Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Cystadleuaeth y 1 Cymro.'
Cystadleuaeth y 1 Cymro.' YFIEITHU y darn canlynol o waith JOHN RUSKIN. Gwobr, cyfrol Gymraeg o werth 8s. 6ch. WE rob on credit, by requisition, with ingenious mer- cantile prolongations of claim and we improve con- tention of arms with contention of tongues, and are able to multiply the rancor of cowardice, and mischief of lying, in universal and permanent print; and so we lose our tempers as well as our money, and be- come indecent in behavior as in raggedness for, whereas in old times two nations separated by a little pebbly stream like the Tweed would go on pillaging and killing each other century after .century, without the slightest ill-feeling towards, or disrespect for, one another, WE can neither give any- body a beating courteously, nor take one in good part, or without screaming and lying about it; and, finally, we add to these perfected Follies of Action more flnely:pgrfected Follies of Inaction. Daeth 11 o gyfieithiadau i law yn dwyn y ffug- finwau Cymro, Wil Bryan, Min Afon, Sarah, Fors Clavigera, Ein Kind, Don Pedro, Iolo, Rusk, Un mewn poen yn pwnio pen, ac Edmygydd o Ruskin. Rhaid cydnabod mai dernyn anhawdd i'w droi i'r .Gymraeg ydyw'r gwreiddiol, a dyna un achos o'i .ddewis. Ond y frawddeg olaf ynddo feallai ydyw'r anhawddaf; ac felly cymerir ei chyfieithiad hi yn benaf fel prawf o allu a medr y cyfieithydd. Cymro.-Braidd yn glogyrnaiid ydyw ei waith ef trwyddo. Dyma fel y trosglwydda. y frawddeg -olaf :— Yr ydym yn chwanegu at y Ffolinebau parffeith- iedig hyn o wneyd, Ffolinebau mwy perffeithiedig fyth o B idio gwneyd. Wil Bryan.—" Rhaid i ti wella, William," a ddy- wedwn am yr ymgeisydd hwn fel cyfieithydd, fel y I I .dywedodd Mari Lewis wrth ei gyfenw fel hogyn. Wele ei frawddeg olaf At yr ymddygiadau hyn sydd mor lawn o ffolineb ychwanegwn ffoleddau mwy perffaith ddiwylliedig segurdod. Min Afon.-Cyifeithiad da ydyw hwn, ac an- hawdd gwneud ei well ar y cyfan y gair gwaelaf ynddo ydyw'r olaf. Dyma'r frswddeg :— ac yn y diwedd, ychwanegwn at y Ffolinebau Gweithredol Perffeithiedig hyn Ffolinebau mwy per- ffaith Anghyffro. Sarah.-Ba.i penaf y cyfieithiad hwn ydyw anys- ,twythder yn codi oddiar ddilyn y gwreiddiol yn rhy lythyrenol, ac felly llyffetheirir yr arddull Gym- reig. Dyma fel y diwedda :— ac yn olaf ychwanegwn i'r ffolineb gweithred per- ffaith, yn fwy perffaith ffolineb anweithrediad. Fors Clavigera.—Anystwyth eto, ac annghywir vinewn manau. Diwedda:— Ac, yn ddiweddaf, yr ydym yn ychwanegu ab y Ffolineb:m perffeithiedig hyn o gyflawni, Ffolinebau perffeithiach fyth o Beidio Cyflawni. Ein Kind.-Cyfieitha ef arms yn y frawddeg gyn- 1taf yn freichiau yn lie arfau ond y mae ganddo yai brawddegau da. Dybena:— ac yn olaf, chwanegwn at y Ffolinebau perffeith- iedig hyn o Weithrediad, Ffolinebau mwy cain per- tfeithiedig o Anweithrediad. Don Pedl"o.-Cyfieithiad ystwyth a mwy rhedeg- og a naturiol; ond syrth i wallau gydag amryw eiriau. ac, yn ddiweddaf, yr ydym yn ychwanegu at y Ffoleddau perffeithiedig hyn o Weithrediad ffoledd- au mwy perffeithiedig o Anweithrediad. i n lolo.-I I Fynorog ydyw ei gyfieithiad ef o yebbly. Dechreua yn lied dda, a diwedda tel hyn ac, yn ddiweddaf oil, vr ydym yn ychwanegu at ffol- inebau perffeithiedig y gweithredoedd hyn, raddau uwch yn mherffaithiad ffolinebau segurdod. Rusk.—Rhanan yn bur dda, eraill yn dra diffyg- io1. Diwedda :— ac yn ddiweddaf ychwanegwn at y cyfryw ynfyd- rwydd perffeithiedig Gweithrediad, ynfydrwydd mwy cain bertfeitbiedig Segurdod. Un mewn poen ynpwnio pen.