Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

M^bbgruo a'r

News
Cite
Share

M^bbgruo a'r <t'tlcb: SALE. Gwelir oddiwrth .hysbysiad yn y rhifyn hwn fod "ale" bwysig yn cael ei chario allan yn masnachdy adnabyddus Mr E Dav- ies, Bazaar, Cefn-y-Gader, High Street, ;,Ntold. Deallwn bod yao fargeinion arbennig i w cael, CYMANFA GANU AXolBYXXWYR SIROEDD DINIBYCH A FFLINT, WYDDGRUG. Mae y dref a'r cylch wedi eu breintio yn helaeth a Chymanfaoedd Canu yn ystod y mis presennol. Y gyntaf oedd un y YYes- leyaid, arweinydd 'Mr Wilfrid Jones yr ail un y Methodistiaid, arweinydd" fen- kias, a'r un yr wythnos hon, a: a Mr Harry Evans, Lerpwl. Mae cylch y Gyman- fa hon yn bur eang-dwy Sir yn cymeryd i mewn 73 o gynnulLeidfaoedd. Cynhelir hon bob tair blvnedd, cynhaliwyd yr un flaenorol yn 0 gr.ecsam, iMai, 1904. Gafwyd eleni fenthyg capel hardd .ac eang y M.C. i'w chynnal, ond er fod pob cornel o hono wedi ei lenwi yr oedd rhai cannoedd yn methu cael lie, ac yn ddoeth iawn trefnwyd i gynnal "overflow meeting yn 'Bethel, y prynhawn a'r hwyr. Yr oedd gwasanaeth cerddorfa, 24 mewn nifer, dan arweiniad iMr II Ilazeldene, Rhy], wedi ei sicrhau, yr hon oedd yn ychw.anegu yn fawr at effeithiolrwj'dd y cyfeilio ynghycl a'r organ gwna,ed aelodau y gerddorfa i fyny gan rai o Rhy!, Treffynnon, 'Buckley Wydd- grug a Lerpwl, pigion chwareuwyr gwahanol offerynau cerdd. ■Cyfarfod 1-30 prydnawn, dechreuwyd trwy .ganu y don u Caerfyrdd- in." Darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch H Uwchlyn Jones, Rhesycae, ac yn absenol- deb y llywydd appwyntiedig, Mr Roger Wil- liams, Treffynnon, gweithredodd Mr Jones yn ei Ie, a galwodd ar yr arweinydd i ym- gymeryd a gwaith y dydd. Canwyd" yVest- m,inster Abbey" ton a myn'd ynddi ar ei-riati 11awen a gorfoledclus. Yn nesaf canwyd "Shawmut" ar eiriau o nodwedd hollol wa- hanol. With ganu hon gofynodd yr anvein ydcl i'r cantorion am geisio sylweddoli yr emyn ar ei hyd ac iddynt geisio anghofio pob peth a cheisio am ysbryd a'r gwirionedd sydd i'w gael ynddvnt, wedyn eanwyd "Dis- gyblion yr Iesu," ton yn fwyaf arbennig i'r plant, y soprano yn cymeryd y ddwy linell gyntaf sydd yn gofyn- Disgwyliwn yr Iesu paham safwn yn segur? I weithio y'n gelwir, mae'r dydd yn hwvrhau." A'r altos yn dyweyd— "A'r nos sydd yn nesu, mae'r clycld yn hwyr- hau, A'n Harglwydd ;y'n galw, a gawn ni aaciu ?" Yna tarawa yr holi leisiau i ganu yu gryf— Y maces yw y byd," &c. Gwasg.ai yr arweinydd am i bawb geisio syl- woeddoli yr hyn ddysgir yn y pemiillion, a gwn-eud ein goreu i geis:io- Sanct-eidcJio'n cj'd-ddynion i fwyniant y nef," &c. Ar ol canu hon, cafwyd ychydig eiriau gan y Llywydd, er seibiant i'r cantorion. Dy- wedodd fod