Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
"KEE3STORA Self-Raising Flour Is the best for all kinds of Pastry, Scones, &c. MAY BE HAD OF ALL GROCERS. KEENORA CO., LIVERPOOL. Telegrams Furnishing." Telephone 1214, Hoyal. noo,ooo i nil GijD The Largest Assortment of Bedroom Suites, iDrawing-room Suites Dining room Suites, Sideboards, Cabinets, Overmantels, Bookcases, Hall Stands, and other Furniture. Carpets, Linoleums, Flooreloths, Rugs and Mats, Curtains, and General Furnishing Goods, AT THE LOWEST PRICES IN ENGLAND FOR CASH. RAY & MILES, 34 to 48, London Road, Liverpool. WANT ElD—LINOTYPE OPERATOR.— Welsh and (English. State speed and w,ages, to "CYiIRO" OFFIIC,E, .\Iold. MLSCTLLAJSLH-OUS "WYR YR EO'S."—Datganwr Penillion 11 gyda'r delyn, a ddymuna hysbysu ei fod yn awr wedi sefydlu yn LerpwL ,i fod yn agored i dderbyn galwadau fel Dat- ganwr Penillion a Beirniad. Telerau rhes- ymal.-CnIRo Office, 61, Lord Sitreet, Liverpool. ON SALE.-—A beautiful iSemi-detadhed VILLA, containing 13 rooms, fitted with C. & iI-I. water and all conveniences. Situated 6 miles from Rhvl, and 10 minutes' walk from Station. Trains convenient for Liverpool and Manchester. A splendid country residence. Price £ 500. Free Aug- ust lst. To Let, J326 clear.—Apply to M., "Cymro" Office, Mold. WANTED Immediately CANVASSERS for an important New Work on Wales.—Apply, E," "Cymro'' Office, Mold. GRIFFITHS' TEMPERANCE HOTEL, G- Caroline Street, Cardiff. Good Ac- commodation. Bedrooms from Is. 6d. 3 minutes' walk from; Railway Stations and G.P.O. Ty Cymreig. TO LET—22, KINMEL STREET, RHYL Commodious House, centrally situated. P nt £22 —Apply Jos. WILLIAMS, Auctioneer, Rhyl. GLO GLO! Os am lo da ymofynwch a'r Park Coel Company, Salisbury Road, Caerdydd. 'Does ddim gwell glo a ddim Hawer cystal. Mae'r prisiau yn rhad.-DAvID BEYNON, Perchenog. AGENTS Wanted by House Purchase Cor- poration throughout Wales. Whole or pait t me. Good terms —Apply LLEWELLYN, 24, Trinity Street, Cardiff. r V STROLOGY — Old Sol" for reliable horoscopes. Marriage, Business Legacies, Finance, &c. P.O. 1/1, birthdate, for test, with 2 years events. Old Sol (Room G), 4, Murray Street, Burnley. GWALIA HOME AND REGISTRY 2 Hope Place, Liverpool. YN EISIAU Morwynion parehus i lecedd da. Ymofyner a'r Arilygwr JONES, 2 Hop. Pis e, Liverpool. GYCLE,—Marvellous s—rifice. Gent's new 19.07 Machine, higbe.