-Nid gwael ydyw'r ymgais hon. Ychydig drwsio yma ac acw fuasai yn ei dodi ar y blaen, er nad yw'r frawddeg olaf cystal ag y gwelir hi gan eraill:— ac yn olaf, yr ydym yn ychwanegu at y ffolinebau gweithredol perffeithiedig hyn ffolinebau anweithred- ol mwy perffeithiedig byth. Edmygydd o Ruskin.-Camgymera ystyr yr awd- wr yn y frawddeg gyntaf, ac eraill; a dyma'r olaf ni a ychwanegwn at berffeithiad y Gweithredoedd Ff61 hyn perffeithiad mwy tlws Anweithredoedd Ffol. Wedi darllen yr 11 drosodd fwy nag unwaith, rhaid cydnabod, pan gofier anhawsder y gwaith, fod yn y gystadleuaeth amryw gyfieithiadau rhagorol; ond y goreu ar y cyfan ydyw Min Afon, er nad yw perffeithiach fyth o Beidio Cyflawni. Ein Kind.—Cyfieitha ef arms yn y frawddeg gyn- ,Saf yn freichiau yn lie arfau ond y mae ganddo yai brawddegau da. Dybena:— ac yn olaf, chwanegwn at y Ffolinebau perffeith- iedig hyn o Weithrediad, Ffolinebau mwy cain per- ffeithiedig o Anweithrediad. Don Pedro.—Cyfieithiad ystwvth a mwy rhedeg- og a naturiol; ond syrth i wallau gydag amryw eiriau. ac, yn ddiweddaf, yr ydym yn ychwanegu at y Ffoleddau perffeithiedig hyn o Weithrediad ffoledd- au mwy perffeithiedig o Anweithrediad. s n Iolo.—" Fynorog" ydyw ei gyfieithiad ef o jaebbly. Dechreua yn lied dda, a diwedda lei hyn ac, yn ddiweddaf oil, yr ydym yn ychwanegu at ffol- inebau perffeithiedig y gweithredoedd hyn, raddau uwch yn mherffaithiad ffolinebau segurdod. Rusk.—Rhanan yn bur dda, eraill yn dra diffyg- ■iol. Diwedda :— ac yn ddiweddaf ychwanegwn at y cyfryw ynfyd- rwydd perffeithiedig Gweithrediad, ynfydrwydd mwy cain bertfeithiedig Segurdod. Un mewn poen ynpwnio pen.—Nid gwael ydyw'r ymgais hon. Ychydig drwsio yma ac acw fuasai yn ei dodi ar y blaen, er nad yw'r frawddeg olaf cystal ag y gwelir hi gan eraill:— ac yn olaf, yr ydym yn ychwanegu at y ffolinebau gweithredol perffeithiedig hyn ffolinebau anweithred- ol mwy perffeithiedig byth. Edmygydd o Ruskin,—Camgymera ystyr yr awd- wr yn y frawddeg gyntaf, ac eraill; a dyma'r olaf ni a ychwanegwn at berffeithiad y Gweithredoedd Ff61 hyn perffeithiad mwy tlws Anweithredoedd Ffol. Wedi darllen yr 11 drosodd fwy nag unwaith, rhaid cydnabod, pan gofier anhawsder y gwaith, fod yn y gystadleuaeth amryw gyfieithiadau rhagorol; ond y goreu ar y cyfan ydyw Min Afon, er nad yw annghyffro o lawer yn gyfyetyr ag inaction. Wele y cyfieithiad :— YR ydym yn lladrata ar goel, trwy hawlio gohiriad masnachol cyfrwys o ddyled ac yr ydym yn ang- erddoli ymryson arfau gydag ymryson tafodau, ac yn gallu gwneud malais llyfrdra a drwg celwydda yn waeth mewn argraff gyffredinol a pharhaol; a thrwy hyny collwn ein tymher yn ogystal a'n harian, a deu- wn yn anweddus mewn ymddygiad fel mewn earpiau; tra yr oedd dwy genedl a wahenid gan afonig fechan raianog fel y Tweed, yn yr hen amser yn parhau i ysbeilio a lladd eu gilydd ganrif ar ol canrif heb gol- sddu y drwgdeimlad na dangos yr amharch Ueiaf at eu gilydd, nis gallwn ni roddi curfa yn foesgar, na derbyn un mewn natur dda, heb lefain a dweyd cel- wyddau yn ei chylch ac yn y diwedd ychwanegwn at y Ffolinebau Gweithredol perffeithiedig hyn, Ffolinebau mwy perffaith Annghyffro. Danfoned Min Afon ei enw i'r Swyddfa, a chaiff y wobr addawedig. Y BEIRNIAD. wobr addawedig. Y BEIRNIAD. --0-- Llwyddodd Mr J Herbert Roberts, A.S., i basio jil-ddarlleniad ei Fesur er Gwella Deddf Cau'r Taf- JIornau ar y Sul yn Nghymru, heb un gwrthwynebiad, yn y Senedd, ddydd Mercher.