yr awyrgylch oddiwrth y canu yn liawn ysbrydolrvvydd. Hyderai y byddai iddo barbau a chodii yn uwch eto ar ddydd y Gymanfa, ac y byddai y gwahanol gynnull- eidtao.cl(I yn teimlo fod nod ac amcan yr wyl yn. cael ei gyrraedd. Yr oedcl yr ar- weinyddion lleol wedi ilafurio yn galed, ac yn pryderu am ei llwyddiant, ond yr oedd y canu eiso.es wedi ymlid ymaith bob pryder allasai fod ar y pen. Llafur cariacl oedd pob llafur gydag eglwys 'Crist, ac yr oedd i arweinydd y gan le pwysig yn yr eglwys. ,Mae llawer o ranau ereill y gwasanaeth yn dibynnu yn helaeth ar ei fedrusrwydd ef gyda'r adran yma. Cymhellai bawb i ben- derfynu o'r newydd i wneud ei ran gyda chaniada,eth y cysegr. Ar ol y seibiant canwyd y don Lincoln a'r Chant ar y geiriati-- U wch law pob rhyw gariad is y net Yw cariad pur ein Duw," &c. Mae'r iachawd wria.eth fel y mor," eVe" o eiddo Pantycelyn. Rywfodd neu gilydd, nid yw y Salm-donau yn cymeryd gafael yn cill cynrmlleidfaoedd, Fe allai mai diffyg ymarferiad cyson a hwy ydyw yr achos nad ydynt yn cael eu canu mor rhwydd a hwyJns a'r emyiiau a'r tonau ereill. Beth bynn,ag am y dybiaeth, y ffaith yw mai rhyw beth- jiia y cenir hwy yng nghymanfaoedd y gwa- hanol enwadau Ymneilltuol. Yn iiesaf can- wyd yr anthem, Cofia yn awr dy Greawd- "vr" (vM 0 Jones). Aeth hon yn gryn dipyn gwcll na'r un flaenorol. Wed'yn Voelallt, gan yr un awdwr, ar y ceiriau- Mae arnaf eisiau sel, A chariad at dy waith." Yma mae y bardd yn gosod aJlan beth yw diben y dymuniad am sel a chariad at y gwaith, sef Dyrchafu Ei gyfiawn glod am Ei drugaredd, ac am iddo ymostwng i gofio am dano. Yn nesaf canwyd Y Nefoedd." Dyma don sydd wedi gwasanaethu a rhoddi boddhad a chysur i filoedd rhwng bryniau ein gwlacl do ar ol to .acO y tawelwch a'r gobaith mae yn gynnyrchu yn enaid y rh.ai lluddedig y ddaear, ar ol trafferth, dwndwr, a helyntion y byd yma, yn canu fod gwlad yn bod tn draw i angau, ac y ceir llonyddwch oddiwrth bopeth ag sydd yn peri blinder a phoen tra yn y fuchedd hon. Mae yn y geiriau a'r don syml lion rywbeth sydd yn galluogi un i roddi "vent" i'w deimladau I lnvvyaf cysegvedig wrth feddwl am y wlad well; ei ffydd yn t-roi yn olwg, ei obaith yn fwynhad, a'i gariacl. i bara byth, a chael ymuno a'd gyfeillion i foli yn ddiddiwedd. Terfynwyd y cyfarfod gyda'r don Udgorn ar y g,eiriau- Efengyl yr Ion, Am dani bydd son Trwy'r brovdd a'r bryniau o'r bron Hen Jericho fawr Yn llwyr cldaw i'r llawr, Mae'r udgyrn yn bloeddio wrth hon." Ac mewn gwirion,edd yr oedd yr udgyrn oedd yn y gerddorfa yn gwneud eu rhan yn gam- pus ac yn swn y canu goffoleddus gollyng- odd y Llywydd bawb allan trwy ofyn am fendith yr Arglwydd ar y Gymanfa. Cyfarfod 5-30 yr Hwyr.