Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

AT YR HEN FFARMWR.

LLYTHUR XVI.

Dyffryn Clwyd.

Cymanfa Ysgolion Methodistiaid…

0 Ddyffryn Nantlle.

Advertising

[No title]

PWLPUOAU CYMREIG, Mai 27.

ITrefn Cymanfar Sulgwyn.

-f Notfion o Faster.

News
Cite
Share

Notfion o Faster. No* Sadwrn. Gan faint y dadwrdd, anhawdd ydyw ysgrifenn pwt heno. Gan i'r newydd am ryddhad Mafeking gar- lamu fel tan gwyllt trwy y wlad neithiwr, rhaid oidd i bob ynfyd ddangos ei ynfydrwydd, ac mi synech gynifer o ynfydion sydd hyd yn nod yn Maelor yma. Diolch er hyny mai yma yr ydwyf, ac nid yn Lerpwl yna na Llundain. Mae'n ddigon drwg yma, ond wn i ddim sut y medrwn i ei goddef hi mewn lie fel yna. Modd byuag, rhaid ceisio annghono'r gwallgof- rwydd am enyd fer, a thaflu golwg ar hyd yr wyth- nos. Y Sabboth a'r Llun diweddaf cynaliodd Bed- yddwyr y Rhos eu cyfarfodydd pregethu blynyddol. Y cenadon oeddynt y Parchn W Morris, Treorci, a P. Williams (Pair Hir), Bootle. Cawsant gynull- iadau da ac odfeuon grymus. Nos Lun cynaliwyd prawf-gyngherdd yn Ngwer- syllt, tan lywyddiaeth Mr J H Francis, Gwrecsam. R. Bryan oedd yn clorianu a Mrs Francis yn cyf- eilio. Cynygid gini o wobr am y gan oreu i feib- ion, a giui am y gan oreu i ferch, a bathodvn aur i ddatgeiniad goreu y cyfarfod. Trodd nifer o gan- torion rhagorol i fynu, a chafwyd cryn amrywiaeth u I yn y caneuon ac yn y datganiadau. Drfarnwyd y ddwy wobr i Miss Florence Williams, yr hon a ganodd With verdure clad;' a Zachariah Dodd am ganu Arm, arm, ye brave,' a derbyniodd y ddau ganmoliaeth uchel. Dyfarnwyd y bathodyn aur i Miss Williams yn nghanol cymeradwyaeth uchel. Yn ystod y cyfarfod, gwasanaethodd Miss Hew- itt, Wyddgrug, fel datgeiniad, a rhoddodd foddlon- rwyid a mwynhad. Buy beirniad dipyn yn llaw- drwm ar rai o r cantorion, ond dim mymryn rhy lawdrwm. Be dda ydyw beirniad 03 na ddywed ef y gwir plaen ? Fel y crybwyllasoch yn y Cymro diweddaf, bu yn helynt blin yn ngwaith yr Hafod ddydd Mawrth, a fu ond y dim na fuasai 30 o lowyr dewr wedi eu hyrddio tros y dibyn i'r gwagle mawr. Newydd ddyfod a'r nifer hyny i fynu o'r pwll yr oedd y cawell, a chyda bod yr olaf ohonynt yn camu allan dyma'r gadwen yn tori, ac i lawr a'r cawell i ddyfn- der o chwe chan llath, nes oedd yn yilion-nid oedd astell gyfan yn aros. A chan fod yn agos i 400 o lowyr i lawr ar y pryd, chwi allwch ddirnad y braw a gynyrchwyd trwy'r ardal, ac nid oedd dichon eu cyrhaedd. Llwyddwyd i gael nifer fechan i fynu am 11 o'r gloch, ond aeth yn mhell wedi haner nos cyn cael yr oil i fynu. Yr oedd tyrfa bryderns ar y lan yn disgwyl er's oriau lawer. Gwragedd a phlant yn wylo, â. bwyd a diod yn eu dwylaw yn barod i'r newynog a'r sychedig oedd i lawr. Yr oedd y niweidiau i'r gwaith y fath fel na all- odd yr un glowr fyned i lawr ar hyd yr wythnos. Mae Mri Jenkins a Jones, Johnstown, wrthi yn brysur yn gwneud cawell newydd, ond ofnir y bydd yn ddiwedd yr wythnos nesaf cyn y gellir ail gychwyn. Diolch fod pethuu we>.i troi allan crs- tal. 3 Nos Fercher, cynaliwyd cyngherdd campus yn y Rhos gan Miss Gertrude Hughes, Miss Juanita Jones, Mri Tom Thomas a John Saudbrook, a chor bach E W Bellis. Yr oedd yno gynulliad gweddol a chanu da. Mr T Sauvage oedd rn y gadair, a Master Emlyn Davies yn cyfeiiio. Elai yr elw i gynorthwyo John Jones, Brook Street. Dymunaf longyfarch Mr Arthur Davies, Cefn- mawr, ar ei lwyddiant ardderchog yn Machynlleth cos Fercher. Prawf-gyngherdd oedd yno, ac an- turiodd 14 o gantorion goreu y Gogledd i'r frwydr. Yr oedd y gystadleuaeth yn agored am unrhyw g&n i unrhyw lais, a Mr John Williams, organydd, Caernarfon, oedd y beirniad. Wedi cystadleuaeth ardderchog, dyfarnwyd y gwpan ariaa, gwerth 3p. 5s., a lp. mewn arian i'n cyfaill Arthur. Ys gwn i pryd y mae Arthur am roi heibio cystadlu ? Waeth heb dreio os bydd ef mewn hwyl. Llawen gweled arwyddion cynyddol o gyfeillgar- weh rhwng Eglwyswyr ac Ymneillduwyr y. Rhos, a gresyn na welld hyny yn mhob ardal. Yr wythnos hon cyflwynodd ein parchus ncer anrheg o Lyfr Emynau hardd i gapel yr Annibynwyr at wasanaeth cyhoeddus, fel arwydd o'i ddiolchgarwch am iddynt ei wahodd i lywyddu yn y Gymanfa Ganu. Dyffbtnwb -0- Mr W. B. Rowdon a ddewiswyd, allan o 22 o ymgeiswyr, yn arolygydd a pheirianydd Cynghor Dosbarth Gwledig y Wyddgrug. Dydd Gwener, cynaliwyd cyfarfod blynyddol Bwrdd Dwfr Unedig Cowlyd, yn Nghonwy. De- wiswyd Mr Hugh Hughes, Conwy, yn gadeirydd, a Mr J W Raynes, Llysfaen, yn is-gadeirydd. Rhodd- odd y Bwrdd ei sel ar mortgage i Fwrdd Benthyc- iol Gweithiau Cyhoeddus am 15,699p, i'w talu yn mhen 27 mlynedd. Bwriedir codi eglwys yn Pensarn, Cyffordd Llan- dudno, ac y mae'r tir wedi ei sicrbau yn ymyl yr Ysgol Genedlaethol, lie y cynelir gwasanaeth yn bresenol.

Advertising