Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

QYMRY ! DOWCH PR GAD.

News
Cite
Share

QYMRY DOWCH PR GAD. Daeth i law ysgrif oddiwrth un o hen arwyr rhyddid Cymru yn dwyn y teitl uchod. Nid ydym yn cydweled ag ef ar lawer pwynt, ond wedi ystyriaeth ddwys, ac o barch i'r awdwr, cyhoeddwn ei epistol, gan obeithio y gwna les i Gymru yn yr argy- fwng presennol yn ei hanes. Credwn bod y Cymry sydd yn aelodau o'r Weinyddiaeth yn gwneud eu goreu dros eu gwlad a'u cenedl, a chredwn hefyd bod yna ormod o Doriaid yn y Wein- yddiaeth i unrhyw fesur o fudd i'r werin gael ei basio ganddynt. Ond nid ar Lloyd George bydd y bai am hynny. Cyhoeddir y sylwadau isod er mwyn i'n har- weinwyr weled beth sydd yn rhedcg trwy feddyliau rhai o Gymry enwocaf yr oes. GYMRY, DOWCH I'R GAD! Dyna y genadwri a ddylem ei bloeddio ar gopa pob bryn yng Nghymru heddyw. Bradychwyd ni gan y rhai yr aberthasom yn ddirfawr er eu mwyn. Mae Cymru yn nyled y CYMRO am y llais fu'n llefain yn y diffaethweh er's dyddiau bellach fod ein gwlad mewn perygl. Bu i'r CVMRO ddeall arwyddion yr amserau. Yr oedd yma rai eraill ohonom hefyd yn dechreu agor ein llygaid ac ambell un yn rhyfeddu o'r rhai fu'n ymladd brwydr 1868. Eraill yn dechreu cofio dywediadau y Gwir Anrhydeddus Mr Lloyd orge yn yr amser gynt, pan gafodd y diweddar Mr. T. E. Ellis ei swydd. Ac nid aiff gwawdiaith Syr Marchant Wil- liams yn anghof yn y llyfr hwnnw a gyhoeddodd am ein haelodau Seneddol pan roddwyd o dan enw Tom Ellis y ddwy Jincll- For a little bit 0' siller And a little bit o' gold." Tybiai pobl sydd wedi newid eu meddyliau erbyn heddyw yn sicr y dylasai yr aelodau Cymreig fel yr aelodau Gwyddelig fod heb dal oddiwrth y Llywodraeth ac heb ddal un swydd o dani hyd nes y cawsai Cymru ei hawliau. Erbyn heddyw, wele dri, nid un, yn derbyn eu miloedd o goffrau'r Llywodraeth, ac yn ofni ac yn crynu yn ol pob argoel i'n golwg ni rhag peryglu eu swyddi trwy ddal baner eu gwlad i fyny. Rhyfedd yn wir yw ein hanes er pan mae'r trychfil diasgwrn cefn -y Weinyddiaeth Ryddfrydol yma mewn gallu. Hyd y gwyddom ni nid yw wedi bod yn I enwog mewn unpeth ond ei job- beries, a'i phenderfyniad i geisio glynnu rywfodd wrth y Ifyw. Beth ydyw meddwl y noitscitse yng nghylch Ty'r Arglwyddi. Hynod oedd darllen erthygl mab loan Arfon yn y "Geninen," a'i gweled yn cael ei chopio i'r Church Times!" Nid yw Cymru ffoled. Gwyddom ni nad yw Ty'r Arglwyddi yn debyg o dderbyn dim niwed oddiar law y pryfetach Rhyddfrydol yma, ond mae'11 gwneud y tro fel tynu ysgadan goch ar draws y Ilwybr. Ofna'r disgyblion y torthau yma fyned o'u swyddi, a gallai cwestiwn mawr Datgysylltiad beri fod yn f rhaid apelio at y wlad. Rhaid osgoi hynny hyd y gellir, dyna'r pwnc mawr. Ond y pwnc i ni yng Nghymru yw ein bod wedi ein bradychu fel cenedl, ein bod wedi gweithio yn ddiwyd pan oedd yr aelodau presennol, rai o honynt, heb ddechreu gwisgo'r trowsus cyntaf erioed, dros rydd- id ein gwlad. Ai tybed fod ein Haelodau Seneddol yn tybied mai er mwyn gwneud rhai o honynt hwy yn Weinidogion y Goron y bu Cymru yn gwaedu dros ei rhyddid. Attolwg, pa fraint yw eu teitlau a'u harian i genedl sy'n gruddfan mewn caethiwed. Frodyr, niae rhai o honom yn myned yn hen, ond nid yn rhy hen i dynnu'r cledd o'r wain chwaith. Cododd Cym- ru ar ei thraed yn y gorffennol, os nad ydym yn camgymeryd, cwyd eto yn y dyfodol. Mae oes Rhyddfrydiaeth Cymru wedi myned heibio. Plaid Llafur yn unig all roi tro ar yr olwyn. Ym wrolwn, a dangoswn i'r Llywod- raeth Seisnig hon fod y Cymry tlodion, y mathrwyd eu hiawn- derau o dan eu traed, wedi blino ar siarad bellach, ac yn disgwyl rhywbeth gwell na gweniaith. Rhwydd hynt i Anibynnwyr Cymru i chwifio'r faner. Boed iddynt gofio Michael Jones, y Bala,

I Nodion o Fyd Llafur.

Advertising

Advertising

Advertising