Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Y RHYFE L.

News
Cite
Share

Y RHYFE L. Croesi yr afon 7and. Dydd Ian hysbyswyd fod Arglwydd Roberts a', fyddin wedi croesi yr afon Zand nos Fercher, ar ol brwydr galed. Yr oedd safle y Boeriaid yn ugain milldir o hyd, a dywedai Arglwydd Roberta ei bod yn hynod gadarn. Unwaith y Ilwyddodd ein milwyr i groesi yr afon, bygyth- iwyd dwy aden y gelyn, ac ni roddai y tir fawr o fantais lddynt. Felly nid oedd ganddynt ddim i'w wneud ond encilio,yr hyn a wnaethant gyda'r brys mwyaf, ac anfonwyd y Gwyr Meirch i'w hymlid ar hyd tair o wahanol ffyrdd. Dranoeth derbyniwyd pellebrau yn hysbyaa iddynt gael diwrnod llwyddianoa ddydd lau, ac wedi gyru y gelyn o amryw safleoedd. Croes- odd minteioedd French, Porter, a Dickaon, yr afon hefyd ddydd lau, ac ymdeithiasant yn mlaen i gyfeimd g >gledd-ddwyreiniol i Maat Schappy, er gwaethaf gwrthwynebiadau y gelyn. Croes,dd adrin Pole-Carew a Meirch- filwyr Gordon yr afon yn ymyl pont y rheilffordd. Cwymp Kroonstad. Nos Sadwrn cyhoe ldodd Swyddfa Rhyfel y pellebyr canlyn01 oddiwrth Arglwydd Rob- erts :— Kroonstad, Sadwrn 2 p.m. Aethum i mewn i Kroonstad heb un gwrth- wynebiad am haner awr werH an o'r gloch heddyw, pryd y chwifiwyd y Faner Brydeinig yn oghaaol baollefau yr ychydig breswylwyr Prydeinig. "Ffodd Mr Steyn neithiwr ar ol ceisio yn aflwyddianus berswadio y burghers i barhau i'n gwrthwynebu. "Dywedai y Traosvaaliaid na ymladdent hwy ddim ychwaneg yn y Dalaeth Rydd, a gwnaethant hi am yr afon Vaal. Cyhuddai gwyr y Dalaetb Rydd, y Trans- vaaliaid o wneud defiiydd ohonynt hwy, ac yna cefnn arnynt. Y mae llawer o wyr y Dalaeth Rydd wedi myned i'w cartrefleoedd. 11 Cyrbaeddodd yr orymdaith y dref yn cael ei blaeoori gan fy nghorphlu i, yr oil yn Dref edigaethwyr. Ar ol y stgtff a'r swyddogion tram or, deuai Cwmni y North Somerset o'r Yeomanry Ymherodrol, yn cael eu dilyn gan adran Pole-Carew, yn cynwys y Guards, a'r 18fed Brigad, y Brigad Llyngesol, Cyflegrfeydd y 83rd, 84tb, a'r 85th, gynau pum modfedd gyda, magaelwyr brenhinol, a'r 12fed Cwmni o'r Peirianwyr Brenhinol. H Y mae'r gweddiil yu pabellu o amgylch y dref. Cyn gadael Kroonstad cyhoeddodd Mr Steyn, broclamasiwn yn cyhoeddi Lindley yn sedd Llywodraeth y Dalaeth Rydd. Canlynodd Botha, y prif Gadlywydd, a re Wet, mílwyr y Transvaal." 1. Saif tref Kroonstad bron ar y terfyn rbwng y Dalaeth Rydd a'r Transvaal, i'r hwn le y ffodd Mr Steyn o Bloemfontein, ac a gyhoeddodd yn eisteddle y Llywodraeth. Y mae hithan erbyn hyn wedi syrthio i ddwylaw Arglwydd R jberts, a Mr Steyn wedi gorfod ffai eto am abided i Lindley. Dyweiir y bwriadai y Boeriaid wrtbsefyll eia byddin yma, ond gyrwyd hwy yn eu holau mor gyflym ar hyd y flordd o Brandfort, ac ymdeitbiodd Arglwydd Roberts mor gyflym tua Kroonstad fel yr oedd ya eu hymyl bron yn ddiarwybod iddynt, ac ni chawsant amser i wneud eu darpariadau tiiai at amddiffyn y dref. Y mae maddianu y dref felly heb un frwydr na tbanio yr un ergyd, i'w briodoli i ymdaith ragorol