-0-Y MOR—GWISGOEDD Y MOR.
-0- Y MOR—GWISGOEDD Y MOR. DYLAI Rhieni a Gwarcheidwaid sydd a'u bwrisd i anfon eu plant i'r mdr, ac yn byw bellder o Lerpwl yny lie oyntaf ymohebu a'r Don, Lord Street, am eu rhestr fanwl o Wisgoedd i fechgyn yn troi allan i r mdr neu, os yn y dref, galwch a gwelwch y nwydd- au ddangosir yn eu Hadran Forawl. Gan eu bod yn gwneud y cwbl eu hunain, gellir cael siwtiau cyflawn brisiau cyfanwerthol, yn rhedeg o 7p., 10p., 15p, Up i fynn-Anfonir Rheatr o'r prisiau a phob manyl- ion ond cyfeirio i'r Adran Forawl The Don A ssocia- on, Lord Street a Paradise Street, Liverpool.
Advertising
TABERNACL, NETHERFIELD ROAD. Pregethir nos Sul, Mai 20, gan y Parchn. J. TOWYN JONES, Cwmafon, ac L. BRYNIOG ROBERTS, Caernarfon. CAPEL (A) GREAT MERSEY STREET Pregethir nos Sul, Mai 20, gan Parch. DAVID POWELL.
[No title]
0 hyn allan dymunir ar i bawb anfon hysbysiad i ni o unrhyw gyfnewidiad yn nhrefn y moddion ac yn yr eglwysi lie y mae gweinidogion sefydlog, os na chlywn yn wahanol, rhoddir enwau y gweini- dogion hyny i bregethu.
PWLPUDAU CYMREIG, Mai 20.
PWLPUDAU CYMREIG, Mai 20. LBRPWL. | Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Princes rli-10, T Glay, 6, H Jones David street—10-30, H Jones, o. T Gray Pitzelarence st-lO, 0 J twen, 6, J D jSvans Setherfield rd-10, J D Evans, 6, 0 J Uwen Chatham street-lo a 6. I Orosahail street-10 a 6, T Evans Anfield road-10 a 6, W" Henry Newsham park-lo a 6 J T Job, Carneddi. Bootle-10 a 6, L Lewis Birkenkead-0.30 a 6, W Jones Seacombe—10.35 a 6, G Ellis garston-10.30 a 6. 0 Owens. Rock Perry-10.3) a 6, J Hughes Walton Vark-10 a 6, J Williams Waterloo-10 a 6, W (i Jones Haytois Quarry—10 a 6, R P Jones feel road-10-30 a 6, E J Evans Solt road—10.30 a «, W Owen Webster road—10-30 a 6, K A Jones New Brighton -2 30, G Ellis. Wet Kirvu-ll a 6.3), D Jones. Yates street 6.16, Lewis Humphreys. Southpoit—10.30 a 6.3r.1. St. Helens 10 30 a 6, H H Hughes, Tabernacl. Laird street, Birkenhead-10-30, 2-15, a 6. J E Hughes, Caernarfon, Market street, Birkenhead-6, Milton st., Widnes.—10.30 a 6, Siloh Whiston-10 30 a 6. ISjremont (Baes.)-10.45 a 6.30, J Edwards, Colwyn Bay. Everton brow 18aes.)-10 45 a 6 30, Wynn Davies Oakfield rd (Saes -10, 45 a 6.30. T G Owen. Catharine st (gaes)-10.30 a 6.30, W W Lewis, Caerfyrddin YR ANNIBYNWYR. TaberllaZ-Cyfarfod Pregethu. Gweler Hysbysiad. drove st-10-50, 6-15, D Adams. Park road-lo-30, tJ, J J Jones. Pwllheli. gt. Merseu st-10-30, J J Jones, 6, U Powell. Kensington -10.30, H Williams. 6. J 0 Williams Trinity ra, Bootle-IO-SO, J 0 Williams, 6, H Williams Clifton rd, B'head—10-30, 0 L Roberts, 6.15, H P ThornM Marsh Lane-10.30 a 6. J H Rees ge.acombe-10,30 a 6. S Roberts Vittoria st, B'head-10-30 a 6 16, Rogers, Ochr y Voel. Southport—10-30 a 6.30, J Pickering. terpwl. Y BEDYDDWYR. JSverton Valage-10-3 a 6, Windsor st —10.30 6. W Samuel Capel seion Bousfieid st-10-30 a 6. Peter Jones Bdge Lane-2.30 a 6. Balliol Rd, Bootle-10-30 a 6, P Williams Knowslev Road, Bootle-lo.go a 6, L W Lewis. Woodlands, B'head-10-30 a 6-15, J Davies Y WESLEYAID Shaw st-IO.SO, J P Roberts. 