—Ymhell cyn adeg dechreu yr oedd y capel w>edi ei orlenwi. Cymerodd y Llywydd, Mr Joseph Wilcoxon, C.S., Coedpoeth, ei le yn brydlon, a galwodd ar y Parch Jonathan Evans, Treffynnon, i gytiieryd y rhan arweiniol. Gwnaeth yntau yn fyr a melus. Canwyd eto yr hwvr Yoel- allt, wed'yn Cefn Brith (D W Lewis) ar y geirian- Ceir dihangfa rhag marwolaeth, Trwy waed yr Oen," &c., yr holl emyn wedi ei farcio a gwahanol fynegiant, a diwinyddiaeth gref ac iachus yn cael ei dysgu drwyddo oil, y "cJim ax" yn cael ei gyrraedd trwy Wacd yr Oen, lawn Calfaria yn ddigonol i foddloni cvfiawnder, a'r Tad yn rhinwedd yr lawn yn gallu madd- eu a chyliawrihati, dim "brycheuyn na chrycbni" ar y rhai olchir yng Ng-waed yr Oen," a byddant yn canu "Haieliwia heb byth anghofio am eu dihangfa. Salm-don., Amman, gan yr un awdwr eto, geiriau Salm li, hon eto yn cael ei chanu yn debyg a un y prydnawn heb fawr o gydsymud gyda hi. Yn nesaf yr anthem, "0 anfeidrol rym y Cariad" (J H Roberts). Mae y bardd D Williams, Llandeilo, wedi anfarwoli ei hun trwy yr emyn hwn, a thra y bydd canu Cym- raeg caiff le anrhydeddus, gan ei fod yn gos- od allan rym cariad Duw, ei anghyfnewid- iokleb, a'r addewid i bechadur trwy glwyfau y 'Mab. Gwyr yr awdwr pa fodd i gyfan- soddi anthemau, a gwyddai y cantorion pa fodd i'w chanu, yr hyn a wnaethant hefyd. "Gwnfa," tAn ysgafn a m-clus gan un o ger- ddorion Brynteg, Gwrecsam, Mr Edgar Rob- erts, aeth hon eto yn ddymunol iawn. Pob llwyth ac iaith (J A Lloyd), y don. a'r geir- iau a digonedd o le i ddangos allan alwad gyffredinol yr Efengyl, a'i chymhwysder ar gyfer pawb yn ddiwahaniaeth. Yn nesaf "Trefhedyn" (D Emlyn Evans), ar y geiriau adnabyddus— "Maearnafeisiaubeunydd Cyn fy medd," &-c., a Myfi'r pechadur penaf, Fel yr wyf," &e. Canwyd hi gyda bias ac arddeliad neilltuol. Rhoddodd y Llywydd anne-rchiad byr. Dywedodd pe cai ei ddyrnuiiiad, yn mysg y tenors yn canu ar y "gallery" y carai tod, ond yr oedd am ufuddhau i'r trefniadau. Dywedir y gall pawb ganu os gallant gocii a gostwng eu llais, ac os gall witeddi--tybiai dfod bron bob un oedd yn bres-ennoi yn gallu gwneud liynny—ac o ganlyniad galleai. ganu. Cylemodd yntau, tel Llywydd y pnahawn, at ddyJanwad a lie arweinydd y gan gyda'r bregeth, ar y gynnulleidfa, ar y gweduiwr wrth gyfarch yn gyhoeddus wrth orsedd gtas. Mae gan rai fwy o ddnwn na'u gilydd i ganu, ac rnae eisiau ymdrech parhaus i ddiwygio gyda'r gwaith pwysig hwn. Cyfeiriodd at allu arweinydd y dydd, ac os ceir dynion fel efe i'n cymanfaoedd canu, mae yn sicr o fod yn fantais fawr. Nid peth diweddar a newydd yw cymanfa ganu, mae beth bynnag mor hen a phaa gioesodd yr hen genedl y Mor Coch, obl,egid cynhaliwyd cymanfa ardderchog ar ol