, y mae nifer o gyfeillion wedi rhoddi anrhegion gwerth- fawr i'r capel newydd. Rhoddodd Mr Ralph Dar- lington, Llangollen, organ er cof am ei dad; llestri cymun arian gan Mrs Howarth, Llangollen dwy gadair hardd i'r set fawr gan Mrs W H Tilston, Lerpwl; bedyddfaen fechan brydferth gan Mrs Brooks, cyfeilles i Mrs Howarth; a Beibl a Llyfr Emynau i'r pwlpud gan Mrs W Manuel, Caer- gwrle. Co LEG PRIFYSGOL OYMRU, ABERTSI WTTH. —Brein- len Genedlaethol mewn Amaethyddiaeth.-Yn yr ar- holiad a gynaliwyd yn NgholegSwydd Efrog, Leeds, o dan nawdd undebol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Lloegr a Chymdeithas Amaethyddol Ucheldiroedd Ysgotland, pasiodd yr ymgeiswyr can. I lynol o Goleg Aberystwyth, sef Mr Ken worthy James Thompson, ys?olor Cynghor Sirol Amwythig, a Mr John Roberts, Perfeddnant, Towyn, ysgolor Cynghor Sirol Meirionydd. Saif y blaenaf yn drydydd, a'r Hall yn bedwerydd ar y rhestr o'r ymgeiswyr llwydd- ianus drwy yr holl deyrnas. Pasiodd Mr Simon Blore, ysgolor Cynghor Sirol Swydd Stafford, yr adran flaenaf o'r unrhyw arholiad. Hefyd bu Mr John Roberts yn llwyddianus i enill tystysgrif aelod- aeth yn yr arholiad a gynaliwyd yn ddiweddar yn Llandain gan y safydliad a elwir The Surveyor's Institution (Land Agency Division)." Y pynciau yr arholwyd ynddynt ydoedd—amaethyddiaeth, mesur a sychu tir, adeiladu, tyfu a thrin coed, cadw cyfrif- on, deddfau perthynol i amaethyddiaeth, daeareg, a fferylliaeth amaethyddol. Felly gwelir fod Mr Ro- berts drwy basio yr arholiadau hyn yn llwyddianus ya sefyll ar ei ben ei hunan, gan nad oes neb arall drwy yr holl deyrnas yn feddianol ar y ddwy dyst- ysgrif nyn.
____--Dyffryit Clwrd.
Dyffryit Clwrd. MAE meddygon mor gyffredin yn Vale Street, Dinbych, fel y sonir am newid enw yr beol i Doctors Commons. Mewn desgrifiad o bregeth a draddododd Esgob Llanelwy rai blynyddau yn ol yn Nghroesoswallt, dywedai Gol. y Salopian i'w arglwyddiaeth gymeryd ei destyn yn ail lythyr Paul at y Rhufeiniaid. Mae gwlad Twm o'r Nant yn dal i godi beirdd. Aeth dau hogyn gyru'r wedd ar lawr y Dyffryn i'r glas ychydig ddyddiau yn ol i edrych sut yr oedd eu mwstash yn dwad yn mlaen ac ebe un ohonynt:— Plaiit ydym eto dan ein hoed Yn diagwyl am fwstash Mae'r etifeddiaeth ini'n dod Wrth edrych yn y glas. Aeth hogyn o Lerqwl tua'r Pasg diweddaf gyda,i dad i Landyrnog, yr hwn oedd yn frodor o'r plwyf hwnw; ac wrth weled mewn cae yr hyn a eilw ffermwyr yn scuffller neu weithiau yn gythrel, dy- wedai, Nhad, nhad, dyma i chi dreisycl digri." DINBYOH DDTDD Llun, ymadawodd Gwyr Meirch sir Ddin- bych oddiyma i Wynnstay, am fis o ddysgyblaeth ac ymarferiad, mewn undeb a Gwyr Meirch Maldwyn. Syr Watcyn sydd yn gofalu am danynt, a rhoddodd ei bare at wasanheth Swyddfa Rhyfel. Da genym ddeall fod Miss E. A. Roberts, merch Mr T. Roberts, is-gadeirydd y Bwrdd Ysgol, wedi pasio arholiad uchel yn nglyn a'r Athrofa Gerddor- ol Frenhinol, gan enill y marciau uchaf yn bosibl. Prydnawn ddydd Mercher, yn ngwestty y Crown, cynaliodd Mri Clough arwerthiad ar amryw dir- oedd, &c. Yr oedd nifer dda yn bresenol, ond nid oedd y cynygion yn fywiog iawn. Yn