-st g de, fitted with Clincher tyres, Crabbe roller lever rim brakes br.:k and front, the very latest, Perrys T907, ball bearing, fiee wheel, plated rim, coloured centres, frame black enamelled and gold lined, mud- guards, magnificent maebme,* not soiled, com- plete with gas lamp, bell, pump, spanner, &c. Great Bargain. ^"4 ios., worth double. Will send on approval any distance, before cash sent. -M. "House," St. Madge, Pitman Road, Weston-Super-Mare. L Life and Times of St. David Dewi Sant By OWEN RHOSCOMYL, Welsh Translation by Rev. J. E. Davies. The work contains Genealogical Tables showing his desccnt and his connection with the other Saints and Princes of Cymru, and gives a fine picture of the Wales of St. David's time, and all the facts actually known concerning our Patron Saint. Is. nett. Is. 3d. post freo. Srrongly bound, boards. & PUBLISHED MARCH 18th. Odlan Serch a Bywyd (Lyrics of Love and Life) Gan SYR MARCHANT WILLIAMS Full Bound in Lamb Skin, 2/6 net, Postage 3d. in Cloth 1/6 net, Postage 3d. To be had of all Booksellers. The Educational Publishing Co Merthyr Tydfil. kT, High GEO, LU Boot Maker Only Address- 11 Para dise St. Tel. 895 Liverpool. For Quality, Comfort, Style, and Fit, BUY YOUR BOOTS FROM LUNT'S, as he makes his own Lasts to suit the most tender feet, and keeps them for his Customers Special Use, thus securing a reliable fit under all conditions of tenderness and peculiarities of the feet. Wear the Celebrated "WARWICK BRAND" Reg. No. 252,703. Ysbrydyr Oes PRIS DiWIY GKLMOG. Y CYHOIEDOIAD GOREU A RHATAF YN YR IALTíH GYMRAE.G. YN EISIAU. D'osbarthwyr ychwanegol. Ymofyner am y telerau a SECRETARY, "YSPRYD YR OES" OFFCE, OLD _0 Eisteddfod GadeiriLl LLANSANNAN. "Awst 5 (Gzvyl Bank), 1907. Barddoniaeth. Beirniaid: PEDROG A HUWCO PENMAEN Testyn y Gadair. Pryddest heb fod dros 300 Llinell Y GWLITH." Gwobr, Cadair Dderw Ger- fiedig Hardd. Cerddoriaeth. Beirniad: CARADOG ROBERTS, Ysw. Mus. BAC. (OXON). Prif Ddarn Corawl: (a), "Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd" (Oitain A law), (b), Dies Irae ar y geiriau "Duw mawr pa beth a welafdraw." Gwobr, £ 7 7s., ail J2 IOS. Rhestr cyflawn o'r testynau i'w cael gan yr ysgrifenyddion CHARLES MORTIMER, Elansannan H. M. JONES, Llansannan. Pris i |d. drwy'r Post. At Gantorion, Arweinyddion aChy mdeithasau Corawl, &c. os oes arnoch eisiau unrhyw Gan Gymreig neu Saesneg, DEUAWDAU, ANTHEMAU neu unrhyw Gerddoriaeth, hen neu ddlweddar, ar fyrr rybudd Archebwch gan y K "CYMRO" CO. 61, Lord=st., Liverpool, BUT New=st., Mold. TELERAU ARBENNIG PAN FO NIFER 0 GOPIAU YN CAEL EU HARCHEBU. W. Charles Hughes. [ (Late Organist and Choirmaster, St. Columba's J (College, Dublin Sucoessor there to Dr, Perrin, Canterbury Cathedral. BEIRNIAD LLEISIOL AC OFFERYNOL (Voice Specialist). Pupil of and recommended by MR. FFRANCON DAVIES. Vacancy for one Lady Vocal Student Resident. 9 Airlie Road, Hoylake.
Cwrs y Byd.
