Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Dall To (Hen a JVewydd). ,j

News
Cite
Share

Dall To (Hen a JVewydd). j Y ffoi-dd gyntaf i'r Hosi),it(st.-Gofynodd dyn mewn torf yn Llundain i blismon am y ffordd gyntaf i Ysbytty Charing Cross. Gwaeddwch," ebe'r heddgeidwad, am dair banllef i Kruger, ac mi fyddwch yno yn union." Yr oedd canwyllwr gynt, cjfaill i Cynddelw, yn byw yn Nimbych, aca elwid braidd yn gableddus yn 1, oleuni'r byd." Galwodd y cellweirddyn i edrych am dano ac wrth arogli'r drewdod a godai oddi- wrth ei alwedigaeth, dywedai, Fe allai'ch bod chi, Mr Hwn a hwn, yn oleuni'r byd,' ond tydech chi ddim yn halen y ddaear. Yr oedd meinar yn y Bwlchgwyn, ger Gwrecsam, a chanddo lon'd ty o blant. Pan ddaeth i lawr i'r gegin un bore ar ei ffordd i'w waith, gwelai un lwmp bychan ohonynt yn cysgu'n ddyogel lo tan y bwrdd, ac wedi bod yno trwy y nos. Aeth i waelod y grisiau, a gwaeddodd ar y wraig, "Mari, mae Cyd- alad yn cysgu tan y bwrdd yma. Mi ddylet neud rhw fras gyfri ohonyn nhw'r nos, rhag i beth fel hyn ddigwydd eto." Plismon Gwyddelig wedi dal hogyn yn rhedeg i ffwrdd ar ol tori ffenestr, ac yn ei gymeryd gerfydd ei whr i weled y niwed a wnaeth. Bigorra," meddai, rwyt ti wedi gneud mwy o ddrwg nag oeddwn i'n feddwl. Rwyt ti wedi tori'r ddwy ochr i'r gwydr. Hen gymeriad dyddan a ffraeth oedd John Jones, Edeyrn. Yr oedd ganddo gae pur ddiffrwyth a ddaliai tan Lord Newborough yr oes hono, a elwid Weirglodd Llygoden. Aeth yr hen bregethwr MethoJist un tro i dalu rhent y weirglodd ddiffaeth, a dywedai wrth wr ieuanc coeglyd yn y swyddfa mai dyfod yr oedd i dalu rhent y Weirglodd. Pwy weirglodd ?" Weirglodd Llygoden," oedd yr ateb cwta. Llygoden fach ne llygoden fawr?" ebe'r clarc direidus. Wn i ddim yn iawn," ebe John Jones, mae'i blewyn hi'n ddigon byr, beth J bynag. Yr oedd yr hen bregethwr un tro yn croesi'r afon Menai mewn cwch ar ddydd lied ystormus, ac yn amlygu cymaint o ofn fel y gofynodd y cychwr, yr hwn a'i hadwaenai'n dda, "Oes gynoch chi of a croesi, Mr Jones?" Nac oes," meddai John Jones, ofn methu croesi sy arna i." Wel, yn mh'le mae'ch ffydd chi ?" gofynai'r cychwr yn rhith ddifrifol. Nid yn dy hen gwch candryll di, beth bynag, mae o," oedd yr ateb. Yn ei galon, debyg, y dylai crefydd dyn fod ond yn y lie mwyaf cyfleus iddo, lie bynag y bo hwnw, y ceir hi fynychaf. Ac felly gyda Robin Michael, palph eger o was ffarm fyddai'n gweini tua Har- lech flynyddau'n ol. Un rhemp am fedawi ydoedd Robin ond yn lied sydyn edifarhaodd, gan ufyn'd i'r seiat," chwedl Methodistia. Daliodd ei ddiofryd yn lew am rai misoedd ond ddiwrnod ffair Gal- anmai, ymchwelodd i'w chwydfa mor slebog ag er- ioed. Yn ei weled yn cythru allan o'r dafarn gan ymbarotoi i lainio un o'i gyd-lymeitwyr, gofyn- odd un o aelodau'r capel iddo, Ym'hle mae dy grefydd di rwan, Robin ?" Yn nghil y mvrn i," atebai, gan ranu ei brofiad rhwng y ddau. Heb fod yn mhell o'r un dref, a thua'r un adeg, y trigai William Wmphra, Glanywern, oedd yn ngwasanaeth Capten Pwyma, capten oedd wedi hel cyfoeth wrth hwylio ar led yn ei lougau ei hun," wedi prynu ffermydd a chodi Plas hardd Caerffwm- blar ac fel pob hen longwr a drydd i ffarmio, yn gorchymyn y cwbl fel pe ar y mor. Byddai bob amser wrth sodlau ei weithwyr; ac wrth drin gwair un diwrnod dyma hi yn gawod sydyn, a'r "captan bach yn bloeddio am i bawb droi ati i fydylu. "Neno'rneno,"mwmiai yr hen Wiliam Rhobet wrth Wil Wmphra, be di'r chwilen sydd yn mhen y cradur yn gneud i ni fydylu a hitha'n tresio bwrw ?" Taw a. rhincian," ebe Wil, yn ddigon uchel i'r Capten glywed, ynd fel ma bydda nhw yn cweirio gwair yn y mor." Capten Pwyma hefyd, yn ol Wil Wmphra, or- chymynodd wneud wince a'i chludo o Borthmadog er mvvyn i Wil a dau was arall hifio buwch hefo hi i bori'r tipyn gwelltyn a dyfai yma ac acw ar ben to'r gadlas yn lie myned i'r drafferth a'r gost o adael i'r gwas bicio yno a'i dori hefo'i gryman. Ffarmwrs doniol ydyw hen gapteniaid a rhyw Wil Wmphra neu gilydd yn siwr o fod yn mysg eu gweision. Fe fyddai'r ardal rhwng Harlech a Thal- sarnau yn dryfwl o'r ddau ddosbarth er's talm.

-.—.. 0 Ddyffryn Nantlle

Coheblaethau.

Coiofn Dirvpest

IEin Canedl yn Manceinion.

-0-ADDYSG.

LLYTHURAU