gyntaf, rhoddwyd Grove Cottage i fynu, yr hwn y mae Mr Vaughan Jones yn denant iddo. Cychwynodd Mr Jones ycynyg gyda 435p., a thynwyd y lot yn ol am 445p. am nad oedd wedi cyrhaedd y pris a osododd y perchenog arno. Rhoddwyd i fynu gyf- raniadau yn nghwmni nwy a coke, ond tynwyd hwy- thau yn ol am fod y cynygion yn rhy isel. Cafwyd cynygion mwy bywiog pan roddwyd fferm Ty Angharad i fynu, a tharawyd hi i lawr i Mr John Davies, cyfreithiwr, am 380p. Gwerth wyd cae y Ffrith, yn ffinio a Thy Angharad, yn cynwys 2t acr, i Mr Edgar am 38p. Cymerodd seremoni ddyddorol Ie yn Nhy yr Eglwys ddydd Iau, sef cyflwyno tysteb i'r Parch E J Davies, ciwrad y dref. Cynwysai y dysteb an- erchiad goreuredig hardd a phwrs o aur yn cynwys 80p, ar ei ymadawiad o'r dref ar ot naw mlynedd o wasanaeth ffyddlawn. Daeth nifer luosog o gyfeill- ion Mr Davies yn nghyd, a llywyddwyd gan y Mil- wriad Lloyd Williams. Traddodwyd anerchiadau canmoliaethus, a diolchodd Mr Davies yn gynes am yr anrhegion a'r teimladau da tuag ato. Y mae Mr Davies wedi ei benodi i fywoliaeth Garthbeibio gan Esgob Llanelwy. RHUTHIN. Bore ddydd Iau, bu farw Miss Roberts, milliner, Clwyd Street, ar ol amryw wythnosau o gystudd. Cariodd ei masnach yn mlaen am amryw flynydd- oedd, yr oedd yn bur adnabyddus yn y dref, a pherchid hi yn fawr. Nos Iau, cynaliwyd cyfarfod adloniadol llwydd- ianus yn nghapel Galltegfa. Daeth cynulliad rhag- orol yn nghyd, ac aed trwy y rhaglen rhywbeth yn debyg i hyn, ar ol i'r cadeirydd, Mr T Roberts, Llanerchgron, draddodi ei anerchiad --Unawd, Hiraeth,' Goronwy Jones adroddiad, Miss Maggie Hughes deuawd, Babel Gwympa,' Misses Ro- berts, Llanerchgron adroddiad, Miss Dolben; unawd, Miss Williams, Bedyngharad dadl, Misses Hughes a Evans; anthem, Cor Pendre; deuawd. Misses Roberts adroddiad, T6r-amod Priodas,' Evan Davies, Rhewl; unawd, Goronwy Jones; deuawd, Mr a Mrs John Williams; unawd, J R McGowan; adroddiad, Clefyd y Sul,Miss Roberts, Llanerchgron; deuawd, J R McGowan a BO Jones; dadl, John Williams a Robert Evans; ad- roddiad, Damwain mewn Chwarel,' E Davies; anthem, Cor Pendre. ABERGELE. Y mae'r annghydfod yn nghylch y tir i ledu y ffordd yn Abergele yn para o hyd. Y pris ydyw asgwrn y gynen yn awr. Yn nghyfarfod y Cynghor Gwledig yr wythnos ddiweddaf, darllenodd yr ys- grifenydd ohebiaethau a gymerodd le rhyngddo a chyfreithwyr y diweddar Mr Boots, y rhai a gynyg- ient werthu 366 o Iatheni am lOOp., tra y dywedir nad yw y tir yn y gymydogaeth yn werth mwy na 2/6 y llath. Ysgrifenai cyfreithwyr y Parch James Bateman (ewythr Countess Dundonald) yn cynyg y rhan oeddynt eisiau o'i dir ef, a'r coed, yn cynwys 3,112 0 latheni, am 1,200p, gydag amodau caeth o berthynas i amddiffyn y coed a rhoddi pob eyfle i Mr Bateman fyned i mewn ac allan o'i dir, a cban eu rhwymo i godi mur uchel ar hyd ochr y ffordd. Yr oedd y pris hwn yn ol 7/8 y llath Beirniadwyd y prisiau hyn yn Ilym, gan alw y cynygion yn rhai gwallgof. Dywedai Mr George Perkins i brisydd cyfarwydd ei hysbysu ef nad oedd y tir yn werth mwy na 2/- y Hath. Penderfynwyd yn unfrydol gyflogi Mr Pritchard, Bangor, i brisio y tir.