6, R Ll Jones Boundary st-10.80, R LI Jones, 6, G Evans Trinity Rd, Bootle-10.30. W C Jones, 6. J P Roberts Bdge Hill, PlimsoU st—10, G Evans, 6, W C Jones Kncmley Road-2, W C Jones, 6, Heber Chambers Mynydd ,Ieion-10 80, iC Hughes 6, D 0 Jones Glaughton td,B'head—10-30, P J, 6, E Hughes Widnes-10.30, a 6, W 0 Evans. garston-10, D 0 Jones, 6, W Bvans Jiarlstown—10.80 a 5 30, W Jones Hermon-10.30, D Jones, 6. M Watkins Golborne-2 a 5 30 D Jones. <teacom.be—10.30 a 6, H Tudor. Rock Perry-2-30, DO Jones, 6, P J. Eccles-11 a 6. 0 J Owen, Poncie. YR EGLWYS SEFYDLEDIG, Bant Dewi-10-30 a 6.30, J Davies Sant Asaph—10-45 a 6.30, E Williams. Bant Nathaniel-10.SO, Ysgol, 6.30, R H Davies it Winifred, B'he-ad-10-45 a 6-30, R Edwards. KEANOEINION. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Moss Side,-10 30, J H Morris, Lerpwl, 6.30, J Smallwood. PencUeton-10 30, 2-30, a 6-30, T C Williams, Porthaethwy. Heywood Street-10 30, J Smallwood, Cymau, 6, W James Higher Ardwick-10,30, W James, 6, J H Morris. _ft- -u- Yn Rhyl, ddydd Mercher, cynaliodd y Mri Frank Lloyd, Gwrecsam, arwerthiant llwyddianus iawn ar wartheg, eiddo y diweddar Capten Bell. Yr oedd cynulliad mawr o bobl, yn cynwys rhai o ffermwyr mwyaf y deyrnas, ac yr oeddynt yn foddlawn rhoddi unrhyw bris bron am y gwartheg. Gwerthwyd tarw byr-gorn, yr hwn a enillodd luaws o wobrwyon, i Mr Winteir, Coleg Bangor, am 100 gini; a rhodd- odd Mr Reid, Northop Hall, 52 gini am fuwch bedair oed. Yr oedd y prisiau eraill i gyd yn anar- ferol o uchel. Aeth ychydig geffylau hefyd dan y morthwyl. Talodd Mr Taylor, Ystrad, 350 gini am farch, ac aeth amryw geffylau ieuainc i fynu i 60 gini. Cyrhaeddodd y defaid brisiau uchel hefyd- aeth un hwrdd cyn uched a naw gini.
PURWCH Y GWAED.
PURWCH Y GWAED. "Y gwaed yw y bywyd," ac mae yn rhaid ei gaei yn bur 03 am gadw y corph yn iach. Mae llawer o'r clefydau a'r anhwylderau y mae dynion yn ddarostyngedig iddynt yn enwedig yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf yn cael eu haohosi gan waed anmhur ac afiach, Arwyddion neu arddangosiadau o anmhuredd yn y gwaed yw gwelwder, gwendid, manwynau, cornwydydd, &c. Darpariaeth natur er puro y gwaed yw liysiau o wahanol fathau. Yn mhlith y liysiau mwyaf rhinweddol ae effeithiol i gyrhaedd yr a mean hwn, cydnabyddir gan feddygon yn mhob gwlad mae y goreuon yw Cinchona (o'r hwn y ceir Quinine), sarsaparilla, cynghaw (burdock), a dantyllew. Ceir rhinweddau iachaol a gwaed- burol y llysiau hyn yn nghydag amryw felus-lysiau a chwerw-lysiau eraill wedi eu huno yn y meddyglyn enwog Quinine Bitters Gwilym Evans. Mae meddygon au eraill sydd wedi rhoddi prawf arno yn cyd-dystio nad oes un feddyginiaeth arall gydmara a Bitters Gwilym Evans er gwella ac atal anhwylderau a achosir gan waed anmhur ac afiach. Cefr hefyd fod Bitters Gwilym Evans y mwyaf effeithiol er gweUa diffyg treuliad, a phob anhwylder yn y oylla a'r afu, ac achosion o wendid mewn gwragedd a phlant. neu rai yn dihoeni mewn gwen- did ar ol bod mewn unrhyw dwymyn. Dyry yni a nerth newydd i'r cyfansoddiad. Gccheler efelychiad- au ohono trwy edrych fod enw Gwilym Evans ar y label, y stamp, a'r botel. Ar werth gan bob fferyllydd, mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un, neu anfonir ef trwy y post am y prisiau hyn yn uniongyrchol oddiwrth y erchenogion :-Quinine. Bitters Manufacturing Co., Limd., Llanelly, South Wales.