Cwrs y Byd. \(.'1"0'1\ Bydd rhai estroniaid ar ol edrych tipyn o'u cwmpas, yn dywedyd weithiau iod mwy o hymbyg nag o ddim arall ym mywyd crefyddol Cymm. Wrth gwrs, nid dyna'r gwir, ond ar yr un pryd gellir yn hawdd iawn esgusodi'r estron. Tybier am dano er engraifft, yndarllen stori'r Tyst" fod y Methodistiaid yn cyhuddo'r Anibynnwvr o geisio llunio brad i'w cadw hwy rhag rhoddi tystiolaeth ger bron y Ddirprwyaeth Eglwysig. Dyma ddau enwad yn proffesu bod yn Gristionogion, ond yn ol pob g lwg yn treulio eu hamser i'w bradychu eu gilydd yn y dull mwyaf bawaidd. Os yw hynny yn wir, pwy a feiai yr estron am weiddi hymbyg ?" Nid ydyw yn wir, wrth reswm. A chan mai anwir yw, pwy, yn wyneb codi'r fath helynt yn ei gylch. a feiai yr estron drachefn am weiddi "hymbyg?'' Neb yn ei bwyll. yg Mae y fath blentyneiddiwch gwrthun yn sicr yn ddigon a gwneud i lawer feddwl mai y peth gureu a al'ai ddigwydd i Gymru I < er mwyn ei hurddas a fyddai i'r Llywodraeth gryfhau yn hytrach na dadsefydlu yr Eglwys Wlad- wriaethol. "Daw Mawr yw breintiau pobl a phlant Sir Drefaldwyn. Yr oedd eisiau is-athrawes yn ysgol Caersws. N id oedd y cyllog ond hanner canpunt yn y liwyddyn, ond fe gafwyd patrwm o athrawes, yn 01 y llythyr cymeradwyaeth a ddarllennwyd iddi. Nid ellir dyfynnu o'rllythyr yn Gymraeg heb wneud cam a'i iaith ac al hyawdledd rhyfeddol am hynny, dyma ddarn o hono fel,y darllen- nwyd ef: She had a clear understanding, a steady, well- balanced judgment, and a reason far removed from prejudice She was cheerful, modest, and in good humour without noise. She never lifted her voice in the streets, yet she was firm and resolute, void of all inordinate passions, full of tenderness, com- passion, and benevolence. She was well beloved by her associa- tes, and left a good influence upon them. He was fully convinced that she would equip herself with credit in any school, and should the Committee-favour her with the appointment, he was sure they would have no reason to rejoice in her services." Yr oedd Cadeirydd y cyfarfod yn methu a deall ai Methodist ai Bedydcliwr a'i hysgrifennodd, a gwaith anodd fuasai penderfynu yn sicr. Dylid llongyfarch y cadeirydd ar ei fod wedi dyfod mor agos. Pe dy- wedasid wrth rai ohonom mai rhyw benadur dwyreiniol galluog a ysgrifennodd y llythyr, buasem yn credu hynny yn hawdd. Ond yr oedd y cadeirydd yn nes ati. Gweinidog Methodistaidd o Sir Drefaldwyn ei hun a'i hysgrifen- nodd. Ond y plant sy'n lwcus. Mae'n gymaint o beth cael athrawes a chanddi ddeall, barn, a rheswm, ac yn enwedig un na bydd yn cyfodi ei llais yn yr heolydd nac yn cadw swn. Ac y mae'r trethdalwyr yn lwcqs hefyd, ran hynny—cael cymaint o rin- weddau am hanner canpunt. e'\}mro Savs. Yng nghwrs ei ddarlith ar Lyfr Du Caerfyrddin yn Man- chester yr wythnos ddiweddaf, dywedodd Dr Gwenogfryn Evans iod yn well ganddo ef y Sasiwn Gymreig nar Chwareudy Seis- nig. Fedr Saeson,' ebe fe, ddim deall sut y mae Cymry yn gallu gwrando ar ddwy neu dair pregeth yn olynol, a hynny ddwy- waith, neu hyd yn oed deirgwaith yr un diwrnod, fel mewn Sasiwn. Pe buasent bregethau Saesneg, nid allaswn innau ddeall ychwaith Medr Sais eistedd am Oriél.