----:0 :--Pont y Gwr Drwg.
0 Pont y Gwr Drwg. BETH amser yn ol, achoswyd cryn bryder yn ardal Aberystwyth gan yr adroddiad fod y bont enwog uchod mewn perygl o syrtbio. Dywedir i'r bont gael ei hadeiladu rywbryd yn y Canol-oesoedd, ond nid yw wedi cael ei defnyddio i drafnidiaeth er's canrif a haner, fel yr oedd y Cynghor Sirol yn an- alluog i wario dim arian ar ei chadwraeth. Gal wyd sylw y tirfeddianwyr amgylchynol at y mater, sef Mr Waddingham yr Hafod, ac ymddiriedolwr y di- weddar Mr Williams, y rhai sydd wedi addaw ym- gymeryd a'r holl dreuliau, a cherir yr adgyweiriad- au yn mlaen dan arolygiaeth y Peirianydd Sirol. Diau y bydd yn dda gan lawer glywed hyn, ac yr arbedir eto y bont fwyaf rhamantus yn Nghymru. --0' Prydnawn ddydd Sadwrn cynaliw d prawf gyng- herdd llwyddianas yn yr Opera House, Llanduduo. Mr Marriott oedd y cadeirydd, a Mr 0 Llwyfo Ro- berts yn arwain. Y beirniaid oeddynt Mr Dee a Mr B Williams, Llandudno. Cynygid gwobr o £ 15, a chwpan arian gwerth B10 i r arweinydd, gyda g ail wobr o J»5 a bathodyn aur i'r arweinydd, i'r c6r meib- ion yn rhifo o 30 i 50 o leisiau am ddatgan u Croesi'r anial." Dau g6r yn unig ddaeth yn ml aen, sef Cdr Moelwyn (Ffestiniog), a Ch6r M eibion Bangor. Dy- farnwyd y blaenaf yn oreu. Am yr unawd i denor, Sound an alarm," y goreu ydoedd Evan Morris, Blaenau Ffestiniog*; unawd bariton, Honour and Arm" Lemuel Roberts, Bangor; a'r ddeuawd, Excelsior," Morris a H Roberts, Blaenau Ffestin- iog.
---Nodfon o Faelor.
Nodfon o Faelor. Nos Sadwrn. G YDA'R holl ffwlbri yn nglyn a rhyddhad Mafeking a phen-blwydd y Frenhines, y mae Maelor yn gyff- redinol, a Gwrecsam yn arbenig, wedi myned oddiar eu hechel yn lied bell, a chryn gamp fydd cael pethau i'w lleoedd priodol am wn i ba hyd o amser Pe bawn i yn ceisio adrodd wrthych hanes troion yr I Yspryd Rhyfel' yma yn ystod yr wythnos ddiwedd- af, fuasech chi darned gwell, am na fuasai ond vngo debyg i'r hyn oeddynt yn mhob lie arall bron. Felly daf fi ddim i wastraffu eich amser chwi na'm doniau fy hun, ond gadael iddo i'w Yn nghanol y rhialtwch i gyd, mwyn ydoedd cael myned am orig fer i blith plant sydd yn dilyn Awdwr Hedd, ac i wrandaw can a moliant i'r Hwn sy'n cy- hoeddi tangnefedd ar y ddaear. Sasiwn y Plant oedd yn nghapel M.C. Adwy'r Clawdd ddydd Llun, lie yr ymgynullodd dros bed war cant a haner o blant ysgolion y Dosbarth, a chafwyd hwyl anarferol. Mr Robert Hughes, Bethel, oedd gwr y gadair yn y prydaawn, a Mr John Roberts yn yr hwyr, yn lie Neifion. Cafwyd anerchiadau byrion a phwr- pasol gan y ddau. Mr Rees Edwards oedd yn holi'r plant yn y gwahanol ranau o'r Ysgrythyr yn y ddau gyfarfod, a 'does dim eisiau canmoliaeth ar Rees rwan, achos fedr neb yn Maelor holi'r plant yn iawn y dyddiau hyn ond y fo. Yr oedd yr holwr a'r atebwyr yn deall eu gilydd i drwchy blewyn, a dyna beth oedd yn gwneud yr wyl yn hapus. Arweinydd y canu ydoedd Mr W