cyr- raedd y Ian agosaf i Ganaan •. tua chwe' chan' mil yn rhoddi mawl i Dduw am y waredigaeth. Mae Duw yn ymddigrifo trwy ganu. Mae yn canu trwom ni os byddwn yn canu yn yr ysbryd. Mae llawer anheb- gar i gael eanu da, LtC enwodd-(l) Canu a'r ysbryd (2) Canu a'r deall (3) Canu trwy a chyda ffydd (4) Canu gyda pharch yn enaid y dyn at y gwaith ac os yn meddu y nodweddion hyn, bydd yr oil yn dda ac yn ogoniant i Dduw, a diamheu eu bod yn gwneud hynny yn y Gymanfa eleni. Canwyd ar ol yr annerchiad (Bethesda (Em- lyn Evans). Mae y don hon wedi ei threfnu ii un llais ganu y ddwy linnelJ gyntaf ymhob pennill, ac felly y gwnaed. Hereford, gan yr un awdwr. Dyblwyd a threblwyd y ped- air llinell olaf yn y trydydd pennill a'r di- weddaf. Yn olaf canwyd St Aeldred (Dykes). Canwyd y tonau ereill yn hynod dda, a rhai yn ardderchog. Ond yn ddios dyma y don ag y rhoddwyd y datganiad mwyaf dramat- ic" yn ystod y dydd, er mai her yw. Dar- lunia y bardd yn y pennillion Iesu Grist a'i ddisgyblion ar For Galilea, y storm yn cod.i, y disgyblion yn ofni ac yn crynu, a'r Meistr Mawr yn cysgu yn dawel yn mhen ol y llong yna a ymlaen i ddarlunio y disgyblion yn erfyn arno i'w cadw rhag suddo a'u colli, a'r Iesu a'i air yn gostegu y storm cl rhagddo i ddarlunio y gwynt a'r tonau yn llonyddu fel babanod ar archiad yr lor ac i ddli- weddu Mae yn dod a'r dyn i mewn, ac yn ei ddangos yn gofyn i'r Un dawelodd y storm ar For Galilea daw,eln rhywbeth a chadw peth mwy pwysig na bywyd naturiol. I bob un—a phwy o ddeiliaid ein Ilysgolion Sul sydd heb wybod am yr banes yn yr Efengyl- au, Matthew, Marc, a Luc-nad oedd yn dychymygu eu gweled ar y mor gan mor fy w a chywir o-edd y symudiadau lwyddodd yr arweinydd i'r cantorion wneud gyda'r don a'r geiniau er gosocl allan wir ystyr ac amcan y bardd. Yn Bethel y prynhawn arweiniwyd y canu gan y Cynghorwr J Wilcoxon, Coedpoeth, a'r hwyr gan Mr P Williams, Brymbo. Lly- wyddwyd gan Mr R Williams, Treffynnon. Cyfeiliwyr, Miss Lloyd, Maesgarmon, a Mr S M Evans, Wyddgrug. Gwnaed casgliad- au yn yr holl gyfarfodydd. Cynnygiodd y Parch Thomas Roberts ddiolchiadau am fen- thyg y capel, i'r arweinydd, y gerddorfa, y llywydd, yr organydd, sef Mr C P Williams, (Brymbo, a phawb gymerodd ran ynglyn a'r Gymanfa. TREAT YSGOL SUL. Dydd Ian diiweddaf aeth Ysgol Genhadol y Tabernacl, Smelt (W), i fwynhau eu hun- ain Gaergiwaie. Aethpwyd mewn oerbydau. Yr oedd te rhagorol wedi ei ddarparu ar en cyfer gan Mr J Hopwood, The Stores. Y brodyr ofalant yn fwyaf arbennig am yr achos yn y He hwn ydynt imri Fred Evans, E Ingman, John Jones, Abraham Evans, a Walter Dykins, ynghyd a gwei.nidog y gylch- da.ith, y Parch T N Roberts. Yr oeddynt oil gyda'r ysgol, ac