&J mewn chwareudy. Yr wyf finnau wedi rhoi cynnyg ar y chawreudy, ac wedi rhoi cynnyg ar y Sasiwn, ac y mae'n well gennyf y Sasiwn mae'n fwy dramatig, a chanddi, ar ei goreu, fater Ilawer gwell na'r ddrama ddiweddar." Mae'n siwr eich bod chwi yn dywedyd y gwir, Dr Evans, ond yr ydych yn cerclded tir peryglus iawn hefyd wrth awgrymu ein bod ni yn myn'd i'r capel fel y mae'r Sais yn myn'd i'r chwareudy Fedr yr un actor fod o ddifrif na'r un pregethwr fod ofregedd, 'does bosibl. Ac eto, dyna Frad yr Anibynnwyr,"mae honno cystaI "farce" a dim a fu ar y llwyfan yn Lloegr erioed, yn ddiameu. Mae'n bryd i ni adolygu ein syniadau. Ac erbyn meddwl, 'does ryfedd yn y byd fod y pulpud gymaint yn erbyn y llwyfan. Nid yw Eglwys Loegr yng Nghymru yn estronol ebe Esgob Llanelwy. Darllenner geiriau dyn o'r enw Mr Richard Conwy, o Llandudno, ynte, Cymro ei hun o waed ac enw, ond Eglwyswr blaenllaw Yng nghyfarfod rheol- wyr ysgolion Eglwysig Llandudno yr wythnos ddiweddaf, cyfeiriodd Mr Conwy at y rtwlbri o ddysgu Cymraeg i'r plant." Os gwnaeth Cyngor Sir Gaernarfon unrhyw beth yn haeddu canmoliaeth er pan ddacth yr ysgolion tan ei ofal, ceisio ymwneud yn rhesymol a phwnc yr iaith oedd hwnnw. Nid yn unig y mae Cymry yn cymeradwyo eu gwaith, ond y mae Saeson deallus yn gwneud hynny, ac yn yr ysgolion cyhoedd- us, mae'r cynllun yn gweithio yn llwyddiannus. Eto, ffwlbri yw'r cwbl ym marn Eglwyswyr Llandudno. Wrth eu haddefiad hwy eu hunain, nid oes ond plant Saeson yn myn'd i'w hysgolion hwy, ac y maent yn dirmygu popeth Cymreig, ond yr arian y mae Cymry yn eu talu at eu cadw. Mae ganddynt bob hawl i'w barn, neu eu rhagfarn, yn hytrach, ond pa ddiben ceisio dywedyd nad yw'r Eglwys yn estronol ?
[No title]
— oi- Rhydd y Drys)rfa Wiadol gan mil o bunnau ym Mane Lloegr am y flwyddyn gyntaf at wasanaeth Bwrdd Amaeth- yddiaeth yn y mater, ac awdurdodir y Bwrdd a chynghorau'r siroedd i gefnogi fTurfiad cymdeithasau cydweithredol a banciau coel tuag at fod yn gefnoctyd i fan dyddynwyr. Caniateir i'r Bwrdd a'r Cynghorau roi sicrwydd a rhoi benthyg arian i'r banciau coel, gyda chennad y Drysorfa a Bwrdd Llywodraeth Leo]. Geill y darpariaethau hyn fod o wasan- aeth mawr yr ddiau os dygir hwy ym- 'aen ar gynllung da a chydag ysbryd cyhoeddus.
Advertising
-:0:- RAWFORDS ■ RACKeRS
ILlyfrau a Llenorion --
Llyfrau a Llenorion 1:)\\ Caev^vddvu. Gwyr pawb sydd yn teimlo rhywfaint o ddyddordeb mewn llenyddiaeth Gymreig am y gwas- anaeth dirfawr y mae Dr Gwen- ogfryn Evans wedi ei wneud ar hyd y blynyddau, yn wyneb an- hawsderau lawer, ac nid ychydig o ymosodiadau cas o dro i dro, Yr wythnos ddiweddaf, wrth siarad yn Manchester, dywedodd Dr Evans fod ei argraffiad newydd o Lyfr Du Caerfyrddin" bron yn barod i'w gyhoeddi. Gwyddis fod Dr Evans eisoss wedi cyhoeddi facsimile o'r Llyfr D cl er's rhai blynyddau, ond nid pawb a fedrai fforddio prynu hwnnw, na'i ddarllen ar ol ei gael. Gwn am un ysgolhaig heb lawer o foddion a dreuliodd wythnosau i wneud iddo ei hun gopi mor gywir ag y medrai o argraffiad cyntaf Dr Evans o'r Llyfr Du." Bellach, ni bydd raid i neb drafferthu i wneud peth felly, canys gellir dibynnu ym mhopeth ar yr argraffiad newydd, a gellir ei ddarllen, wrth gwrs, yn llawer rhwyddach nag y gellir darllen adlun yr ysgrifen, er cystal ydyw honno, a'i chymeryd drwodd a thro. Bydd yr hyn sydd gan Dr Evans i'w ddywedyd am