Roberts, Peniel, Bwlchgwyn, ac nid oedd eisiau ei well. Canai y pethau bychain tlysion yn swynol dros ben, a chyn- orthwywyd hwy gan band ffidals y Nant. Pob parch iddynt hwy, ond rwyn siwr nad oeddynt o nemawr help i'r mawl. Rhwng y ddau gyfarfod, arlwywvd gwledd foeth- us Pr holl blant yn y Parish Hall, gan y chwiorydd caredig a llafurus, ac yr oedd yn werth mynd bellder ffordd i weled fel y gall plant ymfwynhau yn y gwaith hwn. Ar ot i bawb gael eu gwala a'u gweddil, cafwyd gorymdaith odidog. Cariai y plant faneri bychain amryliw, ac yr oedd golwg brydferth dros ben arnynt. Yn nghyfarfod yr hwyr, cyflwynwyd nifer o wobrau a thystysgrifau, ac yr oedd yr holl Sasiwn yn llwyddiant mawr. Yr un dydd, cynaliwyd Cymanfa Ganu y Wesley- aid yn nghapel Annibynwyr y Rhos yma, pryd yr ymgasglodd cantorion o Langollen, Cefn Mawr, Johnstown, Rhos, Stryt Isa, a lleoedd eraill. Wil- frid, wrth gwrs, oedd yn arwain, Caradog yn chwareu yr organ, a chynorthwywyd gan rai o aelodau v Seindorf Bres. Y llywyddion oeddynt y Parchn R Mon Hughes, Llangollen, ac Edward Jones, Cefn. Y plant oedd wrthi yn y prydnawn, a'r oedolion yn yr hwyr, ac yn ystod y cyfarfodydd cyflwynwyd tystysgrifau a gwobrwyon i rai oedd wedi llwyddo i'w henill yn arholiad blynyddol yr Ysgolion Sab- bothol. Cafwyd hefyd anerchiad bach twt gan y Ficer yn y prydnawn. Yr oedd yno ganu da iawn ar y cyfan, ond nis gwn pa un ai'r cantorion ynte yr arweinydd haeddai y clod uchaf. Rhyngddynt hwy a'u gilydd am hyny; y ewbl sydd a fyno ni ydyw i ni gael cryn lawer o fwynhad yno, a chredaf fod yno lawer o eneiniad a gwir. addoliad yn j canu. Cawsom ddatganiad 0 unawd gampus hefyd gan Miss Foulkes, Llangollen. Dyna ddylid gael yn mhob cymanfa. Tra yn son am y canu, drwg gan fy nghalon i ddeall nad oes argoel am i'r Dyffryn cerddgar gael ei gynrychioli yn ngwyl fawr y genedl yn Lerpwl fis Medi nesaf wedi'r cyfan. Ow, ow I a ninau wedi bod yn edrych yn mlaen gymaint at hyny onddyma luaws o gynlluniau wedi eu gwneud yn gandryll, a diau y dryllir llawer ychwaneg eto cyn hyny. Cor Meibion y Rhos, fel y gwyddoch, wedi colli eu harweinydd, a dim calon ynddynt i chwilio am un arall. Arfaethai pobl y Cefn gynyg am y ddau can' gini, ond methasant a chael ystafell digon eang i'r cor ymarferyd. Onid yw hyn yn warth, mewn difrif, i ardal fawr a phoblogaidd fel Cefn Mawr ? Beth da yw y Cynghor Plwyf, a faint gwell ydym heddyw ar ol yr holl siarad a dadleu a fu am godi Neuadd y Plwyf ? Mewn cyflwr-gwaeth fyth y mae Cymdeithas Gor- awl y dref, yr hon oedd wedi cyfrif yr wyau er's talwm. Ond dyna—'does d'ioni yn dyfod byth, a oes, o gyfrif y cywion cyn eu deor? Y mae'r cor llewyrchus hwn ar ddarfod am dano, y mae arnaf ofn. Y mae mantolen y cyngherdd diweddaf- Sant Paul "-wedi ei chyflwyuo, ac wedi codi braw yn mynwesau yr holl aelodau-4:2p mewn dyled! Wel, wel! dyna brawf unwaith eto o chwaeth gerddorol tref y cwrw a'r milwr, a