ar ol dychwelyd yn 01 cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol yn y ca- pel. Mwynhaodd pawb y "treat," a dy- wedid "melus, moes mwy." GOSOD CERRIG SYLFAEN. Prynhawn dydd C>wener diweddaf cyf- lawn wyd gorchwyl dyddorol ynglyn a'r Lly- thyrdy newydd yn Heol Caer. iae y gwaith yn myned yn ei ftaen yn gyflym iawn dan arolygiaeth yr adeiladydd cii hun a'r arch- adeiladydd, sef Mr Thomas Roberts, a'r fab, ,Mr Fred A Roberts. Gosodwyd un o'r cerxig gan .Miss Prince, merch y Postfeistr, a'r llall ga,n Miss Gwladys Roberts, merch yr adeiladydd. Fel y ma,e yn arferol ar achlysuron o'r fath, rhoddwyd darnau o ar- ian, darluniau o'r dref, papurau newyddion lleol, &c., mewn poteli o dan y cerrig. Yr oedd amryw o gyfeill.ion a chydnabod y perchenog w.edi dod ynghyd, a chafwyd byr- annerchiadau cymwys i'r amgylchiad gan y Parch John Owen, yn dymuno hir oes a llwyddiant i'r ddwy ferch ieuanc osododd y cerrig. Hyderai y caffai y gwaith ei gwbl hau heb unrhyw ddamwain na dim anghys- urus ynglyn ag ef. Rhoddodd Mr Prinoe, y postfeistr, hanes dyddorol am waith y llyth- yrdy am daircen,hedlaeth sydd wedi myned heibio, gan gydmaru y gw.aith gai ei wneud y dyddiau gynt a'r hyn sydd yn cael ei g.ario ymlaen yn y Wyddgrug ar hyn o bryd. Ar un adeg byddai yn arferiad curo wrth ddrws y llythyrdy er cael mynediad i mewn, a chael y penaduriaid drwy dwll bychan ychydig fodfeddu ysgwar, a'r oil yn cael ei gario ymlaen mewn un ystafell. Erbyn heddyw mae gennym dair-ar-ddeg o ystafelloedd yn lLawn gwaith. Yr oedd yn adrodd pethnu dibwys yng ngolwg rhyw rai, ond a ddang- osa gynnydd dirfawr yn y rhan yma o waith y Llywodraeth. Llongyfarchai Mr Fred A Roberts ar ei lwyddiant gyda'r planiau, a hynny mewn cystadleuaeth galed. Yr oedci hynny yn ddangosiad fod dyfodol disglaer o'i flaen fel arch-adeiladydd. Rhoddodd Mr W T Roden, arolygwr trefol, hanes yr adeil- adau mwyaf dyddorol yn v rii-cf, a dywedai y byddai y llythyrdy newydd yn addurn ych- wa,i-i,e,gol. Dymunai yntau bo.b llwyddiant i'r anturiaeth. Atebodd Mr T Roberts ar ei ran ei hun, a gadawodd i'r mab wneud yr un peth ar ei ran yntau. YMFUDO. Yr wythnos hon mae tri o ddynion ieu- ainc yn bwrjadu croesi y ^erydd am wlad y cefnder Jonathan, sef E T Hughes, Marlow Terrace; E Jones, Ty',ii-v,,i--ynn ac R.'Bull, High Street. Pob llwyddiant a chysur i'r cyfeillion. SYMUDIAD. 'Bydd Mr iW O Hughes, yn gadael yr YsgoI Ganolraddol yr haf hwn. Mae wedi ei dëIcwis o blith nifer m.a:w.r o brif ysgolheágion Lloegr yn dd arid thy dd1 mewn Rhifyddiaeth ym iMhrifysgol Lerpwl. Gol- yga hyn godiad sylweddol iddo, a gobaith am y orif gadair.

"-Cymanfa Ganu Anibynnwyr…

Advertising

fYFAROHIAD PRIODASOL

Advertising