gynnwys y Llyfr yn ddiau yn ddyddorol iawn. Yn ol y crynhodeb a welais i o'i anerchiad yn Manchester, galwodd sylw at beth a deimlodd pawb a fu'n ceisio astudio tipyn ar y Llyfr Du, ond odid, sef ei fod yn cynnwys llenyddiaeth, a honno yn llenyddiaeth dda hefyd. Gellir ebe Dr Evans yn ei anerchiad, olrhain yn lied glir bedwar math o bethau yng nghynnwys y Llyfr, sef chwedloneg, diwinyddiaeth, hanes, a llenyddiaeth bur. Mae'r ddiwinyddiaeth yn fynych, ebe fe, yn gymysg a'r hen chwedloneg'; yr ieuengaf wedi ei himpio ar yr hynaf, a honno fyth yn rhoi'r sudd i'r twf newydd. Mae rhai o'r pethau hynaf yn y llyfr yn gerddi ar ffurf hawl ac ateb, ac y mae eu hiaith yn ami y_l anodd anghyffredin. Ym mysg y rhai hyn y mae ymddiddan rhwng Arthur a cheidwad rhyw gastell, gwr a elwir Glewlwyd Gafaelfawr." Yn y gerdd hon, y mae Arthur yn adrodd gorchestion Cai, un o'r prif farchogion yn yr hen draddodiadau cynaraf. Mae'r gerdd hon, ym marn Dr Evans, yn ddyddorol am ei bod yn cynnwys traddodiadau Arthuraidd sydd yn llawer iawn hyn na blodeuad y rhamant Arthuraidd yn y ddeuddegfed ganrif. Ac nid y traddod- iadau peli hyn yn unig sydd yn ddydd- orol yn y Llyfr Du, eithr hefyd y cerddi lie gwelir hoffter at Natur ac o liw a llun, peth y rhaid dyfod yn agos .iawn atom i gael ei debyg yn llenyddia-th Lloegr. Yn ddiameu, bydd cyhoeddiad yr argraffiiad newydd hwn o'r Llyfr yn gymorth ac yn llawenydd dirfawr i ysgolheigion Celtaidd drwy'r byd. 3YVava\x> MuvattVv. Rhyfedd mor anodd yw argyhoeddi'r uniaith fod gan y sawl a wyr ddwy iaith fantais fawr arno ef. A'r mwyaf anodd ei argyhoeddi o bawb yw'r athrao uniaith. Yn y Flint County Teachers' Association Quarterly -Review," ceir y paragraff a ganlyn "Welsh for the Welsh must com- mend itself to all, but to make it an obligatory subject in Flintshire would, we think, be a great mistake, as only | about one child out of five understand Welsh, and the majority of scholars would have to spend valuable time in acquiring knowledge that would not be of practicable value to them after- wards when they had to take their place in competition.with others in industrial and commercial life. our children may not live in the Princi- pality all their lives, and we should like to see those from Wales taking a front place wherever they may go." Mae hyn ar ei wyneb yn edrych yn eithaf rhesymol, ond Ileferydd y gwr uniaith ydyw, hyd yn oed os oes gan y sawl a'i hysgrifennodd ryw fath o grap ar ddwy. I ddechreu, mae'n amheus iawn ai cywir dywedyd nad oes ond un o bob pump o blant Sir Fflint yn medru Cymraeg. Mae yn y Sir ardaloedd cytain He na fedr y plant ddim ond Cymraeg. Heblaw hvnny, y mae yn y sir liaws o drefi He 'na fedr y plant Gymraeg na Saesneg ychwaith. Yn yr ardaloedd gwledig a nodwyd, nid elhr dysgu'r plant ond drwy'r Gymraeg. Yn y trefi y soniwyd am danynt, pe dYSgld y ddwy iait h, ni byddai cyn saled Ilun ar Saesneg y plant agy sydd. Byddai n werth gwneud rhywbeth er mwyndysg11 Saesneg gweddol iddynt. Ac am dreuho amser i ddysgu peth na byddai o werth ymdrferol iddynt wedyn," yn sicr, dylaf hyd yn oed yr athraw uniaith fod wedi clywed gwyr o brofiad yn dywedyd nad a'r ddisgyblaeth a geir i'r meddwl drwy ddysgu dwy iaith byth yn ofer. Yn Switzerland, dysgir pedair iaith i'r plant