chawn vn y man weled gosod cor euwog arall i orwedd wrth ochr llu o gorau a gladdwyd yn Ngwrecsam o'i flaen. Nid yw wedi tynu ei anadl olaf eto; ac er fod un troed yn y bedd, ceisia ddyfeisio sut i farw yn ddiddyled, ac y mae wedi datgan yn groew nad yw am fyned i Lerpwl. Testyn campus mewn 'Steddfod fuasai Galarnad ar ol Ardderchog Lu Corau Maelor." Maes cy- foethog i feirdd fyddai hwn. Ar waethaf y cyfan, y mae Cor Cymysg y Cefn, a'r Cor Meibion yn dal yn fyw, ac y maent wrthi yn brysur yn gloewi eu harfau ar gyfer myned i Gor- wen Gwyl Bane Awst. Neidiodd cor arall i fodolaeth yn Ngwrecsam yn ddiweddar, a diau y diflana eto mor sydyn a hyny. Yr Harmonic ydyw ei enw bedydd, ond yn y Balay Llungvvyn y bwriedir ei fedyddio yn iawn. Gob- eithiaf yr anfarwola ei hun yno cyn marw. Rhifa hwn oddeutu 70 o leisiau, a Mr Peake vw yr arweinydd. Neithiwr (nos Wener), cynaliwyd cyngherdd yn y Neuadd Gyhoeddus i gael arian i dalu y treuliau i'r Bala, rhag iddo gael ei hun yn yr un cyflwr a'r cor mawr; ac 'rwy'n tybio iddynt I wneud ceiniog fach go lew hefyd. Canai yr Harmonic bach yn bur dda, ac ystvried ei oedran, a chynorthwyid ef gan yr unawd wyr Emily Wright, May Heslin, R Dodd, Meirion Jones, J LI Price, yr Orpheus Quartette, rhyw Hallmark yn adrodd, a Loui Parry yn rhoddi cym- horth i chwerthin. Yr oedd yno hefyd gerddorfa fach ragorol dan arweiniad W S Stephenson. Haeddent oil air da, a dymunaf I wydd y cor yn 'Steddfod fawr y Bala. 'I -0- DYFFBTNWB Yr wythnos ddiweddaf, penodwyd y Parch T Lloyd, ficer Abergele, i fywoliaeth Rhyl, a'r Parch T W Vaughan, un o giwradiaid Rhyl, i ficeriaeth Glyndyfrdwy. 1
-0. CWRS .Y BYD.
Ychydig ddyddiau yn ol, edrychai cyfaill ini :ar lechwedd yn yr on ardal a adwaenai yn dda fhaner can mlynedd yn ol (1850), yn cynwya taa deugain o drigfanan erbyn heddyw, meddai, nid oes ond un teula o'r cyfan yn aros, ac *yr sydd yno yn lie y taid. Am y gweddill, gellir dweyd yn ngeiriau Glan Geirionydd, Mae rhai mewn bedd yn gorwedd, A'r lleill ar hyd y byd. Byr, byr, fel y diwrnod byraf o Ragfyr, ydyw .068 teula, a chenedl o ran hyny. 44 Ebrwydd y ,derfydd." Ao ni ddylem warafun i'n gelynion yn y Transvaal eu gwladgarwch. Yno y gan wyd y nifer fwyaf sydd yn ymladd yn erbyn Prydain y dyddiau hyn ac y maent mor onest yn eu gwladgarwch ag oeddym ninau yn ym- iadd yn erbyn y Saeson saith can mlynedd yn --01. Dwyn eu gwlad a ddarfunt hwy oddiar y ,cynfrodorion," ebe rhywnn felly ninan yu gymhwys a bydd Kruger a Joubert yn dea tynau mawl beirdd eu cenedl yn mhen canoedd .0 genedlaethau yn union fel mae Llywelyn Fawr a Glyndwr i'r elddom nlnan. Bwgan newydd i Adar. "NEU Adar-Fwgan Newydd, nea Bwgan Adar Newydd digon anhawdd ydyw geirio penawd ifel byn. Trwsgl ydyw'r cyntaf; mursenol .braidd ydyw'r ail a mae'r trydydd, er yn fwy Oymreig a bea ffashiwn, yn agored i'r un cam- gymeriad a Cbafn Mochyn Careg, sef gwneud yr adar yn lle'r bwgan yn newydd, fel y gwna'r Hall y mochyn yn gareg yn lie y cafn. Modd bynag, cymered y darllenydd el ddewis ,o'r penawdian. Eisiau dweyd sydd arnaf fod y ^Gardener am yr wythnos ddiweddaf yn cynwys newydd da i arddwyr a drwg i gathod. Pan ,ddaw ffrwythau yr ardd-y mafon, y mefus, y mwyar, yr eirin, y pys, &c.