Cyfarfod Misol Liverpool.
Cyfarfod Misol Liverpool. Nos Fercher. y 9fed cyfisol, tan lywyddia9th y Parch D Jone3. Wedi cadarnhau y cofnodion, darllenwyd Ilythyrau-nn oddiwrtli Henaduriaeth swydd Lan- caster, yn cymeryd drosodd holl waith, Cymreig a Seisnig, Cenadaeth Rigby Street neu Lad Line fel > ei gelwir. L'ythyr arall ydoedd oddiwrth eglwysi Llundain yn nghylch y dylifiad Cymry i'r Brifddinas, a sub i e,,Iwysi'r wlad ar ddinas gydweithredu tuas at eu hymddiffyn ysprydol. Rhoed llytbyr cytiwyniad i'r Parch W Williams, Southport, i Gyfarfod Misol sir Fflint, ar ei fynediad l fugeilio eglwys Bagillt; ac i'r Parch John Evans, Mul^rave Street, i Gyfarfod Misol Trefaldwyn Uch af, ar ei fcefydliad yn fugail achos S3isnig Llanidloes. Yna derbyniwyd pedwar o flaenoriaid newyddion Webster Road yn aelodau o'r Cyfarfod Misol. Holwyd hwy am eu profiad 2refyddol a'u gwy- bodaeth ddawinyddol, a rhoed "Cynghor" rhagorol iddynt gan Mr ftees Ellis, Gar"ton. W ele rai o'i b^nau Hwyrach i chwi chwenychu'r swydd; nid oedd dim niwed yn hyoy os ei chwenychwyd oddiar y dybenion uchaf, sef bod o fwy gwasanaeth na chynt gydag achos eu Gwaredwr. 2. Peidiwch a meddwi mai met i gyd fydd hi arnoch na, cewcb eich beirniadu a'ch beio eithr na hidiweh, ond Itaw- enhewch am eich cyfrif yn deilwng i ddyoddef er ei fwyn Ef. 3. Gofalwch am gymeriad cyfan waeth beth fo'r ymosod arnoch, ni all roi i chwi auaf dwfn iawn os bydd eich curitor yn ddi-grac." 4 Peid- iwch eistedd o hyd yn y set fawr ewch at y drysau i dderbyn, croesawu, ac ymgydnabyddu a'r praidd. 5. Byddwch ddarbodus o arian yr achos, ac nid ea lluciuo yn anystyriol i bob peth ddeuai ar eu gofyn. 6 Os bydd y pregethwr yn traethu. efengyl iach, gwrandewoh el yn astud a siriol; os mai rhyw beth- au tramor o Germani fo ganddo, edrychwch yn fyfyr- gar a tuipyn yn wgus arno. 7. Gwnewch eich iach- awdwriaeth yn sicr i'ch profiad eich hun, rhag eich bod yn rhy ddyeithr iddi, ac felly yn rhy wan i'w chanmol a'i cbymhell ar eraill. Darllenodd y Parch W Jones adroddiad y cyf- eisteddfud a benodasid i chwilio'r annghyd-ddwyn yn eglwys Chatham Street; ac yn diilynol fe gad- arnhawyd yr adroddiad, gan hefyd enwi brodyr i fyned a'r genadwri i'r eglwys nos lati nesaf. Daethai cenadwri o eglwys Widnes yn gofyn ym- chwiliad i ansa-wdd y capel yno o New Brighton a Rock Ferry eisiau penodi ymddiriedolwyr; ac o Southport, eisiau cymhorth i alw bugail yno, a thiefowyd i anfon brodyr yno rhag blaen. Coffaodd y Parch W Owen rinwed jau y diweddar Barch Owen Jones, Boswell Street, Spennymoor gyut. Pur atiadiitoy(idui ydoedd lawer o ae,odati y Cfarfod Misol. nid o dditfyg gallu na llafur, und oherwydd ei wyleidd-dra P<tsiwyd i aafun cydymdeimlad y cyfarfod a'r Parch W M Jones ar farwolaeth ei fam, ac & Mr J Jones, blaenor yn Newsham Park, oedd wedi colli ei fab. Oedwyd sylw ar Adroddiad am y Gwaith Cemdol Trefol, yn nghyda'r Adroddiad o Gymdeithasfa Rhos- llanerchrugog. Dewiswyd y Parch