Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

--GOHEBIAETHAU.

DYFFRYN CLWYD

FFESTINIOG

News
Cite
Share

FFESTINIOG Y Ddau Hydref. DYWED Natur o'n dentu, gyda galar yn ei liais, fod yr Hydref wedi d'od. Nid yw yntau yn dewis bod yn guddiedig. Cofnoda ei ddyfodiad i'n plith mewn dail gwywedig, a chrwydra ei ysbryd llwm dros fynydd a dol, a gwywdra yn dilyn ol ei draed. Ffurfiau eraill ar weinidogaeth yr Hydref yw yr awel lem a'r gawod oer; ac yr ydym yn gorfod dy- gymod a'r ffarfiau hyn er's tro. Golwg brudd sydd ar bobpetb. Mae y niwl gwenwynllyd a'r cymylau lleithion yn cael eu hadgynyrchu ar wyneb cymdeithas o'n cwmpas; a phobpeth yn symud yn mlaen mor araf a phe bai yn cerdded yn ei angladd ei hun. Ond nid dyna'r olwg waethaf ar bethau. Mae yma Hydref arall yn gwgu arnom. Mae y Fasnach Lechi wedi cyrhaedd ei Hydref unwaith yn rhagor, &'i holl amgylchoedd yn edrych yn wywedig arnom. Mae yr olwyoion yn segur mewn amryw o'r chwarelau, a'r gweddill yn troi yn araf. Ataliwyd yr holl weithwyr yn Cbwarel Rbiwbach ddiwedd yr wythnos ddi- weddaf, a thynwyd nifer y gweithwyr i lawr yn chwarel Maenofferen, heblaw dilya cwrs y Fotty a'r Bowydd trwy ostwng y cyflogau. Nid yw y Llechwedd yn gweithio namyn pedwar diwrnod yn yr wytbnos er's denfis, a darogenid mii dyna fydd hanes gweddill chwarelan yr ardal yn bur fnan, Oherwydd y sefyllfa hon ar bethau, mae yma gryn ymfudo i'r ,De a tbros y don. Mae llawer aelwyd ac eglwys yn colli eu blodau, a chymdeithas yn gyffredinol yn colli ei barddwch dan orthrwm yr Hydref masuachol hwa. Pry- sured y Gwanwyn i'n bro. Cydymdeimlo. Mae yr holl ardal yn cydymdeimlo A'yl Mri Thomas a John Williams, Siop I I Y Gorlan," ar farwolaeth sydyn eu hanwyl dad. Cymerwyd ef adref yn glaf nawn Gwener, a bu farw rhwng dau a thri o'r gloch fore Sadwrn. Atferai Mr Thomas Willisms weithio, hyd yn ddiweddar, yn Chwarelau O^keley, a galawodd berarogl cymeriad crefyddol ar ei ol yn mhob cylch. Yr oedd, befyd, yn wr darbodus. Bu byn yn gym- orth iddo sefydiu ei hun a sefydiu ei feibion mewn masoach. Mewn undeb a'u gilydd, yr oeddynt yn ddyfal er's tro yn adeiladu masnachdy newydd, eang, ac amryw dai, meddir, mewn cwr araH o'r ardal. Ond, yn sydyn, wele brif byrwyddwr y gwaith yn cael ei gymeryd ymaith, gan adael gweddw a phlant i wylo yn yr adwy ar ei ol. Mae swn y llifeiriant yn ddigon iddynt heddyw ond pan gyfyd niwl galar oddiar ffenestri eu heneidiau, cant weled Un yn eistedd ar y llifeir- iant hwn, ac yn gofalu fod pobpetb yn cydweithio er daioci i'r rhai sydd yn ei garu Ef. MANION. Mae disgwyliad cyffredinol yn yr ardal, y daw Mr Osmond Williams, A.S., i'n plith ar fyrder, i draethu ei farn ar effaith Fiscal Policy Mr Chamberlaiu ar y Fasnach Lechi. Gan fod Mr Ashmore,Prif Reolwr Cwmni Chwarelau Oakeley, wedi ysgrifenu ei farn ddi- amwys ar y mater, acos yw y pethau hyn felly, bydd amryw yn diwygio cyffes eu ffytid wleid- yddol ar y mater hwa. Dyddorol iawn oedd darlith Elfyn, nos Iau ddiweddaf, gerbron Cy mdeithas Lenyddol Bethel (M,C, ), Tanygrisiau, ar Rai dynion a adwaen- ais." Bydd galw mawr am hon y misoedd nesaf. Ysgrif hqpus sydd gan Glaslyn yn y Gymru cylchreaol ar y diweddar Mr D G Wil iains, Y.H. Cafodd Glaslyn fantais arbenig i adwaen Mr Williams yn ystod ei drigias yn y Rbiw, flynyddau yn ol. Drwg genym glywed am waeledd y Parch R R Morris, Tabernacl. Gobeithio y calff adfesriad fouan. Mae llawar cynulleidfa yn disgwyl am ei sylwadau clysioa er's tro. Y Sul sliweddaf, pregethai y Parch S T Jones, Rhyl, yn rymus i gynulliadau mawrion yn ngbapel M.C. y Rhlw. Mae Cwmni Gwaith Trydanol y Wyddfa wedi cyrhaedd yr ardal hon. Ymddengys y pyst hirion ar Fwlch Gorddinen, fel llynges gref, wedi angori cyn cyhoeddi ymosodiad. Yr cedd ein bardal ar ei deulin y Llun di- weddaf, yn diolch am diriondeb Duw yn ei Raglaniaeth. Golygfa hardd oedd hon. Dewiswyd y Parch J Rhydwen Parry i olynu Dr Kobetts fel cynrychialydd rhanbarth Congl- ywat ar y Cynghor Dinesig. D, genym ddeall fod Cor Meibion y Moelwyn wedi ymdaflu i waith. Bwriadant fyned i faes yr ymdrech unwaith yn rhagor tn!},'r Nadolig Byddant yn gryfach i ymosod wedi tipyn o Beib- iant. PRYDEBI,

Advertising