y milwyr Prydeiaig. Buller yn symud. Yn ystod y dyddia 1 diweddaf cyrbaeddodd amryw bellebrau calonogol o Natal, yn dangos na fa y Cadfridog B lller yn segur er nad oedd fawr o newyddion yn cyrhaedd oddiyno. Dydd lau diweddaf cychwynodd allan o Ladysmith gyda'r ail adran dan Syr Francis Clery, a dydd Sadwrn cyrhaeddagant Waschbank, lie oddeutu 25 milldir i'r gogledd o Ladysmith, a'r un diwrnod symudodd mintai arall i'r dwyrain o Elandslaagte, gan gyrhaedd o fewn dwy filldir i Helpmakaar, lie oddeutu deugain milldir i'r dwyrain o Ladysmith. Yn y lie olaf nos 1111 cymerodd brwydr ffyrnig Ie rhwng ein milwyr a'r gelyn. Y Boeriaid ddecbreuodd yr ymos~>diad trwy wlawio cawod- ydd trymion o dan-beleni ar ein milwyr, ac atebodd y gynau Prydeinig. Tra yr ^edd y Boeriaid yn brysur yn y ffrynt, gweithlodd y marchogion a nifer o wyr traed o gwmpas i geisio ymosod ar eu hadenydd. Pjirhaodd y brwydro trwy ddydd Gwener, ond cafwyd diwrnod dipyn yn dawel ddydd Sadwrn. Y Sabbotb, ail-gychwynodd y Prydeiniaid gan wtbio yn mlaeBtua Helpmakaar. Symudodd y Cadfridog Bathune o Pomeroy, gan orfodi y Boeriaid i encilio o'r bryniau yn ymyl y dref, ac ymunodd ei fyddin ef a byddin Buller. Canlyniad y symudiadau diweddaf hyn ydyw fod y Boeriaid wedi eu llwyr orchfygu yn amgylchoedd Ladysmith, a'r holl safleoedd a ddalient er rhyddbad Ladysmith, yn nwylaw y Prydeiniaid. Wedi meddianu Relpmakaar, cychwynodd Syr Radvers Buller tua'r gogledd, gan fwriada ymosod ar Biggareheig, a pban y cyme? feddiant o'r lie hwnw a Dundee, bydd y B leriaid wedi eu clirio yn llwyr o'r rhan hono o Natal. Oddeutu Mafeking. Dywedir fod y Boariaid yn parhau yn brysur o aoigylch Making. Ganol yr wythnos ddiweddaf gwelwyd mintai gref ohonynt i'r dehau o'r afon Vaai, wyth milldir o Warrenton. Gosodasant relliau ar hyd glan yr afon, a dis^wylid y buasent yn croesi ddydd Sadwrn. Cradir fod y tiiwed a wnaethant i'r bont rhwng 15 OOOp a 20.009p. Yma a tbraw gwelir mân finteioedd yn teithio o'r naill le i'r llall yn barhaus. i wylied symudiadau ein milwyr, ac yn barod i'w gwrthsafyll. Yr oedd mintai o Brycloiniaitt yn neahau yn gvftvm ar hyd reilffordcl Becbmana, yn rhifo oddeutu tair mil o wyr. Pollebvr a gyrhaeddodd ddydd Lino a ddywed fod vmosodiad newydd wedi ei gych- wyn ar Mafeking gan fyddin gref o'r Boeriaid, ac fod rhan y brodorion o'r dref wedi ei ddinyatrlo. Cyfanrif yr AnfFodion. Ddiwedd yr wythnos ddiweddaf, cyboeddodd Swyddfa Rhyfel y manylion canlynol am yr an- ffodion i'n milwyr yn Neheudir Affrica i fynu hvd Mai 5ad -1 n Sivyddogion. Milwyr. Lladdwyd mewn brwydralt 221 2085 Bu farw o'u clwyfau 54 504 Ar goll ac yn garcharorion 170 4221 Bu farw o afiechyd 68 4221 Marwolaethau damweiniol —— 51 Clwyfwyd 679 9339 Cleifion anfonwyd adref 416 7203 1608 27624 _n-

Llythyr I Lanerohymedd o Faes…

LIeoI.

Marwolaethau

Damwain ger HhiwaborP.

Marwolaeth lago Tegeingl.

Advertising

I Trefn Cymanfa'r Sulgwyn.

Cyrddau y Dyfodol, &o.

Capel Newydd Annibynwyr Lisoard.

Family Notices

Advertising