John Williams, Princes Road, yn Jlywydd Se at Fawr y Sulgwyn, a phastwyd i'r eglwysi gynal cyrddau gweddio am lwyddiant y Gymanfa. Dewiswyd y Parch T Giay yn gynrychiolydd i'r Gymanfa Gyffredinol, gan y byddai Dr H Jones yn analluog i fod yno. Darllenwyd amryw adroddiadau-eiddo y Pwyll- gor Arianol gan y Parch T Rees J ones, y Genadaeth Gartrefol gan Mr T Parry, a Phwyllgor Addysg gan Mr Wm Evans. Galwyd sylw at Gasgliad Diwedd y Ganrif gin y Parch R A Jones ac at un y Genadaeth Dramor gan Mr H Lloyd. Un pedwar-misol, a diolch ani hyny, fydd v cyfar- fod nesaf, ae i'w gynal yn Rock Ferry y Mercher cyn y Sulgwyn. Pwnc cytarfod yr hwyr fydd Crefydd yn ei pherthynas a. bywyd ymarferol."
Darganfyddiad Rhyfedd.
Darganfyddiad Rhyfedd. ER's tro bellach y mae nifer o ysgolheigion a hyn- afiaethwyr yn prysur wneud ymchwiliadau yn mysg gweddillion hen Ephesus, a daethant yn ddiweddar ar draws ysgrif ddyddorol ar gareg ffenestr sydd wedi achosi Ilawer o siarad a dadleu. Dygwyd y gareg i Vienna, prifddinas Awstria, lie y mae copi o'r ysgrif wedi ymddangos mewn rhai papyrau, ac amryw ddarlithiau dysgedig wedi eu traddodi arni. Honir mai gohebiaeth ydyw a gymerodd le rhwng Abgarus, Brenin Edessa yn Mesopotamia, a'n Har- glwydd. Darllena fel y canlyn:- Avgaros Ukama, y llywodraethwr, at Iesu, y Ceid- wad Da a ymddangos odd yn ninas Jerusalem, llon- gyfarchiad. Mi a glywais am Danat. ac am Dy weithredoedd iachaol, y rhai a gyflawni heb na chyf- ur na dail. Yr wyt yn gwneud i'r dill weled, a'r cloff gerdded Ti a lanhai y gwahanglwyfus, ac a fwri allan ysprydion aflan a chythreuliaid y rhai a gystuddir a chlefydau Ti a iachai, a Thi a gyfodi y meirw. Ac wedi clywed yr holl bethau hyn am Dan- at, penderfynais y rhaid fod un peth o ddau yn wir- naill ai Ti wyt Fab Duw wedi dyfod lawr o'r Nef a gwneud y p thau hyn, De Ti wyt Dduw ei Hun wedi dyfod i lawr ac a wnaethost y gweithredoedd hyn. Am hyny yr ysgrifenaf ac a atolygaf arnat yn dy ddaioni ddyfod yma a gwella yr afiechyd yr wyf yn dyoddef dano. Mi a glywais hefyd fod yr ludd ewon yn grwgnach yn dy erbyn Di, ac yn dymuno gwneud niwed i Ti; vn awr, y mae fy ninas i yn un fechan, ac heblaw hyny yn da wel a threfnus, ao y mae ynddi le i ni ein dau. Anfonwyd yr atebiad canlynol gan ein Harglwydd trwy Ananias, y negesydd :— Gwyn ei fyd yr hwn a gredo ynof Fi, ac heb fy ngweled I, canys y mae yn ysgrifenedig am danaf Fi, y rhai a'm gwelant I ni chredant ynof Fi, a'r rhai ni'm gwelant a gredant, ac a fyddant byw. 0 ber- thynas i'r hyn a ysgrifenaist Ataf, i Mi ddyfod atat ti, y mae yn rhaid i Mi gyflawni pob peth yr anfon- wyd Fi o'u plegyd, a phan y cwblheir hwy, dyrchefir Fi at yr Hwn a'm hanfonodd. A phan y dyrchefir Fi, Mi a anfonaf un o'm dysgyblion, yr hwn a'th wellha di o'th afiechyd, ac a rydd fywyd i ti, a'r rhai oil sydd gyda thi, ac a wnelo i'th ddinas na feddiano dy elynion hi, ac na chaffont awdurdod drosti yn oes oesoedd. Nid oes neb yn gwadu