Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

Cyfarfod Can'mlwyddiant Wesleyaeth…

News
Cite
Share

Cyfarfod Can'mlwyddiant Wesleyaeth 1 Cymreig. TRA y mae Wesleyaid Cymru yn hwylio i gynal y dathliad mawr yn Ratbin, barnwyd mat priodol fuaaai i Wesleyaid Cymreig y ddinas hon wnend rhywbeth eu hunain yn ngtya &'r Can'mlwyddiant. NOB Lua diweddaf, yn addoldy Shaw Street, cynaliwyd cyfarfod i'r pwrpas hwnw, pryd y daeth cynuileidfa fawr at eu gilydi o wahanol gapalau y ddwy gylchdaith, a nifer dda o blant o'r Ysgollon Sabbothol. Cymerwyd y gadair gan Mr. Peter Davies, Smithdown Road, a chafwyd ginddo anerchiad dyddorol, yn yr hon y cynaarai sefyilfa bres- enolyr enwad ya y ddinas gyda'r byn ydoedd pan ddaeth ef i Lerpwl gyntaf. Un ffaith a ddangosai ea cynydd oedd fod gwerth eu capel- au er yr adeg hono wedi cynyddu dros wyth mil ar bngain o bunau. Gwerth yr eiddo cyf undebol yr adeg hono oedd 26, 000 erbyn byn, yr oedd capalau y ddwy gylohdaith yn werth £ 34,350, ac nid oedd ond ychydig o ddyled yn arcs arnynt. Nid oedd efe yn Wesleyad o waed ond o ewyllys, a theimlai yn falch o fod yn parthyn iddynt. Fel Wesleyaid Cymreig yr oedd ganddynt hanes gwerth ymffrostio ynddo. Galwai yn gyntaf ar Mr J. Jones, London Grove, i siarad ar "Bin Lleygwyr a'u Gwaith." Dywedodd Mr. Jones mai ar Dy y Cyffredin ac nid Ty yr Arglwyddi yr oedd ef i siarad. Y blaenoriaid a'r swyddogion lleygol yn mhlith y Wesleyaidd oedd yn dyogolu sefydlogrwydd yn yr eglwysi a'u gwaith. Gan fod y gweinidogion yn syraad bob tair blynedd, yr oedd galwad arbenig am i'w blaenoriaid fod ya ffyddlon. Nid oedd unrhyw eglwys yn dibynu mwy ar ei blaenoriaid na hwy. Er nad yn amlwg iawn yn hanes y ganrif, gwnaethant wasanaeth an- mhriaiadwy i'r achos. Elfen o wendid yn eu heglwysi oedd fod y gwaith yn cael ei gyflawni gan yr ychydig tra y boddlonai y lluaws ar dderbyn yn unig. Galwai ar bob aelod i ym aflyd mewn gwaith. Swydd nen beidio yr oedd pob lleygwr i fod yu weithlwr Cristionogol. Y Parch R Lloyd Jones a alwyd ya nesaf i siarad ar "Ein Pwlpud." Teimlai Mr. Lloyd Jones nad oedd bosibl dathlu y can'mlwyddiant yn brlodo), heb alw sylw at y pwlpud, oblegyd bwn dan Diuw a roes f6d i'r enwad, a gwaith effeithiol y :pwJpnd a ddyogela ei barhad a'i Iwyddiant yn y dyfodol. Yr oedd pob enwad Cymreig wedi magu cewri pregethwrol o dro i dro, a da oedd ganddo feddwl na bu yr enwad Wesleyaidd ar ol. Rhoddwyd iddynt y fath bregethwvr a Thomas Aubrey, Rowland Hughes, William Davies, John Hugh Evans, a John Evans (Eglwysbctch), a phwv allai feddwl am y cewri byn heb deimlo fod gogoniant yn perthyn i'w pwlpnd. Neillduolion y weinidog- aeth y Wesleyaidd, yn ei farn ef, oedd amryw. iaeth, b-wdfrydodd, ei nodwedd brofiadol, ei chymesuredd, a'i tbuedd ymarferol. Cafwyd sylwadau da ar bob un o'r pwyntiau hyn. Yna ymddlriedwyd i'r Parch W. O. Evans, y gorchwyl dyddorol o holl y plant yn hanes cychwynlad yr enwad yn Nghymru. Atebasant ei holiadau gyda pharodrwydd a chywirdeb rhalyorol er boddhad amlwg y gynulleidfa. Wedii Mr Job Jones, Bootle, siarad ar Gyfaddasder Wealeyaeth i feithrin crefydd ysbrydol," gan roddi sylw arbenig i'w hathraw- iaefchau a'i rhestrau crefyddol, cafwyd anerch- iad gan y Parch J P Roberts ar "Ein Rhag. olygon." Nid oedd efe am brophwydo ond yn unig ar sail ffaithiau a gogwyddiadaa presenol. Yn ngoleu y rhai byn, dywedai y byddai Wea- leyaeth Gymreig y ganrif nesaf yn fwy Cymro- aidd ei hantan nag y bu erioed. Efallai fod eu cysylltiad a'r Gynadleid Gyfundebol wedi rhoi arliw rby Seisnigaidd ar ddall ac ysbryd rhai o'u tadau, ond yr oedd pobpeth yn dangos fod