-yn addfed, y mae 45or y coed yn chwanog i helpn en hunain o'r danteithion, gan dybied hwyrach mai eu heiddo hwy ydynt fel tal am ganu trwy y gwanwyn. A -chaledwaith y garddwr yw eu darbwyllo o'u camsyniad, trwy ddyfeiaio bwganod i'w dych- ryno, i farwolaetb os gall, gan na wiw iddo yn ol y gyfraith eu saethu. Anfynych y mae'r bwganod hyn yn llwyddiant; fe gynefina'r adar yn fuan &'r erchyllaf o fwganod, a dywedir fod Robin Goch wedi gwneud ei nyth yn ddiweddar yn mhoced gwr gwellt o fwgan." Ond at fwgan newydd y Gardener. Stwffio .cath, rhoi llygald gwydr yn ei phen, ei hongian wrth Hnyn &'i baglau ar led rhwng dau bolyn, ac ni ddaw yr un aderyn am fisoedd i'r fangre lie byddo. Fe welir fod yr oruchwyliaeth yn galw am gryn drafferth a medr, megya dal, lladd, blingo, stwffio, a llinynu cath yn effei thiol; a mwy na'r cwbl i'r garddwr cydwybodol, tori un o orchymynion pendant y Ddeddf Foesol, canys anhawdd meddwl yr aberthai ei bwsi ei hun i'r cpwrpas. Golygwyr Newyddiadurol. DYWEDAI Egerton Smith, sylfaenydd a golyg- "ydd cyntaf y Merfury, unwaith, pan geryddwyd ef gan Dr Raffloa am gamddyfynu yr Ysgrythyr yn ei bapyr, nad oedd ef yn gwybod fawr lawn ,am yr Yagrythyr yn llythyrenol, ao nas gallai adrodd yr un adnod yn gywir. Yr oedd yn lied Sydnabyddus k Shakespeare, Milton, Dryden, a'r beirdd Seianig, ond scolar bach ydoedd yn y Beibl. Yn 6d iawn, y mae lluaws o olygwyr papyrau yr oes hon yn dal o hyd yn ddigon twbyg i Mr Egerton Smith. Ychydig amser yn ol, mewn newyddiadur mor barchus a phoblogaidd a'r Sun (Llundain), svrthiodd y Gol. i'r amryfusedd o ddweyd mai Nebuchodoaosor a welodd y llun llaw ar galchiad y pared," ac nid ei fab neu ei wyr Bel shasar. A'r wythnos ddiweddaf dyma yr un papyr yn dweyd mai Nicodemus, ac nid Zich. eus, a ddringodd i ben y pren Yr oedd hyn yn waeth na'n hen gyfaill dy- ddan y diweddar Bardd Aled yn ei araith ar Enwogion Llansannan ya dweyd fod Beibl rhyw hen wraig, ar ol ei guddio mewn pobty, wedi dod allan heb ddeifio yr un blewyn ar ei ben fel y daeth Daniel allan o'r ffwrn d&n. Mewn ebwch o hyawdledd y llefarai y Bardd Aled, ac yr oedd yn hawdd maddeu iddo. Ond tra gwahanol ydyw gwaith golygydd, yn ham- ddenol ac mewn gwaed oer, yn cymysgu Bel. shasar hefo Nebuchodonoaor a Nicodemus, yr hwn oedd yn benaeth gyda'r Iuddewon, ac felly mae'n debyg yn ddyn trwm, gyda Zacheus, dyn bychan, ysgafndroed, abl i ddringo i bea syc- amorwydden fel gwiwer. Of own nad yw Gol. y Sun ond un o lawer a gobelthio y gwyddant fwy am yr hyn yr ysgrifenent yn ei gylch yn ystod y misoedd diweddar nag a wyddent am yr Ysgrythyr.