dilysrwydd y llythyrau hyn, er na addefir fod a wnelo yr Arglwydd Iesu I ddim a hwy. I ba amcau yr ysgrifenwyd hwy, ni wyddis, ond dywedir yr ysgrifenid llawer o lythyrau yn nghanrifoedd cyntaf Cristionogaeth, a'u priodoli i'r Gwaredwr a'r apostolion. Yr oedd bron bob dinas yn awyddus i hawlio Apostol neu Sant enwog fel ei sylfaenydd, a diau mai yr awydd hwn oedd wrth wraidd yr ysfa i ysgrifeuu llythyrau fel hyn I a'u priodoli i'r Arglwydd neu Ei apostolion. --(0)- Cynaliwyd Cymaufa Ysgolion Methodistiaid Dyffryn Conwy, ddydd Mercher, yn nghapel Car- mel, Conwy, pryd y cynrychiolid 16 o ysgolion gan oddeutu wyth cant o gantorion. Yr arweinydd canu ydoedd Mr J 0 Davies, Colwyn Bay; Mr D Hughes, Conwy, yn chwareu yr organ a'r Parch J D Owen, Glanconwy, yn holi ar ranau o'r Ysgrythyr. Y llywyddion oeddynt Mr D Jones, Llwynfryn, Llan- dudno, a'r Parch T Gwynedd Roberts, Conwy.
Dyffry/t Clwyd.
Dyffry/t Clwyd. DINBTCH Y NOS o'r blaen efcholwyd y baneddwyr canlrnol yi ddiaconiaid gyda'r Methodistiaid yn Capel Mawr: — Mri T J Williams, Temple Bar; John Hughes. Bodhyfryd; J Howell Gee, Brouallt; a John Jones, King's Mill Ddydd Iau, fel yr oedd plentyn bychan 21 2 mlwydd oed i Mr Jones, Derwen Gomel, yn chwareu yn y buarth, syrthiodd i gafn, a boddodd cyn i neb allu estyn cynorthwy iddo. Ddydd Mawrth, yn yr Ysbytty, bu farw Corporal W A Morris, mab y diweddar Mr Morris, Melling's Lane. Dvchwelodd yn ddiweddar o Ddeheudir Affrica yn wanllyd iawn, wedi ei glwyfo yn ddifrif- ol, ac ni allodd adfeddianu ei nerth daeth enyniad 7r ysojfaint i mewn, yr hyn yn uniongyrchol a achosodd ei farwolaeth. Perthynai i'r 23ain Gat- rawd Fusiliers Brenhinol Cymreig, a gwasanaeth- odd naw mlynedd gyda hwy-chwech ohonynt mewn gwasanaeth tramor. Bu mewn amryw ysgarmes- oedd ar y Tugela a'r Afon Mooi. Derbyniodd saith o glwyfau yn mrwydr Colenso, a gorweddodd ar y tir am bum niwrnod a phum noswaith cyn y gallwyd rhoddi cymhorth meddygol iddo. Nid oedd ond 2(; inlwydd oed, ac yr oedd ei briodas wedi ei threfnu i gymeryd lie y diwrnod y bu farw. LLANELWY. I Gyda llawer o foddhad y clywsom am lwyddiant Mr A Clayton, Llanelwy, yn Arddangosfa Paris, Gwneuthurwr basgedi yw Mr Clayton, ac er yn ddall gwna waith da a chywrain—y mae'n feistr ar ei gelfyddyd yn mhob canghen ohoni. Aeth a basg- edi i Paris, a dyfarnwyd iddo y drydedd wobr, yr hon a gynwysai fathodyn arian a thystysgrif o deil- yngdod. Y mae i'r basgedwr dall ein llongyfarch- iadau mwyaf calonog. Y mae ewmni newydd o Wirfoddolwyr wedi ei ffurfio yma mewn cysylltiad a chwmni Rhyl. Bydd yn cynwys 5 J o ddynion o Rhyl a 50 o Lanelwy. Nos Fawrth, tyngwyd 19 i mewn yma gan y Lieut. Hall. RHUTHIN. Gofidia Ilawer oherwydd marwolaeth Mrs John Williams, Liverpool House, yr hyn a gymerodd le ddydd Gwener ar ol tridiau o saldra. Merch ydoedd i Mrs Davies, Pengwern, Rhuthin, ac nid oes ond 1'i) mis er adeg ei phriodas, a bu farw yn yr oedran cynar o 35 rnhvydd. Cymerodd yr angladd