vr ysbryd Cymreig yn gafael yn ddwfn ynddynt yn awr. Yr oedd y deffroad cenedlaethol i w wel'd yn amlwg yn eu mysg. Cynyrch y deff road hwn oedd y Gymanfa Wesleyaidd, yr hon a unai Wesleyaid Cymru yn un corph. Credai hefyd foi rhagolygon disglaer i'r pwlpud. Casglai hyny oddiwrth gymeriad a gallu y pregethwyr ieuainc a godent yn eu mysg Ni fu erioed well dosbarth o bregethwyr nag oedd ganddynt yn awr, a llawenych- ai wrth weled ymgeiswyr mor obeithiol am y weini- dogaeth ag a gafwyd yr wythnos ddiweddaf yn y Cyfarfod Talaethol yn Ninbych. Edrychai yn mlaen Cyfarfod Talaethol yn Ninbych. Edrychai yn mlaen I at eu gweled yn cyflawni mwy 0 waith cenadol. Pwac y Parch D. O. Jones oedd Einhangenion I presenol yn Lerpwl." Dywedodd mai eu prif waith hwy oedd darparu ar gyfer y bobl a ddeuent o Gym- ru. Yr oedd yn bwysig felly iddynt gadw y nod- weddion Cymreig yn eu haddeliad. Yr oedd angen perffeithio ymoddion presenol,ac hefyd am eangiad y gwaith yn gyffredinol. Gallesid gwneud llawer i berffeitbio y moddion presenol. Gofidiai nad oedd y set fawr i'w chael yn eu prif gapelau. Yr oedd hyn yn golled ac yn anfantais i'r pregethwr ac i'r bobl. Dylai y blaenoriaid fod o gwmpas y pwlpud, ac nid wedi eu gwasgaru yma a thraw yn y gynull- eidfa. Nid oedd yn deg a'r pregethwr i'w adael mewn unigrwydd oer. Heblaw hyny, yr oedd efe am i'r dyeithriaid gael adnabod eu blaenoriaid fel yn Nghymru, ond yn awr nid oedd yn hawdd iddynt wybod pwy oeddynt. Teimlai yn gryf ar y mater hwn, a hyderai yr adferid y set fawr yn fuan i'w lie. Ofnai iddynt roddi argraph ar feddwl dyeithriaid fod crefyddwyr y ddinas yn grefyddwyr oer Yn wir, clywsai gwynion i'r cyfeiriad yna. Nid oeddynt yn oer hyd yr oedd efe yn eu hadnabod, ond byddai yn dda ganddo pe buasent yn rhoddi mynegiant i'w gwresogrwydd Yr oedd rhai o'r siarad wyr blaen- orol wedi awgrymu fod y lleygwyr yn rhagori ar y gweinidogion 'mewn gofalu am amgylchiadau yr achos. Efallai eu bod, ond gadawent iddo ef ddweyd fod gan y blaenoriaid le i wella. A oeddynt yn fyw i'w dyledswydd i edrych ar ol y dyeithriaid ac i roddi croesaw cynes iddynt ? Yr oeddynt fel pe yn ofni rhoddi cyhoeddusrwydd i'w hachos. Ei ddadl ef gyda hwynt o hyd oedd y dylent ddefnyddio' moddion mwy business-like gyda'r achos. Yr oedd ganddynt ofn defcyddio gormod o inc yr argraph- ydd. Nis gellid disgwyl cael sylw yn y dyddiau hyn heb advertisio. Yr oedd Cymry y ddinas yn dar- llen y Cymro, ac yn eu plith lawer o Wesleyaid. Bydded iddynt felly wneud defnydd ohono i hys- bysu eu cyfarfodydd, yn gystal ag o hysbysleni amlwg, nid yn mhorth y capel, ond ar y parwydydd a'r byrddau o'r tuallan. Efallai y dywedid mai pethau bychain oedd y pethau hyn, ond yr oeddynt yn bethau a berffeithient eu moddion o gyrhaedd Cymry Wesleyaidd y ddinas. At y cwbl, yr oedd gal wad arnynt i eangu y gwaith. Nid digon iddynt ddal yr hyn oedd ganddynt. Yr oedd Duw yn galw arnynt ar ddiwedd canrif gyntaf eu hanes i gerdded rhagddynt, oblegyd yr oedd tir lawer eto i'w fedd- ianu. Er fod yr,adeg wedi rhedeg yn mhell, cafodd Mr Jones wrandawiad astud i'w anerchiad gonest a br-ydfrydig, a theimlad pawb ar y terfyn oedd fod y cyfarfod wedi profi yn llesol a llwyddianus. Ym- wahanwyd yn ysbryd yr emyn canmlwyddol a gan- wyd ar y terfyn, un penill o'r hwn sydd fel y canlyn:— Am waith ei ras yn Nghymru Fu, Dyrchafwn fawl i Dduw Yn Nghymru Fydd cawn Ef o'n tu I gadw'n gwlad yn fyw.

--()-Cynghor Eglwysi Rhyddlon…

0-Newyddion Cymreig.

Cyrddau y Dyfodol. &o.

-0. Cystadleuaeth y "Cymro."

Lleol -

--0--Barddoniaeth.

Marchttadoedd.

Advertising

Family Notices

Advertising