Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

AT YR HEN FFARMWR.

News
Cite
Share

AT YR HEN FFARMWR. AI tybed, fy nghyfaill, eich bod wrth ymboeni yn- ghylch y Lleuad a'i thrigolion, wedi annghofio hau gwenith hyd yn hyn ? Os felly, nid yw fawr iawn o les i chwi newid hadyd, &c.; hyny yw, pe caech yr hadyd mwyaf priodol, y mae'n berygl fod hadau drwg, megys gwyllt-geirch, ller, ac efrau, a'r cyffelyb, yn eich tir oblegyd y mae yn dygwydd yn fynych, pan dry ffermwr ei sylw at ryw beth yn lie ei fferm, ie, pethau is a nes ato na'r lleuad, y bydd ei dir yn llawn o'r pethau a nodwyd yntau ar ol yn hau ac yn medi, yn cael tywydd mwyaf anffafriol at ei holl orchwylion ffrwyth ei wrtaith yn dianc, weithiau gyda'r dwfr, bryd arall gyda'r gwynt a'r haul, a hyny yn benaf am ei fod ar ol yn ei oruchwylion yn hau gwenith ganol y gauaf mewn dwfr a baw, a haidd ganol yr haf mewn gwres tanbaid. Yna cymer yr hadau drwg syddyn Llawn yn ei dir y fantais ar y peth a hauwyd, ac a dyfant yn gnwd toreithiog, gan yspeilio'r tir o bob gronyn o wrtaith a fyddo ynddo. Daw yn gynhauaf rywbryd ar ol i'r tywydd goreu basio, y dydd yn fyr, a'r nos yn hir: y llysiau drwg yn nacau gwywo, a'r ychydig fydd ynddo yn egino. Wedi hyny, pan geir diwrnod sych, ymroir ati i'w gynull a'i gario, yn y canlyniad bydd hwnw yn llwydo, ac felly yn borthiant gwael i'r gwartheg, y rhai a ant yn hesbion o'r herwydd yntau a'i blant yn gorfod bwyta potes gwan a gwael gyda bara drwg, gan flas twymniad neu lwydni a'r cyfan, a llawer ychwaneg, yn tarddu oddiar ei ddiwedd- arwch. Ond, fy nghyfaill, hyderaf nad ydyw fel yna etc gyda chwi, eithr eich bod yn hytrach yn flaenllaw, yn ymwrando ac ymholi am yr hadyd mwyaf cym- hwys erbyn y gwanwyn. Cewch y cyfarwyddyd goreu a allaf roddi i chwi erbyn hyny. —Efallai y dadleuwch mai yn y nos y byddwch yn sylwi ar y lleuad, wedi y rhoddoch heibio oruchwylion am aeth- yddol dywedaf finau mai gwell na hyny fyddai i chwi adael iddi, ac ymroi i ddysgu eich meibion a'ch gweision, i lunio offerynau buddiol, i ddysgu mesur tir, i ddarllen gweithydd ar amaethyddiaeth, &c. Gwnaech lawer mwy o les felly, nag wrth astudio ar y lleuad a'i thrigolion, a'ch plant a'ch gweision yn hel eu hunain i'r felin, i'r efail, neu i'r dafarn i hel chwedlau i lygru eu gilydd. Paham y rhaid i ni, fel amaethwyr, fod yn ol i bobl eraill am ein celf- yddyd, a gwybodaeth angenrheidiol am bob peth arall ? Gan fod eich tir yn gleiog, da fyddai i chwi ei fraenaru mor fuan ag y caffoch ef yn sych, gan ei dori i'r dyfnder y bwriadwch ei dori o gwbl eleni, am mai y peth isaf sydd a mwyaf angen rhew arno a chofiwch garthu y rhychau, fel na safo dim dwfr arno, yn enwedig os ydyw heb ei ddraenio ie, os ydyw felly, myfi a'ch cynghorwn yn benaf dim i ymorol am lease ar eich t'yddyn, a'i ddrenio. Deuai trwy hyny yn haws i'w drin, yn fwy cnydfawr, yn iachach i chwi a'ch teulu, ac estynai o bythefnos i fis ar y tymhor haf hyny yw, gallech droi eich anifeiliaid allan yn gynt, a'u gadael yn hwy mewn lie sych na mewn lie gwlyb. A bydd yn llawer gwell i ateb mewn camdywydd, o wlybaniaeth neu o sychder, yn yr haf. Canys os cewch eich tir yn sych yn y gauaf, gweithia yn fanach yn y gwanwyn; felly gwrthsaif sychder yn well. Ond y mae yn bryd terfynu, yn enwedig gan na ddeuthym i'r maes y'm gwahoddwyd iddo. Yr eiddoch, Rhagfyr 13, 1848. THOMAS ROBERTS.

LLYTHUR XVI.

Dyffryn Clwyd.

Cymanfa Ysgolion Methodistiaid…

0 Ddyffryn Nantlle.

Advertising

[No title]

PWLPUOAU CYMREIG, Mai 27.

ITrefn Cymanfar Sulgwyn.

-f Notfion o Faster.

Advertising