le ddvdd Mawrth yn nghanol arwyddion cyffredinol o alar dwys. Yr oedd nifer mawr yn bresenol, a gwasanaethwyd gan y Parchn Isaac Ja nes, Rhuthin, a James Jones, Rhos. Nos Sabboth, yn nghapel y Bedyddwyr, traddolodd y Parch I. James bregeth angladèol ar y geinau Marw sydd elw." Ddydd Gwener, cynaliodd Llywodraethwyr yr Ysgol Ganolradd gyfarfod arbenig, dan lywyddiaeth Mr Ezra Roberts. Darllenwyd llythyr oddiwrth T Prifathraw Rhys, Rhydychain, yn hysbysu fod awdurdodau y coleg wedi penodi Mr L J Roberts, arolygydd ysgolion, i'w cynrychioli ar y Bwrdd Llywodraethol. Yr oedd Mr Roberts yn bresenol. a chroesawyd ef gan y Cadeirydd. Hysbysvvyd fod cyfanswm y derbyniadau am y flwyddrn yn 1,069p 12s 7c, yr hyn gyda'r swm oedd yn yr ariandy a wnai 3,090p 10s. Yr oeddytreuliauyn 1,48Gp6s4c, yn gadael gweddill yn yr ariandy o 1,605p 3s 8c, o'r hwn swm y mae amryw ysgoloriaethau a thaliadau eraill i'w gwneud. Cymeradwyodd y Brifathrawes Miss Anna Rowlands-eu bod yn adnewyddu vr ysgoloriaethau i Lilian Williams, Margaret Helen Williams, a Matilda Jones cytunwyd a. hyny.
--0--ADDYSG.
--0-- ADDYSG. Dyma un o brif bynciau y dydd yn ein gwlad yn bresenol. Mae addysg gyffredinol wedi cynyddu yn ddirfawr yn Nghymru y blynyddau diweddaf. Telir sylw arbenig iddo yn mhob ardal a chwmwd trwy y wlad, ac mae cymdei has yo- cymeryd mwy o ddydd rdeb nac erioed yn addysg ieuenc d ein cenedl Tal y llywodraeth am addysg plantty yo ein hysgolion elfenol a chanolraddol. Ond mae dyn yn derbyn addysg o'i gryd i'w fedd, ac yn ami yn gorfod talu yn ddrud am ei addysg. Yr ysgol ddrutaf yn amI yw ysgol profiad Ond mae pcb dyn synwyrol yn cymeryd addysg oddiwrth brofiad eraill. Mae profiad lluaws yn y wlad hon a gwledydd eraill yn tystio mai meddyginiaeth anffaeledig at ddoluriau y cylla, y giau, a'r afu, yw Quinine Bitters Gwilym Evans. Mae dysgeidiaeth meddygon yn tystio ei fod yn feddyginiaeth sier i luaws o anhwylderau yn tarddu o annhrefn yn yr ermigau hyn a gwybodaeth wydd- onol yn sicrhau mai meddyginiaeth ddyogel iddynt yw Quinine Bitters Gwilym Evans Gan hyny, dylai pawb sydd yn dyoddef oddiwrth afiechyd lieU wendid a achosir gan anhwylder yn yr organau hyn waeud prawf teg ar Quinine Bitters Gwilym Evans. Nid yw byth yn siomi, ond mae we 1i liwyddo mewn lluaws o achosion i ymlid yr afieo -yd yrnaith ac adfer rhai i iechyd pan oedd pob meddyginiaeth arall wedi metha, Gwerthir gan bob fferyllydd mewn pneli 2 9c a 4s 63 yr un neu gellir eu cael am y prisiau hyn trwy y post yn uniongyrchol oddiwrth y perchenogionQaini'ne Bitters Manufacturing Co-, Limited, Llanelly, South Wales,
Advertising
EisteddfodGeqedlaetliol Lerpwl 1900. AIL ARGRAPHIAD, gydag ychwanegiadau, o'r RHESTR 0 DESTYNAU, Pris 6ch, trwy y post 7c. I'w cael o Swyddfa r "Cymro," 8, Paradise Street. Yn awr yn barod, pris 6ch, trwy y post 7e. LLANLLONYDD: Ei ddau Efaill, a rhai o'i bobl eraill. Gan LLYFRBRYF. j I'w cael o Swyddfa'r Cymro, 8 Paradise Street. I